Bach, Liebermann A Schmidt Gyda Jonathan Berman
Nos Wener 21/10/22, 7.30pm

Johann Sebastian Bach, Trefn. Igor Markevitch
The Musical Offering – Ricercar a 3 (6’)
Lowell Liebermann
Concerto i’r Ffliwt (25’)
EGWYL (20’)
Franz Schmidt
Symffoni Rhif 2 (45’)
Jonathan BermanArweinydd
Matthew FeatherstoneFfliwt

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar Radio 3 in Concert. Bydd ar gael i’w ffrydio neu i’w lawrlwytho am 30 diwrnod ar BBC Sounds, sy’n cynnwys podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth hefyd. Ewch i bbc.co.uk/now i gael mwy o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Cyflwyniad
Croeso i’r cyngerdd heno, yma yn Neuadd Hoddinott y BBC, lle mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei harwain gan Jonathan Berman mewn rhaglen sy’n pontio’r canrifoedd.
Rydym yn dechrau yn y ddeunawfed ganrif, gyda darn o gampwaith ffiwgal gan Bach, The Musical Offering, ond sydd wedi’i ailddychmygu drwy glustiau’r cyfansoddwr mawr, Igor Markevitch.
O’r fan honno, rydym yn symud i’r ugeinfed ganrif, a’r Concerto ar gyfer y Ffliwt gan Lowell Liebermann. Cafodd ei ysgrifennu ar gyfer Syr James Galway, ond heno Matthew Featherstone sy’n camu o’r gerddorfa ac i flaen y llwyfan ar gyfer yr unawd.
Mae Franz Schmidt yn gyfansoddwr sy’n arbennig o agos at galon Jonathan Berman. Ysgrifennodd ei Ail Symffoni yn ystod blynyddoedd cynnar y ganrif, cyfnod pan roedd gwaith Mahler yn benodol yn taflu cysgod symffonig hir.
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Johann Sebastian Bach (1685–1750), trefn. Igor Markevitch (1912–83)
The Musical Offering, BWV1079 (cyhoeddwyd 1747) – Ricercar a 3

Pan gyflwynodd Frederick Fawr o Brwsia thema ar gyfer Bach a’i herio i ysgrifennu ffiwg arno, ymateb Bach oedd creu llyfr cyfan o gerddoriaeth, sef y Musical Offering. Roedd hwn yn ymgorffori dwy ffiwg (y defnyddiodd yr hen enw ‘ricercar’ ar eu cyfer), 10 canon a sonata. Y dyddiau yma, ystyrir bod gan Bach chwaraewr unigol mewn golwg, ond gall y gerddoriaeth gymryd offeryniaeth, fel y dangosodd Anton Webern a’r Modern Jazz Quartet yn eu detholiadau amrywiol. Ysgwyddodd Igor Markevitch y casgliad cyfan oherwydd ei fod o’r farn bod y fersiynau blaenorol yn anfoddhaol, yn bennaf oherwydd bod y canonau byr yn ymddangos yn bytiog. Felly, fe’u gwnaeth yn gyfres o amrywiadau. Mae’r ricercar tri darn, a all gynrychioli beth mae Bach wedi’i ddatganu ar gyfer Frederick yn y fan a’r lle, wedi cael ei osod gan Markevitch ar gyfer y llinynnau, gydag unawdwyr ar y ffidil, fiola a soddgrwth er mwyn cyflwyno’r thema a dewis adrannau eraill.
Nodyn y rhaglen © Paul Griffiths
Gwrando pellach: Cerddorfa Ffilharmonig Arnhem/Christopher Lyndon-Gee (Naxos 8572158)
Darllen pellach: Music in the Castle of Heaven: A Portrait of Johann Sebastian Bach Syr John Eliot Gardiner (Penguin)
Lowell Liebermann (ganed 1961)
Concerto i’r Ffliwt, Op. 39 (1992)

1 Moderato
2 Molto adagio
3 Presto
Matthew Featherstoneffliwt
Os oedd unrhyw ddau artist o wahanol genedlaethau i fod i ddarganfod ei gilydd a chael cydweithrediad ffrwythlon, y ffliwtydd o Iwerddon, Syr James Galway a’r cyfansoddwr o America, Lowell Liebermann oedd y rheini. Cafodd Syr James ei eni ym Melffast yn 1939, ac mae wedi dod dros ei yrfa hir a disglair yn Bibydd Brith gwirioneddol o ran harddwch, awdurdod, a chrefft drwy’r repertoire y mae wedi dod yn bencampwr arno.
Cafodd Liebermann ei eni yn 1961 yn Ninas Efrog Newydd ac mae wedi creu corff o waith sy’n glynu at yr un egwyddorion – a thra’n byw drwy gyhuddiadau o geidwadaeth o ran arddull, mae wedi denu cynulleidfa eang ac amrywiol o eiriolwyr ac edmygwyr, gan gynnwys Syr James a’r pianydd Syr Stephen Hough.
Yn gerddor naturiol o’i blentyndod, enillodd Lierbermann wobrau am chwarae ym mherfformiad cyntaf ei Sonata Piano Cyntaf (1977) yn Neuadd Carnegie pan oedd yn 16 oed. Hogodd ei ddoniau fel pianydd a dyfnhaodd ei werthfawrogiad o gywirdeb strwythurol mewn cyfansoddiad, fel myfyriwr i’r pianydd hybarch Jacob Lateiner yn y Juilliard School yn hwyr yn y 1980au. Tra’r oedd yn y Juilliard, astudiodd Liebermann gyfansoddi gyda dau o gewri cerddoriaeth Americanaidd yr ugeinfed ganrif, David Diamond a Vincent Persichetti, ac mae’r ddau ohonyn nhw wedi creu gweithiau sy’n cynysgaeddu crefft gaboledig a melodïaeth anrhaethol. Yn lle rhagori ar y llinach a’r canon yr oedd wedi’u hamsugno, gwnaeth Liebermann fanteisio arnyn nhw.
‘I mi, parhad yw cerddoriaeth glasurol ac mae’n cael ei chyfoethogi drwy gysylltiadau o’r gorffennol,’ dywedodd wrth y cyflwynydd radio a’r cyfwelydd, Bruce Duffie mewn cyfweliad yn 1998. ‘Nid na ddylai darn o gerddoriaeth ddynwared rhywbeth yn slafaidd, ond i mi mae’r dylanwadau hynny’n ymgyfoethogi, a dyma sy’n eich galluogi chi i osod eich hun fel cyfansoddwr mewn cyd-destun diwylliannol.’
Daeth Liebermann a Galway i adnabod ei gilydd ar ôl i’r ffliwtydd glywed Sonata hudolus y cyfansoddwr ifanc ar gyfer y ffliwt a’r piano (1987), a’i gomisiynu i ysgrifennu concerto. Perfformiwyd hwn am y tro cyntaf ar 6ed Tachwedd 1992, gyda Galway fel unawdydd a Leonard Slatkin yn arwain Cerddorfa Symffoni St Louis. (Ers hynny, mae Liebermann wedi cwblhau dau waith arall ar gyfer y ffliwtydd: concerto ar gyfer y ffliwt, y delyn a’r gerddorfa, a Thriawd Rhif 1 ar gyfer y ffliwt, y soddgrwth a’r piano).
Fel y dywedodd un adolygwr, mae agoriad llechwraidd y Concerto ar gyfer y Ffliwt sy’n debyg i ymdeithgan yn atgoffa rhywun o Prokofiev, hynafiad eglur yn y gelf o’r concerto perswadiol, disglair. Fodd bynnag, mae melodïau cyfareddol y gwaith, sy’n effeithio ar hwyliau, a’i apêl ddiymdroi i gyd yn cynnwys nodweddion personol Liebermann.
Nodyn y rhaglen © Steve Smith
Gwrando pellach: Syr James Galway; London Mozart Players/Lowell Liebermann (RCA 09026632352)
Gwefan: https://www.lowellliebermann.com
EGWYL: 20 munud
Franz Schmidt (1874–1939)
Symffoni Rhif 2 yn E feddalnod fwyaf (1911–13)

1 Lebhaft
2 Allegretto con variazioni
3 Finale: Langsam
Cafodd Ail Symffoni Franz Schmidt ei pjerfformio’n gyntaf yn Fienna yn 1913, a chafodd ei chyfansoddi ar adeg pan oedd cynnydd cerddoriaeth Ewropeaidd wedi cyrraedd fforch yn y ffordd. Roedd Mahler newydd farw, ac roedd ei weithiau hwyr yn awgrymu diwedd y cylch Rhamantaidd cyfan. Roedd darnau annhonol cyntaf Schoenberg yn achosi dadlau yn Fienna, ac roedd Rite of Spring gan Stravinsky wedi cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn gynharach y flwyddyn honno. Fodd bynnag, roedd Richard Strauss – a ystyrir yn eang fel y cyfansoddwr Awstro-Almaenig gorau erioed hyd yn oed pan roedd Mahler yn fyw – wedi rhoi heibio’i lwybr arbrofol o Salome ac Elektra ac wedi cynhyrchu Der Rosenkavalier, a oedd yn ddigydwybod siwgwraidd. Roedd Schmidt ei hun yn dod i ddiwedd cyfnod 15 mlynedd fel soddgrythor gydag Opera Llys Fienna (pan fyddai’n chwarae’n aml o dan Mahler), ac felly roedd yn gweld yn union sut mae cynulleidfaoedd yn parhau i ymateb i’r hoelion wyth Rhamantaidd. Mae’n hawdd edrych yn ôl yn awr a labelu Schmidt fel ceidwadwr, ond yn 1913, byddai ei gerddoriaeth wedi teimlo’n hollol gyfredol.
Roedd swydd Schmidt yn golygu y byddai yntau hefyd wedi profi gweithiau cerddorfaol mawr gyda Cherddorfa Ffilharmonig Fienna, ond byddai’r rhan fwyaf o’i berfformiadau o dan faton Mahler wedi bod yn y tŷ opera, repertoire amrywiol yr oedd Mahler ei hun yn ei ddiweddaru yn gyson. Mae’n rhaid ei bod yn werthfawr iawn i ddatblygiad Schmidt i glywed o’r tu mewn y manylion bychain ynglŷn â sut oedd cyfansoddwyr o Offenbach i Verdi a Wagner yn adeiladu eu bydoedd o sain. Yn wir, efallai yr edmygir Schmidt fwyaf am ei offeryniaeth, ac mae’n aml yn cael ei gymharu â’i gyn-athro, Bruckner, am fawredd a dwysedd llwyr ei weadau – er gall ei ddarnau sydd wedi cael eu sgorio’n ysgafn syfrdanu a disgleirio.
Mae agoriad anorchfygol gynnes a disglair yr Ail Symffoni yn atgoffa rhywun o Mahler ar ei fwyaf nwyfus, efallai wrth gyfansoddi am natur; neu Wagner mewn cyflwr llawen, yn brysio drwy ddilyniannau o gyweiriau anhysylltiedig. Mae iddo ansawdd gloyw, metelaidd, wedi’i wefreiddio gan y clarinetau unsain. Y symudiad canol efallai yw’r cyflawniad technegol mwyaf arwyddocaol, gan wneud gwaith a allai fod yn draddodiadol yn ddau symudiad ar wahân – intermezzo teimladwy a scherzo – gan eu hymblethu i gyfres o amrywiadau parhaus. Mae’r amrywiadau arafach yn blodeuo yn dawel i liwiau cyfoethog, cyferbyniol; tra bod yr amrywiadau sy’n debycach i scherzo yn byrlymu i mewn ac yn ailfywiogi’r gerddoriaeth. Mae’r symffoni yn sonnol epig, ond yn gryno, gan hedfan heibio mewn oddeutu 45 munud. Mae hyd yn oed y côr hynod o grand a llawen sy’n dod ar ddiwedd y gwaith yn teimlo yn gyflym ac yn hollol gymesur. Hwn yw’r darn mwyaf Bruckneraidd, gyda’r llinynnau’n gyrru’r gerddoriaeth yn ei blaen.
Cafodd cerddoriaeth Schmidt wedyn ei mabwysiadu gan y Natsïaid, yn enwedig cyn cyfeddiant Awstria. Yn ôl pob tebyg, nid oedd gan y cyfansoddwr lawer o gymhelliant gwleidyddol, gan ei fod wedi ymgolli’n llwyr mewn helynt personol. Daeth yn athro cyfansoddi adnabyddus ac roedd yn deall y gerddoriaeth yr oedd y gyfundrefn yn ddiweddarach yn ei chondemnio fel un ddirywiedig. Fodd bynnag, roedd ei gyfraniad ei hun yn glanio ar ochr anghywir hanes oherwydd yr oedd yn briodol rwysgfawr ac yn llawn cenedlaetholdeb. Bu farw ychydig ar ôl hyn yn 1939. Felly, ni allwn wybod sut byddai wedi ymateb i erchyllterau gwaethaf y cyfnod. Mae wedi cymryd cyn amser, ond erbyn hyn mae cerddoriaeth Schmidt yn cael ei gwerthfawrogi y tu hwnt i Awstria am ei nodweddion unigryw.
Nodyn y rhaglen © Tom Owen
Gwrando pellach: Cerddorfa Symffonig Radio Frankfurt/Paavo Järvi (DG 4838336)
Darllen pellach: The Music of Franz Schmidt: 1: The Orchestral Music: Harold Truscott (Toccata Press)
Bywgraffiadau
Jonathan Berman arweinydd

Lun: George Garnier
Lun: George Garnier
Mae Jonathan Berman wedi ennill enw da iddo’i hun fel arweinydd, gyda chyflawniadau sy’n amrywio’n eang, ar y podiwm ac oddi arno.
Mae’n bencampwr ar gerddoriaeth Franz Schmidt ac Oliver Knussen, ond mae’n arwain repertoire eang iawn, ac mae’n cael ei glodfori yn arbennig gyda cherddoriaeth gyfoes. Mae wedi derbyn gwahoddiadau i ddychwelyd at Gerddorfeydd Ffilharmonig Cenedlaethol Lithuania, Llundain a Rotterdam, Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol RTÉ, Filarmonica ‘George Enescu’, Bucharest, Sinffonieta Riga, Sinffonia Southbank a Cherddorfa Siambr Dinas Hong Kong, yn ogystal ag i wyliau Aldeburgh a Tanglewood.
Mae perfformiadau cyntaf yn ddiweddar ac yn y dyfodol yn cynnwys Cerddorfa Cleveland, Cerddorfeydd Symffoni Bilkent, BBC, BBC yr Alban a Dinas Birmingham, Orchestre de Picardie, Orchestra di Padova e Veneto, Britten Sinfonia, Cerddorfeydd Ffilharmonig Hagen a Turku, London Mozart Players, Sinffonia Dinas Llundain a’r Nash Ensemble.
Ym mis Chwefror eleni, daeth i’r adwy ar fyr rybudd i arwain Cerddorfa Ffilharmonig Llundain yn y Royal Festival Hall mewn repertoire a oedd yn cynnwys perfformiad byd cyntaf concerto ar gyfer y piano gan Jimmy Lopez.
Fel eiriolwr cerddoriaeth newydd, mae’n gweithio yn rheolaidd gyda’r London Sinfonietta, Ensemble Modern, Birmingham Contemporary Music Group, New European Ensemble, Crash Ensemble Dublin a’r Britten Pears Ensemble.
Fel arweinydd opera, mae wedi arwain cynyrchiadau ar gyfer y Nationale Reisopera, English Touring Opera, Gŵyl Aldeburgh, Gŵyl Grachten, Gŵyl Anghiari, Gŵyl Ryngwladol Dartington, Jerwood Opera Course, Opera Studio Netherlands, Dutch National Opera Academy, Mahogany Opera a’r Centre for Opera Studies yn yr Eidal.
Matthew Featherstone ffliw

Matthew Featherstone yw Prif Ffliwtydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac mae wedi ymddangos hefyd fel Prif Ffliwtydd Gwadd gyda’r Britten Sinfonia, Cerddorfa Symffonig y BBC, cerddorfeydd ffilharmonig y BBC a Llundain, Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban, Cerddorfa Wlster, Cerddorfa Gyngherddol RTÉ a’r Academy of St Martin in the Fields.
Derbyniodd Wobr Chwythbrennau y Royal Over-Seas League yn 2012 ac mae wedi teithio i bob cwr o’r DU i roi datganiadau ar y ffliwt a’r piano. Mae wedi ymddangos mewn concertos gyda gwahanol gerddorfeydd, gan gynnwys y Concerto i’r Ffliwt gan Nielsen gyda BBC NOW a’r Concerto i’r ffliwt a’r delyn gan Mozart gyda Catrin Finch. Mae’n gerddor siambr brwd, sy’n mwynhau perfformio gyda’i ensemble i’r ffliwt, y delyn a’r fiola – Trio Anima, ac mae eu halbwm cyntaf Between Earth and Sea yn cael ei ryddhau y mis nesaf.
Mae hefyd yn gweithio fel bît-bocsiwr, canwr sesiynol ac ysgrifennydd caneuon, a rhyddhaodd ei EP gyntaf yn 2019.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Nick Whiting blaenwr
Martin Gwilym Jones is-arweinydd
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Anna Cleworth
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Gary George-Veale
Claudia Fuller
Eve Kennedy
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Emre Engin
Ros Butler
Jane Sinclair
Sheila Smith
Lydia Caines
Sellena Leony
Vickie Ringguth
Michael Topping
Joseph Williams
Beverley Wescott
Elizabeth Whittam
Laurence Kempton
Fiolâu
Paul Silverthorne ‡
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Dáire Roberts
Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Raphael Lang
Sandy Bartai
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Kathryn Graham
Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Claire Whitson
David F. C. Johnson
Ffliwtiau
John Hall
Charlotte Thomas
Oliver Roberts
Piccolo
Elizabeth May
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Sarah-Jayne nPorsmoguer
Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinetau
Nick Carpenter ‡
Jennie Joy Porton
Emily Wilson
Clarinét E Feddalnod
Rhys Taylor
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Sarah Sesu ‡
Alexandra Davidson
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
James Mildred
Neil Shewan †
Dave Ransom
John Davy
Ed Griffiths
Hugh Seenan
William Haskins
Marcus Bates
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris
Edward Burfield
Trombonau
Donal Bannister*
Adam Hanna
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Christina Slominska
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Girling
Christina Slominska
Telyn
Valerie
Aldrich-Smith †`
Catherine Roe Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Gweinyddwr y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

