Ar Noswyl Nadolig

Dydd Sul 19 Rhagfyr 2021, 4.00pm

Philip Lane
Ar Noswyl Nadolig

Nigel Hess
A Christmas Overture

Prokofiev
Lieutenant Kijé Suite: Troika

Tchaikovsky
The Nutcracker Suite: Dance of the Sugar-Plum Fairy; Dance of the Mirlitons; Trepak

Rimsky-Korsakov
The Snow Maiden: Dance Of The Tumblers

Adam Saunders
Fairytale Sleighride

Alan Silvestri, trefn. Brubaker
The Polar Express: Concert Suite

Leroy Anderson
Sleigh Ride


Elin Llwyd Cyflwynydd   
Grant Llewellyn Arweinydd

Croeso

Croeso i ‘Ar Noswyl Nadolig’ gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yma, cewch brynhawn gwych yn llawn hwyl yr ŵyl a cherddoriaeth i greu naws y Nadolig. Yn ymuno â ni mae’r cyflwynydd poblogaidd Elin Llwyd, a’r arweinydd yw, un o ffefrynnau BBC NOW, Grant Llewellyn.

Dymunwn Nadolig llawen a heddychlon iawn i chi, ac edrychwn ymlaen at eich gweld unwaith eto yn ein cyngherddau yng Nghaerdydd ac Abertawe yn 2022.

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Nodiadau Rhaglen

Ar Noswyl Nadolig Philip Lane
Mae rhai straeon mor fythol fel eu bod yn apelio at bawb, ni waeth beth yw eu hoed. Mae The Night Before Christmas yn gerdd a ysgrifennwyd ar ddechrau’r 19eg ganrif gan Americanwr o’r enw Clement Clarke Moore. Ynddo, mae’n cyfleu cyffro’r aros am ddydd Nadolig; mae pawb yn y tŷ yn cysgu wrth i Siôn Corn a’i geirw alw heibio. Mae’r gerdd wedi cael ei diweddaru’n fodern gan Carol Ann Duffy (a’i chyfieithu i’r Gymraeg gan Ceri Wyn Jones): yn y fersiwn hon mae plentyn yn sleifio i lawr y grisiau i weld a yw Siôn Corn yn wir. Mae’r cyfansoddwr Philip Lane yn dod â drama a llawenydd y stori hon yn fyw.

A Christmas Overture Nigel Hess                                   
Mae A Christmas Overture yn ein hatgoffa ni beth yw ystyr y Nadolig. Mae cyfres o garolau traddodiadol yn plethu eu ffordd drwy’r gerddorfa – faint allwch chi eu hadnabod?

Lieutenant Kijé Suite: Troika Prokofiev                       
Ym 1934 cyfansoddodd Prokofiev gerddoriaeth i gyd-fynd â ffilm am filwr dychmygol, yr Is-gapten Kijé, a ddyfeisiwyd gan ei gyd-swyddogion fel bwch dihangol. Mae’r Troika yn gyfeiliant i daith dros gefn gwlad rhewllyd Rwsia mewn sled tri cheffyl, gyda’r clychau ar eu harneisiau yn tincial yn llawen. 

The Nutcracker Suite: Dance of the Sugar-plum Fairy; Dance of the Mirlitons; Trepak Tchaikovsky     
Mae bale Tchaikovsky, sef The Nutcracker, yn stori hudol am Noswyl Nadolig lle caiff anrhegion eu dosbarthu mewn parti mawreddog. Mae merch ifanc, Clara, yn cael dol nutcracker bren gan ei hewythr dirgel. Y noson honno mae’r nutcracker yn dod yn fyw, yn trawsnewid ei hun yn dywysog, ac yn mynd â Clara ar daith freuddwydiol drwy wlad ryfeddol aeafol i Deyrnas y Melysion, lle mae cyfres o ddawnsfeydd lliwgar yn ei difyrru. Mae The Dance of the Sugar-Plum Fairy yn cael ei thynerwch tinciog gan y selesta; mae Dance of the Mirlitons yn hyfryd, gyda dwy ffliwt; ac yn olaf, mae’r Trepak yn Ddawns Gocsacaidd fywiog o Rwsia.

The Snow Maiden: Dance of the Tumblers Rimsky-Korsakov      
Mae’r gaeaf wedi rhoi sylw hir i gyfansoddwyr o Rwsia – nid oes syndod gan fod cymaint o’r wlad mor oer! Mae chwedloniaeth liwgar Rwsia hefyd wedi rhoi digon o ysbrydoliaeth, mewn gwaith fel opera Rimsky-Korsakov, The Snow Maiden. Y forwyn sydd dan sylw yn y teitl yw plentyn natur, merch y Gwanwyn a’r Barrug. Yn y darn Dance of the Tumblers, mae’r Tsar yn cael ei ddifyrru wrth iddo oruchwylio cystadleuaeth lle mae dynion yn cystadlu i fod yn ŵr i’r Forwyn Eira.

Fairytale Sleighride Adam Saunders                      
Yn Fairytale Sleighride, gan y cyfansoddwr cyfoes Adam Saunders, mae’n hawdd dychmygu’r ceffylau’n trotian a chlychau’r car llusg yn canu. Mae hi bron yn swnio fel trac sain i ffilm Disney – gallwch chi ei dychmygu ar gyfer yr olygfa yn Beauty and the Beast lle mae’r ddau gymeriad yn chwarae yn yr eira – a dyw hynny ddim yn syndod oherwydd mae Adam yn ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer llawer o ffilmiau a rhaglenni teledu. Ac o ran gwneud iddi swnio fel chwedl hud a lledrith, mae hynny’n rhannol oherwydd ei fod yn aml yn cadw’r offerynnau i chwarae’n uchel; gwrandewch ar y chwythbrennau bywiog a’r llinynnau uchel sionc. Yna, allwch chi glywed yr offeryn sy’n clychseinio? Dyna’r offeryn ar y llwyfan sy’n edrych fel piano ond selesta yw hwn mewn gwirionedd, sef yr offeryn rydyn ni newydd ei glywed yn y darn The Dance of the Sugar-Plum Fairy.  

The Polar Express: Concert suite Alan Silvestri,trefn. Brubaker
Mae ffilm Robert Zemeckis, sef The Polar Express, yn animeiddiad cyfrifiadurol a grëwyd yn 2004. Mae wedi’i gosod ar drên yn llawn o blant sy’n teithio i Begwn y Gogledd i ymweld â Sion Corn wrth iddo baratoi ar gyfer y Nadolig. Mae’n dipyn o glasur erbyn hyn ond cafwyd adolygiadau cymysg ar y dechrau, er i’r brif gân Believe, sy’n cael ei chanu gan Josh Groban, gael ei nomineiddio am Oscar y flwyddyn ganlynol. Mae rhan gerddorfaol y trac sain, gan Alan Silvestri, yn cysylltu’r gyfres o ganeuon clasurol sy’n darparu llawer o awyrgylch y ffilm ac mae wedi dod yn boblogaidd y tu hwnt i’w chyd-destun seliwloid a gasglwyd at ei gilydd yn y gyfres foethus hon.

Sleigh Ride Leroy Anderson                          
Wnewch chi ddim credu hyn ond cafodd y cyfansoddwr Americanaidd, Leroy Anderson, y syniad am ei gân, Sleigh Ride, o 1946 yn ystod … haf chwilboeth yn America! Er na wnaeth orffen ei hysgrifennu tan Chwefror 1948. Byddwch chi’n adnabod bas araf a churiad siglo nodweddiadol Oes y Swing yn yr 1940au, a’r ffaith eich bod chi eisiau dawnsio. Yn wir, petaech chi ar lawr dawnsio gyda band dawns yr 1940au o America, mae’n siŵr y byddech chi’n dawnsio’r Foxtrot. 

Nodiadau gan David Threasher a Charlotte Gardner

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?

Bywgraffiadau

Grant Llewellyn Arweinydd

Lun: Nicholas Joubard

Lun: Nicholas Joubard

Grant Llewellyn yw Cyfarwyddwr Cerdd Orchestre National de Bretagne a Chyfarwyddwr Cerdd Llawryfog Cerddorfa Symffoni North Carolina. Cafodd ei eni yn Nimbych-y-pysgod, De Cymru, ac enillodd Gymrodoriaeth Arwain i Ganolfan Gerdd Tanglewood ym Massachusetts lle bu’n gweithio gyda Leonard Bernstein, Seiji Ozawa, Kurt Masur ac André Previn.

Mae wedi arwain nifer o gerddorfeydd blaenllaw ac mae ganddo berthynas agos â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y mae wed’i harwain ar daith i Dde America, gan gynnwys Patagonia. 

Mae hefyd yn arweinydd opera dawnus, gyda repertoire yn amrywio o Handel i gerddoriaeth gyfoes.

Mae’n arwain prosiectau addysg ac allgymorth. Yn 2017, fe arweiniodd Brom ‘Hamddenol’ cyntaf erioed y BBC gyda BBC NOW, sef cyngerdd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer pobl ag awtistiaeth, nam ar y synhwyrau ac anawsterau cyfathrebu, ac anableddau dysgu.


Elin Llwyd
Cyflwynydd

Lun: Nathaniel Rosa

Lun: Nathaniel Rosa

Am 17 mlynedd mae Elin wedi gweithio fel actores, cantores, artist trosleisio a chyflwynwraig broffesiynol ar y llwyfan a’r sgrin. Yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn Pobol y Cwm ac, yn fwy diweddar efallai, am ei gwaith ar gyfresi drama Gwaith Cartref a 35 Awr ar S4C, Elin hefyd oedd llais Dashy yn yr addasiad Cymraeg o’r cartŵn Octonots.

Ymhlith ei hymddangosiadau ar lwyfan mae Tiger Bay, the Musical gan Cape Town Opera, ac mae ei pherfformiadau cerddorol a lleisiol yn cynnwys Tosca gyda Syr Bryn Terfel yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a Gŵyl Abu Dhabi. Dechreuodd gyrfa gyflwyno Elin ar Tag; rhaglen gylchgrawn fyw wythnosol i bobl ifanc, ac ers hynny mae hi wedi cyflwyno rhaglenni amrywiol ar gyfer S4C gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, yr Ŵyl Cerdd Dant, Band Cymru ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Mae Elin hefyd yn gyd-sylfaenydd ABC – Academi Berfformio Caerdydd, ac ABC y Fro, academi celfyddydau perfformio ar gyfer plant a phobl ifanc Caerdydd a Bro Morgannwg.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru mae’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r gerddorfa’n llysgennad ar ran cerddoriaeth Cymru ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae’r gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yng ngŵyl Proms y BBC ac yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae modd clywed ei chyngherddau ar y BBC yn rheolaidd: ar Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales. Mae’n gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddorol ledled Cymru i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr celfyddydol.Yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar, mae BBC NOW wedi parhau i recordio a ffilmio y tu ôl i ddrysau caeedig yn Neuadd Hoddinott y BBC ac mae wedi cynhyrchu fideos, traciau sain a chyngherddau digidol wythnosol sydd wedi cael eu gweld gan 14 miliwn o bobl ar draws y byd. 

Noddwr
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Fiolin Cyntaf
Nick Whiting ** + Blaenwr
Gwenllian Haf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Kerry Gordon-Smith
Carmel Barber
Georgina Leo
Zanete Uskane
Rebecca Totterdell
Anya Birchall
Richard Newington
Gary George-Veale

Ail Fiolin
Jane Sinclair #
Ros Butler
Sheila Smith
Beverley Wescott **
Michael Topping
Sellena Leony
Joseph Williams
Vickie Ringguth
Laurence Kempton
Elizabeth Whittam

Fiola
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Ania Leadbeater
Catherine Palmer
Dáire Roberts

Soddgrwth
Keith Hewitt #
Jessica Feaver **
Sandy Bartai
Rachel Ford
Alistair Howes
Kathryn Graham

Bas Dwbl
Ben Burnley ‡
Christopher Wescott
Claire Whitson
Richard Gibbons

Ffliwtiau
Michael Cox ‡
Natalie Sims

Piccolo
Jenny Farley
Obo 
Steve Hudson *
Obo/Cor anglais
Vanessa Howells
Clarinét
Lenny Sayers ** +

Clarinét Bas
Will White

Clarinét/Sacsoffon Tenor
Naomi Bayley

Basŵn

David Buckland
Chris Vale

Cyrn
Neil Shewan †
William Haskins
Andrew Littlemore
Neil Mitchell

Utgyrn
Andy Everton †
Robert Samuel
Emily Ashby

Trombonau
Donal Bannister *
Simon Wills

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro
Chris Stock *
Andrea Porter
Phil Hughes
Rhydian Griffiths

y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †

Piano/Celesta
Catherine Roe Williams ‡

Organ
Jane Watts


* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr
Lisa Tregale +
Rheolwr y Gerddorfa Zoe Poyser +
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Vicky James **
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweith-rediadau Kevin Myers
Gweinyddwr y Gerddorfa Rhonwen Jones **
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorth-wyydd Darlledu Emily Preston **
Pennaeth Marchnata a Chynulleid-faoedd Sassy Hicks +
Cydlynwyr Machnata Amy Campbell +, Caroline Richards **
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cynhyrchydd Addysg Beatrice Carey
Rheolwr y Corws a Chydlynydd Allgymorth Osian Rowlands **
Uwch Oruchwyliwr Sain Andrew Smillie, Simon Smith
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefana’n dilyn ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications