

Campweithiau a Dylanwadau
Nos Iau 27/11/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

María Huld Markan Sigfúsdóttir
Oceanspremière y DU 9’
SamuelBarber
Concerto i’r Ffidil 25’
EGWYL: 20 munud
Ottorino Respighi
Rossiniana 24’
GioachinoRossini
Guillaume Tell – agorawd 18’
Nil Venditti arweinydd
Stella Chen ffidil
Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf
Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3, i’w ddarlledu yn y dyfodol ar In Concert;a bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Croeso’n ôl heno i Nil Venditti i arwain rhaglen sy’n mynd â ni o America i Wlad yr Iâ, cyn glanio yn yr Eidal. Dechreuwn gyda pherfformiad Prydeinig cyntaf Oceans gan María Huld Markan Sigfúsdóttir, darn a gyfansoddwyd trwy broses oedd yn teimlo, yn ei geiriau hi, ‘fel pe bawn i’n troi a throsi yn y môr agored ac yn methu gweld tir’.
Pleser o’r mwyaf yw croesawu Stella Chen, seren newydd ym myd y ffidil, i chwarae Concerto Barber i’r Ffidil. Ar ôl dechrau digon trafferthus, tyfodd y gwaith hwn i ddod yn ffefryn ymhlith cerddorion a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.
Am yr ail hanner, bydd Nil Venditti’n ailgysylltu â’i gwreiddiau Eidalaidd, gyda chyfres gerddorfaol hyfryd Respighi, Rossiniana, teyrnged i gyfansoddwr yr oedd ei gerddoriaeth mor hoff ganddo. Ac i gloi, cawn yr agorawd fywhaol enwog i opera Rossini, Guillaume Tell.
Mwynhewch!
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
María Huld Markan Sigfúsdóttir (ganwyd 1980)
Oceans(2018)
première y DU

Cyfansoddwyd y darn Oceans yn yr hydref ar ynys yng nghanol Gogledd yr Iwerydd, neu â bod yn fanwl, oddi ar gornel dde-orllewinol Gwlad yr Iâ. Does dim cysylltiad uniongyrchol rhwng enw’r darn a’i thema, ond daeth yr enw’n gynnar yn y broses. O graffu’n fanylach, gallech ddweud bod y teitl yn briodol – pan gafodd ei ysgrifennu, roeddwn i’n meddwl llawer am y cefnforoedd, eu cyflwr a’r holl falurion plastig sy’n arnofio o gwmpas ac mewn rhai mannau yn ffurfio ynysoedd llawer mwy o faint na’r ynys rwy’n byw arni. Hefyd, ar brydiau teimlais fod y gwaith wedi ymffurfio’n endid annibynnol a doedd gen i ddim byd i’w ddweud am ei hynt – roeddwn i’n teimlo fel pe bawn i’n troi a throsi yn y môr agored ac yn methu gweld tir. Daeth syniadau, themâu a motiffau imi gyda’r stormydd hydrefol, yn curo ar y drws ac yn mynnu sylw.
Nodyn y rhaglen © María Huld Markan Sigfúsdóttir
Samuel Barber (1910–81)
Concerto i’r Ffidil, Op. 14 (1939)

1 Allegro
2 Andante
3 Presto in moto perpetuo
Stella Chenffidil
Nid heb reswm y cyfeiriodd Samuel Barber at ei Goncerto i’r Ffidil yn 1939 fel ei ‘concerto del sapone’ (‘concerto sebon’). Roedd y llysenw difrïol braidd hwnnw’n gyfeiriad nid yn unig at y cynnyrch a wnaeth ei ffortiwn i gomisiynydd y darn – y teicŵn Samuel Simeon Fels, crëwr sebon Fels-Naptha – ond hefyd at y modd y cafodd y darn ei greu a’i berfformio gyntaf, a drodd yn rhyw fath o opera sebon.
Roedd Fels a’i wraig Jennie wedi rhoi gofal rhieni yn yr Unol Daleithiau i’r feiolinydd athrylithgar o Odessa, Iso Briselli, oedd yn astudio yn Ysgol Gerdd Curtis yn Philadelphia – a hynny, fel mae’n digwydd, yn yr un flwyddyn â Barber. Erbyn 1939 roedd Briselli a Barber wedi graddio ac yn sefydlu eu hunain yn broffesiynol – roedd Barber wedi dychwelyd i’r ysgol fel athro cyfansoddi. Perswadiwyd Fels i ofyn i’r cyfansoddwr ifanc greu concerto newydd ar gyfer Briselli, un a allai arddangos techneg ddisglair y feiolinydd a’i reddf gerddorol ddofn.
Ar y dechrau, aeth pethau’n dda. Dechreuodd Barber gyfansoddi’r darn ar daith i Ewrop yn haf 1939. Ond, a’r rhyfel ar y gorwel, bu raid iddo ddychwelyd ar frys i’r Unol Daleithiau heb gwblhau’r darn – er bod Briselli wrth ei fodd â’r ddau symudiad cyntaf pan dderbyniodd nhw. Ond doedd ei athro, Albert Meiff, ddim mor hawdd ei blesio, a phenderfynodd hwnnw ysgrifennu at Fels, gan ddweud wrth y dyn busnes y byddai angen i’r concerto gael ei ailwampio’n llwyr gan rywun a oedd wir yn adnabod y ffidil (hynny yw, ef ei hun). Dechreuodd Briselli, hyd yn oed, feddwl wedyn efallai nad oedd y symudiadau agoriadol yn ddigon lliwgar, a gofynnodd am rywbeth mwy disglair ar gyfer y symudiad olaf.
Gwaethygu wnaeth pethau, fodd bynnag, pan anfonodd Barber y symudiad olaf gorliwgar roedd wedi’i greu at Briselli. Roedd y feiolinydd yn amheus; teimlai fod y symudiad yn ddisylwedd ac yn anghydnaws â thôn y symudiadau cynharach. Gofynnodd i Barber ei ailysgrifennu. Gwrthododd hwnnw, gan esbonio: ‘Allwn i ddim dileu symudiad y mae gen i hyder llwyr ynddo, o ran fy ngonestrwydd artistig fy hun.’ Felly gwrthododd Briselli chwarae’r concerto, a rhoddwyd y perfformiad cyntaf yn ei le gan y feiolinydd profiadol Albert Spalding (a neidiodd ar y cyfle) gyda Cherddorfa Philadelphia ym mis Chwefror 1941. Er hynny, fe arhosodd Barber a Briselli yn ffrindiau tan farwolaeth y cyfansoddwr ym 1981.
Er gwaetha’r helynt o gwmpas ei enedigaeth, cyn hir daeth Concerto Barber i’r Ffidil yn rhan sefydlog o repertoire y ffidil. Mae’r unawdydd yn agor y symudiad agoriadol gwir Ramantaidd gyda phrif alaw delynegol hyfryd, cyn i glarinét unigol gyflwyno thema fwy anniddig (thema y mae’r ffidil yn llwyddo i’w hosgoi bron tan ddiwedd y symudiad). Mae obo yn galarnadu alaw hir, salmdonaidd dros glustog o harmonïau llinynnol yn yr ail symudiad digynnwrf, cyn i’r unawdydd ein harwain i adran fwy tymhestlog, anghyseiniol. Yn y symudiad olaf byr, brysiog (a gallech deimlo yma fod gan Briselli bwynt), mae’r feiolinydd yn sgrialu mynd trwy linell felodig ddiatal bron, gan hwylio drwy elfennau grotésg Shostakovichaidd i yrru’r darn tua’i ddiweddglo nwydwyllt.
Nodyn rhaglen © David Kettle
EGWYL: 20 munud
Ottorino Respighi (1879–1936)
Rossiniana (1925)

1 Capri e Taormina
2 Lamento
3 Intermezzo
4 Tarantella
Buan y sylweddolwn, mewn unrhyw waith gan Ottorino Respighi, fod gafael y cyfansoddwr hwn ar y grefft o drefnu i gerddorfa heb ei ail. Fel llawer o drefnwyr offerynnol gwych ar ddechrau’r 20fed ganrif, dylanwadwyd yn fawr arno gan Nikolai Rimsky-Korsakov, wedi iddo astudio gydag ef yn St Petersburg tra hefyd yn gwasanaethu fel prif fiolydd yn Theatr Imperial Rwsia. Gwelir canlyniadau’r dylanwad hwn ym mawredd ei dair cathl symffonig Rufeinig fawr, ac yn ystod ei oes cafodd gefnogaeth arweinwyr fel Arturo Toscanini, Serge Koussevitzky a Fritz Reiner i arddangos y rhinwedd honno ar ei gorau.
Serch hynny, mae’n amlwg o drefniannau niferus Respaghi o weithiau cyfansoddwyr eraill fod y broses honno ynddi ei hun yn ei gyfareddu. Maent yn amrywio o Passacaglia a Ffiwg Bach yn C leiaf i ddarnau gan Monteverdi, Vivaldi a Vitali – a Rossini hefyd.
Efallai mai’r mwyaf adnabyddus yw ei sgôr seiliedig ar waith Rossini ar gyfer bale poblogaidd Léonide Massine, La boutique fantasque (‘Y Siop Deganau Hud’), a berfformiwyd gyntaf yn Llundain gan Ballets Russes Diaghilev ym 1919. Y flwyddyn ganlynol, sylwodd gwraig Respighi ar ddarnau piano Rossini Les Riens (‘Manion’) ar ei stand cerddoriaeth – a pherfformiwyd Rossiniana, a sbardunwyd gan y rhain, am y tro cyntaf yn Hamburg ym 1925.
Gwaith Respighi, lawn cymaint â Rossini, yw’r gyfres. Yn wahanol i’r Boutique fantasque heulog a dychanol, yma caiff Respighi rwydd hynt i fynd yn ddyfnach ac yn dywyllach. Mae pob symudiad yn dwyn atgof o ddawns neu gân Eidalaidd wahanol – dwy yn y symudiad cyntaf. Barcaról ar rythm Sisilaidd yw ‘Capri e Taormina’: teitl sy’n enwi ynys hardd a thref yn Sisilia. Atseinia ffanffer loyw ar draws tonnau prysur môr aflonydd, wedyn daw’r Sisiliana i oleuo’r naws yn hudolus a diflanna’r ffanffer i’r pellter.
Nesaf daw’r ‘Lamento’, a’i naws ostyngol ddechreuol wedi’i lliwio gan sŵn taranau pell ar y timpani a llinynnau isel. Datblyga’r alaw dros ostinato basŵn, gan adeiladu i adran ganolog lle cawn effeithiau atmosfferig gan y delyn a chyrn mud, ynghyd ag atgan ar ffurf cadenza ar y clarinét. Arweinir yr Intermezzo byr, melodaidd gan y llinynnau, sy’n cyferbynnu ag ymatebion gan selesta, telyn a chwythbrennau disglair.
I gloi, ar ôl cyflwyniad cyfriniol, mae’r Tarantella’n ffrwydro’n chwyrlïad nerthol o dde’r Eidal, dan nerth offerynnau pres a tharo llawn hwyl. Mae cân clychau’n fframio adran ganolog emynol cyn i’r ddawns ddychwelyd i gloi’r gyfres mewn fflach o heulwen.
Nodyn y rhaglen © Jessica Duchen
Gioachino Rossini (1792–1868)
Guillaume Tell – agorawd(1829)

Guillaume Tell oedd opera olaf Rossini a’i hiraf a mwyaf mawreddog. Ar ôl ei gyfansoddi, penderfynodd ei fod wedi ennill digon o gyflog trwy ei yrfa operatig a threuliodd y 47 mlynedd oedd yn weddill o’i fywyd yn mwynhau ei hun ym Mharis – yn bwyta gan mwyaf! Yn wir, roedd yn fwytäwr mor frwd, heb sôn am fod yn gogydd gwych ei hun, nes bod sawl pryd wedi’i enwi ar ei ôl, yn fwyaf enwog y Tournedos Rossini blasus. Ond yn ôl at Guillaume Tell, a cherddoriaeth enwocaf Rossini o bosib, ei agorawd. Mae’n agorawd bedair adran, a’r olaf ohonynt – Ymdeithgan y Milwyr Swistirol – wedi cael ei defnyddio ym mhob man, o The Lone Ranger i gartwnau Mickey Mouse.
Nodyn y rhaglen © David Threashe
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:
Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd Heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’r cyngerdd hwn sydd ar y gweill. Fel aelod cyfredol o’r gynulleidfa, cewch brynu tocynnau ar ei gyfer am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.
Paentio Cerddorol, Argraffiadau a Chyfaredd
Nos Iau 8/1/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Anders Hillborg Exquisite Corpse
Shostakovich Concerto Rhif 2 i’r Soddgrwth
Sibelius Cyfres Lemminkäinen
Ryan Bancroft arweinydd
Alban Gerhardt soddgrwth
CYFAREDDOL | HUDOLUS | MODERNAIDD
O Exquisite Corpse cyffrous Anders Hillborg – collage cerddorol beiddgar wedi’i ysbrydoli gan y gêm swrrealaidd – i Ail Goncerto pwerus Shostakovich i’r Soddgrwth a berfformir gan y digymar Alban Gerhardt, mae’r cyngerdd hwn yn siŵr o gyfareddu. Teithiwch ymhellach i grombil chwedloniaeth y Ffindir gyda chyfres Lemminkäinen Sibelius, sy’n cynnig cyfriniaeth ddirgel, dawnsiau gwerin hudolus, a harddwch ysbrydol ‘Alarch Tuonela’.
Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw
Bywgraffiadau
Nil Vendettiarweinydd
Alessandro Bertani
Alessandro Bertani
Mae’r arweinydd Eidalaidd-Twrcaidd, Nil Venditti, yn prysur sefydlu perthynas â cherddorfeydd ac ensembles mawr ym mhedwar ban byd, gan gynnwys y Royal Northern Sinfonia, y mae hi wedi bod yn Brif Arweinydd Gwadd arni ers tymor 2024/25.
Y tymor hwn, mae hi’n perfformio ledled y byd. Mae ei huchafbwyntiau’n cynnwys nifer o gyngherddau yn y DU, lle mae’n gweithio’n helaeth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, yn ogystal ag ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa’r Philharmonia a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham. Mae hi hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Barbican yn Llundain gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC. Mae hi hefyd yn ymddangos gyda’r Deutsches Symphonie-Orchester Berlin, y Beethoven Orchester Bonn, y Musikalische Akademie Mannheim, Cerddorfeydd Symffoni Bilbao a Quebec a Cherddorfa Ffilharmonig Tampere, ymysg eraill.
Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Radio’r Ffindir, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC ac Ensemble Cerddorfa Kanazawa, yn ogystal â dychwelyd i Proms y BBC, Gŵyl Schleswig-Holstein, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, a’r Deutsche Kammerphilharmonie Bremen.
Mae hi’n cyfuno cysylltiad cryf â repertoire Clasurol a Rhamantaidd cynnar gyda diddordeb arbennig mewn cyfansoddwyr o Dwrci ac o’r Eidal. Mae hi’n parhau i gryfhau ei henw da yn y tŷ opera, ac mae wedi arwain operâu fel Così fan tutte Mozart a The Lighthouse Peter Maxwell-Davies. Yr haf nesaf, bydd hi’n arwain Macbeth ar gyfer Opera Gŵyl Longborough.
Astudiodd Nil Venditti arwain ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Zurich gyda Johannes Schlaefli, yn ogystal â mynychu’r Academi Arwain sy’n gysylltiedig â Gŵyl Gerddoriaeth Pärnu o dan Paavo Järvi, Neeme Järvi a Leonid Grin. Cyn hyn, bu hi’n astudio’r soddgrwth yn yr Eidal gyda Francesco Pepicelli.
Stella Chen ffidil
Fay Fox
Fay Fox
Daeth y feiolinydd Americanaidd Stella Chen i amlygrwydd rhyngwladol gyntaf fel enillydd Cystadleuaeth Ffidil Ryngwladol y Frenhines Elisabeth 2019. Yn 2023 cafodd ei henwi’n Artist Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Gramophone.
Mae hi wedi perfformio concertos, datganiadau a cherddoriaeth siambr ar draws Gogledd America, Ewrop ac Asia. Yn ddiweddar, gwnaeth ymddangosiadau cyntaf gyda cherddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd, Symffoni Chicago, Cerddorfa Minnesota, Ffilharmonig Israel, Cerddorfa Siambr Ewrop a Cherddorfa St Luke’s. Mae ei pherfformiadau wedi mynd â hi i rai o lwyfannau mwyaf y byd, gan gynnwys Musikverein Fienna, Concertgebouw Amsterdam a Philharmonie Berlin. Bydd yn ymddangos yn aml gyda Chymdeithas Cerddoriaeth Siambr Canolfan Lincoln, yn Efrog Newydd ac ar daith.
Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor hwn mae concertos cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Antwerp, Cincinnati a Vancouver a thaith Americanaidd gyda Cherddorfa Siambr Orpheus, gan gynnwys perfformiad yn Neuadd Carnegie. Mae’n ymddangos fel datganydd a cherddor siambr yng Nghymdeithas Gerddoriaeth La Jolla a Cherddoriaeth Siambr San Francisco, yn ogystal ag arwain preswyliad yn y San Francisco Conservatory.
Fel cerddor siambr, mae hi wedi ymddangos mewn gwyliau blaenllaw fel Academi Kronberg, Gŵyl Moritzburg, Ravinia, Cymdeithas Cerddoriaeth Siambr Seattle, Perlman Music Program, Music@Menlo, Bridgehampton, Rockport a Gŵyl Sarasota.
Hi yw derbynnydd cyntaf Gwobr Robert Levin gan Brifysgol Harvard, lle cafodd ei mentora a’i hysbrydoli gan Robert Levin. Cafodd ei haddysgu a’i mentora gan Donald Weilerstein, Itzhak Perlman, Miriam Fried, Li Lin a Catherine Cho ymhlith eraill. Derbyniodd ei doethuriaeth o Ysgol Juilliard, lle cafodd ei phenodi’n ddiweddar i Gyfadran Llinynnol Adran y Coleg. Mae’n gwasanaethu hefyd fel Athro Cynorthwyol Gwadd yn y Shenandoah Conservatory ac mae ar gyfadran Gŵyl ac Academi Nume yn Cortona.
Mae Stella Chen yn perfformio ar y ‘General Kyd’ 1720 Stradivarius, ar fenthyg hael gan Dr Ryuji Ueno a Rare Violins In Consortium, Cydweithfa i Artistiaid a Chymwynaswyr.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf Lesley Hatfield flaenwr
Lowri Porter
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Ruth Heney **
Anna Cleworth
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Žanete Uškāne
Alfredo Reyes Logounova
Gary George Veale
Anna Szabo
Grace Shepherd
Conor Simpson
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Sheila Smith
Michael Topping
Roussanka Karatchivieva
Joseph Williams
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Elizabeth Whittam
Frances Richards
Juan Carlos Romero
Nick Francis
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Lowri Taffinder
Lydia Abell
Robert Gibbons
Anna Growns
Laura Sinnerton
Daire Roberts
Sam Wilson
Soddgrythau
Pedro Silva
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Rachel Ford
Kathryn Graham
Basau Dwbl
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Emma Prince
Imogen Fernando
Clare Larkman
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Charis Yin Yan Lai
Lucy Keeley
Cor anglais
Charis Yin Yan Lai
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White
Alvaro Hurtado
Clarinét Bas
Lenny Sayers †+
Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Jo Shewan
Hugh Sergeant
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Jesse Durkan
James Mildred
John Davy
Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel
Rob Johnston
Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Callum Davis
TimpaniSteve Barnard *
Offrynnau Taro
Andrea Porter
Sam Jowett
Sarah Mason
James Bower
Anna Newman
Y Delyn
Alex Rider
Piano
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran† Prif Offerynnwr‡ Prif Offerynnwr Gwadd# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyolRoedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale Rheolwr y Gerddorfa Liz WilliamsRheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **Rheolwr Staff y GerddorfaKevin MyersCydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor HallCydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George LeeRheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **Cynhyrchydd Mike SimsCynorthwyydd DarlleduEmily PrestonPennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)Cynhyrchydd Digidol Angus RaceCydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet BaughPrentis Marchnata Mya ClaydenCynhyrchydd AddysgBeatrice CareyCynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa BlofeldRheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead + Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications




