Themâu ac Amrywiadau

Nos Iau 16/10/25, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Dmitry Shostakovich
Thema ac Amrywiadau 16’

Dmitry Shostakovich
Concerto Rhif 2 i’r Piano yn F fwyaf 20’

EGWYL: 20 munud

Joseph Haydn
Symffoni Rhif 6 yn F fwyaf, ‘Le matin’ 24’

JohannesBrahms
Amrywiadau ar Thema gan Haydn 19’

Jaime Martín arweinydd
Alim Beisembayev piano

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3, i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Classical Live a bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso i’n cyngerdd heno, lle mae’n bleser mawr croesawu’n ôl ein Prif Arweinydd Gwadd Jaime Martín. Cawn glywed gwaith gan Shostakovich, a hithau’n 50 mlynedd eleni ers ei farwolaeth, ynghyd â Brahms a Haydn ar eu mwyaf naturiol wladaidd.

Daeth doniau cyfansoddi Shostakovich i’r amlwg yn gynnar iawn, fel y dengys ei Thema ac Amrywiadau a gyfansoddodd yn ei arddegau. Dros dri degawd yn ddiweddarach cawsom ei Ail Goncerto i’r Piano, a ysgrifennwyd ganddo i’w berfformio gan ei fab ifanc Maxim. Heno, ein hunawdydd fydd Alim Beisembayev, enillydd Cystadleuaeth Piano Leeds, sydd ar hyn o bryd yn Artist y Genhedlaeth Newydd ar Radio 3.

Chweched Symffoni Haydn, ‘Le matin’, oedd y cyntaf mewn triawd o weithiau a gynlluniodd i gyfleu adegau o’r dydd. Mae’n agor gyda thoriad gwawr hynod o ddelweddol cyn bwrw ymlaen i arddangos doniau llachar y gerddorfa siambr a ddarparwyd ar ei gyfer gan ei gyflogwr newydd, y Tywysog Paul Anton Esterházy.

Mae cysylltiad rhwng Haydn a’r darn olaf ar y rhaglen hefyd, oherwydd mae Brahms yn ei Amrywiadau yn cymryd thema y tybiwyd iddi gael ei chyfansoddi gan ei ragflaenydd mawr ac yn mynd ati i ddangos ei feistrolaeth lwyr ar y ffurf.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Dmitry Shostakovich (1906–75)

Thema ac Amrywiadau, Op. 3(1921)

‘Bydd rhai pobl yn synhwyro cerddoriaeth yn arwynebol a greddfol, ond rwyf i’n gallu dirnad pob manylyn lleiaf, ac mae popeth mewn cerddoriaeth yn ddealladwy i mi – “cerddoriaeth yw f’enaid”. On’d yw hynny’n hyfryd?’ Ysgrifennodd Shostakovich y geiriau hyn at gariad iddo pan oedd yn 17 oed ac yn awyddus iddi ddeall bod ganddo allu uwch na’r cyffredin. Yn wir, roedd yr Amrywiadau cerddorfaol llachar hyn wedi’u cyfansoddi ddwy flynedd cyn y llythyr, tra oedd yn fyfyriwr yn Conservatoire Petrograd, ac mae’n debyg mai tasg ar gyfer ei gwrs cerddorol oedden nhw.

Thema dawel ddirodres sydd yma, sy’n rhoi’r baich yn gyfan gwbl ar yr amrywiadau i ennill clust y gwrandäwr. Aiff yr amrywiadau â ni drwy sawl tempo a naws amrywiol nes cyrraedd diweddglo estynedig mewn mesur ‘Rwsiaidd’ cywrain a chyffrous o guriadau 5+7. Mae’n debyg mai Tchaikovsky oedd prif destun y gwaith cwrs ar y pryd, gan fod Shostakovich yn dangos dro ar ôl tro y gall ail-greu elfennau allweddol o arddull Tchaikovsky. Ceir enghraifft syml yn Amrywiadau 2 a 6, sydd ill dau’n gorffen gyda chord uchel sydyn, fel ebychnod, rhywbeth a wnaed gan Tchaikovsky mewn sawl darn bale.

Arolygwr y gwaith cwrs oedd Glazunov, ac fe roddodd y marc uchaf iddo, gan ychwanegu arwydd ‘plws’. Nododd fod y darn yn dystiolaeth o ‘ddawn eithriadol sydd wedi amlygu ei hun yn gynnar. Rhyfeddol ac yn haeddu edmygedd.’ Cyflwynir yr Amrywiadau er cof am Nikolai Sokolov, un o ddisgyblion Rimsky-Korsakov a oedd yn athro ar Shostakovich – bu farw ychydig cyn i’r Amrywiadau gael eu cwblhau.

Nodyn y rhaglen © Marina Frolova-Walker

Dmitry Shostakovich

Concerto Rhif 2 i’r Piano yn F fwyaf, Op. 102(1956–7)

1 Allegro
2 Andante –
3 Allegro

Alim Beisembayev piano

Ar ôl marwolaeth Stalin ym 1953, llwyddodd Shostakovich i drefnu première ei 10fed Symffoni, cofeb i’r dyddiau tywyll a oedd bellach ar ben. Wrth i fywyd diwylliannol y byd Sofietaidd lacio, o’r diwedd roedd yn rhydd i fwrw ymlaen ag arddull newydd. Ond yn hytrach, cymerwyd ei holl sylw yng nghanol y 1950au gan drafferthion yn ei fywyd personol. Bu farw ei wraig Nina ym 1954, ac roedd ganddo ddau blentyn yn eu harddegau dan ei ofal. Ail-briododd yn reit fuan, ond yn hytrach na datrys ei broblemau, dim ond creu rhagor wnaeth hynny.

Roedd ei fab Maxim yn astudio’r piano mewn coleg cerdd pwysig ym Moscow, ac roedd Shostakovich eisoes wedi ysgrifennu darn y gallent ei chwarae gyda’i gilydd, y Concertino ar gyfer dau biano (1954). ‘Ymbiliodd’ Maxim am goncerto piano y gallai ei chwarae ar gyfer ei radd, ac yn ei arholiad mynediad i Conservatoire Moscow. Ymatebodd Shostakovich, ac amserwyd y première gyda cherddorfa i ddigwydd ar ben-blwydd Maxim yn 19 oed. 

Dyma anrheg pen-blwydd hael dros ben, ac roedd Shostakovich wedi gofalu peidio â gosod gofynion gormodol ar y pianydd ifanc, gan ddal i ganiatáu iddo ddisgleirio mewn amrywiaeth o rannau technegol effeithiol a mynegiannol. O ran arddull, doedd y concerto ddim yn torri tir newydd, ac yntau wedi’i adeiladu’n rhannol ar syniadau o’r Concertino. Ar y dechrau, tueddai Shostakovich i ddibrisio’r darn, ond roedd yn boblogaidd gan berfformwyr a’r cyhoedd. Oherwydd salwch, lleihau’n raddol wnaeth ei ddoniau ei hun ar y piano, ond dyma ddarn y gallai ei chwarae o hyd, ac fe’i perfformiodd yn gyhoeddus ar sawl achlysur. 

Mae sirioldeb ymdeithganau bach y symudiad cyntaf yn ildio cyn hir i elfennau sarcastig a grotésg. Erbyn canol y symudiad, mae’r rhan piano wedi troi’n ffyrnig ac yn giaidd, hyd yn oed. Yn y symudiad araf, mae’r gerddorfa’n chwarae sarabande galarus, wrth i’r piano geisio ysgafnhau’r naws gydag alaw ramantaidd na fyddai allan o’i le mewn sgôr ffilm. Eir yn ôl i’r cywair lleiaf, ac mae’r coda yn cynnwys cyfeiriadau cynnil at ddiweddglo’r Bedwaredd Symffoni, y bu raid i’r cyfansoddwr ei thynnu’n ôl ym 1936 (ni chafodd honno ei pherfformiad cyntaf tan 1961). Mae’r diweddglo’n wfftio’r dwyster, ac yn cyflwyno polka comig, parodi o ymarfer piano i’r bysedd, ymdeithgan hunan-bwysig a darn anodd gyda saith curiad yn y bar i wneud i’r arweinydd chwysu.

Nodyn y rhaglen © Marina Frolova-Walker

EGWYL: 20 munud

Joseph Haydn (1732–1809)

Symffoni Rhif 6 yn F fwyaf, ‘Le matin’(1761)

1 Adagio – Allegro
2 Adagio – Andante – Adagio
3 Menuet – Trio
4 Finale: Allegro

Yn gynnar yn 1761, roedd y Tywysog hynod gyfoethog Paul Anton Esterházy yn chwilio am gyfansoddwr ifanc disglair i ymgymryd â rhai o ddyletswyddau ei Kapellmeister oedrannus a nychlyd, Gregor Werner (1693–1766). Ar yr un pryd, cafodd Joseph Haydn ei hun heb swydd ar ôl i’w gyn-gyflogwr, y Cownt Morzin, ddisbyddu ei ffortiwn a gorfod chwalu’i gerddorfa. Roedd ffawd yn gwenu ar Haydn, a chafodd ei benodi gan Paul Anton ar 1 Mai 1761 i ofalu am y gerddorfa o gerddorion athrylithgar yn ei balasau yn Fienna ac Eisenstadt, 50km i’r de o’r brifddinas.

Cerddoriaeth Baróc Eidalaidd oedd yn mynd â bryd Paul Anton, ac roedd Pedwar Tymor Vivaldi ymhlith ei hoff weithiau. Mae’n debygol mai ei syniad ef oedd i Haydn gyfansoddi cylch cyfatebol yn cyfleu hynt un diwrnod yn llys y tywysog, gan agor gyda thoriad gwawr a chloi gyda storm hwyrol. Ymatebodd Haydn gyda thriawd o symffonïau, Rhifau 6, 7 ac 8, a alwodd (yn Ffrangeg) ‘Le matin’, ‘Le midi’ a ‘Le soir’. Llwyddodd Haydn nid yn unig i gyflawni ei dasg o adlewyrchu trefn ddyddiol y tywysog yn ôl iddo mewn cerddoriaeth ond hefyd i dalu teyrnged i’r cerddorion gwych oedd wedi dod dan ei adain. Gan ddechrau gyda blaenwr y gerddorfa, Luigi Tomasini, rhoddodd i bob un o’i brif chwaraewyr yn eu tro ei ennyd ei hunan yn y llifolau. Ceir eiliadau unigol nid yn unig i’r ffidil ond hefyd i’r ffliwt, y corn, y basŵn a’r soddgrwth, a hyd yn oed i seiniau tywyll y fiolon, rhagflaenydd y bas dwbl modern, yn Nhrio y Miniwét.

Mae codiad yr haul yn ‘Le matin’ yn datblygu o feiolinau’n unig, pianissimo, i gerddorfa lawn, fortissimo, mewn cwta chwe bar, cyn i’r Allegro bywiog ddarlunio bwrlwm bore gwaith, gydag alaw ar y ffliwt yn cael ei hateb gan oboau. Mae’r corn yn cael dangos ei hun hefyd, cyn i alaw’r ffliwt ddod yn ôl yn ailddangosiad y symudiad. Gwers gerddoriaeth i’r plant yw’r symudiad araf, a’r ffidil yn dangos iddynt sut i chwarae graddfa esgynnol cyn i soddgrwth unigol ymuno i greu deuawd bersain. Mae’r Miniwét yn rhoi llwyfan i’r ffliwt a’r oboau, a’i Drio yn y cywair lleddf yn dod â’r basŵn a’r bas dwbl allan o’r cysgodion mewn partneriaeth gomig o ddifrifol gyda soddgrwth unigol. Mae pawb heblaw’r basau dwbl yn ymuno â’r sgwrs yn y symudiad olaf bywiog, gan orffen y bore mewn hwyliau da.

Nodyn y rhaglen © David Threasher

Johannes Brahms (1833–97)

Amrywiadau ar Thema gan Haydn, Op. 56a(1873)

Ym 1872 daeth Johannes Brahms yn gyfarwyddwr artistig ac arweinydd ar Gesellschaft der Musikfreunde yn Fienna. Dros y tair blynedd nesaf, trefnodd ac arweiniodd chwe chyngerdd bob tymor, gan fanteisio i’r eithaf ar gôr a cherddorfa ardderchog y gymdeithas. Cafodd dinasyddion Fienna wrando nid yn unig ar weithiau cyfoes gan Berlioz, Bruch, Rheinberger ac eraill, ond hefyd ar ‘gerddoriaeth gynnar’, o Ddioddefaint Sant Mathew ganBach i Alexander’s Feast gan Handel. Ac wrth gwrs, cafwyd darnau gan Brahms ei hun.

Cyfansoddwyd Amrywiadau ‘Haydn’ yn haf 1873, yn gyntaf ar gyfer dau biano ac wedyn i gerddorfa lawn. (Mae’n bwysig nodi bod y ddau fersiwn yn gydradd ym meddwl Brahms: dywedodd wrth ei gyhoeddwr nad oedd arno eisiau i’r sgôr piano gael ei chyflwyno fel ‘trefniant’, sy’n egluro’r fersiynau ‘a’ a ‘b’ o rif opus y gwaith hwn.) Fienna oedd cartref Ffair y Byd ym 1873, ffair ddiwydiannol a diwylliannol enfawr a ddenodd dros saith miliwn o ymwelwyr i brifddinas Awstria-Hwngari. Ar 2 Tachwedd, i gyd-fynd â diwrnod olaf y Ffair, cyflwynodd Brahms ei ‘Amrywiadau i Gerddorfa ar Thema gan Joseph Haydn’ yn newydd sbon i gynulleidfa frwdfrydig iawn.

Roedd Brahms wedi cael ei thema drwy’r ysgolhaig ar Haydn, Carl Ferdinand Pohl, a oedd wedi darganfod set anhysbys o Chwe Divertimento ar gyfer chwythbrennau yn ddiweddar. Yn y cyntaf o’r rhain, cafwyd ‘Chorale St. Antonii’ – a dyna sut mae darn Brahms yn dechrau gyda’r sylw’n llawn ar yr adran chwyth, a’r llinynnau’n plycio’n gynnil yn y cefndir.

Erbyn hyn, mae’n eithaf tebygol nad gwaith Haydn oedd y divertimenti– ond yn hollbwysig i Brahms, roedd enw Haydn yn awgrymu ffordd arbennig o drin y deunydd, yn ogystal â rhoi’r ysbrydoliaeth gychwynnol. Addurniadau llinynnol ystwyth, clarinetau sionc ar ddawns, gohiriannau dolefus, ‘sicilienne’ gosgeiddig – dim ond rhai o’i drawsnewidiadau dyfeisgar niferus o’r syniad agoriadol yw’r rhain, a wneir yn fwy lliwgar fyth trwy gynnwys picolo, basŵn dwbl a thriongl tincialog o fewn adeiledd y gerddorfa Beethovenaidd safonol.

Mae’r diwedd wedi’i seilio ar linell fas ailadroddus dros bum bar sy’n teithio’n raddol drwy’r ensemble, gan ddal i gryfhau nes dod o’r diwedd at ddychweliad buddugoliaethus y thema, a diweddglo egnïol. Fel y dywedodd un adolygydd, ‘Mae’n drueni bod cyn lleied o bobl heddiw’n dal i fwynhau pethau fel y basso ostinato, y mae hanner y symudiad olaf hwn wedi’i adeiladu’n gelfydd drosto, oherwydd wnân nhw ddim hyd yn oed sylwi arno. Serch hynny, dyna hefyd yw’r deyrnged uchaf y gall rhywun ei roi i’r fath gampwaith technegol: nad yw wedi hawlio’r sylw.’

Nodyn y rhaglen © Katy Hamilton

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngerdd nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu tocynnau am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

‘Grace’

Nos Iau 20/11/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Grace Williams Ballads for Orchestra
Elizabeth Maconchy Serenata concertante
Anna Semple The Gates
Julia Wolfe Pretty

Stephanie Childressarweinydd
Geneva Lewis  ffidil

ARLOESOL | FFRES | DARLUNIADOL

Fis Tachwedd, fel rhan o’n cyfres flynyddol ‘Grace’ sy’n archwilio cerddoriaeth Grace Williams a menywod modern ym myd cerddoriaeth, byddwn yn arddangos gwaith gan y cyfansoddwyr byw Anna Semple a Julia Wolfe, dan arweiniad Stephanie Childress.

Ysgrifennwyd The Gates gan Anna Semple ar gyfer Cerddorfa Malcolm Street, ac yma mae’n chwarae gyda’r syniadau o adalw a chofio – yn benodol, ceir yma ddehongliad cerddorol o weld delwedd o gatiau yn agos, ac yna’i hailddychmygu o bell, heb ei chofio’n union. Mae Pretty gan Julia Wolfe wedi’i ysbrydoli gan ystumiad a datseinedd cerddoriaeth roc a rôl, ac mae’n ddathliad croch o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ‘brydferth’.

Yn wahanol i’r repertoire a hysbysebwyd yn flaenorol, bydd BBC NOW yn perfformio Serenata concertante gan Elizabeth Maconchy, lle ceir cyferbyniad rhwng symudiadau telynegol, arafach a rhai mwy rhythmig ac egnïol.

Ond yn gyntaf, rydyn ni’n troi at y sawl a roddodd ei henw i’r gyfres, Grace, a’i gwaith Ballads for Orchestra.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Jaime Martín arweinydd

Paul Marc Mitchell

Paul Marc Mitchell

Ar hyn o bryd mae’r arweinydd o Sbaen Jaime Martín yn Gyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Siambr Los Angeles, yn Brif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Melbourne ac yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd wedi dal swyddi Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Iwerddon (2019–24), Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Sbaen (2022–24) a Chyfarwyddwr Artistig a Phrif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Gävle (2013–22).

Ar ôl treulio blynyddoedd lawer fel ffliwtydd uchel ei barch, trodd at arwain yn llawn-amser yn 2013 ac yn fuan daeth galw mawr amdano ar y lefel uchaf.

Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor diwethaf roedd Gŵyl Beethoven dros 11 diwrnod gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne, lle arweiniodd bob un o’r naw symffoni. Dychwelodd hefyd i arwain cerddorfeydd yn Sbaen, Prydain ac Awstralia ac ymgymerodd â thaith trwy Brydain ac Ewrop gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne gan gynnwys ymddangosiadau yn y BBC Proms a Gŵyl Ryngwladol Caeredin.

Yn nhymor 2025/26 mae’n arwain cerddorfeydd Symffoni Aalborg, Colorado, Euskadi, Gothenburg, Seland Newydd a Queensland, Cerddorfa Gŵyl Budapest, cerddorfeydd Ffilharmonig George Enescu a Strasbwrg, Cerddorfa Symffoni Radio Berlin ac RTVE Madrid.

Mae ei ddisgograffeg helaeth yn cynnwys recordiadau gyda cherddorfeydd Symffoni Barcelona, Gävle a Melbourne, Cerddorfa Cadaqués a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain.

Mae Jaime Martín yn Gynghorydd Artistig a chyn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Santander ac yn Gymrawd y Coleg Cerdd Brenhinol, lle bu’n athro ffliwt.

Alim Beisembayevpiano

Andrew Mason

Andrew Mason

Enillodd Alim Beisembayev y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Piano Ryngwladol Leeds 2021, gan berfformio Rhapsodi ar Thema gan Paganini Rachmaninov gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl ac Andrew Manze. Enillodd hefyd Wobr Cynulleidfa medici.tv a Gwobr Cymdeithas Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl am berfformiad cyfoes.

Mae’n Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 (2023–5) a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y BBC Proms gyda Sinfonia Llundain a John Wilson ar ddau ddiwrnod o rybudd, gan ddod ag ef i sylw rhyngwladol. Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae’r perfformiad cyntaf erioed o Concerto Eleanor Alberga i’r Piano gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a choncertos gyda Cherddorfeydd Symffoni a Ffilharmonig y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Tsiec, Cerddorfa Symffoni Barcelona, Cerddorfa Symffoni SWR Stuttgart, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol India, Cerddorfa Symffoni Academaidd Gwladwriaeth Rwsia a Cherddorfa Symffoni Fort Worth, ymhlith eraill.

Ymhlith uchafbwyntiau concerto yn nhymor 2024–25 cafwyd ymddangosiadau cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni BBC yr Alban, Cerddorfa Ffilharmonig Xiamen, Sinfonietta Cracovia a’r Janáček Philharmonic yn Ostrava.

Fel datgeiniad, mae wedi gwneud ymddangosiadau cyntaf nodedig yn y BBC Proms yn Truro, Concertgebouw Amsterdam, Neuadd Wigmore, Canolfan Gelfyddydau Seoul, Neuadd Carnegie, Neuadd Gyngerdd Victoria, Singapore, Sefydliad Chopin yn Warsaw, Gŵyl Biano Rhydychen a Fondation Louis Vuitton, Paris, yn ogystal â thaith o amgylch Ewrop gyda Rhwydwaith Cyngherddau Steinway i Enillwyr Gwobrau, a Corea, gyda Rhwydwaith Diwylliant y Byd. Ymhlith yr uchafbwyntiau sydd i ddod mae sawl dychweliad i Neuadd Wigmore, yn ogystal â’i berfformiad cyntaf yn Neuadd y Frenhines Elizabeth, Canolfan Southbank.

Rhyddhaodd ei albwm cyntaf, Transcendental Études Liszt, yn 2022.

Ganwyd Alim Beisembayev yn Kazakhstan ym 1998, ac astudiodd yn gyntaf yn Ysgol Purcell ac yn ddiweddarach yn yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Coleg Cerdd Brenhinol.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus 
Suzanne Casey 
Ruth Heney **
Kerry Gordon-Smith 
Anna Cleworth 
Carmel Barber 
Alejandro Trigo
Juan Gonzalez
Žanete Uškāne
Zhivko Georgiev
Gary George-Veale

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie # 
Ros Butler
Sheila Smith
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines **
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Joseph Williams
Michael Topping
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike # 
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Lowri Taffinder 
Lydia Abell
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton 
Anna Growns

Soddgrythau
Miwa Rosso ‡
Raphael Lang 
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Keith Hewitt
Alistair Howes
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Christopher Wescott
Emma Prince
Phoebe Clarke
William Cole
Antonia Bakewell

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Dominic Tyler
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland  †

Cyrn
Anna Douglass ‡
Meilyr Hughes
Dave Ransom
Flora Bain
Tom Taffinder 

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †

Trombonau
Simon Wills ‡
Stephen Turton

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
James Tavares

Timpani
Steve Barnard *

Offrynnau Taro
Rhydian Griffiths ‡
Andrea Porter
Max Ireland

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Daniel Williams
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol swydd wag

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications