Scheherazade

Nos Sadwrn 11/11/23, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Paul Dukas
Prentis y Dewin 12’

Edvard Grieg
Concerto i’r Piano 30’

EGWYL: 20 munud

Nikolay Rimsky-Korsakov
Scheherazade 42’

Lionel Bringuier arweinydd
Zee Zee piano

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu fel rhan o Afternoon Concert yn y dyfodol, ac mae’n cael ei ffilmio ar gyfer y rhaglen Inside Classical ar BBC Four.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i’r cyngerdd heno, lle bydd yr arweinydd Lionel Bringuier yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar gyfer rhaglen sy’n cynnwys tri champwaith Rhamantaidd hynod wrthgyferbyniol.

I ddechrau, cawn glywed cathl symffonig atgofus a disglair Dukas, Prentis y Dewin. Stori yw hon am beryglon hud a lledrith mewn dwylo amhrofiadol, a’i gwnaed yn enwog pan gafodd ei defnyddio gan Walt Disney yn ei ffilm Fantasia.

Bydd Zee Zee yn ymuno â’r gerddorfa ar gyfer Concerto i’r Piano hynod boblogaidd Grieg, gyda’i gymysgedd lesmeiriol o alawon hyfryd, meistrolaeth offerynnol a lliwiau cerddoriaeth werin Norwy, gwlad frodorol y cyfansoddwr.

Mae Scheherazade Rimsky-Korsakov hefyd yn lliwgar dros ben, wrth iddo droi straeon Mil ac Un o Nosau Arabia yn gerddoriaeth hudolus.

Mwynhewch!

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Paul Dukas (1865–1935)

Prentis y Dewin(1897)

Y gathl symffonig L’apprenti sorcier (‘Prentis y Dewin’) heb os yw’r darn mwyaf poblogaidd o blith y llond llaw o weithiau a gyfansoddwyd gan Dukas. Cafodd ei chyfansoddi yn 1897 ac mae’n cynnwys yr isdeitl ‘Scherzo symffonig yn seiliedig ar faled gan Goethe’. Ysgrifennwyd Der Zauberlehrling, baled 14 pennill Goethe, 100 mlynedd yn union cyn darn Dukas. Liszt oedd sylfaenydd y gathl symffonig – sef gwaith cerddorfaol un symudiad wedi’i ysbrydoli gan rywbeth nad yw’n gerddorol – ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd y genre ar ei anterth.

Mae’r gwaith hwn, fodd bynnag, yn boblogaidd oherwydd ei fod wedi cael ei ddefnyddio gan Walt Disney yn ei ffilm Fantasia yn 1940, gan gyflwyno cerddoriaeth Dukas i gynulleidfa newydd sbon.

Mae’r stori y tu ôl i’r gwaith yn sôn am ddewin sy’n gadael ei brentis yn ei weithdy gyda thasgau i’w cyflawni. Mae’r prentis yn bwrw hud ar ysgub er mwyn gwneud iddi lanhau yn ei le, ond mae’n mynd yn draed moch oherwydd nid yw’r prentis yn gwybod sut i stopio’r ysgub. Mewn cyfyng gyngor, mae’n torri’r ysgub yn ei hanner, ond mae’n dal i dasgu dŵr o gwmpas ddwywaith yn gyflymach. Ymhen hir a hwyr, mae’r dewin yn dychwelyd ac yn torri’r hud. Y foeswers yw mai dim ond meistr ddylai geisio galw ysbrydion pwerus.

Mae llawer o ddadlau bob amser ynghylch i ba raddau y gall cerddoriaeth offerynnol ddilyn y digwyddiadau mewn testun, ac mae’r gwahaniaethau hanfodol rhwng y cyfryngau llafar a di-eiriau yn golygu nad oes atebion hawdd. Mae Dukas yn cyfleu cerdd Goethe drwy symbolaeth: mae’r utgorn yn cynrychioli’r hud ac mae’r basŵn yn cynrychioli’r ysgub (ynghyd â’r clarinét bas pan mae’r ysgub yn cael ei thorri’n ddwy). Mae’r gerddoriaeth yn hawdd iawn yn gallu cyfleu dwbl y cyflymder pan mae dau hanner yr ysgub yn rhedeg yn wyllt. Ar ddiwedd y darn, mae pedwar cord yn gweithredu fel atalnodau ac efallai’n cynrychioli’r prentis yn cael ei gosbi gan ei feistr.

Nodyn y rhaglen © Caroline Potter

Edvard Grieg(1843–1907)

Concerto i’r Piano yn A leiaf, Op. 16 (1868, diw. 1907)

Allegro molto moderato
2  Adagio –
3  Allegro moderato molto e marcato – Quasi presto – Andante maestoso

Zee Zee piano

‘Dal ati. Mae gen ti’r gallu – paid â gadael iddyn nhw dy ddychryn!’ Dyma’r math o ymateb y mae cyfansoddwyr ifanc yn breuddwydio amdano. Roedd y cyfansoddwr a’r pianydd meistrolgar, Franz Liszt, wedi darllen drwy’r Concerto i’r Piano a oedd newydd gael ei gwblhau gan Edvard Grieg, cyfansoddwr 25 oed o Norwy, ac roedd ei frwdfrydedd yn amlwg yn tyfu wrth iddo chwarae. Yna, yn rhan olaf y diweddglo, lle mae ‘alaw fawr’ delynegol y symudiad yn dychwelyd yn fuddugoliaethus (gyda dim ond un nodyn wedi’i newid yn drawiadol), neidiodd Liszt oddi wrth yr allweddell a thaflu ei freichiau i’r awyr, gan ebychu, ‘G, G, nid G llonnod! Ardderchog!’

Er bod Grieg wedi gwrando ar gyngor Liszt ac wedi ‘dal ati’, aeth y llwybr a ddilynodd ag ef i gyfeiriad gwahanol iawn. Yn fuan ar ôl y cyfarfod ffurfiannol hwnnw gyda Liszt, penderfynodd Grieg mai ei ddawn go iawn oedd creu darnau bach yn hytrach na gweithiau symffonig mawreddog. Mae rhai beirniaid, wedi’u hysgogi gan hyn – ac efallai wedi’u cythruddo gan boblogrwydd di-ildio’r Concerto i’r Piano – wedi awgrymu nad yw’n gweithio yn y pen draw, gan nodi: bod rhywfaint o’r datblygiad ychydig yn fformiwläig, bod y diweddglo yn enwedig yn swnio fel casgliad o ddarnau byr wedi’u rhoi at gilydd, a bod y symudiad cyntaf wedi’i fodelu’n rhy amlwg ar y Concerto i’r Piano gan Schumann (hefyd yn A leiaf).

Ond doedd Liszt ddim yn anghywir. Efallai fod symudiad agoriadol dramatig Schumann mewn golwg gan Grieg pan ddechreuodd y gwaith hwn, ond fe’i trawsnewidodd yn un o’r agoriadau mwyaf mawreddog yn y repertoire concerti: ceir tabyrddiad yn ymchwyddo mewn crescendo ar y timpani, bloedd gan y gerddorfa lawn, yna cyfres o ffigurau disgynnol byrlymus ar gyfer y piano. Ar ôl hyn, mae’r symudiad yn cyferbynnu dwy brif thema yn ddeheuig dros ben: mae’r cyntaf yn cael ei chyflwyno’n dawel gan y chwythbrennau, ac yn cael ei hateb gan y llinynnau, ac mae’r ail yn alaw gynnes sy’n canu, a glywir yn gyntaf ar y soddgrythau.

Ar ôl ei agoriad cerddorfaol hudolus, tawel, mae’r Adagio, sy’n debyg i gân, yn cael ei ddominyddu gan y piano, sy’n addurno syniadau’r gerddorfa mewn modd barddonol nes iddo gipio’r brif alaw yn fuddugoliaethus yn yr uchafbwynt. Mae’r diweddglo’n dilyn heb doriad. I ddechrau, mae gennym gyfres o alawon dawnsio gwerin bywiog, yna daw alaw fawr y concerto, a gyflwynir mewn tempo arafach gan ffliwt unawdol. Mae Grieg yn adeiladu’r cyffro’n drawiadol yn y coda cyflymach, nes i alaw’r ffliwt ddychwelyd i ysblander y gerddorfa lawn, gyda’r newid bychan ond gwefreiddiol hwnnw a sbardunodd y fath gyffro yn Liszt. Mae’n ergyd ddramatig wych ynddi ei hun, ond mae hefyd yn gorffen y concerto mewn modd godidog, fel petai’r holl waith wedi bod yn arwain at y datganiad disglair hwn.

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

EGWYL: 20 munud

Nikolay Rimsky-Korsakov (1844–1908)

Scheherazade – cyfres symffonig, Op. 35 (1888)

1 Y Môr a Llong Sinbad
2 Hanes y Tywysog Kalendar
3 Y Tywysog Ifanc a’r Dywysoges Ifanc
4 Gŵyl Baghdad – Y Môr – Llongddrylliad – Diweddglo

Roedd Rimsky-Korsakov yn 17 oed pan gyfarfu â’r cyfansoddwr Mily Balakirev am y tro cyntaf. Er ei fod yn ystyried gyrfa yn y llynges, roedd Rimsky-Korsakov wedi bod yn cyfansoddi yn yr ysgol cadetiaid; nawr, o dan ddylanwad Balakirev, daeth yn benderfynol o ymroi i gerddoriaeth. Aeth ymlaen i fod yn aelod o grŵp cenedlaetholgar o gyfansoddwyr o Rwsia dan arweiniad Balakirev, o’r enw Y Pump, ynghyd ag Alexander Borodin, Modest Mussorgsky a César Cui.

Pan fu farw Borodin yn 1887, gan adael ei opera Prince Igor yn anorffenedig, ysgwyddodd Rimsky-Korsakov y dasg o’i gwblhau. Fe wnaeth naws Ddwyreiniol cerddoriaeth ei ffrind ei ysbrydoli i greu rhywbeth tebyg – ac ni allai fod wedi dewis syniad gwell na’r Scheherazade.

Yn ei ragair, adroddodd Rimsky-Korsakov y stori:

Roedd y Swltan Shahriar wedi’i argyhoeddi bod pob menyw yn dwyllodrus ac yn anffyddlon, ac fe wnaeth adduned y byddai’n lladd pob un o’i wragedd ar ôl y noson gyntaf. Fodd bynnag, achubodd Swltana Scheherazade ei bywyd ei hun drwy ... ddweud cyfres o straeon wrth y Swltan dros gyfnod o fil ac un o nosau. Ac yntau wedi’i wefreiddio gan chwilfrydedd, gohiriai’r brenin ddienyddiad ei wraig o ddydd i ddydd, ac yn y pen draw, fe dynnodd ei adduned anwaraidd yn ôl yn llwyr.

Roedd Rimsky-Korsakov yn awyddus i daro cydbwysedd rhwng perthnasedd rhaglennol a syfrdandod cerddorol pur – a chyflawnodd hyn gyda hunanfeddiant gwych. ‘Drwy ddatblygu’r deunydd cerddorol yn eithaf rhydd,’ ysgrifennodd yn ei hunangofiant, ‘fy mwriad oedd creu cyfres gerddorfaol mewn pedwar symudiad, wedi’u cydblethu’n agos gan eu cymuned o themâu a motiffau, ond sydd eto’n cyflwyno caleidosgop o ddelweddau tylwyth teg a dyluniadau â chymeriad Dwyreiniol.’

Mae’r gwaith cyflawn – sy’n symffoni i bob pwrpas – yn dechrau drwy gyfleu’r swltan creulon mewn unsain gadarn. Mae Scheherazade yn ymateb, yn bwyllog ac yn ddengar: mae unawd y ffidil yn cynrychioli ei llais, gan ddychwelyd i gysylltu’r pedair adran mewn un rhychwant. Roedd Rimsky-Korsakov yn gweld teitlau’r symudiadau fel sbardun yn unig; yn hytrach na darlunio penodau naratif manwl, mae’n cynnig sgôr ffantastig i ddenu a chyfareddu pob gwrandawr.

Mae’r symudiad cyntaf, sy’n cyfleu ymchwydd y môr yn amlwg, yn dwyn y teitl ‘Y Môr a Llong Sinbad’. Nesaf, ceir scherzo dramatig ‘Hanes y Tywysog Kalendar’, sy’n llawn tensiwn ac antur. Mae’r olygfa gariadus o ‘Y Tywysog Ifanc a’r Dywysoges Ifanc’ yn cyflwyno intermezzo tyner; ac yn olaf ceir llong Sinbad yn cael ei dryllio mewn morlun apocalyptaidd, gyda’r uchafbwynt yn adleisio cerddoriaeth o’r symudiad cyntaf. O ran Scheherazade, mae nodyn uchel, parhaus gan y ffidil yn dangos ei bod yn fyw ac yn ddiogel.

Nodyn y rhaglen © Jessica Duchen

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

Perfformio Picasso

Nos Wener 8/12/23, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Stravinsky Pulcinella
Satie Parade
Stravinsky Ragtime
Falla El Sombrero de Tres Picos – Cyfres Rhif 2

Ryan Bancroftarweinydd
Katharine Dain soprano
Jorge Navarro Colorado tenor
Michel de Souzabariton

LLIWGAR | ANGERDDOL | GOLEUEDIG

Ac yntau’n adnabyddus fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif ac am gyd-sefydlu’r mudiad Ciwbaidd, mae’n syndod cyn lleied o bobl sy’n gwybod bod yr artist Pablo Picasso wedi ymwneud llawer â dylunio’r gwisgoedd ar gyfer sawl bale arloesol. Roedd ei gyswllt creadigol â’r impresario bale, Serge Diaghilev, yn un o gydweithrediadau mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif, a newidiodd natur bale, ac a agorodd y drws i fyd newydd o archwilio artistig i Picasso.

Hanner can mlynedd ar ôl ei farwolaeth, byddwn yn dathlu ei waith mewn cyngerdd sy’n cynnwys dim ond y gerddoriaeth o’r gweithiau bale yr oedd ef wedi dylunio ar eu cyfer – o Pulcinella Stravinsky lle cafodd straeon traddodiadol eu ‘trawsnewid yn llwyr yn gampweithiau modernaidd trawiadol, gan ail-ddychmygu’r bale fel lleoliad ar gyfer arddulliau, siapiau a ffurfiau avant-garde oedd yn gwrthdaro â’i gilydd’ drwy ei wisgoedd a’i ddyluniadau ar gyfer setiau, i waith onglog, cyfwynebol ac avant-garde Satie, Parade, a chyfres Het Tri Chornel Falla sy’n adrodd stori garu o Sbaen, wedi’i lleoli ym mynyddoedd Andalwsia.

Jurassic Park mewn Cyngerdd

Nos Fercher 13/12/23, 7.30pm
Lleoliad i’w gadarnhau

Nos Iau 14/12/23, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Benjamin Popearweinydd

TEULUOL | ATGOFUS | GWEFREIDDIOL

Pwy sy’n gallu anghofio cerddediad dirgrynol a byddarol y T rex neu synau arswydus y felisoraptor? Ymunwch â BBC NOW y mis Rhagfyr hwn ar gyfer Jurassic Park, yn fyw mewn cyngerdd.

Dewch gyda ni i Isla Nublar i ddilyn stori Dr Alan Grant ac Ellie Sattler wrth iddynt frwydro i oroesi yn erbyn deinosoriaid y parc thema pan maent yn adfywio ac yn dianc o’u llociau i geisio rheoli’r ddaear unwaith eto. Gyda delweddau gweledol trawiadol ac effeithiau arbennig arloesol, efallai nad yw’r antur llawn cyffro hon yn nodweddiadol o gyngerdd Nadolig, ond gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio sgôr epig John Williams yn fyw i’r ffilm, mae’n ffordd briodol iawn o ddathlu pen-blwydd y ffilm eiconig hon yn 30 oed!

Cyfuniadau Gwerinol – Japan a Dwyrain Ewrop

Nos Sadwrn 24/2/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC

Takemitsu Three Film Scores
Kikuko Kanai Okinawa Fantasy Suite première DU
Liszt Concerto i’r Piano Rhif 2
Dvořák The Wood Dove

Nodoka Okisawa arweinydd
Iyad Sughayer piano

TRAWIADOL | CLODFORUS | YSBRYDOLEDIG

Mewn rhaglen sydd wedi ei hysbrydoli gan gerddoriaeth werin, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r arweinydd o Japan, Nodoka Okisawa, i’r podiwm. Daw arddulliau jazz a blues wyneb yn wyneb â cherddoriaeth angladdol a waltz anarferol o bruddglwyfus ond siriol yng ngwaith cerddor arall o Japan, 3 Film Scores gan Tōru Takemitsu. Gan ddatblygu ei llais cyfansoddi unigryw ei hun, Kikuko Kanai oedd un o’r merched cyntaf yn Japan i gyfansoddi cerddoriaeth glasurol Orllewinol, gan gadw ei threftadaeth gerddorol o Okinawa. A hithau’n ymroddedig i drawsgrifio caneuon gwerin, defnyddiodd y rhain fel sail ar gyfer ei gweithiau ei hun, gan gynnwys ei Chyfres Ffantasi Okinawa.

Yn enwog yn yr un modd am ddefnyddio cerddoriaeth werin frodorol yn ei weithiau, roedd Franz Liszt nid yn unig yn gyfansoddwr dylanwadol, ond hefyd yn bianydd cyngerdd penigamp, felly does dim rhyfedd bod ei goncertos i’r piano ymysg ei ddarnau a berfformir amlaf heddiw. Gyda rhamantiaeth hynod, alawon trawsnewidiol a cadenzas tanllyd, daw ei ail goncerto yn fyw dan ofal y Iorddonaidd-Palestinaidd sydd wedi ennill sawl gwobr, Iyad Sughayer. Mae plwc cynhenid Tsiecaidd, teitlau rhaglennol ffansi a’i gariad at faledau gwerin Karel Erben yn disgleirio yn The Wood Dove Dvořák, gyda’i offeryniaeth ddramatig ac atgofus yn troi’n alawon trawsnewidiol. Daw’r goleuni i gwrdd â’r cysgodion, galar i gwrdd â chariad, a darnau corawl i gwrdd â dawnsfeydd – yn syml iawn, adrodd straeon symffonig ar ei orau.

Bywgraffiadau

Lionel Bringuierarweinydd

Simon Pauly

Simon Pauly

Mae Lionel Bruier wedi arwain cerddorfeydd symffoni a siambr ac mewn tai opera ledled y byd.

Y tymor hwn, mae’n parhau i fod yn Artist Cyswllt yn ei dref enedigol gyda Cherddorfa Ffilharmonig Nice. Mae’r penodiad hwn yn rhoi cyfle iddo guradu cyfres o raglenni y bydd hefyd yn eu harwain, ac i wahodd partneriaid cerddorol agos, sydd y tymor hwn yn cynnwys Khatia Buniatishvili, Philippe Bianconi, Daniel Müller-Schott, Renaud Capuçon ac Alexandre Tharaud. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerdd gyda Tonhalle-Orchester Zürich (2014–18), ac yn flaenorol wedi dal swyddi gydag Orquesta Sinfónica de Castilla y León yn Valladolid, Orchestre de Bretagne ac Ensemble Orchestral de Paris.

Mae uchafbwyntiau eraill y tymor hwn yn cynnwys cyngherddau gyda cherddorfa Ffilharmonig Dresden a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Liège, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Genedlaethol Metz, Cerddorfeydd Symffoni Antwerp a San Diego a Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Gwlad Pwyl, Cerddorfa Ysgol Colburn a Cherddorfa Conservatoire Paris.

Dros y degawd diwethaf, mae wedi meithrin perthynas gref â Cherddorfa Symffoni Houston a Gŵyl Aspen. Mae hefyd wedi gweithio’n helaeth yn Asia, gan arwain Cerddorfa Symffoni Tokyo yn rheolaidd, yn ogystal â gweithio gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Seoul a Malaysia. Yn 2019, dychwelodd i Awstralia, gan arwain cerddorfeydd Symffoni Sydney a Gorllewin Awstralia.

Mae’n cydweithio’n rheolaidd ag Yuja Wang, y mae wedi recordio Concerto Ravel G fwyaf i’r Piano gyda hi. Mae ei recordiadau eraill yn cynnwys gwaith Chopin gyda Nelson Freire a gwaith Saint-Saëns gyda Renaud a Gautier Capuçon. Mae’n gweithio’n agos gydag offerynwyr blaenllaw eraill, gan gynnwys Lisa Batiashvili, Anne-Sophie Mutter, Yefim Bronfman, Emanuel Ax, Leif Ove Andsnes a Janine Jansen.

Mae’n dod o deulu o gerddorion ac astudiodd y soddgrwth ac arwain yn y Conservatoire ym Mharis, gan ennill Cystadleuaeth Ryngwladol Besançon ar gyfer Arweinwyr Ifanc flwyddyn ar ôl graddio. Yn 2020, bu’n aelod o reithgor La Maestra, y gystadleuaeth arwain ryngwladol gyntaf i fenywod, ac mae’n parhau i weithio gydag ysgolion lleol yn Nice i gyflwyno plant i gerddoriaeth glasurol a phrofiadau cerddorfaol.

Cafodd Lionel Bringuier ei enwi’n Chevalier de l’Ordre National du Mérite gan lywodraeth Ffrainc, ac mae wedi ennill y Médaille d’or à l’unanimité avec les félicitations du jury à l’Académie Prince Rainier III de Monaco a’r Médaille d’or gan Ddinas Nice.


Zee Zeepiano

Sunhao Zhou

Sunhao Zhou

Dechreuodd Zee Zee ei hyfforddiant cerddorol yn ninas Berlin pan oedd yn bum mlwydd oed, ac yna bu’n astudio gyda Dan Zhaoyi yn Ysgol Celfyddydau Shenzhen, gyda Nelita True yn Ysgol Gerdd Eastman, gyda Yohed Kaplinsky a Robert McDonald yn Ysgol Juilliard, a gyda Leon Fleisher yn Sefydliad Peabody. Mae ei llwyddiannau mewn cystadlaethau yn cynnwys Cystadleuaeth Concerti i’r Piano Ryngwladol gyntaf Tsieina a chystadlaethau Gina Bachauer, Krainev a’r Frenhines Elizabeth.

Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys cyngherddau gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Borusan Istanbul, Tsieina, Rhydychen a Szczecin, cerddorfeydd Symffoni Wladol Armenia, Shanghai a Tucson, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Ulster, yn ogystal ag ymddangos yn Neuadd Wigmore, Concertgebouw Amsterdam ac yng ngwyliau Macao, Parnu, Gŵyl Gwanwyn Prâg, Gŵyl Beethoven Minnesota ac InClassica Dubai.

Mae uchafbwyntiau tymhorau diweddar yn cynnwys cyngerdd agoriadol y tymor gyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Estonia dan arweiniad Neeme Järvi; taith o gwmpas y DU gyda Paavo Järvi; cyngherddau gyda Cherddorfa Philharmonia yn y Royal Festival Hall a chyda cherddorfa Ffilharmonig Hong Kong dan arweiniad Christoph Koncz, Paavo Järvi, ac Yu Long; cylchoedd o goncerti i’r piano gan Beethoven a Saint-Saëns gyda Cherddorfa Symffoni Shanghai; a datganiadau yng ngwyliau Aspen, Lucerne a Gŵyl Haf Brevard, ac yn Casa da Música yn Porto, Esplanade yn Singapore, a Premiere Performance yn Hong Kong, ymysg eraill.

Mae’n gweithio’n rheolaidd gydag arweinwyr blaenllaw, gan gynnwys Marin Alsop, Jonathan Bloxham, Lionel Bringuier, Charles Dutoit, Alondra de la Parra, Domingo Hindoyan, Paavo Järvi, Neeme Järvi, Christoph Koncz, Michał Nesterowicz, Jun Märkl, Julian Rachlin, Yan Pascal Tortelier, Roberto Trevino a Xian Zhang.

Mae hi’n un o sylfaenwyr y Z.E.N. Trio, ochr yn ochr ag Esther Yoo ar y ffidil a Narek Hakhnazaryan ar y soddgrwth. Gyda’i gilydd, maent wedi recordio gweithiau Brahms, Dvořák, Shostakovich, Babadjanian and Rachmaninov.

Zee Zee yw sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig gŵyl gerddoriaeth ryngwladol Z+ sy’n dod â cherddorion siambr rhyngwladol at ei gilydd ac sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yn Shanghai.

Rhyddhaodd ddisg o goncerti Liszt a Ravel gyda Paavo Järvi a Cherddorfa Philharmonia yn 2019, ac y llynedd fe ryddhaoedd Journey, albwm unigol sy’n cynnwys gweithiau gan Wagner, Schoenberg a Liszt.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau yn ogystal ag yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Martin Gwilym-Jonesis-flaenwr
Fiona McCapra
Terry Porteus
Anna Cleworth
Ruth Heney
Carmel Barber
Nadine Nigl
Juan Gonzalez
Rebecca Totterdell
Peter Povey
Emma Menzies
Amy Fletcher
Gary George-Veale

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Sheila Smith
Katherine Miller
Beverley Wescott
Ilze Abola
Vickie Ringguth
Lydia Caines
Joseph Williams
Roussanka Karatchivieva
Michael Topping
Sall-Wyn Ryan
Catherine Fox

Fiolâu
Matt Maguire ‡
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Liam Brolly
Ania Leadbeater
Lucy Theo

Soddgrythau
Alice Neary *
Raphael Lang
Sandy Bartai
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Keith Hewitt
Katy Cox

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Richard Gibbons
Alex Verster
Hiu Man Phoebe Cheng
Imogen Fernando

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolos
Lindsey Ellis †
John Hall

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Sarah-Jayne Porsmoguer

Cor anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer †

Clarinetau
Nick Carpenter ‡
Hannah Morgan
Lenny Sayers

Clarinét Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Jo Shewan
Alanna Pennar-McFarlane
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Tom Findlay
Tom Taffinder

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Lewis West 

Cornetau
Lewis West
Sam Lewis 

Trombonau
Donal Bannister*
Miri Wallich

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
Matt Hardy

Offerynnau Taro 
Phil Hughes *
Andrea Porter
Rhydian Griffiths
Max Ireland
Sarah Mason

Y Delyn
Valerie Aldrich-Smith †

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Eleanor Phillips
Llyfrgellydd y Gerddorfa Katie Axelsen(yn llenwi dros gyfnod tadolaeth)
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentisiaid BBC Cymru Analese Thomas-Strachan, Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications