Gwychder Gwyllt

Nos Iau 20/3/25, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 21/3/25, 7.30pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Grace Williams
Penillion 14’

Max Bruch
Concerto Rhif 1 i’r Ffidil 24’

EGWYL: 20 munud

Rachmaninov
Symffoni Rhif 3 39’

Tadaaki Otaka arweinydd
Eldbjørg Hemsing ffidil

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Caiff y cyngerdd yng Nghaerdydd ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 yn In Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol hefyd.

Cyflwyniad

Llun: Kirsten McTernan

Llun: Kirsten McTernan

Croeso i’n cyngerdd heno. Mae’n braf iawn croesawu ein Harweinydd Llawryfog hoff Tadaaki Otaka yn ôl gyda rhaglen sy’n amrywio o Ramantiaeth odidog i gynnyrch ein seren ryfeddol ni’n hunain, Grace Williams. Mae ei Phenillion yn cymryd yr hen benillion Cymraeg byrfyfyr ac yn eu trawsnewid yn waith cerddorfaol a allai fod yn seiliedig ar alawon gwerin traddodiadol ond sydd mewn gwirionedd yn alawon o’i phen a’i phastwn ei hun.

Croeso’n ôl hefyd i’r feiolinydd dawnus o Norwy, Eldbjørg Hemsing, i chwarae Concerto Cyntaf poblogaidd Bruch i’r Ffidil. Gyda’i meistrolaeth rwydd ar ei hofferyn a’i sain arbennig o hardd, mae hi’n siŵr o roi ei stamp ei hun ar y darn bytholwyrdd hwn.

Fel y gŵyr pawb, mae cerddoriaeth Rachmaninov yn agos at galon Tadaaki Otaka ac fe orffennwn ni’r cyngerdd gyda’i Drydedd Symffoni, gwaith sy’n llawn harddwch melodig ac egni traethiadol, sy’n adlewyrchu degawdau o brofiad o ysgrifennu ar gyfer cerddorfa.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Grace Williams (1906–77)

Penillion(1955)

1 Moderato cantando
2 Allegro con fuoco 
3 Andante con tristeza
4 Allegro agitato

Penillion Cymraeg byrfyfyr, yn cael eu canu i gyfeiliant telyn fel arfer, oedd yr hen benillion. Archwilio ysbryd y genre a wna Grace Williams yn ei darn cerddorfaol, a ysgrifennwyd ym 1955 ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, yn hytrach na defnyddio alawon traddodiadol Cymreig i greu ‘naws leol’ cerdyn post. Yn wir, does dim un hen alaw werin yn y gwaith rhyfeddol hwn o bedwar symudiad – Williams a’u cyfansoddodd nhw i gyd ei hun. Roedd dylanwad ei hathro, Ralph Vaughan Williams, yn bwysig yma. Roedd yntau’n gasglwr caneuon gwerin arloesol ac mae ei weithiau cynharach yn aml yn cynnwys themâu sydd naill ai’n draddodiadol neu’n swnio’n draddodiadol. Ond gydag amser, dyfnhau wnaeth ei ddealltwriaeth, fel nad yn gymaint yr alawon eu hunain ond y ffordd roedden nhw wedi tyfu a datblygu – yr ‘amrywiadau’ a darddodd ohonyn nhw – a adawodd ei hargraff yn ddwfn yn ei gerddoriaeth. 

Mae Grace Williams yn bwrw iddi mewn ffordd lawn mor wreiddiol yn ei Phenillion: yn y symudiadau cyntaf a’r trydydd yn benodol, mae hi’n plethu alawon lled-fyrfyfyr o amgylch cyfeiliant syml ei rhythm, a thelyn yn aml yn lliwio’r cyfan. Yn gelfydd iawn, mae’n creu’r effaith bod y llinellau melodig hyn yn annibynnol, neu o leiaf heb fod yn hollol ynghlwm wrth y cyfeiliant – effaith tra gwahanol i’r hyn a ddisgwylid fel arfer yng ngherddoriaeth glasurol y Gorllewin. Rhwng y ddau symudiad synfyfyriol, telynegol hyn ceir gwrthgyferbyniad rhyfelgar, tanbaid yr ail (ystyr con fuoco yw ‘gyda thân’) ac yn olaf cawn gerddoriaeth ddawns egnïol y finale agitato (‘cynhyrfus’) – er bod hyd yn oed hynny yn marw’n ddim yn y diwedd. Mae gwythïen ddofn, gyfoethog o hiraeth yn Penillion, sy’n ein hatgoffa nid yn unig o rai o’n caneuon gwerin mwyaf hudolus, ond hefyd o’r emyn-donau mawr Cymreig, fel ‘Aberystwyth’. Os mai ‘cerddoriaeth genedlaethol’, chwedl Vaughan Williams, yw hyn, mae’n genedlaethol mewn ffyrdd dwfn ac amlochrog – ffyrdd a all siarad y tu hwnt i ffiniau gwlad.

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Max Bruch (1838–1920)

Concerto Rhif 1 i’r Ffidil yn G leiaf, Op. 26
(1864–6, adol. 1868)

1 Prelude: Allegro moderato –
2 Adagio
3 Finale: Allegro energico – Presto 

Eldbjørg Hemsing ffidil

Yn dibynnu ar eich safbwynt, dylai Max Bruch ennyn naill ai genfigen mawr neu gydymdeimlad mawr dros ei Goncerto Rhif 1 i’r Ffidil yn G leiaf. Bu’r llwybr i gwblhau’r gwaith ymhell o fod yn llyfn – dwy flynedd lafurus o gyfansoddi a arweiniodd at première mor anfoddhaol yn 1866 nes iddo ei dynnu’n ôl yn syth i wneud gwelliannau pellach – ond wedyn, y feiolinydd a roddodd gyngor ar y gwaith ac a berfformiodd y fersiwn derfynol yn 1868 oedd neb llai na’r meistr Hwngaraidd Joseph Joachim. Ac yntau’n ddim ond 30 oed, yn sydyn cafodd Bruch ei ddyrchafu i’r math o enwogrwydd rhyngwladol na all y rhan fwyaf o gyfansoddwyr ddim ond breuddwydio amdano. Ar y llaw arall, fe wnaeth enwogrwydd y concerto nid yn unig fwrw cysgod dros bopeth arall a ysgrifennodd wedyn (gan gynnwys dau goncerto pellach i’r ffidil), ond wnaeth o ddim hyd yn oed elwa’n ariannol, gan ei fod wedi cytuno gyda’i gyhoeddwr i dderbyn un tâl unigol yn hytrach na breindaliadau.

Petai’r Preliwd sy’n agor y concerto yn ddarlun, gallai gyfleu tarth y wawr yn treiglo dros ryw gornel anghysbell o Ucheldir yr Alban (ardal y byddai Bruch yn ymweld â hi’n ddiweddarach): bwrlwm trwm y timpani, yna ymryson lawn gwewyr rhwng y gerddorfa a’r unawdydd, yn ddistaw i ddechrau, cyn adeiladu i benllanw nerthol. Mae gweddill y symudiad tanllyd ac egnïol hwn wedi’i ddominyddu gan yr unawdydd, a’i ysgrifennu hynod o feistrolgar yn rhychwantu ystod gyfan y ffidil, gyda llawer o wasgiadau dwbl, ac mae’n llawn lliwiau cerddoriaeth Sipsi Hwngari. Yn wir, teimlwn mai dim ond gagendor bach iawn sydd rhwng y cyfanwaith a Choncerto Meistrolgar Joachim ei hun i’r Ffidil ‘Yn yr Arddull Hwngaraidd’ o 1857; ond mae Bruch yn welliant ar Joachim yn un peth: mae ei ddarnau cerddorfaol yn daranllyd o gyffrous, rhywbeth na ellir ei ddweud am drefniant Joachim.

Mae’r Adagio canolog yn teimlo fel gwrogaeth i Concerto Mendelssohn i’r Ffidil yn E leiaf, nid yn unig oherwydd tebygrwydd ei oslef perlesmeiriol gynnes, ond hefyd yn y ffordd y mae’n dechrau’n ddiwnïad, yn dilyn ailddatganiad o agoriad breuddwydiol y Preliwd. Ceir saib cyn y Finale, sy’n ddawns hwyliog, hapus yn llawn asbri rhythmig Hwngaraidd ei naws, eto gyda llwyth o wasgiadau dwbl i’r ffidil. Wrth iddo fyrlymu tua’r diweddglo blodeuog, mae’n hawdd dychmygu’r effaith y byddai’r cyfuniad hwn o gerddoriaeth a feiolinydd wedi’i chael pan ddadorchuddiwyd y gwaith yn 1868.

Nodyn y rhaglen © Charlotte Gardner

EGWYL: 20 munud

Sergey Rachmaninov (1873–1943)

Symffoni Rhif 3 yn A leiaf(1935–6)

1 Lento – Allegro moderato – Allegro
2 Adagio ma non troppo – Allegro vivace
3 Allegro – Allegro vivace – Allegro

Ysgrifennodd Rachmaninov ei Drydedd Symffoni dros gyfnod o ddau haf (1935–6) ar ei stad yn y Swistir, lle ceisiodd ail-greu tawelwch gwledig ei fywyd cyn y Chwyldro yn Rwsia, ond gyda chysuron modern. Ar yr olwg gyntaf, darn hiraethus sydd yma, yn llawn adleisiau o Tchaikovsky, Borodin, Rimsky-Korsakov a’r Rachmaninov ifanc ei hun – symffoni ‘wirioneddol Rwsiaidd’. Ond mae’r idiomau cyfarwydd wedi’u moderneiddio’n gynnil: ceir gweadau rhwygedig a throadau annisgwyl, heb sôn am lwybrau twyllodrus sydd fel petaen nhw’n arwain i unman. Mae’r gerddorfa, gan ddilyn esiampl Richard Strauss, yn mynd yn beth unigolyddol iawn, ac mae rhyw ochr galed i’w moethusrwydd yn aml.

Mae’r nodau cyntaf un yn gwneud i ni graffu ar y gerddorfa i gael gwybod o ble maen nhw’n dod: beth yw’r offeryn swynol hwn? Sacsoffon, efallai? Mewn gwirionedd mae’n gymysgedd unigryw o glarinét, corn gyda mudydd a soddgrwth, yn chwarae alaw yn arddull siant Uniongred Rwsiaidd. Bydd y siant hwn yn dod yn thema motto, gan ymddangos mewn mannau allweddol ac ymwthio hefyd i themâu ymddangosiadol ddigyswllt. Wedyn clywn fwy o’r Rachmaninov cyfarwydd: cordiau agoriadol enfawr a thema ymdeithgan gadarn. Mae fel petai’r cyfansoddwr yn casglu ei nodweddion mwyaf adnabyddus ynghyd, dim ond i’w hailgyfeirio i gyfeiriadau newydd.

Dywedai Rachmaninov fod ganddo bob amser raglen mewn golwg, yn stori neu o leiaf ddelwedd y tu ôl i’r gerddoriaeth, ond ni fyddai bron byth yn dweud beth oeddent. Yn y Drydedd Symffoni, rhaid cyfaddef, nid yw’n hawdd canfod allwedd i’r naratif. Flynyddoedd lawer ynghynt, roedd tri symudiad Sonata Cyntaf Rachmaninov i’r Piano wedi cynrychioli Faust, Gretchen a Mephistopheles yn eu tro. Mae’n ymddangos bod rhywbeth tebyg, ond wedi’i drawsblannu i bridd Rwsia, yn sail i’r symffoni hon.

Mae’r symudiad cyntaf yn deillio o brif elfennau telynegiaeth Rachmaninov: prudd-der ac atgofion yn y clarinetau, yna cynhesrwydd a gobaith yn y soddgrythau. Ceir uchafbwynt ecstatig ac arwrol, ac wedyn datblygir y themâu gyda hiraeth, pryder a drama fawr, sy’n cael ei ffrwyno gan ddychweliad y motto.

Nesaf ceir Adagio a allai fod yn Scherzo. Cân epig yw’r motto bellach, ac mae’r ffidil unigol boenus o brydferth yn dwyn Scheherazade i gof, neu Gretchen efallai? Allan o’r corwynt cerddorfaol daw gorymdaith od mewn amser triphlyg, yn darogan pethau sinistr.

Twyllodrus yw’r ddawns Rwsiaidd hwyliog ar ddechrau’r symudiad olaf. Mae arlliw o watwar cynnil yn tanseilio’r hwyl, ac mae yna gwestiynu a phetruso, fel pe bai’n gofyn ‘beth nesa?’. Mae yna ffiwg, ac yna adran sy’n llawn syrthni dwyreiniol, ond codi sgwarnogod a wna’r rhain. Mae’r hyn fu ynghudd yn datgelu’i hun wedyn fel motiff Dies irae, siant yr Offeren Babyddol a ddaeth yn symbol Rhamantaidd o farwolaeth, wedi’i hwylio yma i greu danse macabre. Ai’r motto Rwsiaidd fydd yn dal i gael y gair olaf?

Nodyn y rhaglen © Marina Frolova-Walker

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant … 

Missa solemnis

Nos Iau 10/4/25, 7.30pm
Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd

Nos Wener 11/4/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Beethoven Missa solemnis

Andrew Manzearweinydd
Carolyn Sampson soprano
Sophie Harmsen mezzo-soprano
Ed Lyon tenor
Darren Jeffery bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

MAWREDDOG | CLODFORUS | O’R RADD FLAENAF

Mae Missa solemnis gan Beethoven, a saif fel cofeb ymysg gweithiau corawl cysegredig, yn osodiad o’r offeren sy’n aruthrol o ran ei rym a’i raddfa. Ynddo mae mawredd aruchel a serenedd nefolaidd yn dawnsio gyda ffigurau onglog sy’n neidio; mae cyferbyniadau deinamig ffyrnig yn plethu drwy’r rhannau wedi’u trefnu’n ofalus i rymoedd cyfun y gerddorfa a’r corws; ac yn ffrwtian yn gyson dan yr wyneb, ceir naws chwilgar sy’n adlewyrchu ffydd y cyfansoddwr ei hun – sef edrych y tu hwnt i’n dealltwriaeth ni at Dduw dwyfol.

Roedd Beethoven o’r farn mai’r Missa solemnis oedd ei waith gorau, ac mae’n sicr yn ddarn sydd ar restr ddymuniadau pob un sy’n caru cerddoriaeth. Gydag unawdwyr nodedig yn camu i’r llwyfan, ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, mae hwn yn argoeli i fod yn berfformiad rhy dda i’w golli.

Caneuon Tynged

Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain

Nos Wener 20/6/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Brahms Serenâd Rhif 2
Brahms Schicksalslied
Stravinsky Symffoni’r Salmau 

Ryan Bancroft arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

CELFYDD | TANBAID | DARLUNIADOL

Os bwriadwyd serenadau yn hanesyddol fel cerddoriaeth ar gyfer adloniant, yna mae Brahms yn sicr wedi rhagori yn ei Serenâd Rhif 2. Mae’r gwaith cynnar hwn yn llawn cymeriad Brahms o’r cychwyn cyntaf gyda’i gynhesrwydd ysgafn, ei rythmau croes bywiog, a’i alawon toreithiog i swyno unrhyw wrandäwr.

Yr un mor nodweddiadol, ond yn fwy pruddglwyfus ei natur, y mae gosodiad llesmeiriol Brahms o’r gerdd Schicksalslied gan Friedrich Hölderlin. Mewn dau bennill sy’n cyferbynnu bywydau’r tragwyddol ddedwydd â’r rhai sy’n dioddef ffawd greulon, mae Brahms yn symud rhwng yr ysgafn a’r didaro yn erbyn y tymhestlog. I’r gwrthwyneb, mae Stravinsky yn Symffoni’r Salmau yn defnyddio dulliau sy’n adleisio’r siant Gregoraidd traddodiadol, ynghyd ag ysgrifennu ffiwgaidd a motiffau dawns ecstatig i bortreadu testun y salmau...dyma waith o athrylith pur! I arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn eu cyngerdd olaf yn ystod tymor Caerdydd, mae’n bleser gennym groesawu’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn ôl.

Bywgraffiadau

Tadaaki Otaka arweinydd

Martin Richardson

Martin Richardson

Ganwyd Tadaaki Otaka yn Japan, ac ef yw Cyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Ffilharmonig Osaka ers 2018. Yn dilyn cyfnod nodedig fel Prif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, daeth yn Arweinydd Llawryfog iddi. Mae hefyd yn dal teitlau Arweinydd Parhaol Cerddorfa Symffoni NHK, Arweinydd Llawryfog Cerddorfa Ffilharmonig Tokyo, Arweinydd Gwadd Anrhydeddus Cerddorfa Symffoni Yomiuri Nippon ac Arweinydd Llawryfog Anrhydeddus Cerddorfa Siambr Neuadd Kioi, Tokyo. Mae wedi mwynhau cysylltiad agos â Cherddorfa Symffoni Sapporo ers pedwar degawd.

Yn ogystal ag arwain yn helaeth yn Japan, mae hefyd yn uchel ei barch fel athro i arweinwyr ifanc. Mae’n cyfuno’r gweithgareddau hyn gydag ymweliadau rheolaidd ag Ewrop ac ymhlith uchafbwyntiau diweddar gyda Cherddorfa Gymreig y BBC cafwyd ymddangosiadau yn y BBC Proms. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel beirniad Cystadleuaeth Arwain Donatella Flick yn Llundain, Cystadleuaeth Malko yn Copenhagen a 18fed Cystadleuaeth Cerddoriaeth Ryngwladol Tokyo i Arweinyddion – lle cafodd ei enwi’n gadeirydd yn 2021.

Ym maes opera, yn ogystal â’i waith gyda’r Theatr Genedlaethol Newydd yn Tokyo, mae wedi arwain Peter Grimes, Fidelio, Die Fledermaus, Tosca, Tannhäuser, Carmen, Der Freischütz a Salome.

Mae wedi arwain sawl première, gan gynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr Japaneaidd fel Matsumura, Takemitsu a Miyoshi, ac yn ei ddisgograffeg ceir llawer o recordiadau enwog gyda Cherddorfa Gymreig y BBC a Camerata Tokyo.

Ymhlith y gwobrau a ddyfarnwyd iddo mae Gwobr Cerddoriaeth Suntory, y CBE a Medal Elgar gan Gymdeithas Elgar, i nodi ei waith dihafal yn arwain gwaith y cyfansoddwr mewn gwledydd tramor. Cymaint oedd ei enw da fel dehonglydd rhagorol o ystod eang o repertoire, gan gynnwys Mahler, Bruckner, Shostakovich, Richard Strauss, Walton ac Elgar, nes i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru roi Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddo ym 1993; mae ganddo hefyd Ddoethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Yn 2021 fe’i gwnaed yn aelod o Urdd y Codiad Haul – Pelydrau Aur â Rhosaddurn, gan lywodraeth Japan.

Eldbjørg Hemsingffidil

Gregor Hohenberg

Gregor Hohenberg

Mae galw rhyngwladol am wasanaeth y feiolinydd Norwyaidd Eldbjørg Hemsing, a chlod mawr i’w chyfuniad o feistroldeb a mewnwelediad deongliadol.

Yn nhymor 2024/25 bydd hi’n ymddangos gyda Cherddorfa Symffoni Taipei a’r Hallé gyda Kahchun Wong, Cerddorfa St Luke’s yn Efrog Newydd a’r Bodensee Philharmonie, ac yn dychwelyd at bartneriaid tymor hir gan gynnwys Cerddorfa Philharmonig Oslo a Cherddorfa Symffoni Stavanger. Bydd yn cynnal datganiadau a rhaglenni cerddoriaeth siambr yn Neuadd Bechstein yn Llundain, Gŵyl Dvořák Prague a Schwetzinger Festspiele.

Ymhlith uchafbwyntiau diweddar mae perfformiadau gyda cherddorfeydd Symffoni Gwlad yr Iâ a Trondheim; Concerto Rhif 2 Anders Hillborg i’r Ffidil gyda Cherddorfa Symffoni Radio Sweden dan Esa-Pekka Salonen; Whirld Rolf Wallin gyda Cherddorfa Symffoni Stavanger ac Andris Poga; a datganiadau a chyngherddau cerddoriaeth siambr yng Ngŵyl Wanwyn Heidelberg a gwyliau yn Dresden a Bærum yn Norwy.

Mae wedi ymddangos mewn lleoliadau rhyngwladol o fri, gan gynnwys Canolfan Lincoln, Efrog Newydd, Canolfan Kennedy Washington DC, Neuadd Wigmore, Gŵyl Verbier a Chanolfan Genedlaethol y Celfyddydau Perfformio yn Beijing.

Recordiodd sawl albwm a enillodd wobrau, gan gynnwys yn fwyaf diweddar Concerto Rhif 2 i’r Ffidil a Kväll ar gyfer ffidil a soprano, gan Hillborg. Rhyddhaodd Arctic, gydag Arktisk Filharmoni a Christian Kluxen, darn sy’n archwilio seinluniau naturiol cyfoethog yr Arctig (a enillodd Wobr Opus Klassik iddi); a repertoire yn amrywio o sonatas Grieg i goncertos gan Tan Dun, Hjalmar Borgstrøm a Shostakovich.

Cyd-sefydlodd Ŵyl Hemsing ac mae’n Gyfarwyddwr Artistig SPIRE, rhaglen fentora a datblygu cerddorion.

Yn enedigol o Valdres, astudiodd Eldbjørg Hemsing yn Sefydliad Cerdd Barratt Due yn Oslo a chyda’r Athro Boris Kuschnir yn Fienna. Mae hi’n chwarae ffidil Antonio Stradivari 1707 ‘Rivaz, Baron Gutmann’, ar fenthyg gan Sefydliad Dextra Musica.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting + blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jonesis-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Juan Gonzalez
Alejandro Trigo
Kerry Gordon-Smith
Ruth Heney **
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Amy Fletcher

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Lydia Caines **
Michael Topping
Katherine Miller
Joseph Williams
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Roussanka Karatchivieva
Gary George-Veale
Emma Menzies

Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Laura Sinnerton
Dáire Roberts
Charlotte Limb
Ania Leadbeater
Lucy Theo

Soddgrythau
Gilly McMullin
Raphael Lang
Sandy Bartai
Alistair Howes
Rachel Ford
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Kathryn Graham

Basau Dwbl
Alexander Jones #
Georgina Lloyd
Christopher Wescott
Evangeline Tang
Richard Gibbons
Ruohua Li

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis **

Piccolo
Lindsey Ellis * **

Oboau
Steve Hudson *
Charis Lai
Amy McKean †

Cor anglais
Amy McKean

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Hannah Morgan
Lenny Sayers +**

Clarinét Bas
Lenny Sayers +**

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Dominic Tyler
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland † 

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Flora Bain
Tom Taffinder

Utgyrn
Philippe Schartz *
Tim Barber

Corey Morris †

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †**

Timpani
Christina Slominska

Offerynnau Taro 
Phil Hughes
Phil Girling
Rhydian Griffiths
Andrea Porter
Max Ireland

Telynau
Sally Pryce
Daniel de Fry

Piano/Selesta
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +**
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol swydd wag
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol swydd wag
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications