

Synau Natur
Nos Iau 6/11/25, 7.30pm
Neaudd Brangwyn, Abertawe

Ralph Vaughan Williams
The Wasps – agorawd 9’
Ester Mägi
Bukoolika première y DU 10’
Helen Grime
Concerto i’r Utgorn, ‘night-sky-blue’ 22’
EGWYL: 20 munud
Carl Nielsen
Symffoni Rhif 4, Op. 29, ‘Yr Anniffoddadwy’ 36’
Arvo Volmer arweinydd
Matilda Lloyd utgorn
Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3, i’w ddarlledu yn y dyfodol. Bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddodol.
Cyflwyniad
Croeso i’n cyngerdd heno. Rydym yn falch iawn o groesawu’r arweinydd o Estonia, Arvo Volmer, i gyflwyno rhaglen sydd wedi’i hysbrydoli gan natur yn ei hamrywiol ffurfiau.
Ysbrydolwyd agorawd Vaughan Williams i The Wasps gan gomedi Groeg glasurol Aristophanes, ac mae’n amlwg o’r cychwyn cyntaf fod hwn yn destun sydd wrth ei fodd.
Nesaf, cawn première Prydeinig hir-ddisgwyliedig i waith gan gydwladwr i Arvo Volmer, sef Ester Mägi. Darn emosiynol yw Bukoolika yn seiliedig ar ganeuon bugeiliaid ac alawon gwerin ei mamwlad hoff.
Ar gyfer ei Choncerto i’r Utgorn, sy’n dwyn yr is-deitl barddonol ‘night-sky-blue’, cymerodd Helen Grime ysbrydoliaeth o lyfr o ffotograffau o’r byd naturiol gyda’r nos. Heno chwaraeir y darn gan yr utgornydd disglair Matilda Lloyd, a ddaeth i amlygrwydd yn ei harddegau wrth ennill Rownd Derfynol Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC i offerynwyr pres yn 2014.
Does dim enghraifft fwy dramatig o ysbryd optimistaidd rhyfeddol Nielsen na’i Bedwaredd Symffoni, ‘Yr Anniffoddadwy’. Er iddo ysgrifennu’r gwaith yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, dyma eiriau’r cyfansoddwr: ‘Pe câi’r byd i gyd ei ddinistrio ... yna byddai natur yn dal i ddechrau magu bywyd newydd eto, dechrau gwthio ymlaen eto ... Y grymoedd hyn, sy’n “anniffoddadwy”, y ceisiais eu cyfleu.’
Mwynhewch!
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Ralph Vaughan Williams (1872–1958)
The Wasps – agorawd(1909)

Bob blwyddyn ers 1882, daw myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caergrawnt at ei gilydd i berfformio drama o Hen Wlad Groeg. Ym 1909 fe benderfynon nhw ar gomedi Aristophanes, The Wasps, stori ryfedd am wrthdaro rhwng tad a mab, lle caiff y tad ei achub o’i dŷ, lle bu’n cael ei gadw dan glo, gan griw o ffrindiau cacynaidd. I gyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer y ddrama fe ddewiswyd Vaughan Williams, oedd eisoes yn ei dridegau ond flwyddyn yn fyr o’i lwyddiannau arloesol cyntaf gyda’i Sea Symphony a’i Fantasia on a Theme by Thomas Tallis.
Ar gyfer y digwyddiad, darparodd Vaughan Williams dros 100 munud o gerddoriaeth. Yn ddiweddarach, tynnodd gyfres pum symudiad o’r gwaith. Fel cyfanwaith, ni chafodd y gyfres fawr o sylw, ond doedd yr agorawd ddim yn hir yn ennill poblogrwydd yn y neuadd gyngerdd, ac mae’n hawdd gweld pam. Mae’r agoriad, gyda’i suo gwenynaidd yn pasio o offeryn i offeryn, yn ddarn gwych o ddynwared cerddorol – tric yr oedd Vaughan Williams yn amlwg wedi’i godi yn ystod ei astudiaethau gyda’r arlunydd golygfeydd cerddorol hudolus, Maurice Ravel, y flwyddyn gynt. Mae’n arwain at allegro prysur, bywiog, a thair alaw hyfryd yn ei yrru ymlaen, pob un o’r tair yn dangos cymaint roedd Vaughan Williams wedi’i ddysgu yn ystod ei ymchwil helaeth i gerddoriaeth werin. Os yw’r canlyniad terfynol yn swnio’n debycach i Swydd Gaerloyw na Hen Wlad Groeg, beth yw’r ots?
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Ester Mägi (1922–2021)
Bukoolika (1983)
première y DU

Ganwyd Ester Mägi yn Tallinn ar 10 Ionawr 1922 a bu farw ychydig cyn ei chanfed pen-blwydd. Ar ôl dod i amlygrwydd yn y 1950au, adeiladodd gorff o weithiau y gellir eu gweld ymhlith y mwyaf uniongyrchol gynrychioliadol o gerddoriaeth genedlaethol Estonia, sydd ar yr un pryd yn adlewyrchu tueddiadau sylfaenol diwedd yr 20fed ganrif. Er na fu ei cherddoriaeth erioed yn ganolog i unrhyw rai o’r dadleuon am arddull a nodweddodd gerddoriaeth y ganrif ddiwethaf – dechrau’r avant-garde yn y 1950au, er enghraifft, neu’r newidiadau ôl-fodern at gerddoriaeth gyseiniol, finimalaidd yn y 1970au – câi ei chydnabod trwy gydol ei gyrfa fel cyfansoddwraig sofran, ddifrifol a diffuant. Doedd Mägi ddim yn rhan o’r moderneiddio sydyn yn yr iaith gerddorol a ddigwyddodd yng ngherddoriaeth Estonia yn y 1960au, ond roedd ei harddull unigol yn amsugno elfennau newydd o hyd ac fe newidiodd yn sylweddol drwy’r blynyddoedd.
Cyfres o olygfeydd bugeiliol ar gyfer cerddorfa yw Bukoolika (‘Bugeilgerddi’) a ysgrifennwyd ym 1983. Mae’r teitl yn cyfeirio nid yn unig at naws emosiynol y cyfansoddiad ond hefyd at ei ddeunydd, gan fod y darn hwn yn cynnwys llawer o alawon a motiffau o ganeuon bugeilio a fyddai’n gymharol gyfarwydd yn sgil darllediadau o ganeuon gwerin a gosodiadau gan lawer o gyfansoddwyr cynharach.
Ond does dim rhaid adnabod y motiffau i ddeall cerddoriaeth sy’n llawn synau mor gyfarwydd – fel cân adar, pibau bugeiliaid, neu’r gweiddi a’r hwian lleisiol a geir mewn traddodiadau gwerin mewn sawl cwr o’r byd. Er hynny, nid darlun natur neu ddarn genre yn unig yw Bukoolika: mae’r cyfansoddwr wedi ymbellhau ddigon oddi wrth y deunydd i greu cyfansoddiad deniadol, telynegol lle mae’r alawon gwerin a lleisiau eraill i’w clywed yn gymysg â deunydd y gyfansoddwraig ei hun.
Nodyn y rhaglen © Urve Lippus
Helen Grime (ganwyd 1981)
Concerto i’r Utgorn, ‘night-sky-blue’ (2022)

Matilda Lloydutgorn
Thema’r nos, yn enwedig gerddi yn y nos, oedd man cychwyn Concerto Helen Grime i’r Utgorn. Daeth ei hysbrydoliaeth o lyfr o ffotograffau’n darlunio golygfeydd o’r byd naturiol a dynnwyd wedi iddi dywyllu. Llenwyd meddwl y cyfansoddwr gan ddelweddau o dwf organig a bywyd y nos, ac adlewyrchir hynny mewn cerddoriaeth sydd mewn stad barhaus o drawsnewid.
Un symudiad sydd i’r concerto, a’r gerddoriaeth yn esblygu dros gyfres o adrannau cydgysylltiedig. Mae’n dechrau’n dawel lonydd, cyn i’r utgorn gyflwyno alaw foethus. Yn raddol aiff llinell yr unawd yn fwy cymhleth a meistrolgar. Wrth i’r gerddoriaeth symud i’w hail adran, caiff motiff rhythmig, ergydiol ei danio’n ôl a blaen rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa. Parhau i droelli ac ennill momentwm wna’r gerddoriaeth, am yn ail â darnau mwy rhydd, breuddwydiol gyda fibraffon a thelyn yn hofran yn y cefndir. Gan gyflymu a dwysáu, daw’r concerto o’r diwedd i’w anterth mewn ffrwydrad o liw cerddorfaol. I gloi, dychwelir i lonyddwch y gerddoriaeth agoriadol.
Mae is-deitl y gwaith, ‘night-sky-blue’, wedi’i gymryd o gerdd gan Fiona Benson.
Nodyn y rhaglen © Chester Music Ltd.
EGWYL: 20 munud
Carl Nielsen (1865–1931)
Symffoni Rhif 4, Op. 29, ‘Yr Anniffoddadwy’(1914–16)

1 Allegro –
2 Poco allegretto –
3 Poco adagio quasi andante –
4 Allegro
Er i Ddenmarc Carl Nielsen gadw’n niwtral trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf, parhaodd i fod mor sensitif ag erioed i weithgareddau’r cymydog mawr, grymus i’r de. Cafodd hyn effaith ddofn ar Nielsen. Cyn y rhyfel bu’n genedlaetholwr brwd iawn. Ond wrth iddo ddechrau sylweddoli’r erchyllterau yr oedd dynion yn eu hachosi i’w gilydd dros eu Kaiser – neu eu Brenin – a’u Gwlad, cafodd ei ffydd ei siglo i’r craidd.
Yn hytrach nag ildio i anobaith, teimlai Nielsen fod yn rhaid iddo wneud rhyw fath o ddatganiad o gred – os nad mewn dynoliaeth (ac yn bendant nid mewn cenedl), yna efallai mewn bywyd ei hun. Dyma fyddai thema ei symffoni ddiweddaraf, Rhif 4, ‘Yr Anniffoddadwy’. ‘O dan y pennawd hwn,’ ysgrifennodd Nielsen yn y sgôr, ‘mae’r cyfansoddwr wedi ceisio cyfleu mewn un gair yr hyn na all dim ond cerddoriaeth ei fynegi i’r eithaf: Ewyllys elfennol Bywyd. Bywyd yw cerddoriaeth ac, fel bywyd, mae’n anniffoddadwy.’
Gellir teimlo egni a phŵer ffurfiannol yr ewyllys elfennol hwnnw trwy gydol y Bedwaredd Symffoni. Er bod modd gweld amlinellau bras y pedwar symudiad symffonig traddodiadol, un ysgubiad sy’n cario ‘Yr Anniffoddadwy’ mewn gwirionedd. Mae’r trawsnewidiadau rhwng y ‘symudiadau’ hyn wedi’u plethu mor fedrus fel nad yw bob amser yn hawdd dweud ble mae un yn gorffen a’r nesaf yn dechrau. Mae’n teimlo fel petai’r prif themâu, a gyflwynir yn gynnar yn y symffoni, yn llifo i mewn ac allan yn barhaus, gan esgor ar syniadau newydd un eiliad, a dod â hen rai yn ôl i mewn i’r ddrama yr eiliad nesaf.
Dechreua’r Bedwaredd Symffoni mewn cynnwrf, trais ac ansefydlogrwydd cywair ond mae’r naws yn tawelu wrth i alaw swynol, dawel seinio o’r chwythbrennau (clarinetau), a chryfhau. Ar ôl sawl cythrwfl, mae’r Allegro cychwynnol yn crafangu ei ffordd yn ôl i ail-ddatgan y thema fwy gobeithiol hon, ond yna mae’n ymdoddi’n rhyfedd i interliwd gwerinol y Poco allegretto, a’r chwythbrennau’n arwain. Ond mae’r tensiynau’n dal yno dan yr wyneb, ac yn codi eto’n ffrwydrad sydyn o linynnau a timpani sy’n dechrau’r Poco adagio. Ar ôl mwy o ymrafael poenus, ymchwydda datganiad mawreddog arall yn y cywair mwyaf.
Ceir ennyd o lonyddwch atmosfferig, beichiog (obo a llinynnau uchel), yna darn llinynnol gwyllt sy’n ein hyrddio – ar ôl saib dramatig – i’r Allegro olaf. Mae’r gerddoriaeth yma fel petai’n canu am obaith, ond daw wyneb yn wyneb â gwrthwynebiad nerthol, wrth i ail dimpanydd ymuno â’r cyntaf i arwain ymosodiad dinistriol. Ar ôl adran dawel ond llawn tensiwn, mae’r timpani yn ailgydio yn eu hymosodiad yn daerach eto, ond rywsut mae alaw obeithiol y symudiad cyntaf yn llwyddo i sefyll ei thir eto trwy’r cythrwfl. Ond nid ‘buddugoliaeth’ ramantus slic mo hyn: does dim taw ar y timpani. Mae eu hergydion trwm ar y diwedd yn awgrymu bod rhaid i’r frwydr i oroesi barhau, efallai’n ddi-ddiwedd. Mae gobaith yn dal yn bosibl, ond mae’n rhaid adnabod y gelyn.
Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:
Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngerdd nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu tocynnau am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.
‘Grace’
Nos Iau 20/11/25, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Grace Williams Ballads for Orchestra
Elizabeth Maconchy Serenata concertante
Anna Semple The Gates
Julia Wolfe Pretty
Stephanie Childressarweinydd
Geneva Lewis ffidil
ARLOESOL | FFRES | DARLUNIADOL
Fis Tachwedd, fel rhan o’n cyfres flynyddol ‘Grace’ sy’n archwilio cerddoriaeth Grace Williams a menywod modern ym myd cerddoriaeth, byddwn yn arddangos gwaith gan y cyfansoddwyr byw Anna Semple a Julia Wolfe, dan arweiniad Stephanie Childress.
Ysgrifennwyd The Gates gan Anna Semple ar gyfer Cerddorfa Malcolm Street, ac yma mae’n chwarae gyda’r syniadau o adalw a chofio – yn benodol, ceir yma ddehongliad cerddorol o weld delwedd o gatiau yn agos, ac yna’i hailddychmygu o bell, heb ei chofio’n union. Mae Pretty gan Julia Wolfe wedi’i ysbrydoli gan ystumiad a datseinedd cerddoriaeth roc a rôl, ac mae’n ddathliad croch o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ‘brydferth’.
Yn wahanol i’r repertoire a hysbysebwyd yn flaenorol, bydd BBC NOW yn perfformio Serenata concertante gan Elizabeth Maconchy, lle ceir cyferbyniad rhwng symudiadau telynegol, arafach a rhai mwy rhythmig ac egnïol.
Ond yn gyntaf, rydyn ni’n troi at y sawl a roddodd ei henw i’r gyfres, Grace, a’i gwaith Ballads for Orchestra.
Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw
Bywgraffiadau
Arvo Volmer arweinydd
Cerddorfa Symffoni Adelaide
Cerddorfa Symffoni Adelaide
Mae’r arweinydd o Estonia Arvo Volmer wedi ennill clod a bri am ei berfformiadau pwerus ym maes opera a chyngherddau. Mae’n arbennig o hyddysg yng ngherddoriaeth Mahler a Sibelius, cyfansoddwyr Almaenig, Nordig a Rwsiaidd a cherddoriaeth gyfoes.
Ef yw Cyfarwyddwr Cerdd Cyffredinol Opera Cenedlaethol Estonia, lle mae’n arwain cynyrchiadau newydd o weithiau sy’n cynnwys Don Pasquale Donizetti, Il trovatore Verdi a L’enfant et les sortilèges Ravel. Ymhlith ei uchafbwyntiau cyfredol a diweddar eraill mae ganddo berthynas barhaus â Cherddorfa Symffoni Wladol São Paulo ac mae wedi ymddangos gyda Cherddorfa Haydn di Bolzano e Trento a cherddorfeydd Symffoni Oulu a Porto, a llawer mwy.
Gwnaeth Arvo Volmer ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Estonia yn 22 oed ac mae wedi bod yn gysylltiedig â’r cwmni byth ers hynny. Daeth yn Arweinydd Cyswllt Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Estonia ym 1989, ac yn Gyfarwyddwr Cerdd rhwng 1993 a 2001. Bu’n Brif Arweinydd a Chyfarwyddwr Artistig Cerddorfa Symffoni Oulu yn y Ffindir hefyd rhwng 1994 a 2005. Yn ogystal, bu’n Gyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Symffoni Adelaide (2004–13), gan arwain y gerddorfa ar deithiau i Los Angeles a Neuadd Carnegie Efrog Newydd ac ar brosiect pum mlynedd yn dehongli gwaith Mahler.
Mae wedi ymddangos gyda cherddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys cerddorfeydd Ffilharmonig y BBC, Helsinki a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm, cerddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Radio’r Ffindir, Gothenburg, Singapore a Taiwan, Orchestre National de France, Orchestre Philharmonique de Radio France a phob un o gerddorfeydd mawr Awstralia. Fel arweinydd opera, mae wedi perfformio yn Theatr y Bolshoi, Opera Cenedlaethol y Ffindir, Opera Norwy yn Oslo ac yn rheolaidd gydag Opera Awstralia yn nhai opera Sydney a Melbourne.
Ymhlith uchafbwyntiau ei yrfa recordio helaeth mae recordiadau o holl symffonïau Sibelius, gweithiau symffonig Tubin, gweithiau cyflawn Madetoja ac albymau o gerddoriaeth gyfoes Sweden ac Estonia. Ei recordiad diweddaraf yw concertos chwyth Ross Edwards gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne.
Astudiodd Arvo Volmer grefft yr arweinydd yn Conservatoire St Petersburg. Ym 1989 enillodd wobr yng Nghystadleuaeth Nikolai Malko yn Copenhagen.
Matilda Lloydutgorn
Neda Navaee
Neda Navaee
Mae Matilda Lloyd yn ailddiffinio llais yr utgorn ar lwyfannau’r byd. Mae hi’n enwog am ei sain berffaith, purdeb ei llinellau, cynildeb ei deinameg a’i meistrolaeth ar yr offeryn.
Ymhlith yr ychwanegiadau diweddar at ei disgograffi sydd wedi ennill clod y beirniaid, mae Concerto Weinberg i’r Utgorn gyda Cherddorfa Symffoni Llundain a Lee Reynolds, Casta Diva gyda’r Britten Sinfonia a Rumon Gamba, a Fantasia gyda’rorganydd Richard Gowers, cyfuniad o weithiau Baróc a darnau newydd wedi’u comisiynu gan gyfansoddwyr blaenllaw o Brydain.
Mae ei huchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys perfformiadau o Goncerto Helen Grime i’r Utgorn yn Staatstheater Meiningen a Gŵyl Gaida (y tro cyntaf iddo gael ei berfformio yn Lithwania). Bydd hi’n perfformio am y tro cyntaf yng Nghorea yn chwarae concerto Haydn, ac yn perfformio Concerto Robin Haigh i’r Utgorn, LUCK, ym mis Rhagfyr. Mae’n ymuno â’r pianydd Federico Colli y gwanwyn nesaf ar gyfer perfformiad a recordiad o Goncerto Shostakovich ar gyfer piano ac utgorn gyda Cherddorfa Ffilharmonig Bergen a Dima Slobodeniouk, cyn gorffen y tymor gyda’i pherfformiad concerto cyntaf yng Ngŵyl Schleswig-Holstein.
Bydd yn mynd i Neuadd Ddiwylliannol Ddinesig Musashino Tokyo am ei hymweliad cyntaf â Japan ac i Kings Place Llundain ym mis Chwefror 2026 i gydweithio ar gerddoriaeth siambr. Bydd yn ymddangos gyda The Gesualdo Six yn Neuadd Wigmore ac yn Ffrainc.
Fel un o Sêr Addawol Sefydliad Neuaddau Cyngerdd Ewrop (ECHO) 2024/25, rhoddodd 18 datganiad ar lwyfannau enwocaf Ewrop, gan gynnwys Concertgebouw Amsterdam, Musikverein Vienna, Elbphilharmonie Hamburg a Philharmonie de Paris.
Mae addysg gerddoriaeth yn bwysig iddi ac ym mis Medi fe’i penodwyd yn Athro Utgorn yn y Trinity Laban Conservatoire of Music & Dance yn Llundain. Mae’n rhoi dosbarthiadau meistr yn rheolaidd mewn conservatoires blaenllaw ac mae’n llysgennad i’r elusen Brass for Africa ac yn mentora chwaraewyr pres ifanc yn y Deyrnas Unedig gyda Future Talent.
Graddiodd Matilda Lloyd o Goleg Trinity, Caergrawnt, a’r Academi Gerdd Frenhinol; cwblhaodd ei hastudiaethau gyda Håkan Hardenberger yn Academi Gerdd Malmö. Yn 2014 enillodd Rownd Derfynol Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC i Offerynnau Pres a gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf fel unawdydd yn y BBC Proms ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf Lesley Hatfield blaenwr
Róisín Verity
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Alejandro Trigo
Juan Gonzalez
Žanete Uškāne
Emilie Godden
Ruth Heney **
Carmel Barber
Rebecca Totterdell
Gary George-Veale
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Sheila Smith
Roussanka Karatchivieva
Joseph Williams
Michael Topping
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Lydia Caines **
Beverley Wescott
Laurence Kempton
Elizabeth Whittam
Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Anna Growns
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Lydia Abell
Lowri Taffinder
Daire Roberts
Soddgrythau
Joely Koos ‡
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Rachel Ford
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Katy Wright
Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Emma Prince
Phoebe Clarke
Ben Havinden Williams
Albert Dennis
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Enlli Parri
Piccolo
Enlli Parri
Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Russell Coates
Cor anglais
Russell Coates
Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White
Lenny Sayers +**
Clarinét E feddalnod
William White
Baswnau
Stephen Marsden ‡
Joanna Shewan
Alex Davidson
Isfasŵn
Alex Davidson
Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
John Davy
Flora Bain
Tom Taffinder
Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel
Rob Johnston
Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Callum Davis
Timpani
Chris Thomas
Barnaby Archer
Offrynnau Taro
Harry Lovell-Jones
Phil Girling
Andrea Porter
Rhydian Griffiths
Y Delyn
Sally Pryce
Piano
Catherine Roe Williams
Selesta
Catherine Roe Williams
Chris Williams
* Prif Offerynnwr yr Adran† Prif Offerynnwr‡ Prif Offerynnwr Gwadd# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyolRoedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya ClaydenCynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications



