Delweddau o’r Eidal
Nos Wener 15/9/23, 7.30pm

FerruccioBusoni
Eine Lustspiel-Ouvertüre 8’
Grace Williams
Concerto i’r Ffidil 21’
EGWYL: 20 munud
Vincenzo Bellini
Norma – agorawd 6’
Felix Mendelssohn
Symffoni Rhif 4 yn A fwyaf, ‘Eidalaidd’ 27’
Geneva Lewis ffidil
Nil Vendittiarweinydd

Mae’r cyngerdd yng Nghasnewydd yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar Afternoon Concert ar BBC Radio 3 yn y dyfodol.
Cyflwyniad
Croeso cynnes i ddechrau tymor newydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, pan fyddwn ni’n ymhyfrydu yng nghynhesrwydd yr Eidal. Braf yw gallu croesawu Nil Venditti yn ôl i’r gerddorfa, a bydd y cyngerdd yn dechrau gydag agorawd sy’n dangos ochr anarferol o chwareus i’r piano-gyfansoddwr mawr o’r Eidal, Busoni. Mae’r agorawd sy’n lansio’r ail hanner – sef yr un ar gyfer Norma gan Bellini – yn llawer tywyllach, fel sy’n gweddu i’r drasiedi sy’n datblygu yn ystod yr opera.
Ychydig flynyddoedd ar ôl Norma Bellini, roedd Mendelssohn yn cwblhau ei Bedwaredd Symffoni, sef mawlgan i bopeth Eidalaidd, ac sy’n anarferol o ran y ffordd y mae ei strwythur yn symud o fugeilgerdd i’r tywyll a dwys.
Mae’r concerto ar gyfer y rhaglen yn dod â ni yn nes adref, sef: Concerto Grace Williams i’r Ffidil. Mae hwn yn waith sy’n cael y sylw y mae’n ei llawn haeddu erbyn hyn, ac mae’n bleser gennym groesawu Geneva Lewis, Artist Cenhedlaeth Newydd presennol BBC Radio 3 i berfformio’r unawd.
Mwynhewch!
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Ferruccio Busoni (1866–1924)
Eine Lustspiel-Ouvertüre (‘Agorawd Comedi’)
(1897, diw. 1904)

Roedd Ferruccio Busoni yn fwyaf adnabyddus yn ystod ei oes fel pianydd disglair, ac mae’n cael ei gofio’n bennaf heddiw am ei drawsgrifiadau piano gwych o weithiau gan gyfansoddwyr eraill, yn enwedig J. S. Bach, a oedd yn rhywun roedd ganddo barch mawr tuag ato. Ond mae cyfansoddiadau gwreiddiol Busoni bob amser wedi cael eu cefnogwyr selog, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi ennyn edmygedd ar raddfa ehangach ac wedi dod yn fwy adnabyddus, yn enwedig y darnau beiddgar, ac, ar adegau, arloesol, a gyfansoddwyd ganddo yn nau ddegawd olaf ei oes, darnau sy’n gallu agor y drws ar fydoedd newydd a hynod.
Byd gwahanol iawn sy’n cael ei ddatgloi yn Eine Lustspiel-Ouvertüre gan Busoni, a ysgrifennwyd yn 1897 a’i diwygio yn 1904. Nid yw’n ymddangos bod gan Busoni unrhyw ddrama gomedi benodol mewn golwg pan gyfansoddodd hi; yn hytrach, mae’n edrych yn ôl gyda llygaid y Rhamantydd ar agorawdau hudolus, llawn asbri Mozart, yn enwedig yr agorawd i Briodas Figaro. Mae Eine Lustspiel-Ouvertüre yn rhannu peth o gyffro egnïol agorawd Mozart, ynghyd â’i hymdeimlad o obaith a disgwyliad – er fod hyn yn gymaint o hwyl, rhagflas o rywbeth gwell i ddod ydyw. Ond yn wahanol i Mozart, mae agorawd Busoni yn newid trywydd ac yn ein cludo i dir tipyn tywyllach wrth wraidd y darn. Mae’r themâu agoriadol yn dychwelyd, gan ddod ag ychydig o asbri’r adran gyntaf gyda nhw, ond mae’n amlwg nad yw’r gomedi hon yn un sy’n troi ei chefn yn llwyr ar ochr dywyllach bywyd.
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Grace Williams (1906–77)
Concerto i’r Ffidil (1950)

1 Liricamente
2 Andante sostenuto –
3 Allegro con spirito
Geneva Lewis ffidil
Cafodd Concerto i’r Ffidil gan Grace Williams ei pherfformio am y tro cyntaf ar 30 Mawrth 1950, a hynny gan y fiolinydd o Gymru, Granville Jones a Cherddorfa Gymreig y BBC, dan arweiniad Mansel Thomas, mewn cyngerdd a ddarlledwyd yn fyw ar Wasanaeth Cartref Cymru y BBC.
Roedd Williams wedi bod yn byw yn Llundain yn ystod y rhyfel ond yn 1947 penderfynodd ddychwelyd adref i’r Barri. Ymgymerodd â nifer o swyddi cerddorol gwahanol, a hi oedd y gyfansoddwraig gyntaf o Brydain i ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer ffilm pan ddarparodd y sgôr ar gyfer Blue Scar yn 1949.
Yn yr un flwyddyn, dywedodd Williams wrth ei ffrind, Enid Parry, ei bod yn dyheu am gael cyfansoddi Concerto i’r Ffidil a allai fynegi’r ‘delynegiaeth’ a oedd wedi bod yn cronni ynddi yn y misoedd blaenorol. Y cymhelliad grymus hwnnw oedd wedi diffinio siâp y darn. Yn wahanol i’r patrwm symudiadau araf-cyflym-araf arferol, mae’r Concerto yn agor gyda symudiad araf, sy’n cael ei ddilyn gan symudiad araf canolog a diweddglo cyflym.
Mae’r symudiad Liricamente (yn delynegol) agoriadol ar ffurf rhapsodi estynedig. Mae rhannau sy’n llawn dwyster hiraethus – gan gynnwys y cadenza i’r unawdydd – gydag ysgogiad telynegol a rhamantaidd y symudiad yn parhau i fod yn amlwg o hyd.
Mewn cyferbyniad â hyn, mae’r Andante sostenuto yn ddigynnwrf ac yn fyfyriol. Defnyddir cymal o’r emyn-dôn YrHen Ddarby fel man cychwyn i’r symudiad, sef alaw yr oedd wedi’i defnyddio yn ei sgôr ar gyfer Blue Scar, er bod y dilyniant penodol hwn wedi cael ei dynnu o fersiwn derfynol y ffilm. Mae’r unawdydd a’r gerddorfa yn llafarganu, yn datblygu ac yn ymhelaethu ar agweddau ar yr alaw gan greu tirlun cerddorol hudolus.
Mae’r hud yn cael ei dorri gan y diweddglo Allegro, sy’n dilyn heb saib. Mae hwn yn ddramatig, ac yn cynnwys cyfnewidiadau ffraeth rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa a cadenza unigol gwych. Ond hyd yn oed yn y diweddglo sionc hwn, nid yw natur delynegol gyffredinol y concerto wedi mynd yn llwyr.
Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias
EGWYL: 20 munud
Vincenzo Bellini (1801–35)
Norma (1831) – agorawd

Cafodd opera Bellini, Norma, ddechrau digon sigledig pan berfformiwyd hi am y tro cyntaf yn nhŷ opera La Scala ym Milan yn 1831. ‘Fiasco! Fiasco! Solemn fiasco!’ Dyna oedd geiriau Bellini wrth ysgrifennu mewn gwewyr at ei gyfaill, y cyfansoddwr Francesco Florimo. Ond yna gwelwyd y newid barn mwyaf annisgwyl yn holl hanes opera. Yr ail noson, roedd y theatr yn llawn, ac roedd fel petai’r gynulleidfa wedi mwynhau Norma yn fwy o lawer. Cyn hir, roedd yn llwyddiant ysgubol, ac yn cyfareddu cynulleidfaoedd ledled Ewrop. Heddiw, mae aria hardd Act 1 ‘Casta diva’ (‘Dduwies ddilychwin’), nad oedd wedi gadael argraff dda o gwbl ar y gantores Giuditta Pasta yn yr ymarfer, yn un o arias mwyaf adnabyddus yr holl operâu Eidalaidd - mae pobl sydd erioed wedi tywyllu drws tŷ opera hyd yn oed yn gyfarwydd â hi ac yn ei charu.
Mae plot Norma yn stori opera fawreddog glasurol sy’n ymwneud â thriongl cariad, wedi’i gosod mewn cyfnod hynafol, sy’n mynd o chwith, gan orffen â marwolaeth andros o hir yr arwres a’i chariad. Pwrpas yr agorawd yw gosod yr olygfa a chael y gynulleidfa yn yr hwyliau ar gyfer yr hyn sydd i ddod. Mae enghraifft gryno a gafaelgar Bellini yn gwneud hyn yn wych, yn ogystal â rhoi awgrym o rai o brif alawon yr opera. Wrth iddo wibio tuag at ei ddiweddglo cyffrous, mae’n hawdd dychmygu’r llen yn codi, a’r ddrama drasig hyfryd hon yn dechrau datblygu.
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Felix Mendelssohn (1809–47)
Symffoni Rhif 4 yn A fwyaf, Op. 90, ‘Eidalaidd’ (1833)

1 Allegro vivace
2 Andante con moto
3 Con moto moderato
4 Saltarello: Presto
Ei deithiau drwy Ewrop rhwng 1829 a 1831 yn nhraddodiad y Daith Fawr oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer Pedwaredd Symffoni Mendelssohn. Byddai gŵr ifanc cyfoethog yn cwblhau ei addysg drwy ymweld â holl uchafbwyntiau diwylliannol Ewrop. Dechreuodd – yn anghonfensiynol – gydag ymweliad tair wythnos â’r Alban yn 1829, a dyma oedd wedi ysbrydoli ei Agorawd yr Hebrides a’i Symffoni ‘Yr Alban’. Ond, gydag anogaeth yr awdur blaenllaw, Johann Wolfgang von Goethe, yr oedd Mendelssohn yn ei ystyried yn ffrind, a’i athro cyfansoddi Carl Friedrich Zelter, cychwynnodd am yr Eidal, un o’r cyrchfannau mwy traddodiadol, ym mis Hydref 1830. Treuliodd 10 mis yn y wlad, yn teithio o Fenis i Naples drwy Bologna, Fflorens a Rhufain, ac yna’n ôl adref eto drwy Genoa a Milan.
Os oedd ei daith yn yr Alban yn ymwneud â thirweddau bygythiol a phrudd, niwl a hanes gwaedlyd, roedd ei daith yn yr Eidal, wrth iddo ysgrifennu adref at ei rieni, yn ymwneud â goleuni, haul a hapusrwydd: ‘Dyma’r Eidal! Ac rwyf nawr wedi dechrau ar y daith yr wyf wastad wedi breuddwydio amdani. Ac rydw i wrth fy modd.’
Neilltuodd amser yn ystod ei daith i gynllunio’r hyn a alwodd, mewn llythyr at ei chwaer Fanny, ‘y darn mwyaf llawen yr wyf erioed wedi’i wneud’, gan gwblhau ei Symffoni ‘Eidalaidd’ yn ôl adref yn Berlin ar 13 Mawrth 1833. Bu’n llwyddiant yn syth yn ei berfformiad cyntaf yn Llundain ddau fis yn ddiweddarach.
Disgrifiodd Mendelssohn y symffoni fel ‘awyr las yn A fwyaf’, ac mae optimistiaeth yn sicr yn cael ei chrynhoi yn thema agoriadol sionc y symudiad cyntaf, er bod ei hadran ddatblygu ganolog yn dod â rhywfaint o ddeunydd tywyllach, mwy anrhagweladwy.
Ysbrydolwyd yr ail symudiad araf gan orymdeithiau crefyddol a wyliodd Mendelssohn yn Rhufain: mae’n cyferbynnu alaw nobl y chwythbrennau a’r fiolau gyda llinell fas araf, sy’n pylu i’w therfyn fel pe bai’r orymdaith wedi symud i’r pellter.
Yn dilyn minuet trydydd symudiad cain (ynghyd â galwadau corn pell yn ei adran triawd ymladd ysgafn), mae Mendelssohn yn cloi gyda diweddglo sy’n cyfuno dwy ddawns Eidalaidd: yr saltarello o Rufain a’r tarantella o Napoli.
Mae’r ‘Eidalaidd’ yn un o’r ychydig symffonïau yn y repertoire sy’n dechrau gyda phositifrwydd llachar y cywair mwyaf ac yn gorffen yn y cywair lleiaf. Mae egni chwyrlïol y diweddglo, fodd bynnag, ochr yn ochr â chof pruddglwyfus o alaw agoriadol y symffoni ychydig cyn y diwedd, yn sicrhau diweddglo ysgogol, braidd yn ddryslyd i’r darn.
Nodyn y rhaglen © David Kettle
Digwyddiadau eraill a all fod at eich ddant ...
/9/23, 7.30pm
Antony Hermus yn arwain …
Nos Wener 22/9/23, 7.00pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Sadwrn 23/9/23, 3.00pm
Hafren, Y Drenewydd
Wagenaar Agorawd‘Cyrano de Bergerac’
Mozart Concerto i'r Obo
Sibelius Symffoni Rhif 2
Antony Hermus arweinydd
Steven Hudson obo
PERSAIN | LLAWEN | BYWIOG
Mae Antony Hermus – yr arweinydd bywiog, carismatig ac egnïol o’r Iseldiroedd – yn ymuno â BBC NOW yng Nghaerdydd a’r Drenewydd fis Medi yma gyda rhaglen amrywiol o Wagenaar, Mozart a Sibelius.
Ysgrifennwyd un o ffefrynnau Hermus, sef portread cerddorol Johan Wagenaar – Cyrano de Bergerac – ym 1905 ac mae’n rhamantus iawn o ran arddull. Mae’r portread hwn o Bergerac yn dangos elfennau o arwriaeth, hiraeth cain a harmoni rhyfeddol, wedi’u cyfuno â llawenydd, hiwmor a dychan. Mae’r portread hefyd yn dangos elfen o ysbryd uniongyrchol a di-ben-draw. Mae Steven Hudson, prif Obo BBC NOW, yn camu ymlaen i chwarae’r solo yng Nghoncerto i’r Obo Mozart. Yna, byddwn yn clywed Ail Symffoni Sibelius, sy’n symffoni poblogaidd ym mhedwar ban byd. Dyma’n wir feistr wrth ei waith.
CoLaboratory: Fiona Monbet
Nos Iau 19/10/23, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Ibert Divertissement
Satie La belle excentrique
Tailleferre Petite Suite
Milhaud Le boeuf sur le toit
Bernstein Three Dance Episodes from ‘On the Town’
Monbet Suite for Orchestra and Jazz Trio première byd
Fiona Monbet ffidil/cyfarwyddwr
Zacharie Abraham bas dwbl
Auxane Cartigny piano
Philippe Maniez drymiau
BYWIOG | PERSONOL | LLESMEIRIOL
Gan gyfuno cerddoriaeth werin draddodiadol a jazz Americanaidd â’i cheinder Ffrengig nodweddiadol, mae’r feiolinydd a’r cyfansoddwr Fiona Monbet yn ymuno â BBC NOW yn ein cyngerdd CoLaboratory cyntaf ar gyfer tymor 2023/24.
I agor y tymor, byddwn yn cyflwyno rhaglen wedi’i hysbrydoli gan draddodiadau Bwrlesg Ffrainc yn y 20au a’r 30au. Roedd gan y cyfansoddwyr Jacques Ibert, Erik Satie, Germaine Tailleferre a Darius Milhaud i gyd un peth yn gyffredin - ochr yn ochr â’u cyfansoddiadau mwy traddodiadol, roeddent i gyd yn gyfansoddwyr cerddoriaeth ffilm cynnar gwych, felly nid yw’n syndod bod eu cerddoriaeth yn llawn asbri ac mor hyfryd o ddarluniadwy.
Yn yr ail hanner, byddwn yn gadael Ffrainc ac yn teithio i strydoedd Efrog Newydd a jazz, a chyfansoddwr ffilm disglair arall, Leonard Bernstein, gyda’i ‘Three Dance Episodes’ o’r sioe On the Town, cyn clywed y perfformiad cyntaf erioed o waith newydd Fiona Monbet ar gyfer ffidil, bas dwbl, piano, drymiau a cherddorfa.
Bydd Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i osod mewn dull cabaret, felly dewch â’ch diod i mewn a mwynhewch y cyngerdd hwn mewn awyrgylch clyd.
Scheherazade
Nos Sadwrn 11/11/23, 7.30pm
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
Dukas Prentis y Dewin
Grieg Concerto i'r Piano
Rimsky-Korsakov Scheherazade
Lionel Bringuier arweinydd
Zee Zee piano
HUDOLUS | SWYNOL | SYFRDANOL
Mae’r cyngerdd hwn yn llawn hud a lledrith, gan ddechrau gyda Prentis y Dewin gan Dukas. Mae'r stori gerddorol ryfeddol hon yn darlunio ysgub hud a'r anhrefn sy’n codi yn ei sgil. Mae’n gwbl gyfareddol!
O’r cyflwyniad nodweddiadol i ansawdd gwreiddiol y gwaith ysgrifenedig, mae’n hawdd deall pam fod Concerto Grieg i'r Piano yn cael ei ystyried yn gymaint o gampwaith; gyda haen ryfeddol o feistrolaeth a hunaniaeth Norwyaidd gadarn, mae cydymdeimlad cryf y cyfansoddwr â chaneuon gwerin yn hollbresennol. Yna mae Rimsky-Korsakov yn cymryd yr awenau gyda’i gerddoriaeth llawn antur a swyn yn ei fersiwn ef o Fil ac Un o Nosweithiau gan Scheherazade. Mae’r gwaith godidog hwn yn llawn lliw ac asbri rhythmig a naws y Dwyrain.
Archwiliadau Americanaidd
Nos Wener 3/5/24, 7.30pm
Glan yr Afon, Casnewydd
Nos Sadwrn 4/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Barber Adagio for Strings
Barber Concerto i'r Ffidil
Ives Symffoni Rhif 2
Ryan Bancroft arweinydd
Benjamin Baker ffidil
EMOSIYNOL | DYLANWADOL | SYFRDANOL
Ymunwch â ni i ddathlu cerddoriaeth glasurol Americanaidd gyda’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, a aned yn Los Angeles fis Mai eleni! Mae Adagio for Strings Barber, sy’n boblogaidd ledled y byd, yn un o’r darnau mwyaf nodedig yn y repertoire cerddorfaol a dyma’i waith enwocaf mae’n siŵr – caiff ei ddefnyddio mewn ffilm a theledu, ac mae’n deimladwy am iddo gael ei berfformio yn angladd Roosevelt ac yn dilyn llofruddiaeth JFK, rydych chi’n siŵr o fod wedi clywed y darn eiconig hwn!
Mae ei goncerto i’r ffidil yn llai adnabyddus, ond yr un mor drawiadol. Ysgrifennwyd yn y 1930au pan oedd digyweiredd yn chwilio am sylw, a chafodd yr alaw draddodiadol, y rhythm, yr harmoni a’r offeryniaeth o gerddoriaeth Barber ei pherfformio gyda mwy na brwdfrydedd ysgafn. Mae themâu gorfoleddus a thymherus weithiau’n dominyddu, gyda naws yr orient, gwerin a chaledni Rwsiaidd; mae cydamseriad a gwrth-rhythmau arbennig yn sbarduno naratif cyffrous ac mae meistrolaeth yn drech ar bob tro. I berfformio’r unawd, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r fiolinydd carismataidd, Ben Baker.
Rydym yn parhau i archwilio cerddoriaeth Charles Ives gyda Ryan Bancroft, gyda’i Ail Symffoni. Yn enwog am ddyfynnu alawon enwog America, y symffoni hon yw ei waith pwysig cyntaf sy’n archwilio’r benthyca hwn yn llawn, wedi’i gyfuno â dylanwadau Ewropeaidd – cipolwg ar ddod â’i blentyndod a’i fywyd fel oedolyn at ei gilydd.
Bywgraffiadau
Nil Venditti arweinydd

Llun: Alessandro Bertani
Llun: Alessandro Bertani
Mae’r arweinydd Eidalaidd/Twrcaidd, Nil Venditti, yn prysur sefydlu cysylltiadau â cherddorfeydd ac ensembles mawr ledled y byd. Mae uchafbwyntiau’r tymhorau diweddar yn cynnwys cydweithio â Cherddorfa Opera Paris, Deutsche Kammerphilharmonie Bremen, Dresden Philharmonic, Cerddorfa Symffoni Castilla y León, Cerddorfa Tonhalle Zurich, Cerddorfa Siambr Stuttgart ac Opera Cenedlaethol Iwerddon, yn ogystal â Cherddorfa della Toscana, y bu’n Brif Arweinydd Gwadd rhwng mis Mehefin 2020 a mis Mai 2022.
Y tymor hwn, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Konzerthaus Berlin, y BBC, Hiroshima, Lahti a Tyrolean, Tapiola Sinfonietta, Opera Frenhinol Sweden a cherddorfeydd Ffilharmonig Nagoya a Brenhinol. Mae’n parhau â’i pherthynas â’r gerddorfa heno, yn ogystal â Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a’r Royal Northern Sinfonia, ac mae’n dychwelyd i Opera Stuttgart.
Mae ganddi gysylltiad cryf â Haydn, Mozart, Mendelssohn a Beethoven, ac mae’n ehangu i repertoire Rhamantus. Mae ei diddordeb mewn rhaglenni cyfoes wedi golygu ei bod yn canolbwyntio ar weithiau Fazil Say, Fabien Waksman, Lepo Sumera a Caroline Shaw. Yn y tŷ opera, mae ei repertoire yn amrywio o Mozart i Peter Maxwell Davies.
Mae Nils Venditti yn hyrwyddo dod o hyd i brofiadau cynhwysol ar gyfer cynulleidfaoedd newydd, gan arwain Concerto Nicola Campogrande i Gynulleidfaoedd ac opera realiti rhithwir cyntaf Opera Cenedlaethol Iwerddon Out of the Ordinary.
Hyfforddodd Nil Venditti i arwain ym Mhrifysgol Celfyddydau Zurich o dan arweiniad Johannes Schlaefli, yn ogystal â mynychu’r Academi Arwain sy’n gysylltiedig â Gŵyl Gerdd Pärnu o dan Paavo Järvi, Neeme Järvi a Leonid Grin. Roedd hyn yn dilyn astudiaethau soddgrwth ac arwain yn yr Eidal.
Geneva Lewis ffidil

Llun: Motti Fang-Bentov
Llun: Motti Fang-Bentov
Mae’r feiolinydd, Geneva Lewis, a aned yn Seland Newydd, wedi meithrin enw da fel cerddor y mae ei pherfformiadau’n siarad o’r galon. Mae hi’n Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 ar hyn o bryd ac mae hi hefyd wedi derbyn Gwobr Ymddiriedolaeth Borletti-Buitoni 2022 a Grant Gyrfa Avery Fisher 2021, ymysg gwobrau eraill.
Ers ei hymddangosiad cyntaf fel unawdydd yn 11 oed gyda’r Pasadena POPS, mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd gan gynnwys Cerddorfa Siambr Orpheus, Auckland Philharmonia, Symffoni Gogledd Carolina, a Cherddorfa Sarasota. Fis diwethaf, ymddangosodd am y tro cyntaf yng nghyfres Proms y BBC gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Jaime Martín. Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys rhagor o berfformiadau gyda BBC NOW, a pherfformio am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni’r BBC a BBC yr Alban, Orchestre National de Bordeaux Acuitaine a Kremerata Baltica, lle mae’n perfformio Concerto grosso Rhif 1 Schnittke gyda Gidon Kremer.
Fel cerddor siambr, mae hi wedi cydweithio â cherddorion blaenllaw fel Jonathan Biss, Glenn Dicterow, Miriam Fried, Kim Kashkashian, Gidon Kremer, Marcy Rosen, Syr András Schiff a Mitsuko Uchanda, ac mae hi wedi perfformio mewn lleoliadau a gwyliau fel Neuadd Wigmore Llundain, Concertgebouw Amsterdam, Gŵyl Gerddoriaeth Marlboro, Gŵyl Kronberg, Cymdeithas Gerddoriaeth Siambr Philadelphia, Ravinia a Chamberfest Cleveland.
Astudiodd gyda Miriam Fried yn New England Conservatory a, chyn hynny, gydag Aimée Kreston yn Ysgol Celfyddydau Perfformio Colburn.
Ar hyn o bryd mae Geneva Lewis yn perfformio ar ffidil gyfansawdd gan Giovanni Battista Guadagnini, c.1776 yn hael ar fenthyg gan ymddiriedolaeth elusennol.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol.
Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.
Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau yn ogystal ag yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.
I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Nick Whiting blaenwr
Martin Gwilym-Jones is-arweinydd
Fiona McCapra
Terry Porteus
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Zanete Uskane
Ruth Heney
Alejandro Trigo
Emilie Godden
Carmel Barber
Ail Ffidlau
Emma Parker ‡
Ros Butler
Sheila Smith
Roussanka Karatchivieva
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Ilze Abola
Michael Topping
Lydia Caines
Katherine Miller
Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Laura Sinnerton
Ania Leadbeater
Natalia Solis Paredes
Annie-May Page
Soddgrythau
Hannah Sloane‡
Keith Hewitt #
Jessica Feaver
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
Catriona MacKinnon ‡
Amy McKean †
Sarah-Jayne Porsmoguer
Cor anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †
Clarinetau
Robert Plane ‡
Lenny Sayers
Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Jo Shewan
Cyrn
Neil Shewan †
Meilyr Hughes
John Davy
Tom Findlay
Ed Lockwood
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Trombonau
Donal Bannister*
Stephen Turton
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Oliver Browne
Timpani
Christina Slominska ‡
Offerynnau Taro
Phil Hughes ‡
Phil Girling
Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr Y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol Y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd Y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr Y Gerddorfa Eleanor Hall
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid A Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd Y Gerddorfa Eugene Monteith **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwy-ydd Darlledu Jacob Perkins
Pennaeth Marchnata A Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan A Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan A Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentisiaid BBC Cymru Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications

