Dydd Gŵyl Dewi: Mythau a Chwedlau Cymru – Ddoe a Heddiw
Nos Fercher 1/3/23, 7.30pm

Gavin Higgins
The Faerie Bride 40’
EGWYL: 20 munud
Arwel Hughes
Dewi Sant – ‘Molwn Di’ 6’
Grace Williams
Four Illustrations for the Legend of Rhiannon 35’
Gareth Glyn
Gwlad y Gân 10’
James James, Trefn. Jeffrey Howard
Mae hen wlad fy nhadau 4’
Marta Fontanals-Simmons mezzo-soprano
Paul Carey Jones bas-bariton
Carys Eleri yr adroddwr
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Jac van Steenarweinydd

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Radio Cymru ac yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu fel rhan o Afternoon Concert yn y dyfodol. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu ar BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnig podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth i chi. Ewch i bbc.co.uk/now i gael rhagor o wybodaeth am berfformiadau yn y dyfodol.
Croeso

Croeso cynnes iawn i’r cyngerdd heno i ddathlu’r diwrnod arbennig hwnnw yn y calendr – Dydd Gŵyl Dewi. Rydyn ni’n falch iawn o groesawu ffrind da iawn i’r gerddorfa yn ôl i arwain heno, sef y cyn Brif Arweinydd Gwadd Jac van Steen.
Yma yng Nghymru, rydyn ni bob amser wedi mwynhau traddodiad arbennig o gryf o adrodd straeon yn ein chwedlau a’n cerddoriaeth, ac mae hyn yn cael ei ddathlu yn y ddau ddarn mwyaf sylweddol yn ein rhaglen.
Elfen sy’n gyffredin i The Faerie Bride gan ein Cyfansoddwr Cyswllt, Gavin Higgins (cantata a gafodd ei pherfformio am y tro cyntaf y llynedd), a gwaith Grace Williams a gyfansoddwyd yn 1939 Four Illustrations for the Legend of Rhiannon yw bod cymeriad canolog y naill ddarn a’r llall yn ferched eithriadol o gryf. Ochr yn ochr â’r gweithiau hyn mae ffefrynnau traddodiadol Dydd Gŵyl Dewi – ‘Molwn Di’ gan Arwel Hughes o’i oratorio Dewi Sant a chadwyn o alawon hudolus Gareth Glyn Gwlad y Gân.
Mwynhewch – a Dydd Gŵyl Dewi Hapus i chi!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Gavin Higgins (ganed 1983)
The Faerie Bride (2021)

Prolog
Rhan 1: Y Llyn
Rhan 2: Gwanwyn
Rhan 3: Haf
Rhan 3: Hydref
Rhan 5: Gaeaf
Epilog
Marta Fontanals-Simmonsmezzo-soprano
Paul Carey Jonesbas-bariton
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae The Faerie Bride yn gantata i ddau ganwr a cherddorfa sydd wedi’i hysbrydoli gan y chwedl o Gymru Morwyn Llyn y Fan Fach a gyda geiriau gan Francesca Simon.
Mae’r Dyn yn gweld Menyw yn eistedd ar y llyn. Am dridiau, mae’n ceisio ei denu â bara – bara caled, bara meddal, a bara wedi hanner ei grasu. O’r diwedd mae’r Fenyw yn cytuno i’w briodi, ond ar un amod, sef na fydd yn ei tharo ‘dair gwaith’. Os bydd yn gwneud hynny, bydd hi’n dychwelyd i’r llyn am byth. Mae’r Dyn yn cytuno ac mae hithau’n dod o’r llyn gyda gorymdaith amrywiol o anifeiliaid yn ei dilyn: sef gwaddol o wartheg, defaid, ceffylau a moch.
Mae’r cwpl yn priodi ac yn cael plant, ond nid yw’r Pentrefwyr yn ei hoffi hi. Un haf maen nhw’n mynd i briodas, ond, yn hytrach na chanu a dawnsio, mae’r Fenyw yn eistedd yn dawel - mae hi’n gallu gweld y dyfodol, ac yn gweld dyfodol anhapus i’r cwpl. Mae’r Pentrefwyr yn amheus ohoni ac yn siarad amdani. Mae’r Dyn yn cwestiynu ei hymddygiad, ac yn ei gwaradwyddo am ei ‘natur arallfydol’. Dyma’r ‘ergyd’ gyntaf i’w chalon.
Un hydref maen nhw’n mynd i fedydd plentyn newydd y cwpl, ond, yn hytrach na dathlu, mae’r Fenyw yn llefain ac yn wylo - oherwydd ei bod yn gallu gweld y dyfodol, mae hi’n gallu gweld na fydd y plentyn yn byw yn hir. Mae’r Pentrefwyr yn clebran ac mae’r Dyn yn ei cheryddu am ei hymddygiad. Mae’n ei gwaradwyddo am ei ‘natur arallfydol’ - dyma’r ail ‘ergyd’ i’w chalon.
Un gaeaf maen nhw’n mynd i angladd y plentyn. Yn hytrach na chrïo, mae’r Fenyw yn chwerthin ac yn canu – mae hi’n gallu gweld bod y plentyn mewn lle gwell yn awr gyda’r Tylwyth teg. Mae’r Dyn wedi arswydo at hyn ac yn ei herio. Dyma’r ‘ergyd’ olaf. Mae hi’n troi ac yn cerdded yn ôl i’r llyn gan alw ar ei hanifeiliaid a’i phlant i’w dilyn – mae defaid a gwartheg yn gadael y caeau, mae ll bach yn neidio oddi ar y bachyn cig, mae ei meibion yn rhoi’r gorau i weithio ar y tir ac yn ei dilyn i’r llyn am byth.
Dim ond un o nifer o chwedlau tebyg o ogledd Ewrop yw hanes ‘morwyn y llyn’ yng Nghymru. Mae chwedlau eraill tebyg yn cynnwys Morforynion yn Iwerddon, Kelpies yn yr Alban a Selkies yn Ynysoedd Shetland a Sgandinafia. Ond ym mhob un o’r rhain mae’r merched yn cael eu portreadu naill ai fel creaduriaid maleisus (yn hudo dynion anffodus i’w marwolaeth), neu mae rhywbeth lledrithiol yn cael ei ddwyn oddi arnyn nhw (croen morlo, cap coch neu ffrwyn arian), neu maen nhw’n cael eu dal gan ddyn ac yn cael eu cadw yn eu ffurf ddynol. Mae straeon Tylwyth Teg Cymru yn unigryw gan fod y fenyw yn gosod amodau clir iawn wrth gytuno i briodi’r dyn (ni chaiff ei tharo dair gwaith neu ni chaiff ei tharo â chlai). Os bydd y dyn yn torri’r amodau hyn, bydd hi’n dychwelyd i’r llyn am byth. Mae chwedlau Cymru yn grymuso, ac mae’r cymeriadau yn ferched cryf sy’n pennu eu hagenda eu hunain. Does dim gorfodaeth, dwyn na herwgipio, ond, yn hytrach, camddealltwriaeth a gwahaniaethau diwylliannol.
Mae The Faerie Bride yn ymwneud â chyfaddawd a pharch mewn perthynas, ofn ac amheuaeth o rywun o’r tu allan a’r pwysau cymdeithasol i gydymffurfio mewn cymunedau ynysig, sef rhywbeth mae’r dylwythen deg hon yn gwrthod ei wneud.
Nodyn y rhaglen © Gavin Higgins
Gwefan: www.gavinhiggins.com
EGWYL: 20 munud
Arwel Hughes (1909–88)
Dewi Sant – ‘Molwn Di’ (1950)

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Ganed Arwel Hughes ym mhentref glofaol Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a daeth yn bennaeth cerdd y BBC yng Nghymru, gan gyfuno rolau gweinyddwr, arweinydd a chyfansoddwr. Roedd ef, felly, yn ddewis naturiol i gyfansoddi oratorio fawr fel cyfraniad cerddorol Cymru i Ŵyl Prydain ym 1951. Dewi Sant oedd testun naturiol gwaith o’r fath – ac, wrth gwrs, Cadeirlan Tyddewi yn Sir Benfro oedd y lleoliad naturiol ar gyfer ei berfformio am y tro cyntaf! Mae uchafbwynt corawl yr oratorio, ‘Molwn Di’, yn cyfleu’n frwdfrydig naws y gwaith o foli ac ymgysegru i nawddsant Cymru.
Nodyn y rhaglen © David Threasher
Gwrando Pellach: Corws a Cherddorfa Symffoni Gymreig y BBC/Owain Arwel Hughes (Chandos CHAN8890)
Grace Williams (1906–77)
Four Illustrations for the Legend of Rhiannon (1939)

1 Y Gwrthdaro
2 Y Wledd Briodasol
3 Y Penyd
4 Dychweliad Pryderi
Carys Eleriyr adroddwr
Roedd Grace Williams wedi cyfansoddi Four Illustrations for the Legend of Rhiannon i ymateb i gomisiwn gan y BBC am gyfres gerddorfaol ‘ar bwnc Cymreig’. Roedd perfformiad o’i gwaith i fod i gael ei ddarlledu yn 1939, ond chwalwyd Cerddorfa Gymreig y BBC ym mis Medi’r flwyddyn honno pan ddechreuodd y rhyfel. Fodd bynnag, cynhaliwyd y perfformiad yn ôl yr addewid pan berfformiwyd y gyfres am y tro cyntaf gan Gerddorfa Symffoni’r BBC, dan arweiniad Idris Lewis, ar 24 Hydref 1939.
Mae dawn hynod Williams fel dramodydd cerddorol yn amlwg iawn yn y gyfres hon. Trodd at chwedloniaeth Cymru ar gyfer ei phwnc, ac mae pob symudiad yn portreadu pennod ym mywyd y dduwies Rhiannon fel y nodir yn chwedl ‘Pwyll, Pendefig Dyfed’ yn Y Mabinogi. Mae themâu ymladdgar, curiadau drwm milwrol ac uchafbwyntiau tanbaid ‘Y Gwrthdaro’ yn creu darlun byw o’r cystadlu rhwng y ddau sy’n ymgeisio am law Rhiannon – Pwyll, y ffefryn brenhinol, a’r Gwawl ystrywgar. Pwyll sy’n ennill y frwydr hon, ac mae’r ffanfferau ar y trwmped a’r chwythbrennau sy’n agor yr ail symudiad yn cyhoeddi’r ‘Wledd Briodasol’ ym mhalas y cwpl brenhinol. Yma, mae Williams yn creu darlun hudolus o achlysur seremonïol yn ogystal, efallai, â dathliadau ar ôl cinio mwy hwyliog.
Mewn cyferbyniad â hyn, mae’r trydydd symudiad yn canolbwyntio ar ddigwyddiad trasig yn hanes Rhiannon. Mae ei mab, Pryderi, yn diflannu ar noson ei eni, ac mae gweision Rhiannon yn ei chyhuddo o’i lofruddio. Mae Williams yn defnyddio’r emyn-dôn Gymreig Yr Hen Ddarbi, sy’n cael ei datgan am y tro cyntaf con dolore (yn drist) gan y cor anglais a’r soddgrwth unawdol, i ddangos y penyd y mae’n rhaid i Rhiannon ei gyflawni am ei throsedd tybiedig: mae’n cael ei gorfodi i adrodd ei stori wrth bawb sy’n pasio drwy borth y palas.
Daw hyn i ben pan ddatgelir bod ei babi, mewn gwirionedd, wedi cael ei gipio gan ddiafol. Caiff ei mab ei achub gan Teyrnon, Tywysog Gwent, ar ôl iddo sylweddoli mor debyg yw’r bachgen i’w dad, Pwyll. Mae’r diweddglo Allegro yn portreadu ‘Dychweliad Pryderi’ at ei rieni yn y palas. Mae’r defnydd gwych o’r alaw Gymreig Cainc Dafydd Broffwyd, sy’n cael ei chwarae gan selesta disglair, yn awgrymu diniweidrwydd ieuenctid ar unwaith, ac mae Williams yn mynd ymlaen i ddefnyddio holl liwiau’r gerddorfa yn y portread cyfareddol hwn o ddathliad i groesawu Pryderi yn ei ôl.
Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias
Darllen Pellach: Lutyens, Maconchy, Williams and Twentieth-Century British Music: A Blest Trio of Sirens Rhiannon Mathias (Routledge)
Gareth Glyn (ganed 1951)
Gwlad y Gân

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae’r gwaith yma’n cyflwyno pump o hoff ganeuon ac alawon Cymru wedi’u trefnu i gôr cymysg a cherddorfa, a’u cysylltu â dolenni offerynnol byr i greu darn di-dor. Traddodiadol yw’r alawon, heblaw am yr emyn-dôn o’r 20fed ganrif sy’n cloi’r gadwyn.
Hen alaw werin yw’r ymdeithgan rymus Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech, er nad argraffwyd y gerddoriaeth tan 1794, a hynny ar ffurf cainc i’r delyn. Y sôn yw ei bod wedi’i hysbrydoli gan warchae Castell Harlech yn ystod Rhyfel y Rhosynnau yn y 15fed ganrif. Mae nifer o feirdd wedi gosod yr alaw; Ceiriog (John Ceiriog Hughes, 1832–87) biau geiriau trawiadol (a gwir ryfelgar!) y trefniant hwn.
Hwiangerdd yw Mil Harddach Wyt Na’r Rhosyn Gwyn, gydag alaw anarferol a chofiadwy sy’n cynnwys naid o seithfed, wedi’i hieuo â geiriau hynod o dyner a theimladwy.
Mae’n gwrthgyferbynu’n gryf â’r hyn sy’n dilyn – cân o fawl i’r goeden gelyn heb unrhyw gyfeiriad o gwbl at y Nadolig!
Wedi sioncrwydd Y Gelynnen, mae dolen fer gan y gerddorfa yn paratoi ar gyfer awyrgylch heddychlon a thelynegol un o’n caneuon gwerin mwya adnabyddus – Ar Lan y Môr. Dyma alaw arall sy’n cynnig cyfoeth o ddeunydd – yn y trefniant hwn cawn, er enghraifft, ganu harmoni-clòs, cynghanedd gromatig ac annibyniaeth lleisiau.
Yn cloi’r gadwyn mae un o hoelion-wyth y gymanfa ganu. Un o nodweddion amlycaf ‘Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb’ yw ymddangosiad yr ansoddair ‘mawr’ bymtheg o weithiau o fewn deunaw llinell. Lluniwyd penillion allanol yr emyn gan Titus Lewis (1773–1811), a chyfansoddwyd y dôn Bryn Myrddin gan John Morgan Nicholas (1895–1963), gŵr mawr ei barch fel arweinydd, organydd, athro a gweinyddwr yn ogystal â chyfansoddwr. Ei gynghanedd leisiol ef a ddefnyddir ym mhennill cyntaf y trefniant hwn, ond yn yr ail mae’r alaw’n ffurfio rhan y baswyr, a cheir chynghanedd wahanol yn y pennill olaf.
Fel sy’n arferol mewn trefniannau o’r fath, mae ‘Amen’ estynedig yn dilyn geiriau olaf yr emyn, ac yn cloi’r dilyniant yn orfoleddus.
Nodyn y rhaglen © Gareth Glyn
Gwefan: garethglyn.info
James James (1833–1902), Trefn. Jeffrey Howard
Mae Hen Wlad fy Nhadau

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Tros ryddid collasant eu gwaed.
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i’m gwlad,
Tra môr yn fur i’r bur hoff bau,
O bydded i’r heniaith barhau.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn i’m golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi.
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Bywgraffiadau
Jac van Steen arweinydd

Lun: Simon van Boxtel
Lun: Simon van Boxtel
Ganed Jac van Steen yn yr Iseldiroedd ac astudiodd y grefft o arwain cerddorfeydd a chorau yn Ysgol Gerddoriaeth Brabants.
Ers iddo gymryd rhan yn Seminar Arweinyddion y BBC yn 1985, mae wedi cael gyrfa brysur iawn. Mae wedi gweithio â cherddorfeydd blaenllaw yn Ewrop, gan ddal swyddi fel Cyfarwyddwr Cerdd a Phrif Arweinydd Ballet Cenedlaethol yr Iseldiroedd, cerddorfeydd Bochum a Nuremberg, Weimar Staatskapelle, Cerddorfa Ffilharmonig ac Opera Dortmund a Musikkollegium Winterthur, yn ogystal â bod yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Ar hyn o bryd mae’n Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Ulster a Cherddorfa Symffoni Prag.
Mae galw mawr amdano hefyd yn y tŷ opera, gan ymddangos am y tro cyntaf gyda Vienna Volksoper ac Opera North yn 2013 ac Opera Garsington yn 2015, a meithrin perthynas agos â’r tri. Yn ystod tymor 2018-19, ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opera Oslo.
Mae’n ymweld â’r DU yn rheolaidd, gan arwain y Philharmonia, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol. Ymysg ei uchafbwyntiau eraill mae ymddangos am y tro cyntaf yn Tokyo gyda Cherddorfa New Japan Philharmonic a Cherddorfa Ffilharmonig Malaysia.
Mae ei gatalog recordiadau sylweddol yn cynnwys amrywiaeth eang o wahanol fathau o repertoire gyda gwahanol gerddorfeydd.
Yn ogystal â’i weithgareddau fel arweinydd, mae hefyd yn ymroddedig i addysgu, ac ef yw’r Athro Arwain yn y Conservatoire Brenhinol yn yr Hague. Mae hefyd yn gweithio’n rheolaidd â Choleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr, yr Academi Frenhinol a’r Coleg Cerdd Brenhinol. Yn 2018, arweiniodd arddangosfa rhaglen Artistiaid Ifanc Jette Parker yr Opera Brenhinol.
Marta Fontanals-Simmons mezzo-soprano

Lun: Victoria Cadisch
Lun: Victoria Cadisch
Mae’r mezzo-soprano Brydeinig-Sbaeneg, Marta Fontanals-Simmons, wedi ymddangos am y tro cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden yn ddiweddar. Mae ei pherfformiadau fel Siébel yn (Faust gan Gounod) a Hel yn y premiere byd o waith Gavin Higgins The Monstrous Child yn Theatr ROH Linbury wedi ennill canmoliaeth fawr.
Y tymor hwn bydd yn canu Jack (The Wreckers gan Smyth) gyda’r Deutsches Symphonie-Orchester Berlin; yn rhoi datganiadau gydag Iain Burnside yn Neuadd Wigmore a Gŵyl Lammermuir; ac yn canu The Dream of Gerontius gan Elgar gyda Chymdeithas Gorawl Gŵyl Caerwrangon.
Ymysg ei huchafbwyntiau operatig diweddar mae Matriosha mewn cynhyrchiad newydd gan Calixto Bieito o War and Peace gan Prokofiev yn Grand Théâtre de Genève, Jack yng Ngŵyl Glyndebourne a’i rôl a’i pherfformiad cyntaf gydag ENO fel Eurydice Woman yng ngwaith Harrison Birtwistle The Mask of Orpheus. O ran y llwyfan datganiadau, mae hi wedi perfformio’n ddiweddar yn Neuadd Wigmore, Gŵyl Lieder Rhydychen, gwyliau Zeist Lieder a Aldeburgh a gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Philharmonia a cherddorfeydd Symffoni’r BBC a Dinas Birmingham.
Yn 2019, rhyddhaodd ei halbwm cyntaf, I and Silence: Women’s Voices in American Song, a gafodd groeso gwresog.
Enillodd Marta Fontanals-Simmons ei gradd yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall, lle dyfarnwyd y Fedal Aur iddi; roedd yn un o Artistiaid Jerwood yng Nglyndebourne ar gyfer tymor 2015–16.
Paul Carey Jones bas-bariton

Ganed y bas-bariton Cymreig-Gwyddelig, Paul Carey Jones, yng Nghaerdydd ac astudiodd yn Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Coleg y Frenhines, Rhydychen, yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Stiwdio Opera Genedlaethol. Dros y chwarter canrif diwethaf, mae wedi ymddangos fel prif artist gwadd mewn cwmnïau opera ledled y DU ac Ewrop. Enillodd Gystadleuaeth Canu Cymdeithas Wagner yn 2013 ac yn ddiweddar cafodd ei ethol yn Aelod Cyswllt o’r Academi Gerdd Frenhinol.
Ers 2015, mae wedi ennill enw arbennig o dda iddo’i hun yn rôl Wotan yng nghylch Ring Wagner, gyda’i berfformiad yng nghynhyrchiad Opera Gŵyl Longborough o Siegfried yn 2022 gan ennill llawer o ganmoliaeth. Mae ei waith operatig arall yn cynnwys ymddangosiadau ag Opera Cenedlaethol Cymru, yr Opera Brenhinol, Covent Garden, Opera Gŵyl Wexford, Teatro Comunale di Bologna, Opera Gothenburg ac Opera Gwlad yr Iâ, ymysg eraill.
Mae’n eiriolwr brwd dros gerddoriaeth gyfoes o’r 20fed ganrif, gan berfformio premieres byd o weithiau gan Stuart MacRae, John Metcalf, Jonathan Dove, Stephen McNeff, Sadie Harrison, Brian Irvine ac Emily Hall. Mae ei gatalog helaeth o recordiadau yn cynnwys tri albwm o unawdau: Enaid: Songs of the Soul, Songs Now a Song Lied Cân.
Ymysg ei gynlluniau mae dychwelyd i Opera Holland Park fel y Tad (Hansel and Gretel), premieres byd o weithiau gan Stephen McNeff a Gareth Glyn a phenllanw ei waith diweddar yn Longborough fel Wotan mewn cylch llawn o Ring yn haf 2024.
Carys Eleri adroddwr

Mae Carys Eleri yn actores, yn gyflwynydd, yn gantores, yn awdur ac yn gyfansoddwr o Sir Gaerfyrddin. Mae hi wedi cael ei henwebu ddwywaith gan BAFTA Cymru (fel yr Actores Orau a’r Cyflwynydd Gorau). Cyflwynodd raglen ar BBC Radio 4 o’r enw The Medieval Feminist, a oedd yn archwilio gwaith rhywiol-rwysgfawr y bardd Cymreig o’r Oesoedd Canol, Gwerful Mechain, a enillodd wobr Prix Marulić. Enillodd ei sioe gomedi, gwyddoniaeth a cherddoriaeth un-fenyw ‘Lovecraft (Not the sex shop yng Nghaerdydd)’ wobr y Cabaret Gorau yng Ngŵyl Ymylol Adelaide.
Mae ei threftadaeth Gymreig yn bwysig iawn iddi, ac mae hi’n teimlo bod llawer o wersi pwysig i’w dysgu o’n harchwiliad o stori Rhiannon yn Y Mabinogi heddiw. Mae hi’n esbonio, ‘Pleser o’r mwyaf i mi yw gallu portreadu stori Rhiannon o safbwynt y fenyw. Mae’r Mabinogi yn gasgliad o straeon a adroddwyd gan ddynion, ac a basiwyd ymlaen o ddyn i ddyn, fel y mae’r gair “Mab” yn ei awgrymu. Drwy waith mawreddog Grace Williams, mae Rhiannon yn cael ei chyflwyno fel ffigwr hynod bwerus, menyw y mae ei chryfder mewnol rhyfeddol yn ein hatgoffa ein bod ninnau hefyd yn gallu gwneud pethau anhygoel.’
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yw un o brif gorau cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.
Wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae’r corws, a ffurfiwyd yn 1983, yn gweithio’n rheolaidd ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ar ei ben ei hun. Mae’n cynnwys dros 150 o gantorion: cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys taith chwe-diwrnod i Rennes ar gyfer pedwar perfformiad o Requiem Mozart gyda’r Orchestre Symphonie de Bretagne, perfformiad o Ddioddefaint Sant Mathew gan Bach gyda Harry Bicket a pherfformiadau blynyddol ym Mhroms y BBC; gydag ymddangosiadau diweddar yn cynnwys A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze, Requiem Mozart o’r cof gyda Nathalie Stutzmann ac Wythfed Symffoni Mahler dan y cyn Brif Arweinydd Thomas Søndergård.
Yn ystod y tymor hwn, bydd y corws yn perfformio Requiem Fauré a’r O sacrum convivium gan Messiaen o dan Ludovic Morlot, Offeren ‘Nelson’ Haydn o dan arweiniad Christian Curnyn ac Elegiac Ode a Te Deum gan Standord gydag Adrian Partington wrth y llyw.
Mae’r corws wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth gyfoes ac yn 2016 rhoddodd yr ail berfformiad i’w gynnal erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y première. Mae wedi perfformio gweithiau am y tro cyntaf erioed gan amrywiaeth eang o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, yn seiliedig ar eiriau Araith Malala Yousafza i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.
Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor ar gyfer Wonders of the Celtic Deep BBC Cymru.
Soprano 1
Elizabeth Aitken
Charlotte Amodeo
Jess Baber
Eve Bennett
Anwen Boyce
Beth Bradfield
Bethan J. Evans
Sally Glanfield
Claire Hardy
Caitlin Hockley
Vanessa John-Hall
Rebecca Jolliffe
Lucie Jones
Katherine Meredith
Leora Molnar
Rosie Moore
Maisie O’Shea
Angharad Phillips
Elizabeth Phillips
Ellen Steward
Morgan Summers
Hannah Willman
Soprano 2
Kate Bidwell
Angela Contestabile
Rhian Davies
Emily Hopkins
Rhiannon Humphreys
Victoria Illsley
Julie Jones
Margaret Lake
Elinor Lloyd
Devon Macadam-Sutton
Marie Quemerais
Melanie Taylor
Niamh Pragnell Toal
Hannah Williams
Katherine Woolley
Alto 1
Atiyeh Dast Afkan
Anna Beresford
Catherine Bradfield
Yasmin Browne
Alison Davies
Nicole Dickie
Catherine Duffy
Giselle Dugdale
Glesni Edwards
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Naomi Hitchings
Lisa May
Lizzie Metcalf
Shanta Miller
Sara Peacock
Heather Price
Rhian Pullen
Kate Reynolds
Zozi Sookanadenchetty
Cerys Thomas
Rachel Waters
Emily West
Vicki Westwell
Jessica Williams
Alto 2
Alex Butler
Heledd Evans
Annette Hecht
Yvonne Higginbottom
Rhi Humphreys
Mattina Keith
Josie Nemeth
Sian Schutz
Julie Wilcox
Tenor 1
Keith Davies
Huw Llywelyn
Orlando Vas
Nicholas Willmott
Tenor 2
Rhys Archer
Michael Ennis
Roland George
Philip Holtam
Owen Parsons
Sam Proll
Richard Wilcox
Bas 1
David Davies
Billy Donaghy
Rafael Grigoletto
Emyr Wynne Jones
Lucas Maunder
Jez Piper
David Stephens
Allan Waters
Alun Williams
Daniel Williams
Bas 2
Stuart Hogg
Gruffudd Hughes
Joseff Morris
Gareth Nixon
Roedd y rhestr o gantorion yn gywir wrth fynd i’r wasg.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru ac yn cael cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n cyflwyno amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr cyfoes.
Mae’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales, yn ogystal â darparu’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’ch hoff raglenni teledu.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau Archwiliadau Elfennol yn Aberhonddu a Chasnewydd gyda Nil Venditti, cyngerdd Fantasia Disney, Britten ac Elgar gyda Tadaaki Otaka, Arweinydd Llawryfog hoff y gerddorfa, cyngerdd chwarae gemau newydd sbon gyda’r seren o fyd cerddoriaeth chwarae gemau, Eímear Noone a chyngerdd CoLaboratory gyda’r chwaraewr soddgrwth penigamp, Abel Selaocoe.
Ochr yn ochr â’i hamserlen brysur o gyngherddau byw, mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru yn rheolaidd, gan gynnal gweithdai ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau cyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau a gwneud cerddoriaeth yn hygyrch i bawb. I gael gwybod mwy, ewch i bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-arweinydd
Helena Smart
Suzanne Casey
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Ruth Heney
Zanete Uskane
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Jane Sinclair
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Sellena Leony
Ilze Abola
Gary George-Veale
Marike Krupp
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Ania Leadbeater
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Soddgrythau
Alice Neary *
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Basau Dwbl
Louis van der Mespel ‡
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Elen Roberts
Ffliwtiau
Harry Winstanley ‡
John Hall
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean
Sarah-Jayne Porsmoguer
Cor Anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinetau
Nick Carpenter ‡
Hannah Morgan
Lenny Sayers
Clarinét Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Rosemary Cow
Llinos Owen
Gareth Humphreys
Isfasŵn
Gareth Humphreys
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
William Haskins
John Davy
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Sam Kinrade
Trombonau
Cillian Ó Ceallacháin
Jake Durham
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †
Timpani
Steve Barnard *
Offerynnau Taro
Chris Stock *
Mark Walker †
Phil Girling
Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †
Selesta
Chris Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James **
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-Rediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-Wyydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-Faoedd Sassy Hicks +
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruch-Wylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Dave Rees
Prentisiaid BBC Cymru Josh Gill, Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

