Marzena Diakun yn arwain...
Nos Wener 27/1/23, 7.30pm

Claude Debussy
Prélude à l’après-midi d’un faune (10’)
Thierry Pécou
Cara Bali Concerto ar gyfer piano a cherddorfa (27’)
Cyd-gomisiwn y BBC: Premiere y DU
EGWYL (20’)
Bohuslav Martinů
Symffoni Rhif 3 (26’)
Marzena Diakun Arweinydd
Alexandre Tharaud Piano

Mae’r cyngerdd yn cael ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 ar raglen Radio 3 in Concert. Bydd ar gael i’w ffrydio neu ei lwytho i lawr am 30 diwrnod drwy BBC Sounds. Mae BBC Sounds hefyd yn cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Cyflwyniad

Croeso i’r cyngerdd heno, lle bydd yr arweinydd gwobredig Marzena Diakun yn ymuno â BBC NOW.
Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cerddoriaeth gyfoes, felly mae’n addas bod y perfformiad cyntaf erioed yn y Deyrnas Unedig o Cara Bali, y concerto persain i’r piano gan Thierry Pácou sydd wedi ei ysbrydoli gan soniaredd y gamelan, yn rhan ganolog o’r rhaglen. Yr unawdydd heno yw’r cerddor gwych o Ffrainc, Alexandre Tharaud, a wnaeth berfformio ei berfformiad cyntaf yn y byd yn Lyons llynedd.
Rydyn ni yn Ffrainc ar gyfer dechrau’r cyngerdd hefyd: Prélude à l’après-midi d’un faune gan Debussy – darn, yn dawel bach, a gyhoeddodd ddyfodiad cerddoriaeth fodern. I gloi, Trydedd Symffoni Martinů, sef gwaith a gyfansoddodd i ddathlu Cerddorfa Symffoni Boston a’i harweinydd enwog Serge Koussevitzky.
Mwynhewch!
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Claude Debussy (1862–1918)
Prélude à l’après-midi d’un faune (1891–4)

Mae’r darn cyfareddol gan Debussy o’r enw Prélude à l’après-midi d’un faune (‘Preliwd i Brynhawn Ellyll’) yn un o’r enghreifftiau mwyaf nodedig o lenyddiaeth wedi ei thrawsnewid yn gerddoriaeth. Fe’i hysbrydolwyd gan gerdd y bardd Symbolaidd o Ffrainc, Stéphane Mallarmé sy’n rhannu’r un teitl, ac ynddi mae Debussy yn cynnig darlun cerddorol o atgof breuddwydiol ellyll o’i gyfarfyddiadau â nymffau a naiadau. Yn hytrach na dilyn naratif Mallarmé yn unig, mae Debussy yn ceisio cyfleu dymuniadau a breuddwydion yr ellyll mewn cyfres o olygfeydd. Mae hyn, yn ei dro, yn creu delweddau sonig o brofiad synhwyraidd yr ellyll mewn enghraifft gynnar o Argraffiadaeth gerddorol.
Mae’r ffliwt – offeryn yr ellyll – yn chwarae rhan bwysig yn ailddychmygiad Debussy o L’après-midi. Mae’r Prélude yn dechrau gyda llinell donnog ar unawd ffliwt, ac mae ei soniaredd yn rhoi naws freuddwydiol i’r gerddoriaeth. Mae’r alaw wedyn yn cael ei throsglwyddo i’r oboau a’r clarinetau yn y lle cyntaf ac wedyn i’r ffidlau wrth i’r ellyll ddod wyneb yn wyneb â’r nymffau. Ar ôl i’r unawd ffliwt ailymddangos dros ffurfiant hudol y delyn, mae llinell newydd ar yr unawd obo’n ymddangos, yn nodi newid golygfa, gyda’r gerddoriaeth yn datblygu i uchafbwynt wrth i’r ellyll ddatgan ei gariad at y nymffau. Mae’r awyrgylch yn tawelu unwaith eto wrth i’r brif thema ailymddangos, ac ar y diwedd rydym yn cael ein gadael mewn cyflwr cyfwerth, gan gwestiynu gyda’r ellyll ai breuddwyd ynteu realiti yw’r hyn rydym newydd ei brofi.
Gwrando Pellach: Les Siècles/François-Xavier Roth (Harmonia Mundi HMM905291)
Darllen Pellach: Debussy: A Painter in Sound Stephen Walsh (Faber)
Thierry Pécou (Ganed 1965)
Cara Bali Concerto ar gyfer piano a cherddorfa (2020)
Cyd-gomisiwn y BBC gyda Orchestre National de Lyon ac Opéra de Rouen Normandie: Premiere y DU

1 Vivace
2 Vivace
Alexandre Tharaud piano
Mae Concerto Cara Bali Thierry Pécou wedi ei ysbrydoli gan gamelan o Bali, ac mae’r ensembles cerddorol traddodiadol yn cynnwys offerynnau taro yn bennaf, fel gong, rhesi o glychau gong, metaloffonau, symbalau a drymiau. Yn ôl y cyfansoddwr, astudiaeth yr ethnogerddor Michael Tenzer o gamelan gong kebyar – y genre digyffelyb o gerddoriaeth Bali o’r 20fed ganrif – sy’n rhoi’r arweiniad i fecanweithiau cerddoriaeth o’r fath y mae Concerto Cara Bali wedi ei seilio arno.
Er ei fod wedi ei fwriadu fel concerto i’r piano, mae Cara Bali yn defnyddio cerddoriaeth gamelan fel man cychwyn ar gyfer ei arloesi barddonol a ffurfiol. Adlewyrchir hyn yn glir yn y ffordd mae Pécou yn trin y piano, sy’n dwyn i gof synau offerynnau taro y gongiau a’r metaloffonau. Yn ogystal â hynny, mae Cara Bali hefyd yn defnyddio patrymau rhyng-glo nodweddiadol cerddoriaeth gamelan, sydd wedi eu dosbarthu rhwng gwahanol offerynnau yma.
Yn y ddau symudiad, mae’r piano wedi ei integreiddio i’r gweadau cerddorol mewn ffordd debyg i’r hyn a geir mewn ensemble gamelan. Ar adegau, mae’r offerynnau cerddorfaol yn cyd-fynd ar nodyn cyson, gan fynegi strwythur a nodi’r ymadroddion mewn ffordd sy’n adleisio’r gongiau crog mewn gamelan gong kebyar. Ynghyd â’r ysgrifennu sy’n aml yn bendant a churiadol, mae’r technegau hyn yn creu seinwedd fyw y mae Pécou yn ei defnyddio i fynd â ni ar daith i Bali.
Comisiynwyd Cara Bali ar y cyd gan BBC Radio 3, Orchestre National de Lyon ac Opéra de Rouen Normandie. Cafodd ei berfformio am y tro cyntaf erioed ar 28 Ebrill 2022 yn Awditoriwm Lyon, gan unawdydd heno, Alexandre Tharaud, a’r Orchestre National de Lyon, dan arweiniad Ben Glassberg.
Gwefan: www.schott-music.com/en/person/thierry-pecou
EGWYL: 20 munud
Bohuslav Martinů (1890–1959)
Symffoni Rhif 3 (1944)

1 Allegro poco moderato
2 Largo
3 Allegro – Andante
Cyflwynodd Martinů ei Drydydd Symffoni i Gerddorfa Symffoni Boston a’i Chyfarwyddwr Cerdd Serge Koussevitzky, a oedd yn 1944 yn dathlu cyfnod o 20 mlynedd o gydweithio. Roedd yn un o’r pum symffoni a ysgrifennodd Martinů yn ystod cyfnod cynhyrchiol o bum mlynedd yn yr Unol Daleithiau ar ôl ffoi rhag y rhyfel yn Ewrop. Cafodd y Drydedd ei pherfformio am y tro cyntaf gan y gerddorfa y cyflwynwyd y gwaith iddi yn Boston ar 12 Hydref 1945.
Yn wahanol i’w symffonïau blaenorol, mae Martinů yma’n dewis cynllun tri symudiad, gan hepgor y scherzo traddodiadol. Ym mhob symudiad, mae’r syniad ysgogol a gyflwynir ar y dechrau yn cynhyrchu’r holl gerddoriaeth ddilynol. Mae’r symudiad cyntaf yn agor gyda ffigur tri nodyn sy’n troi’n batrwm esgynnol sy’n ailadrodd yn syth. Ar ôl unawd dirgel ar y baswnau a’r cor anglais, mae’r broses thematig hon yn cyflymu’n raddol – yn gyntaf gyda llinell ddwys ar y llinynnau, ac wedyn drwy gywasgu’r ffigur tri nodyn ar y chwythbrennau. Mae’n adeiladu at ffrwydrad pendant gan offerynnau pres, cyn i’r llinynnau ddechrau datod y tensiwn a dod yn ôl at y syniad cychwynnol ar gyfer un datganiad trydanol terfynol.
Mae’r ail symudiad wedi ei adeiladu ar syniad syber, troellog. Yn dilyn deialog offerynnol, bydd unawd ar y ffliwt yn cymryd yr awenau cyn arwain at ddilyniant o batrymau osgiliadol ar draws y gerddorfa. Mae’r tensiwn cronedig yn cael ei ryddhau’n raddol, cyn i sgwrs rhwng y llinynnau ddatblygu i uchafbwynt sy’n meddalu’n raddol, gyda’r cor anglais unwaith eto yn mwynhau’r sylw.
Mae’r trydydd symudiad, sy’n rymus ac yn symud yn gyflym ar y dechrau, wedyn yn arafu i fod yn fwy synfyfyriol, gyda thema fiola mynegiannol yn trawsnewid yr awyrgylch. Mae’r motiffau cyfareddol o’r agoriad yn cael eu hail-lunio ac yn cael ystyr newydd.
Nodiadau’r rhaglen © Kelvin H. F. Lee
Gwrando Pellach: BBC Symphony Orchestra/Jiří Bělohlávek (Onyx ONYX4061)
Darllen Pellach: Martinů and the Symphony Michael Crump (Toccata Press)
Bywgraffiadau
Marzena Diakun arweinydd

Ym mis Medi 2021, daeth Marzena Diakun yn Gyfarwyddwr Artistig ac yn Brif Arweinydd Orquesta de la Comunidad de Madrid a Phrif Arweinydd Orchestre Symphonique de l’Opéra de Toulon. Daeth i sylw rhyngwladol yn 2016 yn dilyn sawl cyngerdd gydag Orchestre Philharmonique de Radio France, ac yn y gorffennol mae hi wedi cael Cymrodoriaeth Arwain Tanglewood Cerddorfa Symffoni Boston a Chymrodoriaeth Taki Concordia.
Mae ei hymrwymiadau diweddar wedi mynd â hi i Gerddorfa Ffilharmonig Suisse Romande, Cerddorfeydd Ffilharmonig Royal Liverpool a Warsaw, cerddorfeydd Symffoni Radio Cenedlaethol Gwlad Pwyl a Prague, Orquesta Sinfónica del Principado de Asturias, Real Orquesta Sinfónica de Sevilla, Orchestre National de Lyon, Orquestra Sinfónica do Estado de São Paulo, Deutsche-Staatsphilharmonie Rheinland-Pfalz, Cerddorfa Symffoni RTV Slofenia, Cerddorfa Siambr Lausanne ac Opera Gothenburg.
Mae hi’n gefnogwr brwd o gerddoriaeth gyfoes ac mae hi wedi rhoi perfformiadau cyntaf i nifer o ddarnau, gan gynnwys, yn 2016, y perfformiad cyntaf yng Ngwlad Pwyl o opera Olga Neuwirth, Lost Highway.
Ymysg yr unawdwyr y mae hi wedi cydweithio â nhw mae Martin Grubinger, Peter Jablonski, Andreas Staier, Ewa Kupiec, Truls Mørk, Daniel Müller-Schott, Camilla Nylund, Klaus Florian Vogt, Catherine Wyn-Rogers a Nathalie Stutzmann.
Astudiodd arwain dan Mieczysław Gawronski yn Academi Gerddoriaeth Karol Lipinski yn Wrocław (lle mae hi bellach yn athro arwain) a chwblhaodd astudiaethau ôl-radd ym Mhrifysgol Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio yn Fienna. Mae hi wedi cael ei mentora gan arweinwyr fel Kurt Masur, Andrey Boreyko a Pierre Boulez, a chyrhaeddodd y rownd derfynol yng Nghystadleuaeth Arwain Lutosławski a’r rownd gyn-derfynol yng Nghystadleuaeth Arweinyddion Donatella Flick yn Llundain a Chystadleuaeth Cadaqués yn Barcelona.
Mae Marzena Diakun wedi cael nifer o wobrau blaenllaw yn ei gwlad enedigol, Gwlad Pwyl, gan gynnwys Gwobr Kreatywni Wrocławia, Artist y Flwyddyn yn 2013 a Gwobr Eryr Koszalin.
Alexandre Tharaud piano

Mewn gyrfa sy’n rhychwantu dros 25 mlynedd, mae Alexandre Tharaud wedi sefydlu ei hun fel ffigwr blaenllaw yn y byd cerddoriaeth glasurol ac mae’n un o gefnogwyr allweddol pianiaeth yn Ffrainc. Mae ei recordiadau arobryn, gyda thros 25 albwm unigol, yn cynnwys repertoire sy’n amrywio o Couperin, Bach a Scarlatti, drwy Mozart, Beethoven, Schubert, Chopin, Brahms a Rachmaninov i gyfansoddwyr Ffrainc o’r 20fed ganrif. Mae ehangder ei ymdrechion artistig hefyd yn cael ei adlewyrchu mewn cydweithrediadau gyda gwneuthurwyr theatr, dawnswyr, coreograffwyr, awduron a gwneuthurwyr ffilmiau, yn ogystal â gyda chanwyr-gyfansoddwyr a cherddorion y tu allan i faes cerddoriaeth glasurol.
Mae’n unawdydd y mae galw mawr amdano, ac mae wedi ymddangos gyda llawer o brif gerddorfeydd y byd; mae ei uchafbwyntiau presennol a diweddar yn cynnwys perfformiadau concerto gyda’r Orchestre de Paris, Orchestre National de France, NAC Orchestra Ottawa, Les Violons du Roy, Beethoven Orchester Bonn, Cerddorfa Siambr Zurich a cherddorfeydd Symffoni Talaith São Paulo a’r BBC yn yr Alban.
Fel datgeiniad, mae’n westai rheolaidd yn lleoliadau mwyaf mawreddog y byd. Mae’r uchafbwyntiau presennol a’r rhai sydd ar y gweill yn cynnwys datganiadau yn y Philharmonie de Paris, Kings Place yn Llundain, Frankfurt Alte Oper, Bayreuth, Amsterdam Concertgebouw, Casa da Música Porto, Zankel Hall yn Efrog Newydd a theithio helaeth yn Japan, Tsieina a Corea.
Mae ganddo gontract recordio arbennig ac mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Versailles, sy’n cynnwys cyfansoddwyr sy’n gysylltiedig â llysoedd brenhinoedd Ffrainc, Louis XIV, XV ac XVI, tair sonata olaf Beethoven, Ail Goncerto Rachmaninov i’r Piano, cerddoriaeth siambr Brahms gyda’r chwaraewr soddgrwth Jean-Guihen Queyras ac albwm gyda’r canwr-gyfansoddwr Barbara.
Yn 2017, cyhoeddodd Tharaud Montrez-moi vos mains – hanes difyr am fywyd bob dydd fel pianydd. Cyn hynny, roedd wedi cyd-ysgrifennu Piano intime gyda’r newyddiadurwr Nicolas Southon. Mae’n destun ffilm a gyfarwyddwyd gan Raphaëlle Aellig Régnier, Alexandre Tharaud: Le Temps dérobé, ac ymddangosodd yn rôl y pianydd Alexandre yn ffilm enwog Michael Haneke o 2012 o’r enw Amour.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield Blaenwr
Nick Whiting Blaenwr Cyswllt
Martin Gwilym-Jones Is-Arweinydd
Cecily Ward
Terry Porteus
Suzanne Casey
Kerry Gordon-Smith
Juan Gonzalez
Carmel Barber
Zanete Uskane
Patrycja Mynarska
Zhivko Georgiev
Paul Mann
Gary George-Veale
Ail Ffidlau
Ruth Heney
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Sellena Leony
Jane Sinclair
Caroline Heard
Elizabeth Whittam
Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Ania Leadbeater
Anna Growns
Daichi Yoshimura
Sharada Mack
Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Rachel Ford
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Katy Cox
Basau Dwbl
David Stark *
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Antonia Bakewell
Thea Sayer
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
Carys Gittins
Fiona Sweeney
Piccolo
Fiona Sweeney
Oboau
Aleksandra Rojek ‡
Amy McKean
Sarah-Jayne Porsmoguer
Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinetau
Tim Lines ‡
Lenny Sayers
Cara Doyle
Baswnau
Paul Boyes ‡
Alexandra Davidson
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Neil Shewan †
Meilyr Hughes
Joseph Ryan
William Haskins
Tom Taffinder
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Kaitlin Wild
Trombonau
Donal Bannister *
Michael Marshall
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Hughes
Telynau
Valerie Aldrich-Smith †
Inbar Vernia
Piano
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James **
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks +
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid BBC Cymru Josh Gill, Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

