Handel’s Messiah
Nos Fawrth 7 Rhagfyr 2021, 7.00m

George Frideric Handel
Meseia* (159’)
Rhian Lois Soprano
Helen Charlston Mezzo-soprano
Hiroshi Amako Tenor
Matthew Brook Bas
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (Lesley Hatfield blaenwr)
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC (Adrian Partington cyfarwyddwr artistig)
John Butt arweinydd
*Cliciwch yma am i lawrlwytho'r testun

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar 16 Rhagfyr yn ‘Radio 3 in Concert’. Bydd ar gael i’w ffrydio neu ei lawrlwytho am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chymysgiadau cerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Rhaglen heno
Croeso cynnes i’r cyngerdd heno, sy’n cynnwys un campwaith: Y Meseia Handel. Mae’r gwaith hwn mor ganolog i’r repertoire, fel ei bod yn hawdd anghofio iddo gael ei ysgrifennu ar adeg pan nad oedd llawer o fri ar waith Handel. Roedd wedi gadael Llundain â’i gynffon rhwng ei goesau, ar ôl diffyg llwyddiant ei dymor opera olaf. Aeth i Ddulyn gan fynd â sgôr gwaith y Meseia gydag ef.
Roedd yn waith chwyldroadol mewn sawl ffordd: gan ddefnyddio darnau o’r Beibl yn unig, manteisiodd Handel i’r eithaf ar ei brofiad fel cyfansoddwr opera i greu drama gyffrous, gyda’r corws yn ysgwyddo rôl anghyffredin o ganolog. I’r cymysgedd, ychwanegodd y gŵr cosmopolitaidd hwn ystod lawn o arddulliau cenedlaethol, o’r agorawd Ffrengig ei arddull drwy draddodiad corawl ei wlad enedigol, yr Almaen, i’r ‘Symffoni Fugeiliol’ Eidalaidd.
Nid yw’n syndod bod y cynulleidfaoedd cynharaf wedi cael eu swyno ac yn sicr heno byddwn yn cael ein hudo yn yr un modd, gyda John Butt, yr awdurdod Baroc, yn arwain Corws a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac unawdwyr dawnus.
Diolch yn fawr am ymuno â ni.
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
George Frideric Handel (1685–1759)
Meseia (1741, diw. 1743–59)

Er bod Handel yn arbennig o enwog am ei oratorios Seisnig, ni ddaeth y genre yn fara menyn iddo tan yn gymharol hwyr yn ei yrfa gyfansoddi. Yn wir, tan yr 1730au, ei brif ddiddordeb oedd opera Eidalaidd. Fodd bynnag, cafodd uchelgeisiau Handel ar gyfer y genre opera eu llesteirio gan gostau cynhyrchu cynyddol a newid yn chwaeth cynulleidfaoedd. Oherwydd methiant i gael digon o danysgrifwyr ar gyfer tymor opera 1738 yn Theatr y Brenin troes y cyfansoddwr at genre yr oratorio.
Roedd gan oratorios lawer yn gyffredin gydag operâu o ran ffurfiau, arddulliau a syniadau cerddorol, felly nid oedd rhaid i Handel newid ei iaith gyfansoddi yn sylfaenol. Fodd bynnag, roeddent yn denu cynulleidfa ehangach yn rhinwedd y ffaith eu bod yn Saesneg ac yn dibynnu ar ddeunydd Beiblaidd, gan apelio felly at y dosbarthiadau canol Protestannaidd a oedd weithiau’n teimlo bod iaith a chynnwys operâu yn anhygyrch. Yn weithiau nad oedd angen eu llwyfannu, ond a oedd wedi’u cynllunio ar gyfer y neuadd gyngerdd, roedd llai o orbenion ariannol hefyd. Felly, yn niwedd yr 1730au a dechrau’r 1740au, cyfansoddodd Handel gnwd o oratorios eithriadol, gan gynnwys Saul, Israel yn yr Aifft, a’i waith enwocaf, Y Meseia, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Nulyn, ac a fu’n llwyddiant ysgubol.
Mae’r Meseia wedi’i seilio ar destun gan Charles Jennens ac mae’n portreadu Iesu Grist fel y gwir Feseia a addawyd gan y proffwydi Hebreaidd, gan roi hanes cenhadaeth Iesu drwy destunau o’r Hen Testament sy’n cefnogi’r athrawiaeth hon, a gogoneddu Crist yn y nefoedd.
Er ei fod yn defnyddio grymoedd cymedrol, mae’r Meseia yn waith ar raddfa fawr, yn cael ei chwarae mewn tair rhan ac mae perfformiad llawn yn para oddeutu dwy awr a hanner. Nid oes amheuaeth am allu Handel i ddal dychymyg cynulleidfa gydol y gwaith oherwydd yr amrywiaeth anhygoel sydd ynddo.
Yn Rhan 1, mae’r darn lleisiol cyntaf yn adroddgan delynegol hyfryd gan y tenor ‘Comfort ye, my people’. Mae’n cynnwys cyfeiliant llinynnol ysgafn ond dychlamus, fel curiad calon sy’n sail i’r unawdydd. I’r gwrthwyneb, mae agoriad ansicr yr aria mezzo ‘But who may abide the day of his coming?’ yn ildio i adran ganolog stormus sy’n osodiad o’r geiriau ‘For he is like a refiner’s fire’, gyda’r llinynnau’n chwarae tremolo cyffrous. Mae’r corysau enwog yn y rhan hon yn cynnwys ‘For unto us a child is born’, gyda’i dôn nwyfus a’i neges lawen.
Mae Rhan 2 yn agor gyda chorws trwm, ‘Behold the lamb of God’; mae ei rhythm yn adleisio agorawdau mawreddog yn yr arddull Ffrengig. Mae aria dyner ar gyfer y mezzo yn dilyn, ‘He was despised’, unwaith eto gydag adran ganolog stormus. Prif ogoniant Rhan 2 yw’r corws bythol boblogaidd ‘Hallellujah’, wedi’i sgorio ar gyfer yr holl ensemble ac yn cynnwys llawer o ddynwared cerddorol rhwng y rhannau lleisiol, gan greu effaith o ogoneddu enw Iesu ym mhob cornel o’r nefoedd a’r ddaear.
Yn Rhan 3, mae trwmped unigol yn cael eiliad o ogoniant yn yr aria fas ‘The trumpet shall sound’, ac mae’r gwaith yn cloi gyda chorws mawreddog wedi’i osod ar y gair ‘Amen’.
Nodyn y rhaglen © Aditya Chander
Astudiodd Aditya Chander Gerddoriaeth yng Ngholeg Magdalen, Caergrawnt, a derbyniodd radd Meistr mewn Cerddoriaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg o Brifysgol Stanford, Califfornia.
Bywgraffiadau
John Butt arweinydd

Mae John Butt yn Athro Cerddoriaeth Gardiner ym Mhrifysgol Glasgow, yn gyfarwyddwr cerddorol y Dunedin Consort ac yn Brif Artist gyda’r Orchestra of the Age of Enlightenment. Ef yw awdur pum monograff sy’n canolbwyntio ar Bach, y Baroc a chysyniadau o ran arferion perfformio hanesyddol; mae ei waith diweddar yn tueddu tuag at gerddoriaeth a moderniaeth, diwylliannau gwrando a phrofiad cerddorol corfforedig, cerddoriaeth a ffilm.
Mae’r uchafbwyntiau ymysg ei recordiadau yn cynnwys recordiadau unigol ar y bysellfwrdd a chyfrifon sydd wedi ennill Gwobr Gramophone gyda’r Dunedin Consort o’r Meseia a’r Requiem gan Mozart. Mae ei recordiadau diweddaraf yn cynnwys Samson Handel a chantatas Bach.
Mae wedi ymddangos sawl gwaith yng Ngŵyl Caeredin a Proms y BBC gyda’r Dunedin Consort, yn fwyaf diweddar yng Ngŵyl Caeredin gydag opera newydd Errollyn Wallen, Dido’s Ghost. Mae hefyd wedi ymddangos fel arweinydd gwadd gyda Cherddorfa Siambr yr Alban, Sinfonia Dinas Llundain, Cerddorfeydd Symffoni’r BBC a Stavanger, Cerddorfa Ffilharmonig Rotterdam, Hallé, Orchestra of the 18th Century, The English Concert, Cerddorfa Baroc Portland, Music of the Baroque, Academy of St Martin in the Fields a Cherddorfa Baroc Iwerddon.
Yn 2013, derbyniodd OBE a Medal Coleg Brenhinol yr Organyddion.
Rhian Lois soprano

Lun: Alecsandra Raluca Dragoi
Lun: Alecsandra Raluca Dragoi
Mae’r soprano o Gymru, Rhian Lois, wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y Coleg Cerdd Brenhinol a’r Stiwdio Opera Genedlaethol.
Y tymor hwn mae’n dychwelyd i Opera Cenedlaethol Lloegr fel Janine/Ofwarren (The Handmaid’s Tale gan Poul Ruders) ac mae’n ymddangos am y tro cyntaf yn Theatr Magdeburg.
Mae ei huchafbwyntiau y tymor diwethaf yn cynnwys ymddangos am y tro cyntaf gydag Opera Glassworks a Garsington Opera ac ymddangosiadau gydag Opera’r Alban. Mae hefyd wedi ymddangos yn Opera Cenedlaethol Lloegr, Theatr Linbury y Tŷ Opera Brenhinol, Palas Alexandra yn Llundain, Theatr Mariinsky, Santa Fe Opera, Grand Théâtre de Genève, Nevill Holt Opera ac Opera Cenedlaethol Cymru, ymysg eraill.
Ar y llwyfan cyngerdd, mae wedi perfformio yn y Sefydliad Gwobrau Opera Rhyngwladol, Gŵyl Enescu, Royal Festival Hall yn Llundain, Symphony Hall, Birmingham, a Milton Court yn y Barbican. Mae ei repertoire yn cynnwys gweithiau gan Handel, Mendelssohn, Mozart a Stravinsky.
Mae ei recordiadau’n cynnwys The Turn of the Screw gan Britten, dan arweiniad John Wilson a’r Gerddoriaeth Achlysurol i A Midsummer Night’s Dream gan Mendelssohn gydag Edward Gardner.
Helen Charlston mezzo-soprano

Lun: Ben McKee
Lun: Ben McKee
Enillodd Helen Charlston y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Ganu Handel yn 2018, a chyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Opera Hurn Court, a Chystadleuaeth Ganu Ryngwladol Gŵyl y Grange. Roedd hi’n ‘Seren Newydd’ Orchestra of the Age of Enlightenment (2017–19) ac yn un o Artistiaid City Music Foundation yn 2018. Eleni ymunodd ag academi Les Arts Florissants Le Jardin des Voix a daeth yn aelod o gynllun Artistiaid y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3.
Mae ei huchafbwyntiau diweddar a’r rhai sydd ar y gweill yn cynnwys y perfformiad cyntaf o The Isolation Songbook gyda Michael Craddock ac Alexander Soares, ymddangosiadau gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Adelaide, Cerddorfeydd Symffoni Seattle a Gorllewin Awstralia a’r Gabrieli Consort & Players, a datganiadau unigol yng Ngŵyl Gerddoriaeth Gynnar Efrog, a gwyliau Handel Llundain, Korčula Baroque, Gŵyl Ryngwladol Caerlŷr a Fitzrovia.
Y llynedd, perfformiodd rôl Anna yn opera newydd Tom Smail, Blue Electric, am y tro cyntaf erioed. Mae ei rolau operatig eraill yn cynnwys Messenger a Proserpina (L’Orfeo), Gwrach Gyntaf (Dido and Aeneas), Olga (Eugene Onegin), Florence Pike (Albert Herring), Ino (Semele), Sara (Tobias and the Angel gan Jonathan Dove) a Dinah (Trouble in Tahiti). Creodd hefyd y brif rôl yn y perfformiad cyntaf o Dido Is Dead gan Rhiannon Randle.
Mae’n gyn brif gôr-gantor Côr Merched Abaty St Albans ac roedd yn ysgolhaig corawl yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt.
Hiroshi Amako tenor

Lun: Niklas Marc Heinecke
Lun: Niklas Marc Heinecke
Symudodd y tenor Japaneaidd-Gymreig Hiroshi Amako, i Ogledd Cymru yn 8 oed, gan astudio’r ffidil a’r piano i ddechrau. Astudiodd Gerddoriaeth yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle’r oedd yn ysgolhaig corawl, ac yn ddiweddarach dilynodd astudiaethau lleisiol yn yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Stiwdio Opera Ryngwladol yn yr Hamburg State Opera, lle bu’n canu rhannau fel Abdallo (Nabucco) a Borsa (Rigoletto), yn ogystal â chreu rôl Göbbels (IchundIch Johannes Harneit). Ers y tymor diwethaf, mae wedi bod yn aelod o’r Stiwdio Opera yn y Vienna State Opera, lle mae wedi canu rhannau fel Liberto (L’incoronazione di Poppea), Major Domo Faninal (Der Rosenkavalier), Count Almaviva (Der Barbier für Kinder) a Belmonte (Die Entführung ins Zauberreich).
Mae wedi gweithio gydag arweinwyr blaenllaw, gan gynnwys Kent Nagano, Paolo Carignani, Philippe Jordan a Pablo Heras-Casado, Ton Koopman, a Stephen Layton.
Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar y llwyfan cyngerdd ac mae’n ddatgeiniad brwd; enillodd drydedd Gystadleuaeth Cân Ryngwladol Helmut Deutsch, ac mae wedi perfformio yn Neuadd Wigmore ac yng Ngŵyl Lieder Rhydychen. Mae ei uchafbwyntiau mewn cyngherddau yn cynnwys Eleias gan Mendelssohn gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Dioddefaint Sant Matthew gan Bach gyda Cherddorfa Philharmonia Auckland a Dioddefaint Sant Ioan gyda’r Orchestra of the Age of Enlightenment.
Matthew Brook bas

Lun: Gerard Collett
Lun: Gerard Collett
Astudiodd Matthew Brook yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac mae wedi ymddangos fel unawdydd ledled Ewrop, Awstralia, Gogledd a De America a’r Dwyrain Pell.
Mae wedi gweithio gyda phrif arweinwyr, gan gynnwys Harry Christophers, Syr Mark Elder, Syr John Eliot Gardiner, Richard Hickox, Charles Mackerras a Christophe Rousset.
Yn y tŷ opera, mae wedi perfformio rhannau mewn gweithiau gan Bernstein, Bizet, Britten, Handel, Janáček, Menotti, Monteverdi, Mozart, Purcell, Rameau, Rossini, Vaughan Williams a Walton.
Y tymor hwn mae’n perfformio rhaglen ddatganiadau gydag Iain Burnside o’r enw ‘View from the Villa’ yng Ngŵyl Lammermuir; y Meseia gyda Music of the Baroque yn Chicago ac ar daith yn Ewrop gyda’r Academy of Ancient Music; Peilat yn Nioddefaint St Ioan gan Bach gyda Les Violons du Roy yn Quebec; a Lodovico (Otello) ar gyfer Grange Park Opera.
Mae ei recordiau sydd wedi ennill gwobrau yn cynnwys gweithiau gan J. S. Bach, Handel a Gilbert a Sullivan.
Yn y neuadd gyngerdd mae ei repertoire yn cynnwys gweithiau corawl cysegredig Bach, Symffoni Rhif 9 Beethoven, L’enfance du Christ gan Berlioz, Ein deutsches Requiem gan Brahms, The Dream of Gerontius gan Elgar, Die Jahreszeiten a Harmoniemesse gan Haydn, Eleias gan Mendelssohn a Thrydedd Symffoni Nielsen.
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yw un o brif gorau cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig. Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd yw cartref y Corws, a ffurfiwyd yn 1983, ac mae’n cydweithio’n rheolaidd â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ogystal â pherfformio cyngherddau ar ei ben ei hun. Mae’n cynnwys dros 120 o gantorion: cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys y Meseia heno, perfformiad sydd wedi’i ohirio sawl tro o Ddioddefaint Sant Matthew gan Bach gyda Harry Bicket, yn ogystal â’r Coronation Te Deum gan Walton ac Offeren Stravinsky. Mae’r corws yn ymddangos yn flynyddol ym Mhroms y BBC; gyda’r uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Requiem Mozart o’r cof gyda Nathalie Stutzmann, Wythfed Symffoni Mahler dan arweiniad Thomas Søndergård a Proms in the Park y BBC.
Mae wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth gyfoes ac yn 2016 rhoddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y perfformiad cyntaf; mae hefyd wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan lawer o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad o Speak Out gan Kate Whitley.
Gellir clywed y Corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Ymddangosodd yn ddiweddar ar drac sain Paul Mealor ar gyfer cyfres BBC Cymru Wonders of the Celtic Deep, recordiad yn unol â rheolau cadw pellter cymdeithasol a wnaed rhwng cyfnodau clo.
Cyfarwyddwr Artistig
Adrian Partington
Cyfeilydd
Christopher Williams
Rheolwr y Corws
Caroline Richards
Soprano
Verity-Belle Atkinson
Eve Bennett
Grace Curtis
Nataliya Gorban
Sarah Jane Griffiths
Charlotte Hardy
Claire Hardy
Jessica Harris
Francesca Ignall
Vanessa John-Hall
Chloe Jones
Amy Kilmister
Cathy Mirtle
Joanna Osborn
Angharad Phillips
Liz Phillips
Anwen Pike
Rhiannon Pooley
Helen Thomas
Rosie Evans
Sally Glanfield
Dee Cooke
Daisy Cooksley
Anna Davies
Nicole Dickie
Emily Hopkins
Rhiannon Humphreys
Victoria Illsley
Julie Jones
Mags Lake
Lizzie Linney
Elinor Lloyd
Shakira Mahabir
Gwen Mouncher
Maisie O’Shea
Mel Taylor
Caroline Thomas
Hannah Thomas
Hannah Williams
Caitlin Ellis
Caitlin Hockley
Alto
Ceri-Ann Absalom
Alex Butler
Rhian Pullen
Liz Coleman
Alison Davies
Catherine Duffy
Giselle Dugdale
Georgina Dunn
Heledd Evans
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Annette Hecht
Yvonne Higginbottom
Naomi Hitchings
Emilia Hubbard
Rhian Humphreys
Lisa May
Josie Nemeth
Sarah Willmott
Sara Peacock
Heather Price
Emily Pugh
Erika Rawnsley
Emma Rees
Kate Reynolds
Sian Schutz
Rosamund Spinnler-Badham
Emma Thorpe
Vicki Westwell
Julie Wilcox
Cerys Thomas
Tenor
Rhys Archer
William Collins
Keith Davies
Tom Lazell
James Lawson
Chris McGowan
Richard Shearman
Richard Wilcox
Michael Wilmott
Nick Wilmott
Philip Holtam
Roland George
Deryck Webb
Bas
Ben Anthony
Peter Cooke
David Davies
Ethan Davies
Jeff Davies
Stuart Hogg
David Hopkins
Emyr Wynne Jones
Geraint Jones
Lucas Maunder
Owen McCarthy
David McLain
Gareth Nixon
Mike Osborn
Benjamin Pinnow
Jez Piper
David Stephens
Claurindo Diakiesse
Nick Perfect
Roedd y rhestr o gantorion yn gywir ar adeg argraffu’r rhaglen
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa yn llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes.
Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd, gan gynnwys fideo hynod boblogaidd o drac sain Doctor Who! Mae’r cynlluniau ar gyfer y gerddorfa’n cynnwys cyngherddau a digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio’n fyw, teithiau i wahanol gymunedau ledled Cymru a chynlluniau addysg a datblygu cymunedol i gynnwys pawb yn y gwaith o greu cerddoriaeth. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidil Cyntaf
Lesley Hatfield Blaenwr
Nick Whiting + **Blaenwr Cyswllt
Martin Gwilym-Jones †
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Robert Bird
Ail Ffidil
Jane Sinclair #
Ros Butler
Beverley Wescott
Sellena Leony
Vickie Ringguth
Michael Topping
Fiola
Rebecca Jones *
Peter Taylor
Ania Leadbeater
James Drummond
Soddgrwth
Alice Neary *
Jessica Feaver **
Raphael Lang
Bas Dwbl
Marcel Becker ‡
Joe Cowie
Obo
Steve Hudson *
Penny Smith
Basŵn
Lawrence O’Donnell ‡
Jo Shewan
Utgorn
Philippe Schartz *
Corey Morris
Timpani
Phil Hughes ‡
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-rediadau Kevin Myers
Gweinyddwr y Gerddorfa Rhonwen Jones **
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-wyydd Darlledu Emily Preston **
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-faoedd Sassy Hicks +
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +, Caroline Richards **
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey
Rheolwr y Corws a Chydlynydd Allgymorth Osian Rowlands **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

