Y Freuddwyd Americanaidd

Nos Iau 20/4/23, 7.30pm
Nos Wener 21/4/23, 7.30pm

Charles Ives   
Central Park in the Dark (9’) Caerdydd yn unig

Charles Ives  
The Unanswered Question (6’) 

Karol Szymanowski   
Concerto i’r Ffidil Rhif 1 (26’) 

EGWYL (20’) 

John Adams 
Harmonielehre (45’) 

Ryan Bancroftarweinydd
Bomsori Kimffidil 

Bydd y cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 in Concert; bydd y cyngerdd yn Abertawe yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar BBC Radio 3 ar raglen Afternoon Concert yn y dyfodol. Byddant ar gael am 30 diwrnod ar ôl eu darlledu ar BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnig podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth i chi. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.

Croeso

Rydym wrth ein boddau fod ein Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ymuno â ni unwaith eto ar gyfer y cyngerdd heno. Mae’n goruchwylio rhaglen hynod amrywiol sy’n canolbwyntio ar America. 

Roedd Charles Ives yn un o eiconoclastau gwych y byd cerddoriaeth ac mae Efrog Newydd yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith sy’n cychwyn ein rhaglen yng Nghaerdydd – Central Park in the Dark, sef portread grymus o’r ddinas gyda’r nos. Mae cydymaith y darn, The Unanswered Question, yn gofyn cwestiynau dwys am y cosmos, gydag Ives yn cynhyrchu cerddoriaeth arallfydol sy’n cynnwys unawd utgorn atgofus. Rydyn ni’n gorffen gyda Harmonielehre gan John Adams, gwaith sy’n cyfuno fin de siècle Fienna, cyfrinydd o’r 13eg ganrif a merch ifanc Adams ei hun – a’r cyfan wedi’i ategu gan egni nerthol nodweddiadol.

Yn y canol, byddwn yn plymio i fyd persawrus Szymanowski a’i Goncerto Cyntaf i’r Ffidil, sy’n cael ei berfformio heno gan Bomsori Kim.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Charles Ives (1874–1954)

Central Park in the Dark (1906–c09, diw. c1936)  

Cafodd Central Park in the Dark ei greu fel cydymaith i’r darn The Unanswered Question, ac mae’n llawn nodweddion arloesol ac arbrofol sy’n nodweddiadol o Ives. Cyfansoddwyd y darn yn 1906 a’i deitl gwreiddiol oedd ‘A Contemplation of Nothing Serious’ ond, fel gyda llawer o gynnyrch Ives, ni chafodd ei berfformio am y tro cyntaf tan lawer yn ddiweddarach: rhoddwyd y première gan fyfyrwyr graddedig Juilliard ar 11 Mai 1946. 

Mae wedi’i sgorio ar gyfer cerddorfa linynnol, dau biano a detholiad bach o offerynnau taro, pres a chwythbrennau, a bwriad Ives oedd cyflwyno ‘darlun mewn sain o synau natur a digwyddiadau y byddai rhywun yn eu clywed tua 30 mlynedd yn ôl (cyn i ddyfodiad yr injan a’r radio ddod i feddiannu’r ddaear a’r awyr) wrth eistedd ar fainc yn Central Park ar noson braf o haf’. 

Mae llinynnau cromatig sy’n symud yn araf yn darparu’r sylfaen, gan gyfleu’r hyn yr oedd Ives yn ei alw’n ‘dywyllwch tawel’, drwy gymal 10 bar sy’n ailadrodd 10 gwaith ar yr un cyflymder. Uwchben hyn, mae’n cyfosod casgliad rhyfeddol o synau a phytiau cerddorol i adlewyrchu’r teimlad o gael ei amgylchynu gan fywyd nosol swnllyd y ddinas. Mae fflachiadau o ganeuon ragtime boblogaidd, ymdeithgan Sousa, gorymdeithiau a mwy yn cael eu gosod ar ben ei gilydd mewn collage sy’n cyflymu ac yn cyrraedd uchafbwynt croch, cyffrous cyn ymdawelu. Yn y pen draw, dim ond y tywyllwch sydd ar ôl.

Gwrando Pellach: Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd/Leonard Bernstein (DG 4791512)

Darllen Pellach: Charles Ives: A Life with Music Jan Swafford (Norton)

Charles Ives

The Unanswered Question (1908, diw. c1930–5) 

Y cosmos sydd wedi mynd â bryd Ives yn The Unanswered Question, un o’i weithiau sy’n cael ei berfformio fwyaf heddiw. Mae’r darn yn myfyrio ar natur bodolaeth, a roedd ei deitlau blaenorol yn cynnwys ‘A Contemplation of a Serious Matter’ a ‘The Unanswered Perennial Question’. Cafodd ei berfformio am y tro cyntaf erioed ochr yn ochr â’i gydymaith Central Park in the Dark ar 11 Mai 1946 ac mae’r ddau ddarn yn gwrthgyferbynnu’n llwyr: mae byd trefol, daearol ‘annifrifol’ Central Park yn wahanol iawn i ‘Dirlun Cosmig’ cwestiynau diateb..

Daw amser yn amherthnasol yn yr archwiliad wybrennol hwn, lle mae’r gerddorfa siambr wedi’i rhannu’n dair rhan. Caiff y cefndir ei ffurfio gan y llinynnau gyda chordiau cyseiniol hollbresennol sy’n symud yn raddol ac yn cynrychioli ‘Mudandod y Derwyddon – sy’n Gwybod, yn Gweld ac yn Clywed Dim’. Ar draws y gofod arallfydol maen nhw’n ei greu, mae unawd utgorn wylofus yn gofyn y ‘Cwestiwn Bythol am Fodolaeth’. Mae’n seinio drosodd a throsodd, bob tro yr un fath ac yn galw am ateb. Mae pedwarawd o ffliwtiau yn rhoi ymateb anghytsain, ‘Yr Ateb Anweledig’ nad yw fyth yn bodloni ond sy’n mynd yn gynt ac yn fwy cynhyrfus nes iddo ildio, gan wawdio’r union gwestiwn roedd yn ceisio ei ateb. Yn ddigyffro, mae’r llinynnau’n parhau wrth i’r utgorn ofyn y cwestiwn am y tro olaf. Heb ateb, mae’n ildio i’r ‘Unigedd Llonydd’. Fel y nododd cyfansoddwr arbrofol arall o America, Henry Cowell, nid oes gennym ddim ond ‘cytgord tragwyddol y bydoedd’.

Gwrando Pellach: Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd/Leonard Bernstein (DG 4791512)

Karol Szymanowski (1882–1937)

Concerto Rhif 1 i’r Ffidil, Op. 35 (1916) 

Vivace assai –
Tempo comodo –
Andantino –
Vivace scherzando –
Poco meno – Allegretto –
Vivace (Tempo I)

Bomsori Kimffidil

Cyfansoddodd Syzmanowski ei Goncerto Cyntaf i’r Ffidil yn ystod haf a hydref 1916, ac mae’n un o weithiau canolog ei gyfnod canol aeddfed. Ysgrifennodd y darn ar gyfer ei ffrind, y fiolinydd enwog Paweł Kochański, ac fe gafodd ei ysbrydoli gan y gerdd ‘May Night’ – testun synhwyrus a rhyfeddol gan yr awdur symbolaidd, Tadeusz Miciński. Teimlad a naws breuddwydiol Miciński – gan gynnwys mytholeg Pan, Ewrop a’r Dwyrain Canol, cariad ecstatig ac erotig, ynghyd â phleser ym myd natur – a ddefnyddiodd Szymanowski ar gyfer y concerto, yn hytrach nag unrhyw ddehongliad llythrennol. 

Fe wnaeth Szymanowski osgoi’r strwythur teiran confensiynol a geir yn y rhan fwyaf o goncerti i’r ffidil, gan gyflwyno llinell barhaus o fyfyrdod, gydag un syniad yn llifo i un arall yn rhapsodïaidd mewn un symudiad. Mae natur ddi-dor y canlyniad, sy’n amrywio o ran hwyliau ond yn llawn uchafbwyntiau meddwol, yn cuddio dull sy’n cael ei reoli’n llym – gyda rhai themâu’n codi dro ar ôl tro ond llawer yn dod i’r amlwg ac yna’n cilio, fyth i’w clywed eto. Mae dylanwadau Szymanowski yn glir: mae ei angerdd dros Argraffiadaeth Ffrainc a datblygiadau harmonig a cherddorfaol Rwsia (yn enwedig deunydd cynnar Scriabin) yn dod i’r amlwg, gydag ysgrifennu cromatig cyfoethog a nodweddion Dwyreiniol yn eistedd ochr yn ochr â rhannau sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan Ramantiaeth yr Almaen. 

Er hynny, efallai mai’r gwaith ysgrifennu cerddorfaol sy’n diffinio’r darn. Mae pob offeryn yn cael ei ddefnyddio am ei fynegiad a’i liw, ac uwchben seinwedd gerddorfaol fanwl a disglair, mae’r ffidil unawdol yn dringo i’r uchelfannau, yn aml yn ei gwmpasran uchaf. Mae ei berthynas â’r gerddorfa’n amrywio – weithiau mae’n bresenoldeb sy’n tawelu; weithiau mae’n gweithredu’n annibynnol – ond daw toriad mawr yn y cadenza, sef arddangosfa feistrolgar sy’n arwain at yr uchafbwyntiau cerddorfaol mwyaf chwantus a hedonistaidd. Dyma sŵn pleser ac ecstasi. Yn y pen draw, mae’n cilio i ddarn clo celfydd a phwyllog, gan ddod i ben gyda darn blodeuog chwareus, sibrydol.

Roedd Szymanowski wrth ei fodd: ‘Rwy’n hapus iawn gyda’r holl beth – cerddoriaeth newydd a gwahanol unwaith eto, ond sydd ar yr un pryd yn dychwelyd rywfaint at yr hen gerddoriaeth.’ Roedd y première i fod i gael ei berfformio gan Kochański yn St Petersburg dan arweiniad Alexander Siloti; fodd bynnag, fe wnaeth digwyddiadau yn Rwsia amharu ar hyn, ac felly cafodd y darn ei berfformio am y tro cyntaf ar 1 Tachwedd 1922 yn Warsaw. Józef Oziniński oedd yr unawdydd oherwydd roedd Kochański yn yr Unol Daleithiau ar y pryd, ond ysgrifennodd Szymanowski at ei hen ffrind am y perfformiad: ‘Roedd mor hudolus, fe hoeliodd sylw pobl yn llwyr.’ Roedd yn ddigamsyniol: ‘Dyma fy llwyddiant mwyaf!’ 

Nodiadau’r rhaglen © Sophie Redfern

Gwrando Pellach: Nicola Benedetti; Cerddorfa Symffoni Llundain/Daniel Harding (DG 9870577)

Darllen Pellach: Karol Szymanowski: His Life and Work Alistair Wightman (Ashgate)

EGWYL: 20 munud

John Adams (Ganed 1947)

Harmonielehre (1985) 

Rhan 1 [di-deitl]
Rhan 2 The Anfortas Wound
Rhan 3 Meister Eckhardt and Quackie

Er cymaint y mae cerddoriaeth John Adams yn cyfleu naws yr adeg pan gafodd ei chyfansoddi, cerddoriaeth y gorffennol sy’n dod i’r amlwg yn Harmonielehre. Mae’r teitl yn deillio o draethawd theori cerddoriaeth o 1911 gan Arnold Schoenberg – y gellir ei gyfieithu i ‘gwers harmoni’ neu ‘theori harmoni’ – ac mae wedi’i gyflwyno er cof am Gustav Mahler. Y cyfeirbwynt yw fin de siècle Fienna bryd hynny, ac fe geir cyfeiriadau at brif gyfansoddwyr y cyfnod yn gwrthdaro â minimaliaeth Adams ei hun ar draws tri symudiad eang. Tarddodd Harmonielehre o gyfnod creadigol segur a roddodd Adams yn ‘yr hwyliau tywyllaf’, ac iddo ef, roedd y darn yn ‘symffoni 45 munud … datganiad o gred yng ngrym tonyddiaeth ar adeg pan oeddwn yn ansicr am ei ddyfodol’. Cafodd ei berfformio am y tro cyntaf erioed dan arweiniad Edo de Waart gyda Cherddorfa Symffoni San Francisco ar 21 Mawrth 1985, a chafodd perfformiadau eraill eu cynnal yn fuan wedyn.

Gan wneud defnydd llawn o rymoedd cerddorfaol mawr, cafodd y symudiad cyntaf ei ysbrydoli gan freuddwyd. Wrth edrych ar draws Fae San Francisco, gwelodd Adams dancer ‘eithriadol o bwerus, dwys a thrwm … yn sydyn, cychwynnodd fel roced gan fynd ymaith gyda grym ymddyrchafol anferthol.’ Dyma a arweiniodd at y cordiau agoriadol aruthrol sy’n dechrau’r darn, gan gyflwyno datganiad o fwriad yn E leiaf. Tra mae’r moduron yn troi yn yr adrannau allanol, mae calon y symudiad yn cynnwys llinellau cromatig cyfoethog sy’n cydblethu. Disgrifiodd Adams y darn fel un ‘llawn Sehnsucht’ (hiraeth), ac mae’n amlwg yn cydnabod telynegiaeth gynnar Schoenberg.

Mae’r ail symudiad araf yn adeiladu ar stori Anfortas, brenin chwedlonol a geir hefyd yn Parsifal gan Wagner (fel Amfortas). Mae Anfortas yn cael clwyf sydd byth yn gwella ac yn ei adael yn ddiymadferth, ac mae’n symbol o’r salwch a’r anhwylder sy’n ddwfn oddi mewn iddo. Yn gerddorol, mae Adams yn cyfleu tirlun llwm Pedwaredd Symffoni Sibelius yn y myfyrdod hwn sy’n aml yn niwlog ac yn llesg. Fodd bynnag, nid Sibelius yw’r unig gyfeiriad cerddorol: cri boenus o 10fed Symffoni anorffenedig Mahler yw’r hyn sydd, yn y pen draw, yn ysgytwol.

Mae gweadau crynedig, disglair ‘Meister Eckhardt a Quackie’ yn cyflwyno naws wahanol. Gyda theitl sy’n gyfuniad o enw’r cyfrinydd Almaenig o’r 13eg ganrif Eckhardt von Hochheim – a oedd yn gweld Duw ym mhawb – ag Emily, merch ifanc Adams, a oedd yn cael ei galw’n Quackie, mae hwn yn symudiad arall sydd wedi’i ysbrydoli gan freuddwydion. Yma, mae ‘Quackie … yn reidio ar ysgwydd Meister Eckhardt wrth iddynt hwylio drwy’r sêr a’r planedau.’ Mae’r cyfuniad rhyfeddol a hynod hwn yn cael ei fynegi yn y patrymau cinetig sy’n ymdonni o dan ystumiau melodaidd sy’n ymestyn ac yn troi. Yn olaf, wrth i’r diweddglo agosáu, mae Adams yn gosod cyweiriau yn erbyn ei gilydd, gyda’r enillydd yn cloi’r gwaith mewn wal o sain ysblennydd.

Nodyn y rhaglen © Sophie Redfern

Gwrando Pellach: Cerddorfa Symffoni San Francisco/Michael Tilson Thomas (SFS Media SFS0053)
Darllen Pellach: Hallelujah Junction: Composing an American Life John Adams (Faber)
Gwefan: https://www.earbox.com

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?

Bywgraffiadau

Ryan Bancroft arweinydd

Lun: Benjamin Ealovega

Lun: Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, bu’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yn Artist Cyswllt o dymor 2021– 22 ymlaen. Y llynedd, cyhoeddwyd ei fod yn Brif Arweinydd Dynodedig Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm a bydd yn dechrau yn y swydd fis Medi nesaf. 

Mae wedi perfformio am y tro cyntaf gyda nifer o gerddorfeydd blaenllaw yn Ewrop, gan gynnwys y Philharmonia, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a Rotterdam, y BBC, cerddorfeydd Symffoni Radio Cenedlaethol Denmarc a Sweden, Cerddorfa Capitole Toulouse, RAI Turin ac Ensemble Intercontemporain. Yng Ngogledd America, mae wedi gweithio gyda cherddorfeydd Symffoni Baltimore, Houston a Toronto a bydd y tymor hwn yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Dallas a Cherddorfa Minnesota. Mae hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Suntory Hall gyda New Japan Philharmonic a Midori, yn y Royal Festival Hall gyda’r Philharmonia a Syr Stephen Hough ac yn y Royal Concertgebouw gyda Cherddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd. Mae hefyd yn dychwelyd at gerddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Gothenburg a Malmö.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, Cage, Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda threfnwyr byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Mae’n dychwelyd i weithio gydag Ensemble Intercontemporain yn ddiweddarach y mis hwn. 

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd. 


Bomsori Kim ffidil

Lun: Kyutai-Shim

Lun: Kyutai-Shim

Ganed Bomsori Kim yn Ne Korea ac astudiodd ym Mhrifysgol Genedlaethol Seoul ac yn Ysgol Juilliard yn Efrog Newydd. 

Yn 2021 llofnododd gontract recordio cyfyngol a rhyddhaodd yr albwm Violin on Stage. Mae ei huchafbwyntiau diweddar eraill yn cynnwys cyngherddau gyda Cherddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd, Cerddorfa Genedlaethol Denmarc, Cerddorfeydd Frankfurt Radio, San Francisco, Singapôr a Tokyo Symffoni a Cherddorfa Tonkünstler, cyfnod preswyl yng Ngŵyl Rheingau, ymddangosiadau yng Ngŵyl Menuhin Gstaad (lle dechreuodd ar gyfnod preswyl o bum mlynedd fel Artist Treftadaeth Menuhin yn 2021) a thaith o gwmpas yr Unol Daleithiau gyda Cherddorfa Ffilharmonig Wroclaw yn perfformio Concerto Cyntaf i’r Ffidil Szymanowski. 

Ymddangosodd am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd yn 2019, gan roi’r perfformiad cyntaf o Fire Ritual yn America, sef concerto Tan Dun i’r ffidil.

Mae hi wedi gweithio gydag arweinwyr blaenllaw, gan gynnwys Fabio Luisi, Jaap van Zweden, Andrey Boreyko, Jacek Kaspszyk, Marin Alsop, Pablo Heras-Casado, Hannu Lintu, Sakari Oramo, John Storgårds a Giancarlo Guerrero.

Mae ei llwyddiannau mewn cystadlaethau yn cynnwys gwobrau yn 62ain Cystadleuaeth Gerddoriaeth Ryngwladol ARD, Cystadleuaeth Tchaikovsky, Cystadleuaeth y Frenhines Elisabeth, Cystadleuaeth Sibelius a 15fed Cystadleuaeth Fiolinau Ryngwladol Henryk Wieniawski. Derbyniodd Wobr Artist Ifanc 2018 gan Weinyddiaeth Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Korea, a Gwobr Artist Ifanc Cymdeithas Gerddoriaeth Korea yn 2019. 

Mae ei recordiadau llwyddiannus yn cynnwys cerddoriaeth gan Fauré, Debussy, Szymanowski, Chopin, Wieniawski a Shostakovich.

Mae’n perfformio ar y Guarneri del Gesù c1725 ‘ex-Moller’, sydd ar fenthyg ganddi am gyfnod estynedig drwy Sefydliad Diwylliant Korea Samsung a Chymdeithas Stradivari Chicago, Illinois.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes. 

Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu. 

Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.

Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym- Jones is-arweinydd
Cecily Ward
Terry Porteus
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Marie-Noëlle  Richard •
Kerry Gordon-Smith
Juan Gonzalez
Carmel Barber
Jane Sinclair
Ilze Abola
Gary George Veale

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ruth Heney
Lydia Caines
Joseph Williams
Olivier Chauvet •
Sheila Smith
Katherine Miller
Beverley Wescott
Sellena Leony
Vickie Ringguth
Michael Topping
Greta Papa

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Lowri Thomas
Anne-Marie  Lemeunier •
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Sharada Mack

Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Raphael Lang
Rachel Ford
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Sarah Berger
Kathryn Graham

Basau Dwbl
Lynda Houghton ‡
Daniel Vassallo
Christopher Wescott
Manuel Jouen •
Richard Gibbons
Thea Sayers
Emma Prince
Mike Chaffin

Ffliwtiau
Harry Winstanley ‡
John Hall †
Lindsey Ellis
Elizabeth May

Piccolos
Lindsey Ellis †
John Hall
Elizabeth May

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Sarah-Jayne Porsmoguer

Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †

Clarinetau
Nick Carpenter ‡
Christine Fourrier •
Alison Lambert
Lenny Sayers

Clarinetau Bass
Lenny Sayers †
Alison Lambert

Clarinét E Feddalnod
Christine Fourrier •

Baswnau
Jarosław  Augustyniak *
Pascal Thirot •
Jo Shewan
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
William Haskins
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
William Morley
Stéphane Michel •
Fabien Bollich • (Prif Offerynnwr ar gyfer Szymanowski)

Trombonau
Donal Bannister*
Tom Berry

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †
Andy Cresci

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Girling
Andrea Porter

Telynau
Valerie  Aldrich-Smith †
Jane Lister

Piano
Catherine Roe Williams
Chris Williams

Selesta
Chris Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr Y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol Y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd Y Gerddorfa, Gweith-Rediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr Y Gerddorfa Eleanor Hall
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid A Phrosiectau Victoria Massocchi
Llyfrgellydd Y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwy-Ydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata A Chynulleid-Faoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruch-Wylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan A Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan A Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid Bbc Cymru Josh Gill, Analese Thomas-Strachan , Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications