

Missa solemnis
Nos Iau 10/4/25, 7.30pm
Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd
Nos Wener 11/4/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Ludwig van Beethoven
Missa solemnis 81’
Ni fydd egwyl
Andrew Manze arweinydd
Carolyn Sampson soprano
Sophie Harmsen mezzo-soprano
Ed Lyon tenor
Darren Jeffery bas-bariton
BBC National Chorus of Wales
Caiff y cyngerdd yng Nghaerdydd ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 yn Radio 3 in Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu trwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd wrando ar bodlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Croeso i’n cyngerdd heno, a phleser o’r mwyaf yw croesawu Andrew Manze i arwain un o greadigaethau mwyaf y byd cerddoriaeth glasurol: Missa solemnis mawreddog Beethoven.
Dyma waith y bu’r cyfansoddwr, ac yntau bellach yn hollol fyddar, yn llafurio arno am flynyddoedd lawer, cyn ei gwblhau o’r diwedd ym 1823, a’r perfformiad cyntaf yn dilyn flwyddyn yn ddiweddarach. Mae’n sefyll ochr yn ochr â Dioddefiannau mawr J.S. Bach fel pinacl ym myd cerddoriaeth ddefosiynol, ac ym mhob symudiad o’r Offeren mae Beethoven yn creu naws wahanol, yn amheugar, ymbilgar a chadarnhaol yn eu tro.
Yn ymuno ag Andrew Manze a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar y llwyfan bydd lleisiau torfol Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a phedwar unawdydd o fri: Carolyn Sampson, Sophie Harmsen, Ed Lyon a Darren Jeffery.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Ludwig van Beethoven (1770–1827)
Missa solemnis(1819–23)

1 Kyrie
2 Gloria
3 Credo
4 Sanctus
5 Agnus Dei
O ’r galon – eled eto – i’r galon’, ysgrifennodd Beethoven ar dudalen deitl ei ‘Offeren Urddasol’. Mae’n rhaid bod rhyw arwyddocâd i’r ffaith iddo ddewis arysgrifio’r geiriau hyn ar y gosodiad aruthrol, rhyfedd o enigmatig hwn o’r Offeren Ladin. Er iddo gael ei fagu yn yr Eglwys Gatholig, doedd Beethoven ddim yn grediniwr uniongred digwestiwn. Roedd cyffredinoliaeth grefyddol y Seiri Rhyddion wedi creu argraff arno hefyd, ynghyd â delfrydiaeth drosgynnol Plato, a hyd yn oed Bhagavad-Gita yr Hindŵ yn ddiweddarach. Os yw’n cyfarch Duw fel ‘Tad cariadus’ yn ei Nawfed Symffoni gorawl, roedd yn amlwg yn cael trafferth gyda’r syniad hwnnw ar adegau. Pam mae’r Duw ‘cariadus’ hwnnw wedi ei droi’n fyddar – yr eironi creulonaf, does bosib? A thybed a glywir adlais o’i agwedd amwys tuag at ei dad meddw, gormesol ei hun?
Yn sicr, cafodd Beethoven drafferth gyda’r Missa ei hun. Fe’i cychwynnodd ym 1819, ar gyfer gorseddiad ei noddwr ffyddlon a’i ffrind, yr Archddug Rudolf, yn Archesgob Olmütz yn 1820. Ond pan ddaeth y diwrnod mawr, doedd Beethoven ddim wedi cyrraedd dim pellach na’r Credo. Cymerodd dair blynedd arall iddo gwblhau’r sgôr. Mae’r llawysgrif a’r brasluniau helaeth yn dyst i gythrwfl creadigol, ac ar adegau mae’r gerddoriaeth ei hun yn swnio fel cofnod o frwydr ysbrydol enbyd. Gwir, mae’r Kyrie agoriadol (a farciwyd ‘Gyda defosiwn’) yn drawiadol yn bennaf am ei ymataliaeth barchus yn hytrach nag am ddrama gorchestol, ond unig effaith hynny yw peri bod agoriad ffrwydrol y Gloria yn fwy gwefreiddiol fyth. Caiff y corws ei gario ar ymchwydd ton gerddorfaol lachar, ond yng nghalon y symudiad daw’r ‘Qui tollis peccata mundi’ (‘Tydi sy’n tynnu ymaith bechodau’r byd’) arafach, a Beethoven yn ychwanegu ‘O!’ bersonol at y gair ‘miserere’ (‘trugarha’).
Yna daw’r Credo yn fyw gydag atgof o fawredd Sonata’r ‘Hammerklavier’ (1817–18), a gyflwynwyd hefyd i’r Archddug Rudolf. Gyda’r geiriau ‘Et incarnatus’ (‘Ac a wnaed yn gnawd’), mae’r tempo yn gostwng a chlywir ffliwt unigol yn hofran fry, cyflead hudol o’r Ysbryd Glân yn hofran uwchben Mair wrth genhedlu Crist. Mae Beethoven yn rhuthro wedyn trwy’r set nesaf o haeriadau dogmatig, gan ailadrodd ‘Credo, credo’ yn ddiamynedd bron, nes daw’r ffiwg ar y geiriau ‘Et vitam venturi saeculi, Amen’ (A bywyd y byd sydd i ddyfod, Amen’) i ddatgelu calon y mater, yn enwedig yn y diweddglo tawel, hudolus.
Mae Beethoven yn cyfuno’r adrannau Sanctus a Benedictus traddodiadol yn un symudiad. Ar ôl y cyflwyniad ‘defosiynol’ cryno i’r Sanctus, daw gwrthbwynt o ddawnsio llawen, Bachaidd, cyn i Praeludium tawel yn null organ gyflwyno’r Benedictus, sy’n pylu wrth i ffidil a ffliwt unigol uchel ganu alaw, yn fynegiant hyfryd o bur o ‘fendigeidrwydd’.
Yn y diwedd, gyda’r Agnus Dei, daw’r tensiynau a blagiodd y Missa solemnis gyhyd yn rymus o eglur. Ar ôl y weddi dywyll am drugaredd, dan arweiniad y baswr, bywiocáu wna’r gerddoriaeth gyda’r geiriau ‘Dona nobis pacem’ (‘Dyro inni dangnefedd’). Ond toc clywn ffanfferau rhyfelgar bygythiol, ac mae gweddïau’r unawdwyr am dangnefedd yn mynd yn fwy a mwy taer. Maes o law, daw heddwch yn ei ôl, ond eto mae’r timpani yn dal i’w clywed yn y pellter tua’r diwedd un – mae’r bygythiad yn dal yno. Mae’n rhoi naws ryfedd o agored i ddiweddglo’r Missa solemnis. Mae ffydd ac amheuaeth yn cyd-fodoli. Mewn oes o ffwndamentaliaeth filwriaethus, yn wleidyddol yn ogystal â chrefyddol, mae’n neges amserol.
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Missa solemnis
Testun
1 Kyrie (Assai sostenuto. Mit Andacht [Gyda defosiwn])
Kyrie eleison.
(Andante assai ben marcato)
Christe eleison.
(Tempo I)
Kyrie eleison.
2 Gloria (Allegro vivace)
Gloria in excelsis Deo
Et in terra pax hominibus bonae voluntatis.
Laudamus te, benedicimus te,
Adoramus te, glorificamus te.
(Meno allegro)
Gratias agimus tibi propter magnam gloriam tuam.
(Tempo I)
Domine Deus, Rex coelestis,
Deus Pater omnipotens.
Domine Fili unigenite Jesu Christe.
Domine Deus, Agnus Dei, Filius Patris.
(Larghetto)
Qui tollis peccata mundi, miserere nobis.
Qui tollis peccata mundi, suscipe deprecationem nostram.
Qui sedes ad dexteram Patris, miserere nobis.
(Allegro maestoso – Allegro, ma non troppo e ben marcato – Poco più allegro)
Quoniam tu solus sanctus,
Tu solus Dominus,
Tu solus Altissimus, Jesu Christe,
Cum Sancto Spiritu, in gloria Dei Patris.
Amen.
(Presto)
Gloria in excelsis Deo.
3 Credo (Allegro ma non troppo)
Credo in unum Deum,
Patrem omnipotentem,
Factorem coeli et terrae,
Visibilium omnium et invisibilium.
Credo in unum Dominum Jesum Christum,
Filium Dei unigenitum.
Et ex Patre natum ante omnia saecula.
Deum de Deo, lumen de lumine,
Deum verum de Deo vero.
Genitum, non factum,
Consubstantialem Patri,
Per quem omnia facta sunt,
Qui propter nos homines
Et propter nostram salutem
Descendit de coelis.
(Adagio)
Et incarnatus est de Spiritu Sancto ex Maria virgine;
(Andante)
Et homo factus est.
(Adagio espressivo)
Crucifixus etiam pro nobis:
Sub Pontio Pilato passus,
Et sepultus est.
(Allegro)
Et resurrexit tertia die, secundum scripturas.
(Allegro molto)
Et ascendit in coelum:
Sedet ad dexteram Patris.
Et iterum venturus est cum gloria
Judicare vivos et mortuos:
Cujus regni non erit finis.
(Allegro ma non troppo un poco maestoso – Allegretto ma non troppo – Allegro con moto – Grave)
Credo in Spiritum Sanctum, Dominum et vivificantem:
Qui cum Patre Filioque procedit.
Qui cum Patre et Filio simul adoratur et conglorificatur:
Qui locutus est per prophetas;
Credo in unam sanctam catholicam et apostolicam ecclesiam.
Confiteor unum baptisma in remissionem peccatorum.
Et exspecto resurrectionem mortuorum.
Et vitam venturi saeculi.
Amen.
4 Sanctus (Adagio. Mit Andacht [Gyda defosiwn])
Sanctus, sanctus, sanctus,
Dominus Deus Sabaoth.
(Allegro pesante – Presto)
Pleni sunt coeli et terra gloria tua.
Osanna in excelsis.
Praeludium (Sostenuto ma non troppo)
(Andante molto cantabile e non troppo mosso)
Benedictus qui venit in nomine Domini.
Osanna in excelsis.
5 Agnus Dei (Adagio)
Agnus Dei, qui tollis peccata mundi,
Miserere nobis.
(Allegretto vivace)
Dona nobis pacem.
(Allegro assai – Tempo I – Presto – Tempo I)
Agnus Dei, qui tollis peccata mundi,
Miserere nobis.
Dona nobis pacem.
Cyfieithiad
1 Kyrie
Arglwydd, trugarha.
Grist, trugarha.
Arglwydd, trugarha.
2 Gloria
Gogoniant yn y goruchaf i Dduw
Ac ar y ddaear tangnefedd, ewyllys da i ddynion.
Moliannwn di, bendithiwn di,
Addolwn di, gogoneddwn di.
Diolchwn i ti am dy fawr ogoniant.
O Arglwydd Dduw, Frenin nefol,
Duw Dad hollalluog.
O Arglwydd Iesu Grist, yr uniganedig Fab.
O Arglwydd Dduw, Oen Duw, Fab y Tad.
Tydi sy’n tynnu ymaith bechodau’r byd, trugarha wrthym.
Tydi sy’n tynnu ymaith bechodau’r byd, derbyn ein gweddi.
Tydi sy’n eistedd ar ddeheulaw Duw Dad, trugarha wrthym.
Oblegid ti yn unig sy’n sanctaidd,
Ti yn unig yw’r Arglwydd,
Ti yn unig, O Grist, gyda’r Ysbryd Glân, sydd Oruchaf,
yng ngogoniant Duw Dad.
Amen.
3 Credo
Credaf yn un Duw,
y Tad hollalluog,
gwneuthurwr nef a daear,
a phob peth gweledig ac anweledig.
Credaf yn un Arglwydd Iesu Grist,
Uniganedig Fab Duw.
Cenedledig gan y Tad cyn yr holl oesoedd.
Duw o Dduw, goleuni o oleuni,
Gwir Dduw o wir Dduw.
Wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur,
yn un hanfod â’r Tad,
yr hwn y gwnaed pob peth drwyddo,
yr hwn er ein mwyn ni ddynion,
ac er ein hiachawdwriaeth,
a ddisgynnodd o’r nefoedd.
Ac a gnawdolwyd trwy’r Ysbryd Glân o Fair Forwyn;
ac a wnaethpwyd yn ddyn.
Ac a groeshoeliwyd hefyd drosom:
dan Pontiws Pilat, dioddefodd
ac fe’i claddwyd.
Ac atgyfododd y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau.
Ac esgynnodd i’r nef:
ac y mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad.
A daw drachefn mewn gogoniant
i farnu’r byw a’r meirw:
ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.
Credaf yn yr Ysbryd Glân, yr Arglwydd a’r bywiawdwr:
sy’n deillio o’r Tad a’r Mab.
Yr hwn gyda’r Tad a’r Mab a gyd-addolir ac a gyd-ogoneddir:
Ac a lefarodd trwy’r proffwydi.
A chredaf mewn un Eglwys lân, gatholig ac apostolig.
Addefaf un bedydd er maddeuant pechodau.
A disgwyliaf atgyfodiad y meirw.
A bywyd y byd sydd i ddyfod.
Amen.
4 Sanctus
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd,
Arglwydd Dduw’r Lluoedd.
Nef a daear sy’n llawn o’th ogoniant.
Hosanna yn y goruchafion.
Bendigedig yw’r hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.
Hosanna yn y goruchafion.
5 Agnus Dei
Oen Duw, sy’n tynnu ymaith bechodau’r byd,
trugarha wrthym.
Dyro inni dy dangnefedd.
Oen Duw, sy’n tynnu ymaith bechodau’r byd,
trugarha wrthym.
Dyro inni dy dangnefedd.
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Diwygiad ac Adfywiad
Ffrwd fyw
Nos Iau 15/5/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Mozart Priodas Figaro – agorawd
Jörg Widmann Concerto Rhif 2 i’r Ffidil première y DU
Mendelssohn Symffoni Rhif 5, ‘Diwygiad’
Jörg Widmann arweinydd
Carolin Widmann ffidil
STEILUS | DRAMATIG | BYRLYMUS
Mae sibrydion prysur a chyffro byrlymus yn arwain at uchafbwyntiau gwefreiddiol yn agorawd bythol boblogaidd Mozart i’w opera Priodas Figaro. Yn llawn ffraethineb, hwyl a llawenydd, dyma’r agoriad perffaith i unrhyw gyngerdd. Ysgrifennwyd Pumed Symffoni Mendelssohn i nodi 300 mlynedd ers geni’r Diwygiad Protestannaidd; mae’n teithio trwy ffrwydradau dramatig, unawdau tebyg i ariâu a choralau hwyliog tuag at fuddugoliaeth yn wyneb diwygiad. I arwain, rydym yn falch iawn o groesawu Jörg Widmann, sy’n arwain Cerddorfa Gymreig y BBC am y tro cyntaf.
Mae’r feiolinydd Carolin Widmann wedi gwneud enw iddi’i hun yn rhyngwladol fel un o berfformwyr gorau’r repertoire Clasurol a Rhamantaidd, felly ni ddylem synnu o ddeall fod ei brawd Jörg, pan oedd y ddau’n ifanc, wedi pwyso arni i roi cynnig ar dechnegau estynedig, a hithau’n dweud wrtho am gallio! Ysgrifennodd yntau ei Ail Goncerto i’r Ffidil a’i gyflwyno’n arbennig i Carolin, ac ynddo, mae llinell yr unawdydd yn gweithredu fel yr adroddwr, gan roi ei lais ei hun i’r ffidil ac arbrofi gyda’r arddull Ramantaidd virtuoso sydd mor hoff gan Carolin.
Caneuon Tynged
Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain
Nos Wener 20/6/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Brahms Serenâd Rhif 2
Brahms Schicksalslied
Stravinsky Symffoni’r Salmau
Ryan Bancroft arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
CELFYDD | TANBAID | DARLUNIADOL
Os bwriadwyd serenadau yn hanesyddol fel cerddoriaeth ar gyfer adloniant, yna mae Brahms yn sicr wedi rhagori yn ei Serenâd Rhif 2. Mae’r gwaith cynnar hwn yn llawn cymeriad Brahms o’r cychwyn cyntaf gyda’i gynhesrwydd ysgafn, ei rythmau croes bywiog, a’i alawon toreithiog i swyno unrhyw wrandäwr.
Yr un mor nodweddiadol, ond yn fwy pruddglwyfus ei natur, y mae gosodiad llesmeiriol Brahms o’r gerdd Schicksalslied gan Friedrich Hölderlin. Mewn dau bennill sy’n cyferbynnu bywydau’r tragwyddol ddedwydd â’r rhai sy’n dioddef ffawd greulon, mae Brahms yn symud rhwng yr ysgafn a’r didaro yn erbyn y tymhestlog. I’r gwrthwyneb, mae Stravinsky yn Symffoni’r Salmau yn defnyddio dulliau sy’n adleisio’r siant Gregoraidd traddodiadol, ynghyd ag ysgrifennu ffiwgaidd a motiffau dawns ecstatig i bortreadu testun y salmau … dyma waith o athrylith pur! I arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn eu cyngerdd olaf yn ystod tymor Caerdydd, mae’n bleser gennym groesawu’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn ôl.
Bywgraffiadau
Andrew Manzearweinydd
Benjamin Ealovega
Benjamin Ealovega
Mae Andrew Manze yn enwog fel un o arweinwyr mwyaf cyffrous ac ysbrydoledig ei genhedlaeth. Mae’n cyfuno adnabyddiaeth helaeth ac ysgolheigaidd o’r repertoire gydag egni diderfyn. Ef oedd Prif Arweinydd yr NDR Radiophilharmonie rhwng 2014 a 2023. Ers 2018 mae’n Brif Arweinydd Gwadd gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a daeth yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Siambr yr Alban ar ddechrau’r tymor hwn.
Ymhlith uchafbwyntiau ei gyfnod fel Prif Arweinydd yr NDR Radiophilharmonie cafwyd teithiau i Tsieina yn 2016 a 2019, yn ogystal â thaith i Japan yn 2022; cawsant ganmoliaeth am gyfres o recordiadau o waith Mendelssohn a Mozart hefyd. Ymhlith uchafbwyntiau eraill ar record mae cylch o symffonïau Vaughan Williams gyda’r RLPO.
Mae galw mawr amdano fel arweinydd gwadd yn rhyngwladol, a dros y blynyddoedd bu’n gysylltiedig â sawl cerddorfa flaenllaw, gan gynnwys y Royal Concertgebouw, cerddorfeydd Ffilharmonig Dresden, Munich, Oslo, Rotterdam a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm, cerddorfeydd Symffoni Bamberg a Radio’r Ffindir, Cerddorfa Mozarteum Salzburg a Cherddorfa Siambr Ewrop. Y tymor hwn bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Montreal a Toronto ac yn dychwelyd at yr Hallé, Cerddorfa Symffoni Atlanta a Gŵyl Salzburg.
Yng Ngogledd America mae wedi bod yn westai rheolaidd yng Ngŵyl Mostly Mozart yn Ninas Efrog Newydd, ac yn y tymhorau diwethaf mae wedi arwain Cerddorfa Symffoni Boston a cherddorfeydd Ffilharmonig Los Angeles ac Efrog Newydd.
Rhwng 2006 a 2014 bu’n Brif Arweinydd a Chyfarwyddwr Artistig Cerddorfa Symffoni Helsingborg. Bu hefyd yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Symffoni Radio Norwy rhwng 2008 a 2011, ac yn Arweinydd Gwadd Cyswllt gyda Cherddorfa Symffoni BBC yr Alban am bedwar tymor.
Ar ôl darllen y Clasuron ym Mhrifysgol Caergrawnt, astudiodd y ffidil ac mewn dim o dro daeth yn arbenigwr blaenllaw ym myd arferion perfformio hanesyddol, gan ryddhau ystod eang o recordiadau a enillodd wobrau.
Mae Andrew Manze yn Gymrawd yr Academi Gerdd Frenhinol, yn Athro Ymweld yn Academi Oslo, ac mae wedi cyfrannu at argraffiadau newydd o sonatas a choncertos gan Bach a Mozart. Mae hefyd yn dysgu, yn golygu ac yn ysgrifennu am gerddoriaeth, ac yn darlledu’n rheolaidd ar radio a theledu. Yn 2011 derbyniodd Wobr Rolf Schock yn Stockholm.
Carolyn Sampson soprano
A hithau yr un mor gartrefol ar lwyfannau cyngerdd ac opera, mae Carolyn Sampson wedi mwynhau llwyddiannau nodedig ym Mhrydain yn ogystal ag Ewrop a gweddill y byd.
Y tymor diwethaf rhyddhaodd ei chanfed albwm fel artist unigol. Dros y 25 mlynedd diwethaf mae hi wedi canu gyda cherddorion di-ri o safon fyd-eang; yn 2024 dyfarnwyd OBE iddi yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin, cafodd ei hethol yn Aelod Anrhydeddus o’r Academi Gerdd Frenhinol ac enillodd WobrArtist y Flwyddyn Gramophone.
Y tymor hwn mae’n canu yn Y Cread gan Haydn, a hynny gyda Cherddorfa Siambr Paris dan Masaaki Suzuki yn y Paris Philharmonie a hefyd gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham dan Kazuki Yamada. Bydd yn teithio Ewrop eto gyda Bach Collegium Japan ac yn ymddangos gyda La Scintilla, Cerddorfa Baróc Freiburg, Cerddorfa Symffoni Radio Bafaria a Cherddorfa Ffilharmonig Dresden.
Dechreuodd ei gyrfa ym myd cerddoriaeth gynnar ac mae wedi meithrin perthynas hirsefydlog gyda sawl grŵp enwog, gan gynnwys Bach Collegium Japan, Academy of Ancient Music, The Sixteen, a Cherddorfa’r 18fed Ganrif. Mae ganddi berthynas agos hefyd â rhai o gerddorfeydd symffoni gorau’r byd, gan gynnwys y Royal Concertgebouw, cerddorfeydd Ffilharmonig y BBC a Rotterdam, Cerddorfa Gürzenich, Cerddorfa Gewandhaus Leipzig, Orchestra dell’Accademia Nazionale di Santa Cecilia, cerddorfeydd Symffoni Boston, San Francisco a Cherddorfa Symffoni BBC yr Alban a Cherddorfa Philadelphia.
Ar lwyfan yr opera mae ei rolau wedi cynnwys y rôl deitl yn Semele a Pamina (Die Zauberflöte) i Opera Cenedlaethol Lloegr; rolau yn Brenhines y Tylwyth Teg Purcelli Glyndebourne; ac Anne Trulove (The Rake’s Progress) a Mélisande (Pelléas et Mélisande) i Scottish Opera. Mae hi wedi ymddangos hefyd yn y Palau de la Música yn Barcelona, Opéra de Paris, Opéra de Lille, Opéra de Montpellier ac Opéra National du Rhin.
Mae galw mawr amdani fel datgeiniad, ac fe’i gwelir yn rheolaidd yn Neuadd Wigmore, yn ogystal ag yng Ngŵyl Gân Ryngwladol Rhydychen, Leeds Lieder a gwyliau Saintes ac Aldeburgh. Mae hi wedi canu mewn partneriaeth enwog gyda’r pianydd Joseph Middleton ers dros ddegawd; But I Like to Sing yw eu halbwm diweddaraf.
Sophie Harmsen mezzo-soprano
Mae Sophie Harmsen wedi ennill llwyddiant rhyngwladol yn y neuadd gyngerdd ac ar y llwyfan operatig mewn ystod amrywiol o repertoire.
Yn fwyaf diweddar, gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn y rôl ac yn y neuadd fel y Cyfansoddwr (Ariadne auf Naxos Richard Strauss) yn La Fenice, Fenis; cyn hynny roedd hi wedi canu rhan Octavian (Der Rosenkavalier) yn y Felsenreitschule yn Salzburg. Mae hi wedi ymddangos hefyd gyda Cape Town Opera, Teatro Real Madrid, Opéra de Dijon a’r Theater an der Wien.
Mae hi wedi cynnal llawer o gyngherddau a datganiadau ac wedi recordio gyda llu o ensembles Baróc blaenllaw. Erbyn hyn mae hi yr un mor gartrefol mewn repertoire Rhamantaidd, gan berfformio a recordio gweithiau fel Wesendonck Lieder Wagner, Das Lied von der Erde a Rückert Lieder gan Mahler, Requiem Dvořák, a Nawfed Symffoni a Missa solemnis Beethoven.
Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor hwn mae’r Missa solemnis gyda B’Rock dan René Jacobs a pherfformiad heno gyda Cherddorfa Gymreig y BBC; Offeren Beethoven yn C fwyaf ar daith Ewropeaidd gyda’r Orchestre des Champs-Élysées dan arweiniad Philippe Herreweghe; Te Deum Bruckner gyda Cherddorfa Symffoni SWR a Pablo Heras-Casado; a Nawfed Symffoni Beethoven gyda’r Orchestre des Champs-Élysées a Herreweghe, Cerddorfa Symffoni Hamburg dan Pablo González a Cherddorfa Ffilharmonig Warsaw dan Krzysztof Urbański; yn ogystal â chyngherddau gyda cherddorfeydd Symffoni Antwerp a Radio Berlin a a Cherddorfa Ffilharmonig Radio yr Iseldiroedd.
Mae hi wedi perfformio gyda cherddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys cerddorfeydd Symffoni Antwerp, Radio Berlin, Düsseldorf, MDR, SWR a Fienna, Cerddorfa Gewandhaus Leipzig, cerddorfeydd Ffilharmonig Helsinki a Rotterdam, Orchestre National de Paris ac NDR Elbphilharmonie Orchester. Ymhlith yr arweinwyr y bu hi’n gweithio gyda nhw mae Sylvain Cambreling, Constantinos Carydis, Karina Canellakis, Alexander Liebreich, Iván Fischer, Thomas Hengelbrock, Frieder Bernius, Václav Luks, Christophe Rousset a Markus Stenz.
Mae hi’n dal i berfformio cryn dipyn o repertoire Baróc, yn enwedig cerddoriaeth J. S. Bach a Handel gydag ensembles sy’n defnyddio offerynnau o’r cyfnod a rhai sy’n defnyddio offerynnau modern.
Mae llawer o’i recordiadau wedi ennill gwobrau, gan gynnwys y Diapason d’Or a Gwobr ECHO.
Astudiodd Sophie Harmsen ym Mhrifysgol Cape Town a chyda Edith Wiens; mae’n cael ei mentora gan Tobias Truniger ers blynyddoedd lawer.
Ed Lyon tenor
Groves Artists
Groves Artists
Astudiodd Ed Lyon yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, yr Academi Gerdd Frenhinol a’r National Opera Studio. Mae’n canu repertoire eang yn amrywio o’r Baróc i gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi ymddangos ar lawer o brif lwyfannau opera a chyngerdd y byd, gan gynnwys yr Opera Brenhinol, Covent Garden, Glyndebourne, Bayerische Staatsoper, Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd, Teatro Real Madrid a gwyliau Caeredin, Aix-en-Provence, Salzburg, yr Iseldiroedd ac Aldeburgh a Proms y BBC.
Ymhlith uchafbwyntiau ei yrfa mae wedi canu’r brif ran yn L’écume des jours Denisovi Opera Stuttgart; Števa (Jenůfa) i Opera North; Lurcanio (Ariodante), Steersman (The Flying Dutchman) a Walther (Tannhäuser) i’r Opera Brenhinol; Don Ottavio (Don Giovanni) a Lurcanio i Scottish Opera; Jaquino (Fidelio) ym Madrid; ac Alessandro (Eliogabolo) i Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd. Ymhlith ei ymrwymiadau diweddar ac i’r dyfodol mae Tamino (Die Zauberflöte) a Don Gomez (Henry VIII) i La Monnaie; Septimius (Theodora) i’r Opera Brenhinol a Madrid; Lurcanio i New Israel Opera; Belmonte (Die Entführung aus dem Serail) a’r prif ganwr yn Clorinda Agonistes yng Ngŵyl Grange; Quint (The Turn of the Screw), y rôl deitl yn Orfeo, a Grimoaldo (Rodelinda) yn Garsington; Eduardo (The Exterminating Angel gan Thomas Ades) yng Ngŵyl Salzburg a’r Opera Brenhinol; y rôl deitl yn Candide i Opera Cenedlaethol Cymru; a pherfformiadau ledled y byd o The Diary of One who Disappeared mewn cynhyrchiad llwyfan gyda Musiktheater Transparent.
Mae ei repertoire cyngherddau’n amrywio o’r Meseia a rhan yr Efengylwr yn Nioddefiannau Sant Ioan a Sant Mathewgan Bach, trwy Missa solemnis Beethoven i The Apostles gan Elgar a War Requiem Britten. Mae wedi rhoi datganiadau unigol yn Neuadd Wigmore hefyd.
Mae recordiad Ed Lyon 17th Century Playlist gyda Theatre of the Ayre wedi cael clod eang, ac felly hefyd The Dancing Master gan Arnold.
Darren Jeffery bas-bariton
Peter E. Smyth
Peter E. Smyth
Mae Darren Jeffery wedi ymddangos dros 200 o weithiau yn yr Opera Brenhinol, Covent Garden, ac wedi ennill sylw am ei berfformiadau gyda’r English National Opera gan gynnwys Leporello (Don Giovanni), Donner (Das Rheingold), Llefarydd (Die Zauberflöte), Mr Flint (Billy Budd), Stárek (Jenůfa) a Hobson (Peter Grimes).
Mae wedi ymddangos yng ngwyliau Salzburg ac Aix-en-Provence a gyda’r rhan fwyaf o gwmnïau opera gwyliau’r Deyrnas Unedig.
Cyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Wagner Ryngwladol Seattle 2008 ac ers hynny mae wedi canu’r rôl deitl yn The Flying Dutchman, Wotan, Fasolt and Donner (The Ring) a Kothner (The Mastersingers) i gwmnïau fel Glyndebourne, Chicago Lyric Opera, Melbourne Opera ac Opera Teithiol yr Iseldiroedd. Yn ddiweddar, rhoddodd gyfres o ddatganiadau yn Victoria, Awstralia, fel rhan o ŵyl Wagner newydd.
Ymhlith ei rolau eraill mae Raimondo (Lucia di Lammermoor) i New Israel Opera; Mr Flint yn Theatr y Bolshoi, Moscow; y Porthor (Das Wunder der Heliane) yn yr Iseldiroedd; Father Trulove (The Rake’s Progress) yn La Monnaie; a nifer o rolau yn Teatro Real, Madrid.
O ran cyngherddau, canodd ran Christus yn Nioddefaint SantMatthew Bach gyda Syr Mark Elder a’r Hallé; Elijah, Le rossignol, Les Troyens, Serenade to Music, Peter Grimes, Billy Budd a Seven Last Words from the Cross Haydn yn y BBC Proms; a phrif weithiau corawl Bach, Beethoven, Brahms, Elgar, Handel, Haydn, Mendelssohn, Mozart a Verdi, ymhlith eraill.
Mae wedi ymddangos ar sawl achlysur gyda’r Accademia Nazionale di Santa Cecilia yn Rhufain ac wedi cydweithio â llawer o brif arweinwyr a cherddorfeydd y byd. Ymhlith ei ddisgograffeg mae dau recordiad gyda Cherddorfa Symffoni Llundain sydd wedi ennill gwobrau Grammy.
Mae rolau diweddar Darren Jeffery a gwaith sydd ar y gweill ganddo yn cynnwys Peter (Hansel a Gretel) yn yr Opera Brenhinol, Don Alfonso (Così fan tutte) yn Malmö, Cardinal Beaton (Mary, Queen of Scots) yn yr ENO a’r rôl deitl yn Falstaff Verdi.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn cynnwys dros 120 o gantorion, ac mae’n un o brif gorau symffoni cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig. Mae’r Corws – sy’n cynnwys cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac sydd wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd – yn gweithio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ei hun.
Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformio Stabat mater gan Poulenc a rhoi’r perfformiad cyntaf erioed o Sound of Stardust gan Alexander Campkin gyda Julieth Lozano Rolong, enillydd Gwobr y Gynulleidfa BBC Canwr y Byd Caerdydd a’r arweinydd corawl Sofi Jeannin, yn ogystal â pherfformio 13eg Symffoni Shostakovich dan arweiniad y Prif Arweinydd Ryan Bancroft, a Dewi Sant fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Karl Jenkins yn 80 oed. Mae hefyd yn ymddangos ym Mhroms y BBC bob blwyddyn, ac mae ei berfformiadau diweddar yn cynnwys Requiem Verdi, Harmonium gan John Adams gyda Ryan Bancroft, ac A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze.
Y tymor hwn bydd y corws yn perfformio Meseia gan Handel gyda’r arbenigwr cerddoriaeth gynnar John Butt, Missa solemnis grymus Beethoven yng Nghadeirlan Llandaf ac yn Abertawe gydag Andrew Manze, yn ogystal â’i gyngerdd carolau blynyddol a chyngerdd o weithiau Brahms gyda Ryan Bancroft.
Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth gyfoes, a’r corws a roddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y perfformiad cyntaf. Mae’r Corws wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan lawer o gyfansoddwyr eraill hefyd, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, sef gosodiad o eiriau Malala Yousafzai o’i Haraith i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.
Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac ymddangosodd yn ddiweddar ar drac sain y rhaglen Wonders of the Celtic Deep ar BBC Cymru Wales.
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwrMartin Gwilym-Jones is-flaenwrGwenllian Hâf MacDonaldTerry PorteusSuzanne CaseyRuth Heney **Anna CleworthŽanete Uškāne
Carmel BarberAlejandro Trigo
Emilie Godden
Ail FfidlauEmily Davis ‡Ros ButlerSheila SmithJoseph Williams
Roussanka KaratchivievaLydia Caines **
Beverley Wescott
Michael ToppingKatherine MillerVickie Ringguth
FiolâuRebecca Jones *Alex Thorndike #Tetsuumi NagataAnna GrownsLaura SinnertonRobert GibbonsCatherine Palmer
Lowri Taffinder
SoddgrythauReinoud Ford ‡Raphael LangSandy Bartai
Keith Hewitt
Alistair Howes
Rachel Ford
Basau DwblAlexander Jones #
Ketan CurtinChristopher WescottEmma Prince
FfliwtiauMatthew Featherstone *Lindsey Ellis **
OboauSteve Hudson *
Alec Harmon
ClarinetauNicholas Carpenter *Isaac Prince
BaswnauJarosław Augustyniak *Georgie Powell
Isfasŵn
David Buckland †
CyrnTim Thorpe *Meilyr HughesMarcus Bates
Lucy Smith
John Davy
UtgyrnPhilippe Schartz *
Lewis West
TrombonauDonal Bannister *
Dafydd Thomas †
Trombôn BasDarren Smith †
TimpaniSteve Barnard *
Organ
Gregory Drott
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Cyfarwyddwr Artistig Adrian Partington
Cyfeilydd Chris Williams
Hyfforddwr Llais Gail Pearson
Soprano 1
Elizabeth Aitken
Jessica Baber
Asia Bonuccelli
Beth Bradfield
Eve Carey
Iustina Chirila
Logan Clark
Phoebe Dry
Rebekah Edwards
Ella Edwards Beavington
Bethan M. Evans
Darcie Hamilton
Delyth Jewell
Vanessa John-Hall
Lucie Jones
Rachael Leary
Joanna Osborn
Elizabeth Phillips
Ellen Steward
Helen Thomas
Soprano 2
Kate Bidwell
Denise Cooke
Esme Daniell-Greenhalgh
Isabel D’Avanzo
Sofia Franklin
Penelope George
Rhiannon Humphreys
Francesca Ingall
Margaret Lake
Carolyn Lee
Lucy Paterson
Kensey Petschow
Melanie Taylor
Caroline Thomas
Hannah Williams
Katherine Woolley
Alto 1
Catherine Bradfield
Atiyeh Dast Afkan
Alison Davies
Catherine Duffy
Anna Eldred
Rachel Farebrother
Kathrin Hammer
Naomi Hitchings
Lisa May
Sara Peacock
Bethany Piper
Kate Reynolds
Zozi Sookanadenchetty
Julie Ellen Thornton
Vicki Westwell
Jessica Williams
Alto 2
Yasmin Browne
Alex Butler
Yvonne Higginbottom
Sian Schutz
Julie Wilcox
Sarah Willmott
Tenor 1
William Collins
Keith Davies
Roland George
Philip Holtam
Andrew Lunn
Andrew Morris
Deryck Webb
Nicholas Willmott
Tenor 2
Rhys Archer
Tony Breese
Jonathan Dobie
Michael Ennis
Peter Holmes
Rory McIver
Sam Proll
Richard Shearman
Richard Wilcox
Michael Willmott
Bas 1
Noah Boneham-Hill
Peter Cooke
David Davies
Ethan Davies
John Davies
James Downs
Charlie Gedge
Rafael Grigoletto
Emyr Wynne Jones
Lucas Maunder
Benjamin Pinnow
Jez Piper
Neil Schofield
Miles Smith
Alun Williams
Daniel Williams
Bas 2
Lyndon Davies
Oliver Hodgson
Stuart Hogg
David Hutchings
David McLain
Gareth Nixon
Mike Osborn
Roedd y rhestr o gantorion yn gywir adeg cyhoeddi’r rhaglen
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +**
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol swydd wag
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol swydd wag
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications






