

Boulez yn 100
Nos Wener 6/3/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Pierre Boulez
Livre pour cordes 11’
Alban Berg
Concerto i’r Ffidil 22’
EGWYL: 20 munud
Pierre Boulez
Mémoriale 7’
Olivier Messiaen
Les offrandes oubliées 11’
Richard Wagner
Tristan und Isolde – Prelude und Liebestod 17’
Daniel Cohen arweinydd
Ava Bahari ffidil
Matthew Featherstone ffliwt
Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf
Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar In Concert ac mae’n cael ei ffrydio’n fyw ar wefan BBC NOW. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd glywed podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Croeso i’n cyngerdd heno, sy’n nodi canfed pen-blwydd Pierre Boulez (sy’n disgyn ar 26 Mawrth). Roedd yn llais mor bwerus drwy ail hanner yr 20fed ganrif ac i mewn i’r 21ain nes dylanwadu, fel cyfansoddwr ac arweinydd, ar gerddoriaeth yn gyffredinol. I arwain heno, rydym yn falch iawn o groesawu Daniel Cohen, a fu’n agos iawn at Boulez fel cynorthwyydd iddo yng Ngŵyl Lucerne am flynyddoedd. Mae dau ddarn cyferbyniol gan Boulez yn agor y naill hanner o’r cyngerdd a’r llall: Livre pour cordes yn gyntaf ac wedyn Mémoriale, lle bydd Prif Ffliwtydd Cerddorfa Gymreig y BBC, Matthew Featherstone, yn hawlio ein sylw mewn darn sy’n defnyddio technegau estynedig i gwestiynu’r hyn y gall yr offeryn ei hun ei wneud.
Mae Ava Bahari yn seren sy’n codi ym myd y ffidil a heno, ar ei hymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Gymreig y BBC, bydd hi’n chwarae Concerto ffidil hynod bwerus Berg, gwaith sydd yr un mor emosiynol rymus â’r darn olaf heno, sef Prelude a Liebestod Wagner o’i ddrama gerddorol arloesol Tristan und Isolde. Fe wnaeth y gwaith hwn wthio ffiniau cerddoriaeth y 19eg ganrif lawn mor feiddgar â Boulez ar ei ôl. Gan athro Boulez, Messiaen, fe gawn ni Les offrandes oubliées, sy’n llawn synau disglair cwbl nodweddiadol o’r meistr Ffrengig hwn.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Pierre Boulez (1925–2016)
Livre pour cordes(1968, adol. 1989)

Un garw oedd Pierre Boulez am ddiwygio ac ail-feddwl ei gerddoriaeth ei hun. Er enghraifft, fe welodd ei waith cerddorfaol mawr Pli selon pli olau dydd ym 1957, ond ni chafodd ei gwblhau’n derfynol tan 1989. Efallai ei bod yn fwy buddiol meddwl am rai darnau gan Boulez fel gwaith sydd ar y gweill yn barhaol, a ninnau’n profi dim ond ciplun ohono ar foment benodol.
Gallech fynd ymhellach gyda’n darn agoriadol heno, a dadlau na chafodd erioed ei gwblhau’n gyfan gwbl. Teitl cyntaf Livre pour cordes (‘Llyfr i Linynnau’) Boulez oedd Livre pour quatuor (‘Llyfr i Bedwarawd’) ar gyfer pedwarawd llinynnol, a gyfansoddwyd yn 1949 pan oedd yn 24 oed. Er mai darn chwe symudiad oedd y bwriad, dim ond pedwar a ymddangosodd ar y pryd – ychwanegodd Boulez bumed ym 1959. Ond buan y sylweddolodd fod y pedwarawd yn ddieflig o anodd i’w chwarae, ac eglurodd yn ddiweddarach: ‘Roeddwn i’n teimlo mai’r ffordd orau o gyfleu popeth oedd yn y cyfansoddiad gwreiddiol fyddai ei drefnu i gerddorfa. Ond wedyn mewn gwaith cerddorfaol does dim modd cael yr un safbwynt, felly mi wnes i ailfeddwl y gerddoriaeth yn gyfan gwbl.’ Hyd yn oed wedyn, er ei fod wedi bwriadu trefnu’r cyfan o Livre pour quatuor i gerddorfa, dim ond symudiad agoriadol y gwaith cynharach a gadwodd yn ei fersiwn cerddorfaol ym 1968.
Hyd yn oed fel y mae, mae Livre pour cordes yn codi cwestiynau sylfaenol am eiriau olaf cerddorol, am y ffyrdd y gallai ensembles a sylwedd cerddorol adlewyrchu neu ddylanwadu ar weledigaethau newidiol cyfansoddwr. Ac mae’n gwneud hynny trwy gerddoriaeth sydd gyda deunydd mwyaf synhwyrus, llesmeiriol Boulez, mewn darn lle ceir ffigurau garw, onglog ochr yn ochr â gweadau disglair ysgafn, neu hyd yn oed enydau o dawelwch. Clywn y gerddorfa linynnol fawr yn cael ei dosrannu’n aml yn blethiadau trwchus o rannau unigol lluosog, a gall y diweddglo swnio’n agosach at sain pur nag at gerddoriaeth wedi’i hadeiladu’n gywrain.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
Alban Berg (1885–1935)
Concerto i’r Ffidil(1935)

Rhan 1
1 Andante –
2 Allegretto
Rhan 2
3 Allegro –
4 Adagio
Ava Bahari ffidil
Concerto i’r Ffidil 1935 oedd y darn olaf a gwblhawyd gan Alban Berg, ac yn wir mae’n gweithio fel rhyw fath o requiem – i’r cyfansoddwr ei hun, ac i ferch i ffrindiau agos.
Plentyn cyntaf-anedig Alma Mahler-Werfel (née Schindler) a’i hail ŵr, y pensaer a sylfaenydd Bauhaus, Walter Gropius, oedd Manon Gropius. Roedd Manon yn gobeithio llwyddo fel actores ond bu farw’n sydyn o polio ym mis Ebrill 1935 yn ddim ond 18 oed. Roedd Berg yn adnabod y teulu’n dda a chafodd ei lorio gan ei marwolaeth. Roedd wedi derbyn comisiwn gan y feiolinydd o’r Unol Daleithiau Louis Krasner i ysgrifennu Concerto i’r Ffidil ac roedd yn benderfynol y dylai’r darn newydd fod yn gofeb i Manon, gan nodi yn y cyflwyniad ‘er cof am angel’.
Syniad cychwynnol Krasner oedd bod eisiau gwaith o’r galon fyddai’n defnyddio’r dulliau cyfresol arloesol – lle mae cerddoriaeth darn yn tarddu o un trefniant cyfresol o 12 nodyn y raddfa gromatig (sef pob nodyn du a gwyn ar allweddell) – i gipio dychymyg y gynulleidfa go iawn. Mae’n debyg fod cysyniad Berg o goncerto llawn emosiwn a thrasiedi dwfn, a hynny’n cael ei gyfleu trwy amodau caeth cyfresiaeth, yn ymateb delfrydol i ofynion Krasner. A gellir dweud yn ddigon teg fod yr hyn a gynhyrchodd Berg yn hawlio’i le fel y darn mwyaf mynegiannol a hygyrch o gerddoriaeth gyfresol yn y repertoire.
Sicrhaodd Berg y mynegiant rhyfeddol hwn trwy lacio rhai o hualau cyfresiaeth i ganiatáu rhywfaint o donyddiaeth gytseiniol hen ffasiwn. Yn y bôn, cyfres o gordiau cyfarwydd yn y cywair mwyaf yw ei drefn nodau (neu ‘res’, yn jargon y cyfreswyr), ac mae’r pedwar nodyn olaf yn cyfateb yn union i agoriad un o goralau mwyaf diaddurn, truenus Bach, ‘Es ist genug’ (‘Digon yw’). Yn wir, mae Berg yn dyfynnu Bach yn glir yn ail symudiad y concerto, yn gyntaf yn llinell unigol y ffidil, ac wedyn gan ddefnyddio pedwar clarinét i roi dynwarediad di-fai o organ eglwys wledig.
O’r cychwyn, cyfansoddodd Berg ei goncerto fel requiem offerynnol i Manon, a’i bedwar symudiad – wedi’u rhannu’n ddwy ran – yn darlunio ei genedigaeth, ei bywyd byr, ei marwolaeth ac yn olaf ei gweddnewidiad wrth iddi esgyn tua’r nefoedd trwy res esgynnol Berg. Hyd yn oed yn fwy trasig, fodd bynnag, byddai’r Concerto i’r Ffidil hefyd yn gwasanaethu fel requiem i Berg ei hun. Tra oedd yn cyfansoddi’r gwaith yn ei encil haf ar y Wörthersee yn Awstria, cafodd ei bigo gan gacynen yn ei gefn ac – yn y dyddiau cyn gwrthfiotigau – dioddefodd fisoedd o haint poenus cyn ildio yn y diwedd i septicaemia yn oriau mân Noswyl Nadolig 1935.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
EGWYL: 20 munud
Pierre Boulez
Mémoriale(1971, adol. 1985)

Matthew Featherstone ffliwt
Fel Livre pour cordes a agorodd y cyngerdd heno, mae Mémoriale Boulezyn waith a gafodd enedigaeth hir a chymhleth. Gwelodd y gwaith olau dydd gyntaf yn 1971 fel …explosante-fixe …, teyrnged Boulez i’w gyd-gyfansoddwr Igor Stravinsky, a fu farw yn gynharach y flwyddyn honno. Syniad gwreiddiol Boulez ar gyfer …explosante-fixe … oedd gadael sawl elfen yn fater i’w berfformwyr (doedd hyd yn oed ei offeryniaeth ddim wedi’i nodi). Ond pan ddaeth yn fater o wneud ei ddehongliad ei hun o’r darn, ac er iddo ei adolygu sawl gwaith, roedd yn dal i deimlo’n anfodlon. Tynnodd y darn yn ôl yn gyfan gwbl yn ei holl fersiynau, er y gwnaeth …explosante-fixe … ailymddangos yn y diwedd ym 1991 fel gwaith ar gyfer ffliwt unigol, electroneg fyw, dwy ffliwt arall ac ensemble.
Chwe blynedd ynghynt, fodd bynnag, roedd rhywfaint o gerddoriaeth wreiddiol …explosante-fixe … eisoes wedi ailymddangos yn Mémoriale, gwaith a chanddo arwyddocâd personol arbennig i Boulez. Roedd wedi dod yn ffrind agos i’r ffliwtydd o Ganada Lawrence Beauregard, un o’r prif chwaraewyr yn y grŵp cerddoriaeth newydd arbenigol Ensemble Intercontemporain a sefydlwyd gan Boulez ym 1976. Ond bu farw Beauregard yn 1985, yn ddim ond 28 oed, ac felly ailweithiodd Boulez gerddoriaeth a oedd wedi’i chreu’n wreiddiol fel teyrnged i Stravinsky yn deyrnged deimladwy i’w gyfaill ifanc.
Er gwaetha’i darddiad, serch hynny, mae Mémoriale yn fwy o ddathliad nag o alarnad, er yn dal i fod braidd yn bwyllog ei naws. Mae Boulez yn gosod y ffliwt yng nghanol y llwyfan, ac yn gwneud defnydd llawn o alluoedd sonig yr offeryn mewn alaw nad yw byth yn llai na swynol delynegol, i gyfeiliant tawel ei ensemble o linynnau a chyrn. Ond yn fwyaf arwyddocaol, efallai mai Mémoriale yw’r agosaf a ddaeth Boulez at gofleidio tonyddiaeth fwy traddodiadol, cytseiniol: mae’n dod i orffwys, dro ar ôl tro, ar nodyn unsain (E feddalnod) ar draws yr ensemble cyfan, nodyn a gynhelir yn niweddglo tyner y darn gan y cyrn, wedi i’r ffliwt dawelu.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
Olivier Messiaen (1908–92)
Les offrandes oubliées – méditation symphonique(1930)

Très lent – Vif – Extrêmement lent
Un o’r cynharaf o weithiau Messiaen i sefydlu ei hun yn y repertoire oedd Les offrandes oubliées (‘Yr offrymau anghofiedig’), sy’n deillio o ddiwedd ei gyfnod yn fyfyriwr a dechrau ei yrfa broffesiynol. Roedd newydd weld set o’i ddarnau’n cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf, sef y Préludes i’r piano. Ac yntau’n organydd byrfyfyr gwych oedd yn astudio’r offeryn yn y Paris Conservatoire gyda’r enwog Marcel Dupré, gwnaeth Messiaen gymaint o argraff nes iddo, ym 1931, gael ei benodi i un o brif swyddi eglwysig Paris, organydd La Trinité. Yma, fe gynhyrfodd y dyfroedd gyda natur arbrofol ei berfformiadau ar y Sul, ond cafodd gefnogaeth awdurdodau’r eglwys ac arhosodd yno fel organydd tan ddiwedd ei oes – ac nid mewn enw yn unig: gellid ei glywed o hyd yn byrfyfyrio yno ar ôl gwasanaethau hyd y 1980au. Felly roedd gwrandawiad brwd i Les offrandes oubliées, ei gyfansoddiad cyntaf o sylwedd i gerddorfa, pan gafodd ei berfformio am y tro cyntaf yn yr un flwyddyn.
Wedi’i ysbrydoli gan lenyddiaeth Gristnogol a defodau Eglwys Rufain, mae Les offrandes oubliées eisoes yn nodweddiadol o’r hyn oedd i ddod: mae’r tri symudiad cysylltiedig yn eu tro’n cynrychioli dioddefaint Crist ar y groes, pechodau’r ddynoliaeth a sagrafen y cymun bendigaid. I’r glust, efallai nad yw Les offrandes oubliées ynun o weithiau mwyaf nodweddiadol ei gyfansoddwr, ond mae’n dal i fod yn amlwg mai efe piau’r darn. Saif Messiaen bron ar ei ben ei hun ymhlith ffigurau mawr blynyddoedd avant-garde yr 20fed ganrif o ran gadael cyfraniad sylweddol i sawl repertoire, nad yw’n dangos unrhyw arwydd o ddiflannu. Efallai mai’r rheswm dros hynny yw nad oedd yn rhan o’r avant-garde ei hun yn y bôn, er ei fod yn gyfrifol am addysgu ac annog y genhedlaeth oedd yn cynnwys Pierre Boulez, a’i fod i ryw raddau wedi cael ei ddylanwadu ganddynt yn ei ganol oed. Mae’r darnau mawr a ysgrifennodd ar ddiwedd ei oes yn cadarnhau fod yno, o dan yr haenau ffantastig o rythmau a chaneuon adar, ymdeimlad cadarn o ddilyniant harmonig a hyd yn oed ffurf symffonig yn aros.
Yn Les offrandes oubliées clywn y ffactorau hynny’n dod at ei gilydd: dylanwad Debussy, ychydig mwy o ddylanwad cyfansoddwyr organ Ffrainc, a’r hoffter o harmonïau estynedig a nodau atodol a gyfundrefnodd yn ddiweddarach yn ei system raddfeydd ei hun. Ond, er mai datblygu y mae’r iaith, mae’r bersonoliaeth wedi’i ffurfio: tynerwch mynegiannol wedi’i wrthbwyso gan drais, gallu i awgrymu tawelwch llwyr a grym direolaeth. Mae eithafion profiad ysbrydol, ar sail gadarn hyder ffydd, yn codi yn weledigaethau ecstatig sy’n cael eu trosi’n sain ysgubol.
Nodyn y rhaglen © Ystâd Robert Maycock
Richard Wagner (1813–83)
Tristan und Isolde (1859) – Prelude und Liebestod

Tristan und Isolde yw opera fwyaf chwyldroadol Wagner. Mae’n sôn am gariad damweiniol, hollgynhwysol rhwng dau – cariad mor gryf fel mai dim ond trwy farwolaeth y gellir ei wireddu’n llawn.
Mae Tristan yn fwriadol lethol, yn athronyddol ac emosiynol. Cerddoriaeth Wagner sy’n gwneud y gwaith caled. Mae llawer ohono’n seiliedig ar oblygiadau eang cord pedwar nodyn – ‘cord Tristan’, cord arweiniol nad yw’n arwain i unlle. Heb fedru adfer ei hun yn gerddorol – ac ymhlyg yn hynny, yn rhywiol – mae’r cord yn cychwyn crescendo enfawr o hiraeth.
Clywn gord Tristan ar ddechrau Prelude yr opera, ar ôl tri nodyn rhagarweiniol ar linynnau isel. Mae strwythur eang, fel bwa, wedi’i sefydlu.
Daw moment allweddol yr opera wrth i Isolde, wedi i Tristan farw yn ei breichiau, weld eu cariad yn parhau mewn marwolaeth. Mae Isolde yn canu ei Verklärung (ei gweddnewidiad, y cyfeirir ato’n aml fel ei Liebestod – ‘cariad at farw’), alaw a chwaraeir yma gan y gerddorfa’n unig.
Mae’r Liebestod yn datrys pos cord Tristan. Maes o law, mae’r gerddorfa’n taro’r ddaear yng nghywair C# fwyaf, gan orfodi adferiad safonol i G#. Trwy borth cord Tristan, mae’r gerddoriaeth wedyn yn nofio i B fwyaf. Does dim angen adnabod y cyweiriau hynny i synhwyro newid yn sylfaen y gerddoriaeth, a’i darganfyddiad sicr o ecstasi gwir gariad.
Nodyn y rhaglen © Andrew Mellor
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Grym Gwerin
Nos Iau 1/5/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 2/5/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Holst Capriccio
Stravinsky Symffonïau Offerynnau Chwyth
Syr James MacMillan Where the Lugar meets the Glaisnock première byd
Vaughan Williams In the Fen Country
Stravinsky Symffoni mewn Tri Symudiad
Syr James MacMillan arweinydd
David Childs ewffoniwm
ARGRAFFIADOL | SONIARUS | YSBLENNYDD
Yn Capriccio, ceir pytiau o alawon gwerin yn plethu â’i gilydd yng ngwaith caleidosgopig Holst. Mae’r elfennau gwerin Rwsiaidd yn chwarae rhan yr un mor ganolog yn Symffonïau Offerynnau Chwyth Stravinsky mewn darn sy’n archwilio ystyr gwreiddiol ‘symffoni’ – sef ‘seinio gyda’i gilydd’. Mae gweddïau byr rhwng y gwahanol offerynnau yn dwyn ynghyd yr atganau cyferbyniol ar dri chyflymder gwahanol ond â chysylltiad â’i gilydd.
Mae’r seren o Gymru ar yr ewffoniwm, David Childs, yn camu i lwyfan yr unawdydd ar gyfer y perfformiad cyntaf yn y byd o goncerto Syr James MacMillan, Where the Lugar meets the Glaisnock. Cerddoriaeth werin Lloegr sy’n ysbrydoliaeth i In the Fen Country gan Vaughan Williams; mae’n creu argraff symffonig drwy bortreadu cynhesrwydd natur, wedi’i gyfosod â gwagle llwm y ffendir, ac mae’n waith cynnar sy’n cynnig cipolwg ar iaith gerddorol aeddfed Vaughan Williams. Bydd y cyngerdd yn cloi gyda Stravinsky, y tro hwn gyda’i ymateb i erchyllterau’r Ail Ryfel Byd, ei Symffoni mewn Tri Symudiad. Mae’n bleser gennym groesawu Syr James MacMillan fel arweinydd.
Diwygiad ac Adfywiad
Ffrwd fyw
Nos Wener 15/5/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Mozart Priodas Figaro – agorawd
Jörg Widmann Concerto i’r Ffidil Rhif 2 première y DU
Mendelssohn Symffoni Rhif 5, ‘Diwygiad’
Jörg Widmann arweinydd
Carolin Widmann ffidil
STEILUS | DRAMATIG | BYRLYMUS
Mae sibrydion prysur a chyffro byrlymus yn arwain at uchafbwyntiau gwefreiddiol yn agorawd bythol boblogaidd Mozart i’w opera Priodas Figaro. Yn llawn ffraethineb, hwyl a llawenydd, dyma’r agoriad perffaith i unrhyw gyngerdd. Ysgrifennwyd Pumed Symffoni Mendelssohn i nodi 300 mlynedd ers geni’r Diwygiad Protestannaidd; mae’n teithio trwy ffrwydradau dramatig, unawdau tebyg i ariâu a choralau hwyliog tuag at fuddugoliaeth yn wyneb diwygiad. I arwain, rydym yn falch iawn o groesawu Jörg Widmann, sy’n arwain Cerddorfa Gymreig y BBC am y tro cyntaf.
Mae’r feiolinydd Carolin Widmann wedi gwneud enw iddi’i hun yn rhyngwladol fel un o berfformwyr gorau’r repertoire Clasurol a Rhamantaidd, felly ni ddylem synnu o ddeall fod ei brawd Jörg, pan oedd y ddau’n ifanc, wedi pwyso arni i roi cynnig ar dechnegau estynedig, a hithau’n dweud wrtho am gallio! Ysgrifennodd yntau ei Ail Goncerto i’r Ffidil a’i gyflwyno’n arbennig i Carolin, ac ynddo, mae llinell yr unawdydd yn gweithredu fel yr adroddwr, gan roi ei lais ei hun i’r ffidil ac arbrofi gyda’r arddull Ramantaidd virtuoso sydd mor hoff gan Carolin.
Bywgraffiadau
Daniel Cohenarweinydd
Daniel Cohen yw Cyfarwyddwr Cerdd Cyffredinol y Staatstheater Darmstadt ers 2018 ac mae wedi adnewyddu ei gontract yn ddiweddar tan dymor 2026/27. Ymhlith uchafbwyntiau diweddar a gafwyd yno mae Lohengrin Wagner, Lulu Berg, Les Contes d’Hoffmann Offenbach, Elektra gan Richard Straussac Otello Verdi. Y tymor hwn mae’n dychwelyd i Darmstadt ar gyfer cynyrchiadau newydd o Tristan ac Isolde Wagner a Wozzeck Berg.
Mae’n cadw cysylltiad rheolaidd â thai opera Berlin, wedi bod yn Kapellmeister gynt yn y Deutsche Oper Berlin; perfformiodd gyntaf yn y Staatsoper Unter den Linden yn nhymor 2016/17.
Yn rhyngwladol, mae wedi ymddangos gyda Chwmni Opera Canada, Opera Israel, Teatro Massimo Palermo, Theater Essen ac Opera Norwy ac yng ngwyliau Macerata Opera a Bregenz.
Yn y maes symffonig, mae wedi arwain Staatskapelle Berlin, cerddorfeydd Ffilharmonig Dresden, Helsinki, Israel a Los Angeles, cerddorfeydd Symffoni Basel, MDR, Munich ac RTÉ Iwerddon, Cerddorfa y Maggio Musicale yn Fflorens, Cerddorfa Siambr Lausanne a Camerata Salzburg, ymhlith eraill. Yn 2021 fe recordiodd Goncerto Hindemith i’r Clarinét gyda Sharon Kam a Cherddorfa Symffoni Radio Frankfurt.
Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth gyfoes hefyd: yn 2009/10 bu’n gynorthwyydd i Pierre Boulez yng Ngŵyl Lucerne ac o 2011 i 2013 cymerodd ran ym Mhrosiect Cyfansoddwyr Academi Gŵyl Lucerne, a gyfarwyddwyd gan Boulez, lle gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn neuadd gyngerdd KKL.
Hyfforddodd Daniel Cohen yn Academi Gerdd Frenhinol Llundain ac am flynyddoedd lawer bu’n feiolinydd yng Ngherddorfa Orllewin-Ddwyreiniol Divan, lle roedd hefyd yn gynorthwyydd i Daniel Barenboim. Yn nhymor 2013/14 roedd yn Gymrawd Dudamel gyda’r Los Angeles Philharmonic, cyn dod yn Gymrawd Arwain yn Tanglewood flwyddyn yn ddiweddarach.
Ava Bahari ffidil
Sylvain Barrès
Sylvain Barrès
Feiolinydd hynod fedrus o Sweden yw Ava Bahari sy’n cael blas mawr ar gynnig repertoire anghyffredin. Mae hi wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys Trydedd Wobr yng Nghystadleuaeth Premio Paganini yn Genoa, Pedwaredd Wobr yng nghystadleuaeth ryngwladol Tibor Varga yn Sion yn 2021 a’r Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Gerddoriaeth Aurora yn Stockholm yn 2019.
Mae hi wedi gweithio gydag arweinwyr fel Santtu-Matias Rouvali, Pekka Kuusisto a Ryan Bancroft, ac wedi perfformio gyda cherddorfeydd o fri, gan gynnwys cerddorfeydd symffoni Gävle, Gothenburg, Malmö ac Odense, cerddorfeydd Ffilharmonig Baden-Baden a Royal Stockholm a Cherddorfa Teatro Carlo Felice.
Y tymor hwn mae hi’n Artist Preswyl gyda Cherddorfa Symffoni Gothenburg ac yn perfformio gyda’r Philharmonia, Helsinki Philharmonic a cherddorfeydd symffoni Gwlad yr Iâ a Tokyo, ymhlith eraill.
Yn gerddor siambr brwd, mae hi wedi ymddangos mewn gwyliau enwog, gan gynnwys Schleswig-Holstein, Aix-en-Provence a Santander; ac wedi cydweithio gydag artistiaid fel Kirill Gerstein, Daniel Hope, Adrien La Marca a Camille Thomas, i enwi ond ychydig.
Ymhlith yr uchafbwyntiau o ran datganiadau mae cyngerdd Paganini yng Nghanolfan Gelfyddydau Seoul, datganiad ar ‘Stauffer’ Guarneri del Gesù o 1734 yn y Museo del Violino, Cremona, a chyngerdd yn y Konzerthaus Berlin.
Astudiodd Ava Bahari yn Hochschule für Musik Hanns Eisler Berlin ac Accademia Stauffer yn Cremona. Mae hi’n chwarae ar ffidil gan G.F. Pressenda, a wnaed yn Turin ym 1829, ar fenthyg oddi wrth y Deutsche Stiftung Musikleben.
Matthew Featherstone ffliwt
Matthew Featherstone yw Prif Ffliwtydd Cerddorfa Gymreig y BBC ac mae hefyd wedi ymddangos fel Prif Ffliwtydd Gwadd gyda Britten Sinfonia, Cerddorfa Symffoni’r BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC, Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa RTÉ ac Academi St Martin in the Fields.
Derbyniodd Wobr Chwythbrennau’r Royal Over-Seas League yn 2012. Fel unawdydd, mae wedi teithio o gwmpas Prydain gyda rhaglenni o repertoire ffliwt a phiano ar sail ei waith fel unawdydd dan Gynllun Datganiadau Iarlles Munster. Mae wedi perfformio concerti gyda cherddorfeydd ym Mhrydain, yn ogystal ag yn Ffrainc a Tsieina, gan gynnwys concerti i’r ffliwt gan Lowell Liebermann a Nielsen, a Concerto Mozart i ffliwt a thelyn (gyda Catrin Finch). Yn gerddor siambr brwd, mae’n mwynhau perfformio gyda Trio Anima, ei driawd ffliwt, telyn a fiola. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, Between Earth and Sea yn 2022.
Mae Matthew Featherstone hefyd yn gweithio fel bîtbocsiwr, canwr sesiwn a chyfansoddwr caneuon, a rhyddhaodd ei EP cyntaf yn 2019.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr Martin Gwilym-Jonesis-flaenwrGwenllian Hâf MacDonaldJudith TemplemanTerry PorteusSuzanne CaseyŽanete UškāneCarmel BarberEmilie GoddenJuan GonzalezAlejandro TrigoAnna Cleworth
Amy Fletcher
Zhivko Georgiev
Anya Birchall
Rebecca Totterdell
Ail FfidlauAnna Smith *James WicksSheila SmithRoussanka KaratchivievaVickie RingguthKatherine MillerJoseph WiliamsLydia Caines **Michael ToppnigJane SinclairElizabeth WhittamLaurence Kempton
Gary George-Veale
Frances Richards
FiolâuRebecca Jones *Tetsuumi NagataPeter TaylorAnna GrownsLaura SinnertonRobert GibbonsCatherine PalmerLowri TaffinderLydia AbellDáire Roberts
Ania Leadbeater
Charlotte Limb
SoddgrythauTamaki SugimotoJessica FeaverSandy BartaiKeith HewittCarolyn HewittAlistair HowesRachel FordKaty Wright
Tabitha Selley
Jonathan Few
Basau DwblAlexander Jones #Christopher WescottRichard GibbonsKetan CurtisYat Hei Lee
Antonia Bakewell
Ben Havinden Williams
Callum Duggan
FfliwtiauMatthew Featherstone *John Hall †Lindsey Ellis **
PiccoloLindsey Ellis * **
OboauLucie Sprague ‡Amy TillAmy McKean †
Cor anglaisAmy McKean †
ClarinetauNicholas Carpenter *Will WhiteJennie Joy Porton
Clarinét BasLenny Sayers †+**
Sacsoffon Alto
Jennie Joy Porton
BaswnauJarosław Augustyniak *Jamie KingDavid Buckland
IsfasŵnDavid Buckland †
CyrnTim Thorpe *Tom TaffinderNeil Shewan †Dave RansomMichael Gibbs
UtgyrnPhilippe Schartz *Ben Jarvis
Corey Morris †
TrombonauDonal Bannister *Dafydd Thomas †
Trombôn BasDarren Smith †
TiwbaDaniel Trodden †**
TimpaniIgnacio Molins
Offerynnau Taro Andrea PorterJonathan Helm
Harry Lovell-Jones
Y DelynElen Hydref Wright
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +**
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol swydd wag
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol swydd wag
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications






