Sofi Jeannin yn arwain Stravinsky,
Ravel a Boulanger
Nos Sadwrn 26/11/22, 7.30pm

Maurice Ravel
L’aurore * (9’)
Igor Stravinsky
Symphonies of Wind Instruments (fersiwn 1947) (12’)
Lili Boulanger
Vieille prière bouddhique ** (9’)
EGWYL (20’)
Maurice Ravel
Le tombeau de Couperin (17’)
Igor Stravinsky
Symphony of Psalms (21’)
Sofi JeanninArweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Roland George Tenor *
Deryck WebbTenor **

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Afternoon Concert a’i ffilmio i’w ryddhau yn y dyfodol yng Nghyfres Cyngherddau Digidol BBC NOW. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Cyflwyniad

Croeso i gyngerdd heno lle byddwn yn croesawu ein corws gwych yn ôl i berfformio ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig wych y BBC dan gyfarwyddyd Sofi Jeannin.
Mae’r holl gerddoriaeth ar y rhaglen heno yn dyddio o ran gyntaf yr 20fed ganrif. Dechreuwn gyda darn sy’n brin iawn – L’aurore gan Ravel, a gyfansoddwyd wrth iddo geisio (a methu) ennill y Prix de Rome. Yn fwy cyfarwydd o lawer mae Le tombeau de Couperin gan Ravel, cyfres i’r piano yn wreiddiol, a gyfansoddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gofio am ffrindiau meirw. Ar yr un pryd yn union ag yr oedd Ravel yn gweithio ar Tombeau, roedd y ddawnus Lili Boulanger a fu farw’n ifanc yn ysgrifennu ei Vieille prière boudddhique, gosodiad o weddi hynafol y mae’r Ffrancwyr yn ei hadnabod yn syth am ei harmonïau dyrchafol.
Dywedodd Stravinsky: ‘mae cyfansoddwyr da yn benthyca, mae cyfansoddwyr gwych yn dwyn’. Roedd ef, yn ddiedifar, yn perthyn i’r categori olaf, fel y mae’r ddau ddarn yma’n ei ddangos, gan ddod â cherddoriaeth hynafol a modern at ei gilydd i gael effaith gwbl unigryw.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Maurice Ravel (1875–1937)
L’aurore (1905)

Roland Georgetenor
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae L’aurore (‘Y Wawr’) Ravel yn waith anghyffredin yn wir. Fe’i cyfansoddwyd yn 1905 yn ystod cyfnod anodd i deulu Ravel, oherwydd yn y flwyddyn honno cafodd reid yn dwyn yr enw ‘Whirlwind of Death’ a ddyfeisiwyd gan dad y cyfansoddwr ei lansio yn y Casino de Paris ond cafodd ei chau’n fuan yn dilyn damwain angheuol.
Cyfansoddwyd y darn byr hwn ar gyfer unawdydd tenor, côr cymysg a cherddorfa ar gyfer rownd ragarweiniol Prix de Rome, y gystadleuaeth uchaf ei bri yn y Conservatoire ym Mharis. Mae Ravel yn dyrchafu cerdd ddi-nod gan awdur dienw drwy gyffyrddiadau offerynnol llawn dychymyg a gweadau serennog; gan ddatblygu hyd at uchafbwynt dramatig cyn dod i ben yn sydyn.
Er iddo ymdrin yn hyderus â’r grymoedd mawr, ni chafodd Ravel ei ddewis ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth. Yn wir, yn wahanol i Ravel, roedd y chwe chystadleuydd llwyddiannus yn fyfyrwyr i Charles Lenepveu, a oedd yn digwydd bod ar y panel beirniadu. Byddai Ravel hefyd wedi bod yn ymwybodol ei fod weithiau’n torri rheolau ysgrifennu rhan-leisiol harmonig traddodiadol, ac fe’i beirniadwyd hyd yn oed am ddefnyddio trombonau mewn darn tawel: Roedd Lenepveu o’r farn mai dim ond pan fydd lefel y sain yn uchel y dylid defnyddio’r offerynnau pres trwm. Serch hynny, gellir bellach ystyried L’aurore yn nodweddiadol o gerddoriaeth Ffrengig ar droad yr 20fed ganrif ac yn ychwanegiad diddorol iawn at restr waith Ravel.
Nodyn y rhaglen © Caroline Potter
Gwrando Pellach: Mathys Lagier; Choeur a Orchestre National des Pays de la Loire/Pascal Rophé (BIS BIS2582)
Darllen Pellach: Ravel Roger Nichols (Yale UP)
Igor Stravinsky (1882–1971)
Symphonies of Wind Instruments (1920, adol. 1947)

Weithiau byddai Stravinsky yn defnyddio’r gair ‘symffoni’ yn ystyr yr Hen Roeg, gan olygu dim mwy na ‘chytundeb sain’, yn hytrach na ffurf draddodiadol sy’n datblygu. Y Symphonies of Wind Instruments yw’r enghraifft fwyaf eithafol o hyn. Mae fel rhyw draethawd cyfansoddi ar sut i osod chwythbrennau ac offerynnau pres y gerddorfa yn haenau mewn ffyrdd trawiadol a lliwgar. Mae wedi’i lunio o flociau o sain sy’n cyferbynnu’n fawr, sydd yn aml yn eithaf statig a moel eu heffaith.
Ysgrifennodd Stravinsky Symphonies ychydig flynyddoedd ar ôl Defod y Gwanwyn, ac ar yr un pryd â’i ymdrechion cychwynnol i gwblhau Les noces, darn y cafodd anhawster i benderfynu ar offeryniaeth ar ei gyfer (yn y diwedd penderfynodd beidio â defnyddio unrhyw offerynnau chwyth, ac yn wir dim offerynnau cynnal o gwbl – y gwrthwyneb llwyr i’r Symphonies).
Yn yr un modd â’r ddau fale mawr hynny, mae Symphonies yn llawn alawon gwerin (neu ffug alawon gwerin sy’n swnio’n ddilys a ysgrifennodd Stravinsky ei hun). Mae’r rhain yn dynwared patrymau pwyslais chwareus Rwseg lafar, ac yn creu rhythmau a newidiadau yn y mydr nad oes modd eu rhagweld. Er bod y dechneg hon yn cyfleu anhrefn a chreulondeb yn Nefod y Gwanwyn ac awyrgylch gwyllt o ddathlu yn Les noces, yma mae’r alawon yn felancolaidd ac iasol, gan ddolennu rhwng y gweadau dwysach.
Daw Symphonies i ben drwy ail-greu darn piano diweddar Stravinsky er cof am Debussy, a fu farw yn 1918, gan roi i’r darn hwnnw, sydd fel arall yn haniaethol, ddyfnder galargan ac, yn bwysicach efallai i Stravinsky, ymdeimlad o seremoni neu, yn well fyth, o ddefod.
Nodyn y rhaglen © Tom Owen
Gwrando Pellach: Berliner Philharmoniker/Syr Simon Rattle (Warner Classics 7236112)
Darllen Pellach: Stravinsky: A Creative Spring: Russia and France 1882–1934 Stephen Walsh (Pimlico)
Lili Boulanger (1893–1918)
Vieille prière bouddhique (1914–17)

Deryck Webbtenor
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae Vieille prière bouddhique, a ddechreuwyd yn Rhufain yn 1914 a’i gwblhau yn Arcachon yn 1917, yn gosod cyfieithiad Ffrengig o hen destun Bwdhaidd. Cyflwynodd ffrind Lili Boulanger, Suzanne Karpelès, a oedd yn astudio Astudiaethau Dwyreiniol yn y Sorbonne, y cyfansoddwr i’r testun a hi oedd hefyd yn gyfrifol am y cyfieithiad o Pali, yr iaith Fwdhaidd gysegredig. Mae’r is-deitl ‘Prière quotidienne pour tout l’univers’ (Gweddi ddyddiol dros y bydysawd cyfan) yn gyflwyniad addas i naws y gwaith. Caiff y thema o frawdoliaeth rhwng pawb ar draws y byd ei chyfleu drwy ysgrifennu corawl sy’n syml, yn uniongyrchol ac yn aml mewn wythfedau, gyda phawb yn canu’r un llinell. Mae cyffyrddiadau moddol, er enghraifft yn y brif alaw, yn symud yr iaith gerddorol oddi wrth rywbeth clasurol Gorllewinol i rywbeth sy’n llai penodol o ran amser a lle.
Yr elfen ‘ecsotig’ amlycaf o Vieille prière bouddhique yw unawd hir y ffliwt, sy’n ymestyniad o ddeunydd corawl a glywyd yn flaenorol ac yn adleisio diwylliant estron dychmygol yn ei harddull swyn-ganiadol a’i hyblygrwydd rhythmig. Cafodd y gwaith ei berfformio am y tro cyntaf ar 9 Mehefin 1921 dan y teitl camarweiniol ‘Prière hindoue’ yn Salle Pleyel ym Mharis, dan arweiniad Henri Busser; roedd y perfformwyr ar yr achlysur hwn yn cynnwys Nadia Boulanger ar y piano.
Roedd Lili Boulanger wrth ei bodd â gemau geiriau, seiffrau a mwyseiriau cerddorol, ac ar ddechrau ei dyddiadur yn 1912 nododd ddarnau o iaith breifat, y mae rhai ohonynt wedi’u seilio ar nodau cerddorol. Mae un seiffr yn cynrychioli’r enw ‘Lili’: do–sol–do–sol (C–G–C–G), set o bedwar nodyn sy’n amlwg yn Vieille prière bouddhique. Mae hyn yn awgrymu bod y darn corawl hwn nid yn unig yn weddi gyffredinol, ond hefyd yn waith personol iawn.
Nodyn y rhaglen © Caroline Potter
Gwrando Pellach: Martial Defontaine; Namur Symphonic Choir; Luxembourg Philharmonic Orchestra/Mark Stringer (Timpani 1C1148)
Darllen Pellach: Nadia and Lili Boulanger Caroline Potter (Routledge)
EGWYL: 20 munud
Maurice Ravel
Le tombeau de Couperin (1914–17, cerdd. 1919)

1 Prélude
2 Forlane
3 Menuet
4 Rigaudon
Cyfres ar gyfer y piano oedd Le tombeau de Couperin yn wreiddiol. Dechreuodd Ravel weithio arni yn 1914, ond daeth y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei draws ac ni chafodd y darn ei gwblhau tan 1917. Cafodd chwe symudiad – Prélude, Fugue, Forlane, Rigaudon, Menuet a Toccata – eu modelu ar ddawnsfeydd Baroc Ffrengig a’u cyflwyno gyda’i gilydd er cof am ei ffrindiau a laddwyd yn y rhyfel. Yn 1919, sgoriodd y cyfansoddwr bedwar o’r symudiadau hyn ar gyfer cerddorfa fach.
Beth yw’r ffordd orau i weithiau cerddorol goffáu anwyliaid? Nid cyfres o farwnadau yw Tombeau Ravel. Nid yw ychwaith wedi’i fwriadu fel cyfres o bortreadau personol. Yn hytrach, mae ymdeimlad anweledig o hiraeth, o fydoedd coll a phethau arallfydol. Mae teyrngedau soffistigedig Ravel yn anrhydeddu’r cof am bobl heb eu hamgáu mewn ambr, ac mae’r canlyniad yn aml yn hynod deimladwy ac ysgogol.
Yn y Prélude, mae llif cyson y nodau’n debyg i symudiad diddiwedd. Roedd y Forlane yn ddawns werin fywiog a chyflym a oedd yn gysylltiedig â Fenis, ond yr hyn sy’n wahanol yn fersiwn Ravel yw’r tempo cymedrol, y rhythmau melodaidd a’r mynegiant lle ceir rhywfaint o lithrennu. Mae’r Menuet yn cyfleu anwyldeb ac urddas. Er gwaethaf yr adran ganol fugeiliol ei harddull, nodweddir y Rigaudon gan soniaredd disglair a chyfyngau breision, sy’n dod â’r gwaith i ben yn afieithus.
Nodyn y rhaglen © Lucía Camacho Acevedo
Gwrando Pellach: Les Siècles/François-Xavier Roth (Harmonia Mundi HMM905281)
Igor Stravinsky
Symphony of Psalms (1930)

1 Exaudi orationem meam, Domine –
2 Expectans expectavi Dominum –
3 Alleluia. Laudate Dominum
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Cafodd y Symphony of Psalms ei hysgrifennu yn ystod blynyddoedd mwyaf cynhyrchiol yr hyn sy’n cael ei alw’n aml yn gyfnod Neoglasurol Stravinsky – er bod y term yn un llac yma, gan fod y cyfansoddwr wedi benthyca o amrywiaeth mor eang o hen arddulliau a ffurfiau, ac wedi canfod cynifer o ffyrdd dyfeisgar o’u gweddnewid. Yn wir, mae’r gyfres o weithiau o Oedipus rex (1927) hyd at Perséphone (1933) – sy’n cynnwys Apollo a’r Concerto i’r Ffidil – yn cynnwys amrywiaeth anhygoel o ddulliau cyfansoddi. Daw’r Symphony of Psalms yng nghanol y dilyniant hwn ac efallai mai hon yw’r mwyaf enigmatig o ran arddull.
Roedd y newidiadau parhaus yn idiom Stravinsky weithiau’n achosi dryswch yn ystod y cyfnod hwn, gyda’r beirniaid yn ei gyhuddo o ddibynnu gormod ar guddio a mygydau cerddorol. Ond ni ellir amau diffuantrwydd y gwaith hwn: ymgais i ddatgan bod ei ffydd yn rhywbeth personol ac ysbrydoledig. Er bod ei ddarnau cynharach ar gyfer y Ballets Russes yn agosach at basiant, gyda throadau Rwsiaidd yn cael eu gorliwio ar gyfer cynulleidfa Paris, mae’r Symphony of Psalms yn dyddio o gyfnod pan oedd wedi bod yn alltud cosmopolitan ers dros 15 mlynedd yn Ffrainc, ac mae’n fynegiant mwy dwys a difrifol o’i etifeddiaeth Uniongred Rwsiaidd. Efallai nad dyma’r darn Nadoligaidd yr oedd Serge Koussevitzky yn gobeithio amdano wrth ei gomisiynu (i ddathlu pen-blwydd Cerddorfa Symffoni Boston yn 50 oed), ond mae mawredd gorfoleddus yn ffrwtian o dan yr wyneb.
Nid oes clarinetau, feiolinau na fiolau yn rhan o’r offeryniaeth, ac ar brydiau crëir sain iasol, wag. Mewn mannau eraill, mae Stravinsky yn gwneud defnydd tarawol o ddau biano cerddorfaol, gan fywiogi’r darnau lle mae’r llinellau lleisiol yn swnio fel siant defodol.
Er bod gosod salmau yn aml yn ymarfer mewn paru geiriau mewn modd uniongyrchol ac amlwg, mae Stravinsky’n osgoi ystrydebau o’r fath, gan ymatal yn y trydydd symudiad rhag portreadu’r offerynnau a grybwyllir yn Salm 150. Yma, daw’n amlwg fod canmol ac addoli, i’r cyfansoddwr hwn, mewn gwirionedd yn gyflyrau tawel a myfyriol. Ar ddechrau’r ail symudiad, mae Salm 40 yn datgan bod yr Arglwydd wedi rhoi ‘yn fy ngenau gân newydd’, ond mae hyn yn cael ei ganu tra mae dyfais hynod hynafol, ffiwg ddwbl syfrdanol, yn datblygu. Y symudiad cyntaf yw’r un sy’n ein hatgoffa fwyaf o ‘gyfnod Rwsiaidd’ Stravinsky, gyda’i drawsacennu a’i ailadrodd obsesiynol o ddim ond un neu ddau o nodau.
Fel y Symphonies of Wind Instruments, mae’n waith aruthrol yn hytrach na symffoni yn yr ystyr draddodiadol – dyfais fframio enfawr ar gyfer y synau a wneir wrth ganu’r salmau.
Nodyn y rhaglen © Tom Owen
Gwrando Pellach: Rundfunkchor Berlin; Berliner Philharmoniker/Pierre Boulez (DG E4576162)
Bywgraffiadau
Sofi Jeannin arweinydd

Mae Sofi Jeannin, a anwyd yn Sweden, yn enwog am ei thechneg glir a chryno a’i gwybodaeth wych am repertoire. Mae wedi sefydlu ei hun fel un o’r arbenigwyr corawl uchaf ei pharch sy’n gweithio heddiw.
Ar hyn o bryd, hi yw Prif Arweinydd Cantorion y BBC (ers 2018) ac mae’n Gyfarwyddwr Cerdd La Maîtrise de Radio France (ers 2008), ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Cerdd y Choeur de Radio France yn flaenorol. Drwy ei chysylltiad â Chorws Radio Ffrainc, mae wedi gweithio gyda ffigyrau blaenllaw fel Gustavo Dudamel, Bernard Haitink a Christoph Eschenbach.
Yn ystod ei chyfnod gyda La Maîtrise de Radio France, mae wedi comisiynu llawer o weithiau newydd, gan gydweithio â chyfansoddwyr fel Kaija Saariaho, Peter Eötvös, John Adams a Thierry Escaich, ac mae wedi rhoi darllediadau rheolaidd ar France Musique. Mae hi hefyd wedi arwain yn rheolaidd yng Ngŵyl St Denis.
Mae’r uchafbwyntiau diweddar a’r rhai sydd ar y gweill gyda Chantorion y BBC yn cynnwys ymddangosiadau ym Mhroms y BBC; cydweithrediad â’r Academi Cerddoriaeth Hynafol a’r cwmni dawns o Dde Asia, Akademi, sy’n cyflwyno dawnsfeydd Rameau ynghyd â dawns glasurol a chyfoes Indiaidd; Figure humaine Poulenc gyda rhyngosodiadau jazz a Requiem Fauré, ochr yn ochr â cherddoriaeth gan Bach, Isabella Leonarda a Reena Esmail yn Neuadd Gyngerdd Milton Court yn Llundain; a Concerto-Fantaisie Betsy Jolas (gyda’r pianydd Nicolas Hodges) a Concerto i’r Côr Schnittke.
Mae galw amdani hefyd fel arweinydd gwadd, ac ymysg yr uchafbwyntiau diweddar ac i’r dyfodol mae ymddangosiadau gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Hallé, New Japan a’r Royal Liverpool, cerddorfeydd Symffoni Norrköping a Singapôr a Philharmonia Auckland.
Astudiodd Sofi Jeannin arwain a chanu yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Stockholm, Conservatoire Nice ac yna yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Llundain gyda Paul Spicer.
Mae ei gwaith addysg ac allgymorth wedi mynd â hi i Kinshasa, Congo, ac mae hi wedi bod yn ymwneud ag El Sistema gwlad Groeg ers 2017. Ar ben hynny, mae hi’n rhoi gweithdai a dosbarthiadau meistr ledled y byd yn rheolaidd.
Deryck Webb tenor

Lun: Name
Lun: Name
Ganwyd Deryck Webb yng Ngorllewin Cymru. Roedd ei brofiadau cynharaf fel canwr ifanc wrth dyfu i fyny gyda Cherddorion John S. Davies a Chôr Dyfed (lle gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y radio gyda’r BBC fel Y Negesydd mewn perfformiad o Samson gan Handel dan arweiniad Roger Norrington). Astudiodd yn y Royal Birmingham Conservatoire fel y’i gelwir erbyn hyn, lle’r oedd yn aelod o’r Ysgol Opera, a arweiniodd at ddod yn aelod o Opera Cenedlaethol Lloegr. Yno, perfformiodd fel unawdydd operatig am y tro cyntaf fel y Ceiliog yng nghynhyrchiad David Pountney o’r Llwynoges Fach Gyfrwys gan Janàček, dan arweiniad Charles Mackerras.
Gadawodd y cwmni yn 1992 i barhau â’i yrfa yn Ewrop, gan weithio gyda William Christie a Les Arts Florissants a dilyn gyrfa amrywiol fel canwr, athro ac arweinydd. Dychwelodd i’r DU yn 2013 ac mae bellach yn glerc lleyg yng Nghadeirlan Caerloyw dan gyfarwyddyd Adrian Partington.
Roland George tenor

Lun: Name
Lun: Name
Magwyd Roland George yn y Rhondda a dechreuodd ganu’n ifanc gyda’i chwaer, y gantores werin, Siwsann George. Astudiodd ganu gyda Paul Deegan yn Academi Gerdd Frenhinol Iwerddon ac roedd yn aelod o Gôr Siambr RTÉ.
Ar y llwyfan mae wedi canu prif rolau mewn gweithiau fel Pirates of Penzance, Iolanthe, The Mikado a The Gondolders gan Gilbert a Sullivan; Maritana gan Wallace; Follies gan Sondheim; a Fiddler on the Roof gan Bock. Mae ei berfformiadau cyngerdd yn cynnwys y Meseia, Theresienmesse gan Haydn a Dioddefaint Sant Ioan a Magnificat gan Bach. Mae hefyd wedi darlledu ar y radio a’r teledu.
Mae’n canu’n rheolaidd gyda nifer o grwpiau corawl, gan gynnwys Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Cantorion John S. Davies a CÔR, ac yn ddiweddar ymddangosodd gyda’r olaf o’r rhain mewn perfformiad o Tosca yng Ngŵyl Abu Dhabi gyda Syr Bryn Terfel.
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yw un o brif gorau cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.
Wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae’r corws, a ffurfiwyd yn 1983, yn gweithio’n rheolaidd ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ar ei ben ei hun. Mae’n cynnwys dros 150 o gantorion: cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys taith chwe-diwrnod i Rennes ar gyfer pedwar perfformiad o Requiem Mozart gyda’r Orchestre Symphonie de Bretagne, perfformiad o Ddioddefaint Sant Mathew gan Bach gyda Harry Bicket a pherfformiadau blynyddol ym Mhroms y BBC; gydag ymddangosiadau diweddar yn cynnwys A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze, Requiem Mozart o’r cof gyda Nathalie Stutzmann ac Wythfed Symffoni Mahler dan y cyn Brif Arweinydd Thomas Søndergård.
Yn ystod y tymor hwn, bydd y corws yn perfformio Requiem Fauré a’r O sacrum convivium gan Messiaen o dan Ludovic Morlot, Offeren ‘Nelson’ Haydn o dan arweiniad Christian Curnyn ac Elegiac Ode a Te Deum gan Standord gydag Adrian Partington wrth y llyw.
Mae’r corws wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth gyfoes ac yn 2016 rhoddodd yr ail berfformiad i’w gynnal erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y première. Mae wedi perfformio gweithiau am y tro cyntaf erioed gan amrywiaeth eang o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, yn seiliedig ar eiriau Araith Malala Yousafza i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.
Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor ar gyfer Wonders of the Celtic Deep BBC Cymru.
Soprano 1
Elizabeth Aitken
Jessica Baber
Emma Davidson
Madeline Eaton
Bethan M. Evans
Sally Glanfield
Sarah Jane Griffiths
Claire Hardy
Imogen Hollins
Vanessa John-Hall
Rebecca Jolliffe
Lucie Jones
Kizzy Lumley- Edwards
Joanna Osborn
Maisie O’Shea
Elizabeth Philips
Angharad Phillips
Katherine Reid
Olivia Stacey
Ellen Steward
Morgan Summers
Helen Thomas
Hannah Willman
Soprano 2
Natalie Abad Merritt
Kate Bidwell
Denise Cook
Rhiannon Humphreys
Mags Lake
Elizabeth Linney
Rosanna Lowe
Devon Macadam- Sutton
Niamh Pragnell Toal
Marie Quemerais
Louisa Ridge
Chloe Riordan
Melanie Taylor
Hannah Williams
Katherine Woolley
Alto 1
Ceri-Ann Absalom
Atiyeh Dast Afkan
Alison Davies
Nicole Dickie
Giselle Dugdale
Glesni Edwards
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Naomi Hitchings
Emilia Hubbard
Rhian-Carys Jones
Livia Malkin
Elizabeth Metcalf
Shanta Miller
Cristina Negoescu
Sara Peacock
Kate Reynolds
Amy Roberts
Esyllt Thomas
Emma Thorpe
Vicki Westwell
Alto 2
Heledd Evans
Annette Hecht
Yvonne Higginbottom
Rhi Humphreys
Mattina Keith
Sian Schutz
Julie Wilcox
Sarah Willmott
Tenor 1
Keith Davies
Philip Holtam
Orlando Vas
Deryck Webb
Nicholas Willmott
Tenor 2
Aidan Atkinson
Michael Ennis
Roland George
Richard Shearman
Richard Wilcox
Michael Willmott
Bas 1
Peter Cooke
David Davies
John Davies
Billy Donaghy
Rafael Grigoletto
David Hopkins
Geraint Jones
Nathan Luck
Lucas Maunder
Ramzy Mechergui
Ben Pinnow
Jez Piper
David Stephens
Allan Waters
Daniel Williams
Bas 2
Stuart Hogg
Harry Matthews
Joseff Morris
Gareth Nixon
Mike Osborn
Roedd y rhestr o gantorion yn gywir wrth fynd i’r wasg.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Nick Whiting blaenwr
Martin Gwilym- Jones is-arweinydd
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Carmel Barber
Anna Cleworth
Kerry Gordon- Smith
Gary George-Veale
Zanete Uskane
Amy Fletcher
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Emre Engin
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Sellena Leony
Barbara Zdziarska
Jane Sinclair
Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Sara Sheppard
Cameron Campbell
Mirka Hoppari
Soddgrythau
Benjamin Hughes ‡
Keith Hewitt #
Raphael Lang
Sandy Bartai
Alistair Howes
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Kathryn Graham
Basau Dwbl
Lynda Houghton ‡
Christopher Wescott
Claire Whitson
Richard Gibbons
David F. C. Johnson
Imogen Fernando
FFLIWTIAU
Matthew Featherstone *
Liz May
Jack Welch
Leila Marshall
Fiona Slominska
Piccolo
Fiona Slominska
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean
Alec Harmon
Felicity Cowell
Sarah-Jayne Porsmoguer
Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinetau
Peter Sparks ‡
Emily Wilson
Lenny Sayers
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
David Hubbard ‡
Alanna Pennar-McFarlane
Chris Vale
David Buckland
Isfaswn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
Dave Ransom
Neil Shewan †
William Haskins
Tom Taffinder
Utgyrn
Ben Jarvis ‡
Robert Samuel
Gabriel Diaz
Giovanni Re
Maya Ross
Trombonau
Donal Bannister *
David Roode
Bethany Peck
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Rhys Matthews
Offerynnau Taro
Mark Walker †
Andrea Porter
Telynau
Valerie Aldrich-Smith †
Marged Hall
Pianos
Catherine Roe Williams
Chris Williams
Selesta
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

