

‘Grace’
Nos Wener 21/2/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Cecilia Damström
ICE première y DU 10’
Ninfea Cruttwell-Reade
Concerto i’r Piano première byd c20’
EGWYL: 20 munud
Grace Williams
Symffoni Rhif 1 30’
Emilia Hovingarweinydd
Clare Hammond piano
Mae BBC NOW yn falch o gefnogi cynaliadwyedd, ac mae’n rhoi pleser o’r mwyaf i ni gyflwyno gwaith yn y cyngerdd heno sy’n mynd i’r afael â chynhesu byd-eang, y byd naturiol a pherthynas pobl ag ef – ICE gan Cecilia Damström.
Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf
Caiff y cyngerdd hwn ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol yn Classical Live a’r New Music Show; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd glywed podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Llun: Kirsten McTernan
Llun: Kirsten McTernan
Croeso i’r cyngerdd heno, lle rydym yn falch iawn o groesawu’r seren ifanc Emilia Hoving i arwain cyngerdd o gerddoriaeth hynod o wahanol gan dair cyfansoddwraig. I ddechrau, cawn waith gan ei chyd-Ffiniad Cecilia Damström, a glywir heno ym Mhrydain am y tro cyntaf, sef ICE, sy’n archwilio breuder ein planed trwy gerddoriaeth sy’n hiraethus a phwerus am yn ail.
Nesaf, gwaith newydd sbon: y Concerto Piano gan Ninfea Cruttwell-Reade, sy’n cynnig gwedd fodern ar goncerto virtuoso traddodiadol y 19eg ganrif mewn modd eithriadol o ddyfeisgar.
Er bod enw Grace Williams adnabyddus i ni, efallai mai dim ond nawr y mae ei mawredd fel cyfansoddwr symffonïau arloesol yn cael ei gydnabod go iawn. Mae ei Symffoni Gyntaf rymus ac uchelgeisiol – a ysgrifennwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac a ysbrydolwyd gan ein harwr ni Gymry, Owain Glyndŵr – yn dangos ei chryfderau yn effeithiol dros ben.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Cecilia Damström (ganed 1988)
ICE, Op. 77(2021)
première y DU

Ysgrifennwyd ICE ar gyfer Sinfonia Lahti mewn ymateb i gomisiwn i nodi enwi dinas Lahti yn Brifddinas Werdd Ewrop yn 2021. Mae’r darn wedi’i ysbrydoli gan iâ yn toddi ac ynddo gallwn glywed y modd mae tirweddau a’r gaeaf yn mynd yn fyrrach o hyd. Trwy’r gwaith hwn, rwy’n ceisio mynegi sut mae cynhesu byd-eang, yn ogystal â chwymp ecosystemau a thempo cyflymach a chyflymach y byd, yn lladd yr adeileddau eira a rhew hardd sy’n filiynau o flynyddoedd oed. Mae hefyd yn mynegi sut mae calon y ddaear yn ymladd am ei fodolaeth trwy bob curiad. Yn ICE rydw i wedi ceisio disgrifio hefyd beth all ddigwydd os gwnawn ni weithredu: gallwch glywed ailddirwyn, sut y gall gweithred gael effaith a dod â’n gaeafau’n ôl. Mae’r enw ICE yn sefyll am rew a hefyd am ‘In Case of Emergency’.
Nodyn y rhaglen © Cecilia Damström
Enillodd ICE Wobr Teosto yn 2022, un o’r gwobrau celfyddydol mwyaf yn y gwledydd Nordig. Damström oedd y cyfansoddwr benywaidd cyntaf ym myd cerddoriaeth gyfoes glasurol i dderbyn y wobr.
Ninfea Cruttwell-Reade (ganed 1989)
Concerto i’r Piano(2024)
première byd

1 Larghetto
2 Scherzo
Clare Hammond piano
Tyfodd fy nghyfansoddiad o’m diddordeb yn ffurfiau a chonfensiynau repertoire concertos y 19eg ganrif, er ei fod yn gwyro oddi wrth y rhain mewn un ffordd amlwg, gan ei fod wedi’i rannu’n ddau symudiad cyferbyniol yn hytrach na’r tri traddodiadol.
Mae’r symudiad cyntaf Larghetto yn cofleidio byd sain cerddorfaol diwedd y 19eg ganrif tra’n ystumio’r elfennau tonyddol yn ysgafn gyda gwyriadau nodau cromatig. Mae’r unawdydd wedi’i leoli fel ffigur sy’n cael ei gario gyda’r llif ar y newidiadau cynnil hyn yn y môr. Mae rôl amlwg i seiniau’r adran bres yn y symudiad hwn, sy’n rhoi cynhesrwydd a phendantrwydd i’r deunydd.
Mae’r Larghetto yn ildio i aflonyddwch bywiog y Scherzo. Yn yr ail symudiad hwn rwy’n defnyddio motiffau ecsentrig, offerynnau taro bywiog a churiadau fel gordd, sydd yn eu tro’n gwneud i’r gerddoriaeth gerdded, strytian, dawnsio a chythru. Cefais fy nenu’n arbennig at y syniad o gerddediad cerddorol ac rwyf wedi ceisio dal naws camau gorymdeithio milwrol. Mae’r Scherzo yn gweithredu o fewn tempo gorymdeithio traddodiadol 90 curiad y funud heb fawr ddim amrywiad drwyddi. Ond ar ben y staes metronomig hwn, mae patrymau’r curiadau yn wisg anghyffredin.
Comisiynwyd y concerto gan BBC Radio 3 a’r Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol, gyda chefnogaeth gan Sefydliad John Ellerman.
Nodyn y rhaglen © Ninfea Cruttwell-Reade
EGWYL: 20 munud
Grace Williams (1906–75)
Symffoni Rhif 1(1943, adol. 1952)

1 Allegro con fuoco
2 Andante liricamente
3 Scherzo barbaro e segreto (Allegro molto)
4 Epilog: Andante solenne
Fe dorrodd Symffoni Rhif 1 Grace Williams – is-deitl ‘Symphonic Impressions’ – dir newydd i gerddoriaeth Gymreig. Cymharol ychydig o symffonïau oedd wedi’u cyfansoddi gan gyfansoddwyr o Gymru cyn sefydlu cerddorfa broffesiynol BBC Cymru yn y 1930au, a Williams oedd y gyntaf o’i chenhedlaeth i gyflawni disgwyliadau’r genedl pan gwblhaodd ei symffoni newydd yn 1943. Daeth y rhyfel i ohirio’r première, ond cafodd y gwaith ei berfformiad darlledu cyntaf yng Nghaerdydd (ochr yn ochr â phremière Concerto roedd Williams newydd ei gyfansoddi i’r Ffidil) gan Gerddorfa Gymreig y BBC, dan arweiniad Mansel Thomas, ar 30 Mawrth 1950.
Er nad oedd Williams yn gwbl fodlon â’r gwaith yn ei gyfanrwydd, mae perfformiadau ers hynny wedi cadarnhau gwreiddioldeb a natur arloesol y symffoni wirioneddol Gymreig hon. Nodweddion beiddgar yw ei thestun Cymreig a gwreiddioldeb ei harddull ffurfiol. Cymerodd Williams ysbrydoliaeth o hanes arwr Cymru Owain Glyndŵr (c.1354–1415) wrth gyfansoddi’r gwaith, a chymerodd y cam anarferol o osod ei symffoni ‘in the form of Symphonic Impressions of the Glendower scene in [Shakespeare’s] Henry IV, Part 1’. Roedd tri symudiad cyntaf y symffoni’n ‘argraffiadau’ cerddorol cyferbyniol o ‘Glendower’ Shakespeare, tra bod y diweddglo a’i orymdaith yn cyfleu ei hargraff hi ei hun o ‘Owain Glyndŵr, ffigwr mawr hanes Cymru’.
Mae’r symudiad agoriadol yn darlunio ‘Glyndŵr y rhyfelwr’, ac mae rhagair yn sgôr llawysgrif Williams, sef disgrifiad Glyndŵr o’i enedigaeth yn nrama Shakespeare (Act 3 golygfa 1):
At my nativity
The front of heaven was full of fiery shapes,
Of burning cressets; and at my birth
The frame and huge foundation of the earth
Shaked like a coward …
Dyma symudiad o ffanfferau dramatig a thân gwyllt cerddorfaol tymhestlog – yn llawn ‘tân a brwmstan a phasiantri’ yng ngeiriau’r gyfansoddwraig ei hun – er gwaethaf yr eiliadau o dawelwch sy’n dod yn yr adran ganolog fwy synfyfyriol ac ar ddiwedd y symudiad. Mae’r symudiad araf yn portreadu ‘Glyndŵr y breuddwydiwr’, a phrydferthwch hudolus a synhwyrus cerddoriaeth Williams yn cyfleu ei gyfieithiad o gais tyner ei ferch Gymraeg i’w gŵr, Syr Edmund Mortimer:
She bids you upon the wanton rushes lay you down,
And rest your gentle head upon her lap,
And she will sing the song that pleaseth you,
And on your eyelids crown the god of sleep,
Charming your blood with pleasing heaviness,
Making such difference ’twixt wake and sleep …
Mae’r Scherzo cyflym yn darlunio ‘Glyndŵr y dewin’ – yn benodol, ei ymffrost ei fod yn gallu ‘galw ar y diafol’ (Act 3 golygfa 1). Wedi’i farcio’n barbaro e segreto (milain a llechwraidd), mae’r symudiad dewinol hwn yn clecian â ffraethineb dieflig, egni rhythmig meddwol ac aryneilio bywiog, sydyn yn y gerddorfa. Mae diweddglo godidog yr Epilog weithiau’n arwrol, weithiau’n angerddol a galarnadol o ran cywair, gan gyfleu gorymdaith genedlaethol fawreddog y mae gwahoddiad i bawb ohonom ymuno â hi.
Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant …
Boulez yn 100
Ffrwd fyw
Nos Iau 6/3/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Boulez Livres pour cordes
Berg Concerto i’r Ffidil
Boulez Mémoriale
Messiaen Les offrandes oubliées
Wagner Tristan und Isolde – Prelude und Liebestod
Daniel Cohen arweinydd
Ava Bahari ffidil
Matthew Featherstone ffliwt
CYFOES | DYLANWADOL | DADLENNOL
I ddathlu canfed pen-blwydd Pierre Boulez, mae’r arweinydd Daniel Cohen yn ymuno â Cherddorfa Gymreig y BBC am noson o berlau’r 20fed ganrif, gan ddechrau gyda Livres pour cordes gan Boulez ei hun. Mae harddwch annisgwyl yn rhedeg yn ddwfn yn y gwaith onglog a darniog hwn, sy’n gyfan gwbl delynegol.
Mae Ava Bahari yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Gymreig y BBC yng ngwaith mwyaf adnabyddus a chyfarwydd Berg, ei Goncerto i’r Ffidil, cyn i Brif Ffliwt y Gerddorfa, Matthew Featherstone, gamu i’r sbotolau ar gyfer Mémoriale Boulez, campwaith deinamig o dechneg ffliwt estynedig. Cyn-athro Boulez, Olivier Messiaen, ddaw nesaf, wrth i ni archwilio’i Les offrandes oubliées parchus, ac yn olaf awn i ddyfnder cythrwfl serch gwaharddedig yn nrama gerddorol arloesol Wagner, Tristan und Isolde.
Gwychder Gwyllt
Nos Iau 20/3/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 21/3/25, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Grace Williams Penillion
Bruch Concerto Rhif 1 i’r Ffidil
Rachmaninov Symffoni Rhif 3
Tadaaki Otaka arweinydd
Eldbjørg Hemsing ffidil
TANLLYD | ANGERDDOL | GRYMUS
Yn y darn Penillion gan Grace Williams, ceir adlais o ganeuon gwerin â chyfeiliant telyn wrth i alawon lled-fyrfyfyr gael eu plethu â chyfeiliant rhythmig i greu agoriad grymus i’r cyngerdd yma gydag Arweinydd Llawryfog poblogaidd BBC NOW, Tadaaki Otaka.
Cyfunir alaw esgynnol a meistrolaeth andros o anodd yng Nghoncerto Cyntaf angerddol Bruch i’r Ffidil. O dân gwyllt yr unawdydd i gefndir cyfoethog y gerddorfa, does dim rhyfedd bod y concerto hwn yn dal yn ffefryn ymysg unawdwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, ac mae’n bleser gennym groesawu’r meistr ar y ffidil, Eldbjørg Hemsing, yn ei ôl i berfformio’r darn. Yn yr un modd, mae Trydedd Symffoni Rachmaninov hefyd yn ddarn angerddol, gydag uchafbwyntiau trawiadol yn ildio i unawdau dwys, a gorymdeithiau grymus yn troi’n ddathliad taranllyd, a’r cyfan yn seiliedig ar un motiff cerddorol sy’n cael ei drawsnewid a’i ddatblygu’n fedrus drwyddi draw.
Bywgraffiadau
Emilia Hovingarweinydd
A hithau eisoes wedi’i sefydlu ei hun ar draws Ewrop, daw Emilia Hoving yn ôl i’r llwyfan y tymor yma i arwain cerddorfa Philharmonia Helsinki, cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Radio Norwy a cherddorfeydd symffoni Adelaide a Malmö. Bydd hi’n perfformio am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Strasbourg, cerddorfeydd cenedlaethol Gwlad Belg a’r Alban, cerddorfeydd symffoni Castile a León, Stavanger, Tasmania a Trondheim a cherddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd (yn yr Amsterdam Concertgebouw).
Ymhlith uchafbwyntiau’r misoedd diwethaf mae ei hymddangosiad cyntaf mewn perfformiad tanysgrifio gyda’r Orchestre Philharmonique de Radio France ac ymweliadau cyntaf â cherddorfeydd symffoni’r BBC, Radio Sweden a Tenerife, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a Cherddorfa Tonkünstler Fienna.
Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn Japan yn 2022 yn Neuadd Suntory gyda Cherddorfa Symffoni Yomiuri Nippon ac yn Awstralia yng Ngŵyl Adelaide 2023. Yn yr un flwyddyn ymddangosodd yng Ngŵyl Summer Sounds Avanti!, a bydd yn arwain gweithiau gan gyfansoddwyr byw yn rheolaidd. Fis Hydref diwethaf arweiniodd Gerddorfa Symffoni Albanaidd y BBC yng ngŵyl fawr Nordic Music Days yn Glasgow, ac mae ganddi berthynas agos â phrosiect parhaol cerddorfa Ffilharmonig Helsinki i adfywio gweithiau gan gyfansoddwyr diweddar o’r Ffindir a gafodd eu hesgeuluso.
Y tymor hwn bydd yn arwain opera prif lwyfan am y tro cyntaf hefyd, gan gymryd y baton mewn sawl perfformiad o Y Ffliwt Hud ar gyfer Opera North.
Bu’n Gynorthwyydd i Hannu Lintu yng ngherddorfa Symffoni Radio’r Ffindir (2019) ac i Mikko Franck yn Radio France (2020–22). Yn y ddwy swydd bu raid iddi neidio i’r adwy a chymryd yr awenau, a dyna sut y saethodd i enwogrwydd.
Astudiodd Emilia Hoving yn Academi Sibelius yn Helsinki gyda Sakari Oramo ac Atso Almila, ar ôl dechrau astudiaethau arwain yn 2015 gyda Jorma Panula. Cyn hynny, astudiodd y piano a’r clarinét.
Clare Hammondpiano
Philip Gatward
Philip Gatward
Mae Clare Hammond yn enwog am feistrolaeth ac awdurdod ei pherfformiadau ac fe enillodd Wobr Artist Ifanc y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2016. Ymhlith ei huchafbwyntiau diweddar a chyfredol mae perfformiadau cyntaf yn Proms y BBC, Konzerthaus Berlin a Salle Bourgie yn Montréal, yn ogystal â dychwelyd i Neuadd Wigmore, Oriel Genedlaethol Llundain a Gŵyl Husum, a chyngherddau gyda Cherddorfa Symffoni Bournemouth a Cherddorfa Ulster. Mae hi hefyd yn rhoi première byd o Fantasia newydd ei ddarganfod gan Andrzej Panufnik gyda’r Filharmonia Poznańska a Łukasz Borowicz.
Ymysg yr uchafbwyntiau diweddar roedd Amrywiadau ‘Paganini’ gan Rachmaninov gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC a Lionel Bringuier, Sinfoniaconcertante Grace Williams gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Jac van Steen, gweithiau gan Piers Hellawell a Samy Moussa gyda Cherddorfa Ulster a Jamie Phillips, a datganiadau yng Ngŵyl Aldeburgh, Palazzetto Bru Zane yn Fenis a Gŵyl Baroque de Pontoise.
Cerddoriaeth gyfoes sydd wrth wraidd ei gwaith. Mae hi wedi rhoi mwy na 50 première byd, gan gynnwys gweithiau pwysig gan Arlene Sierra, Robert Saxton a Michael Berkeley, ac ymhlith ei disgyddiaeth mae dros ugain recordiad première byd. Yn 2019 rhoddodd première byd o Uncoiling the River Kenneth Heskethgyda Martyn Brabbins a Cherddorfa Gymreig y BBC, a pherfformiad pellach gyda’r Royal Liverpool Philharmonic a Vasily Petrenko. Yn 2022 perfformiodd mewn première o bedwarawd piano newydd Graham Fitkin gyda’r cyfansoddwr ei hun, Ruth Wall a Kathryn Stott yng Ngŵyl Aldeburgh, gan agor tymor 2022/23 Canolfan Southbank yn Neuadd y Frenhines Elizabeth gyda’r un gwaith.
Yr ychwanegiad diweddaraf at ei disgyddiaeth yw albwm o Études gan y cyfansoddwr Ffrengig Hélène de Montgeroult.
Mae ymgysylltu â’r gymuned yn rhan gynyddol bwysig o waith Clare Hammond. Ers 2017 mae hi wedi perfformio i dros 15,800 o blant ysgol mewn partneriaeth â Gloucestershire Music a Wye Valley Music in Schools.
Cwblhaodd radd BA ym Mhrifysgol Caergrawnt, gan ennill gradd gyntaf ddwbl mewn cerddoriaeth, a gwnaeth astudiaeth ôl-radd gyda Ronan O’Hora yn y Guildhall School of Music & Drama.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting + blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jonesis-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Carmel Barber
Ruth Heney **
Emilie Godden
Juan Gonzalez
Alejandro Trigo
Amy Fletcher
Rebecca Totterdell
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kitty Cheung
Katherine Miller
Beverley Wescott
Ilze Abola
Michael Topping
Lydia Caines **
Joseph Williams
Roussanka Karatchivieva
Laurence Kempton
Gary George-Veale
Elizabeth Whittam
Fiolâu
Alex Thorndike #
Peter Taylor
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Anna Growns
Lydia Abell
Robert Gibbons
Lowri Taffinder
Dáire Roberts
Charlotte Limb
Soddgrythau
Hee Yeon Cho
Jessica Feaver
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Keith Hewitt
Kathryn Graham
Katy Cox
Basau Dwbl
Christopher Wescott
Yat Hei Lee
Antonia Bakewell
Richard Gibbons
Thea Sayer
Albert Dennis
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis **
Piccolo
Lindsey Ellis * **
Oboau
Steve Hudson *
Izabelle Cheesman
Amy McKean †
Cor Anglais
Amy McKean †
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Bethany Crouch
Lenny Sayers +**
Clarinét Bas
Lenny Sayers †+**
Baswnau
Hugo Mak
Jo Shewan
David Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Tim Thorpe *
John Davy
Neil Shewan †
Dave Ransom
Ed Griffiths
Utgyrn
Philippe Schartz *
Will MorleyCorey Morris †
Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Daniel Trodden †**
Timpani
Dominic Hackett
Offerynnau Taro
Phil Hughes
Phil Girling
Y Delyn
Elen Hydref Wright
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +**
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol swydd wag
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rachel Naylor cyfnod mamolaeth
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol swydd wag
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead +
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications





