Shostakovich 13 gyda Ryan Bancroft

Nos Sadwrn 10/2/24, 7.30pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dydd Sul 11/2/24, 3.00pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Ludwig van Beethoven
Concerto i’r Piano Rhif 1 36’

EGWYL: 20 munud

Dmitry Shostakovich
Symffoni Rhif 13, ‘Babi Yar59’

Ryan Bancroftarweinydd
Jonathan Biss piano
James Platt bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC (lleisiau dynion)

Bydd y cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu ar raglen Radio 3 in Concert yn y dyfodol.

Cyflwyniad

Croeso i’r cyngerdd heddiw, ac mae’n bleser gennym groesawu’n ôl i’r podiwm Brif Arweinydd BBC NOW, Ryan Bancroft.

Mae’r rhaglen yn cynnwys dau gampwaith, un yn llawn cyffro athrylith ifanc, a’r llall yn herfeiddiol gan gyfansoddwr ar anterth ei bwerau.

Y piano oedd offeryn Beethoven ei hun ac yn ystod ei oes roedd yr un mor enwog fel pianydd ag yr oedd fel cyfansoddwr – nes i fyddardod wneud perfformio yn amhosibl. Mae gan ei Goncerto Cyntaf i’r Piano (yr ail Goncerto mewn gwirionedd yn gronolegol, ond yr un a gyhoeddwyd gyntaf) hyder beiddgar heintus, sy’n ildio i symudiad araf llawn cân, cyn i’r symudiad olaf orffen gydag egni anhygoel. Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Jonathan Biss yn ôl fel unawdydd.

Ni allai 13eg Symffoni Shostakovich gynnig mwy o gyferbyniad. Yn theatrig, chwerw-ddoniol ac arallfydol yn eu tro, mae’n gosod dilyniant o gerddi gan Yevgeny Yevtushenko. Mae’r rhain yn dechrau gyda ‘Babi Yar’, sy’n coffáu golygfa o gyflafan lle bu i’r Natsïaid, yn 1941, ladd dros 30,000 o Iddewon mewn ceunant y tu allan i Kyiv. O’r galar hwn rydym yn symud i ddychan miniog y cerddi ar ‘Hiwmor’ ac ‘Ofnau’, molawd i stoiciaeth menywod Sofietaidd, ac yn olaf at gerdd yn gwawdio’r rhai sy’n methu â sefyll dros eu credoau. Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r unawdydd James Platt a baswyr Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Ludwig van Beethoven (1770–1827)

Concerto Rhif 1 i’r Piano yn C fwyaf, Op. 15(1793–5, diw. 1800)

1 Allegro con brio
2 Largo
3 Rondo: Allegro

Jonathan Biss piano

Fel Mozart o’i flaen, ysgrifennai Beethoven goncertos i'r piano yn gymaint i arddangos ei feistrolaeth bianyddol ei hun ag i ddangos ei sgiliau cyfansoddi. Gan fod ysgrifennu cerddoriaeth a chwarae cerddoriaeth yn cael eu hystyried yr un mor bwysig – yn wahanol i’r agwedd a ddechreuodd ddominyddu yn yr 20fed ganrif lle disgwylir i rywun arbenigo yn y naill neu’r llall – mae’r concertos yn adrodd stori dyn ifanc sy’n benderfynol o wneud enw iddo’i hun fel prif gerddor y dydd. Roedd am gael ei gydnabod fel unawdydd gwych a theithiodd yn helaeth fel perfformiwr tra oedd ei glyw (ac amgylchiadau gwleidyddol – prin fod teithio yn cael ei annog yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonaidd) yn caniatáu. Ac wrth gwrs, ymhen amser, byddai cynulleidfaoedd a beirniaid y ddinas a ddaeth yn gartref iddo, Fienna, yn dod i gydnabod ei wychder creadigol yn y concertos hyn a gweithiau cerddorfaol cynnar eraill.

Concerto ‘cyntaf’ Beethoven i’r piano oedd yr ail i gael ei gyhoeddi mewn gwirionedd. Cafodd y cyntaf i gael ei ysgrifennu, y Concerto B meddalnod fwyaf, ei ddrafftio ddiwedd yr 1780au pan oedd y cyfansoddwr ifanc yn dal yn Bonn ac wedyn cafodd ei ddiwygio’n helaeth dros y blynyddoedd nesaf (gan gynnwys newid y symudiad terfynol yn llwyr). Cafodd y Concerto Cyntaf i’r Piano yn C fwyaf a glywn heddiw ei fraslunio yn 1793, a bu Beethoven yn gweithio arno bob hyn a hyn dros y blynyddoedd nesaf i’w baratoi ar gyfer cyngerdd erbyn 1795. Efallai iddo gael ei gynnwys yn ei ymddangosiad cyntaf yn Fienna ar 29 Mawrth 1795; ond mae’n fwy tebygol iddo gael ei berfformio am y tro cyntaf mewn cyngerdd ar 18 Rhagfyr y flwyddyn honno a drefnwyd gan ei athro, Joseph Haydn. Dywed ffrind plentyndod Beethoven, Franz Gerard Wegeler, mai dim ond dau ddiwrnod cyn perfformiad cyhoeddus cyntaf y concerto hwn y cyfansoddodd Beethoven y diweddglo. Mae hefyd yn cofnodi bod y piano, yn yr ymarfer cyntaf, a gynhaliwyd yn ystafelloedd Beethoven, hanner tôn yn fflat ac nad oedd yr offerynnau chwyth yn gallu chwarae eu llinellau’n gyfforddus – felly newidiodd Beethoven ei linell unawdol i C llonnod fwyaf i’w galluogi nhw i chwarae mewn tiwn!

Mae rhywbeth gwych o gydweithredol am ysgrifennu Beethoven yn y darn hwn. Mae offerynnau’n camu allan o’r ensemble yn aml, gan gymryd eu tro gydag unawdau byr neu drwy gyfnewid syniadau’n sgyrsiol rhwng adrannau. I gyd-fynd â’r amrywiaeth honno, mae’r pianydd yn cael amrywiaeth gyfoethog o wahanol dechnegau a gweadau – triliau, croesi dwylo, lleisiau mewnol sy’n rhedeg yn ôl ac ymlaen rhwng dwylo’r chwaraewr – yn hytrach na dim ond gweithredu fel gwrthbwys i’r gerddorfa. Mae’r symudiad araf telynegol yn arddangos amrywiaeth rhythmig, gyda churiadau cyson y piano mewn deuoedd a phedwaroedd yn ildio yn y pen draw i grwpiau o dri, sy’n treiddio’n raddol drwy’r gerddorfa. Yn y diweddglo egnïol – gyda phrif thema sy’n ein hatgoffa o seiniau hela – mae Beethoven yn ein twyllo drwy gynnwys dau gadenza yn hytrach na’r un arferol.

Nodyn y rhaglen © Katy Hamilton

EGWYL: 20 munud

Dmitry Shostakovich (1906–75)

Symffoni Rhif 13 yn B meddalnod leiaf, ‘Babi Yar’, Op. 113 (1962)

1 Babi Yar: Adagio – Allegretto – Adagio
2 Hiwmor: Allegretto
3 Yn y Siop: Adagio
4 Ofnau: Largo
5 Gyrfa: Allegretto

James Platt bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC (lleisiau dynion)

Prin yw’r darnau gan Shostakovich sydd mor ddiflewyn-ar-dafod â’i 13eg Symffoni, lle’r oedd yn condemnio erchyllterau gwrth-Semitiaeth a Staliniaeth. Roedd coffáu’r Holocost yn cael lle llai amlwg yn yr Undeb Sofietaidd o’i gymharu ag Ewrop ac UDA, yn rhannol oherwydd y colledion sifil a milwrol enfawr a gafodd yr Undeb Sofietaidd. Ceunant y tu allan i Kyiv yw Babi Yar (Babyn Yar yn yr Wcreineg); rhwng 29 a 30 Medi 1941, cafodd poblogaeth Iddewig y ddinas ei hel ynghyd gan luoedd y Natsïaid a lladdwyd dros 33,000 o bobl; daeth y digwyddiad yn gyfystyr â’r Holocost ar bridd Sofietaidd. 

Yn 1961, cyhoeddodd y bardd Yevgeny Yevtushenko ei gerdd ‘Babi Yar’ i brotestio yn erbyn y difaterwch swyddogol ynghylch cadw safle’r gyflafan fel cofeb. Mae’n agor gyda’r llinell chwerw ‘Does dim cofeb uwchben Babi Yar’. Gosododd Shostakovich y gerdd lawn, ynghyd â thri thestun arall gan Yevtushenko, a chomisiynodd gerdd newydd, ‘Ofnau’, i greu symffoni gorawl aml-symudiad. Yn gerddorol, mae’r sgôr yn dangos dylanwad Mussorgsky, gyda’r defnydd o ganwr bas, corws meibion a gweadau fel clychau.

‘Babi Yar’ yw’r symudiad cyntaf, marwnad angladdol sy’n hoelio sylw ar ddioddefaint Iddewig, gan gynnwys portreadau bach o Helynt Dreyfus a bywyd Anne Frank. Mae’n agor gyda churiad dwys, wrth i’r corws ganu’r llinell agoriadol ddamniol. 

Mae’r ail symudiad, ‘Hiwmor’, yn beirniadu tsars Rwsia ac yn clodfori grym hiwmor o dan y gormes gwleidyddol: ‘tair hwrê i hiwmor/Mae’n ddewr!’

Mae’r trydydd symudiad, ‘Yn y Siop’, yn gerdd i fenywod Sofietaidd sy’n gweithio’n galed ac yn hirymarhous, yn sefyll mewn llinellau hir i sicrhau bwyd i’w teuluoedd: ‘Eu dwylo ymroddgar/Wedi blino wrth gario eu bagiau siopa’. 

Mae ‘Ofnau’, y pedwerydd symudiad, yn darlunio diwylliant gormesol Terfysgaeth Fawr Stalin gyda chyfeiliant 12 nodyn annifyrrol, gan ddechrau gyda’r ymadrodd iasol ‘Mae ofnau’n marw o’r tir yn Rwsia’. Yn marw, efallai, ond ddim wedi trengi: ofnid y sawl fyddai’n cario straeon, ofnid y gnoc ar y drws yng nghanol y nos. 

Mae’r symudiad olaf, ‘Gyrfa’, yn condemnio’r rhai sy’n dewis peidio â chodi llais er mwyn cadw eu gyrfaoedd. Mae’r testun yn cyfeirio at Galileo, a gododd ei lais yn erbyn sensoriaeth wyddonol, ac mae’r gerddoriaeth yn gorffen gydag unawd selesta ac un traw olaf o’r curiad a agorodd y gwaith cyfan. Ysgrifennodd Shostakovich at ei ffrind Isaac Glikman: ‘Nid wyf yn disgwyl i’r gwaith hwn gael ei ddeall yn llawn, ond ni allaf beidio â’i ysgrifennu.’ 

Roedd y pwnc mentrus yn golygu bod y perfformiad cyntaf yn broblemus, gyda rhai perfformwyr yn tynnu’n ôl ac asiantau’r llywodraeth yn monitro ymarferion. Cafodd y condemniad o wrth-Semitiaeth yn y symudiad cyntaf ei feirniadu’n arbennig. Fe wnaeth Yevtushenko olygu ei destun i fod yn fwy cynhwysol, ond mynnai Shostakovich fod gwrth-Semitiaeth yn parhau yn yr Undeb Sofietaidd: ‘Mae’n beth gwarthus, a rhaid inni frwydro yn ei erbyn. Rhaid i ni weiddi amdano o’r toeau!’

Ynghyd â’r iaith gerddorol ddifrifol, y 13eg Symffoni yw condemniad cliriaf Shostakovich o dotalitariaeth. Tarodd dant arbennig o deimladwy gyda chynulleidfaoedd Rwsiaidd a oedd wedi dioddef yn hir, ac oedd wedi ystyried bod ei weithiau cynharach yn cydymffurfio â barn yr awdurdodau am hanes. Fel yr ysgrifennodd y pianydd Maria Yucina: ‘Mae Shostakovich wedi dod yn “un ohonom ni” eto gyda’i 13eg.’

Nodyn y rhaglen © Daniel Elphick

Testun a Chyfieithiad

1 Babi Yar
Nad Babim Yarom pamyatnikov nyet. 
Krutoi obryv, kak groboye nadgrobye. 
Mne strashno,
mne sevodnya stolko let,
kak samomu yevreiskomu narodu.

Mne kazhetsa seichas – ya yudei. 
Vot ya bryedupa dryevnemu Egiptu. 
A vot ya, na kryeste raspyaty, gibnu, 
i da sikh por na mne – sledi gvazdey. 
Mne kazhetsa, shto Dreifus – eta ya. 
Meshchanstvo – moi danoschik i sudya! 

Ya za reshotkoy, ya papal v koltso, 
zatravlennyi, oplyovannyi, obolgannyi, 
damachki s bryusselshmi oborkami, 
viszha, zontami tichut mne v litso. 
Mne kazhetsa, ya – malchik v Białystoke. 

Krov lyotsya, rastekayas pa palam. 
Beschinstvuyut vozhdi traktirnoy stoiki. 
I pakhaut vodkoy s lukom popolam. 
Ya, sapagom otbroshennyi, bessilny, 
naprasna ya pogromshchikov molyu. 
Pad gogot: ‘Bey zhidov! Spasai Rossiyu!’ 
Labaznik izbivaet mat moyu.

O russhy moi narod, ya znayu, 
ty pa sushchnosti internatsionalen, 
no chasta te, chi ruki nechisti, 
tvoim chisteishim imyenem bryatsali. 
Ya znayu dobrotu moyei zyemli. 
Kak podla, shto i zhilachkoi ne drognuv, 
antisemity narekli sibya: 
‘Soyuzom russkova naroda.’

Mne kazhetsa, ya – eta Anna Frank, 
prozrachnaya, kak vyetochka v aprele, 
i ya lyublyu, i mne nye nado fraz, 
no nado, shtob drug v druga my smotreli. 
Kak malo mozhno videt, obonyat! 

Nelzya nam listev i nelzya nan neba, 
no mozhno ochen mnoga – 
eta nezhno drug druga 
vtyomnoy komnate obnyat!
– ‘Syuda idut!’
– ‘Nye boysa. Eta guly samoi vesny, 
ona idyot syuda.
Idi ko mne,
dai mne skoreye guby!’
– ‘Lomayut dver!’
– ‘Nyet! Eta ledokhod!’

Nad Babim Yarom shelest dihkh trav, 
dyerevya smotryat grozno, po-sudeiski. 
Zdes molcha vsyo krichit, 
i, shapku snyav, 
ya chuvstvuyu, kak myediemo sedeyu. 
I sam ya, kak sploshnoy bezzvuchny krik, 
nad tysyachami tysyach pogrebyonnykh, 
Ya – kazhdy zdes rasstrelyanny starik, 
Ya – kazhdy zdes rasstrelyanny rebyonok. 
Nishto vo mne pro eta nye zabudet. 
‘Internatsional’ pust progremit, 
kogda naveh pokhoronen budet 
pasledni na zyemle antisemit. 
Yevreiskoy krovi nyet v krovi moyei, 
no nenavisten zloboy zaskaruzloy 
ya vsem antisemitam kak yevrei, 
ipatomu ya nastoyashchiy russkiy!

2 Yumor
Tsari, koroli, imperatori,
vlastiteli vsei zyemli,
komandovali paradami,
no yumorom nye mogli.
V dvortsy rmenitykh osob,
vse dni vozlezhashchikh vykholenna, 
Yavlyalsa brodyaga Ezop,
i nishchimi oni vyglyadeli.
V domakh, gde khanzha nasledil 
svoimi nogami shchuplymi,
Vsyu poshlost Khodzha Nasreddin 
shibal, kak shakhmaty, shutkami!

Khotyeli yumor kupit, 
da tolko yevo nye kupish! 
Khotyeli yumor ubit, 
a yumor pokazyval kukish! 
Borotsa s nim delo trudnoye. 
Kaznili yevo bez kontsa. 
Yevo galova otrublennaya 
torchala na pike stryeltsa. 
No lish skamoroshi dudochki 
svoy nachinali skaz, 
on zvonko krichal: 
‘Ya tutochki!’
I likho puskalsa v plyas. 

V potryopannom kutsem paltishke, 
ponuryas i slovno kayas, 
pryestupnikom politicheskim 
on, poimanniy, shol na kazn. 
Vsem vidom pakornost vykazival, 
gotov k nezemnomu zhityu, 
kak vdrug iz paltishka vyskalzival, 
rukoi makhal 
i – tyu-tyu! 

Yumor pryatali v kamery, 
da chyorta s dva udalos. 
Reshotki i steny kamennye 
on prokhodil naskvoz. 
Otkashlivayas prostuzhenno, 
kak ryadovoy boyets, 
shagal on chastushkoy-prastushkoy 
s vintovkoi na Zimnyi dvorets. 

Privyk on ko vzglyadam sumrachnym, 
no eta yemu nye vryedit, 
i sam na sibya s yumorom 
yumor paroy glyadit. 
On vyechen. 
Vyechen! 
On lovok. 
Lovok! 
I yurok. 
I yurok! 
proidyot cherez vsyo, cherez vsyokh. 
Itak, da slantsa yumor! 
On muzhestvenniy chelovek!

3 V Magazinye
Kto v platke, a kto v platochke,
kak na podvig, kak na trud
v magazin po-odinochke
molcha zhenshchiny idut.

O, bidonov ikh bryatsanye, 
zvon butilok i kastryul!
Pakhnet lukom, ogurtsami, 
pakhnet sousom ‘Kabul’. 

Zyabnu, dolgo v kassu stoya, 
no pakuda dvizhus k nyei, 
ot dykhanya zhenshchin stolkikh 
v magazinye vsyo teplei. 

Oni tikho podzhidayut, 
bogi dobriye semyi, 
i v rukakh oni szhimayut 
dengi trudniye svoyi. 

Eta zhenshchiny Rossii. 
Eta nasha chest i sud. 
I byeton oni mesili, 
i pakhali, i kosili … 

Vsyo oni perenosili, 
vsyo oni perenesut. 
Vsyo na svete im pasilno – 
skolka sily im dano! 

Ikh obschitivatpostidno! 
Ikh obveshivat greshno! 
I v karman pelmeni sunuv, 
ya smotryu, surov i tikh, 
na ustaliye ot sumok 
ruki pravyedniye ikh.

4 Strakhi
Umirayut v Rossii strakhi,
slovno prizraki prezhnikh lyet,
lish na paperti, kak starukhi,
koye-gde yeshcho prosyat na khleb. 
Ya ikh pomnyu vo vlasti i sile
pri dvore torzhestvuyushchei lzhi. 
Strakhi vsyudu, kak tyeni, skolzili, 
pronikali vo vsye etazhi.
Potikhonku lyudei priruchali
i na vsye nalgali pyechat:
gde molchat by – krichat priuchali,
i molchat – gde by nada krichat.
Eta stala sevodnya dalyokim.
Dazhe stranna i vspomnit teper. 
Tayinyi strakh pered chim-to donosom, 
tayinyi strakh pered stukom v dver.
Nu, a strakh gavorit s inastrantsem? 

S inastrantsem – ta shto, a s zhenoy? 
Nu, a strakh bezotchotnyi ostatsa 
posle marshei vdvoyom s tishinoy? 

Nye boyalis my stroit v meteli, 
ukhodit pad snaryadami v boy, 
no boyalis paroyu smyertelno 
razgovarnat sam s soboy. 
Nas nye sbili i nye rastlili, 
i nedarom seichas vo vragakh 
pobedivshaya strakti Rossiya 
yeshcho bolshiy rozhdaet strakh. 

Strakhi noviye vizhu, svetleya: 
strakh neiskrennim byt so stranoy, 
strakh nepravdoy unizit idei, 
shto yavlyayutsa pravdoy samoy; 
strakh fanfarit do odurenya, 
strakh chuzhiye slova povtoryat, 
strakh unizit drugikh nedaveryem 
i chrezmerno sibye daveryat.

Umirayut v Rossii strakbi. 
I kogda ya pishu eti stroki 
i paroyu nevolno speshu,
to pishu ikh v yedinstvennom strakhe, 
shto ne v polnoyu silu pishu.

5 Karyera
Tvyerdili pastyri, shto vreden
i nyerazumen Galilei.
(Shto nyerazumen Galilei …)
No, kak pakazivayet vremya,
kto nyerazumnei – tot umnei!

Uchonyi, svyerstnik Galileya, 
byl Galileya nye glupeye. 
On znal, shto vyertitsa zyemlya, 
no u nyevo byla semya. 
I on, sadyas s zhenoy v karety, 
svershiv predatelstvo svoyo, 
schital, shto dyelayet karyeru, 
a mezhdu tem gubil yeyo. 

Za asaznaniye planety 
shol Galilei odin na risk, 
i stal velikim on. 
Vot eta – ya ponimayu – karyerist. 

Itak, da zdravstvuyet karyera, kagda karyera takova, 
kak u Shekspira i Pastera, 
Nyutona i Tolstovo, 
i Tolstovo … Lva? 
Lva! 
Zachem ikh gryazyu pakryvali? 
Talant – talant, kak ni kleimi. 
Zabyty te, kto proklinali, 
no pomnyat tekh, kovo klyali. 

Vse te, kto rvalis v stratosferu,
vrachi, shto gibli ot kholyer,
vot eti dyelali karyeru! 
Ya s ikh karyer beru primer! 
Ya veryu v ikh svyatuyu vyera. 
Ikh vyera – muzhestvo mayo. 
Ya dyelayu sibye karyeru tem, 
shto nye dyelayu yeyo!

Yevgeny Yevtushenko (1932–2017)

Cyfieithiad

Babi Yar
Does dim cofeb uwchben Babi Yar.
Mae’r ceunant serth fel carreg fedd arw.
Mae arna i ofn,
Rydw i’n teimlo cyn hyned heddiw
â'r hil Iddewig ei hun.

Rwy’n teimlo nawr fy mod i’n Iddew.
Rwy’n crwydro yma drwy’r Aifft hynafol.
Ac yma rwy’n hongian ar y groes ac yn marw,
rwy’n dal i gario archoll yr hoelion.
Teimlaf mai fi yw Dreyfus.
Mae’r giwed bourgeois yn achwyn amdanaf ac yn fy meirniadu.

Rydw i mewn carchar, wedi f’amgylchynu,
yn cael f’erlid, poerir arnaf, caf fy nifenwi,
a menywod cain â ffriliau les
yn gwichian ac yn pwnio’u parasolau i’m hwyneb.
Teimlaf fy mod i’n fachgen bach yn Białystok.

Mae gwaed wedi’i wasgaru dros y llawr.
Mae’r arweinwyr yn y dafarn yn troi’n greulon.
Mae arogl fodca a nionod arnynt.
Caf fy nghicio i’r llawr, rwy’n ddi-rym,
Yn ofer rwy’n ymbil ar yr erlidwyr.
Maen nhw’n chwerthin: ‘Lladdwch yr Iddewon! Arbedwch Rwsia!’
Mae masnachwr grawn yn curo fy mam.

O fy nghyd-Rwsiaid, rydw i’n gwybod
eich bod, yn y bôn, yn rhyng-genedlaetholwyr,
ond bu yna rai â dwylo budr
sydd wedi sarhau eich enw da.
Gwn fod fy ngwlad yn dda.
Mor aflan yw hi bod y gwrth-Semitiaid
heb y cywilydd lleiaf wedi datgan eu hunain yn:
‘Undeb Pobl Rwsia.’

Teimlaf mai fi yw Anne Frank,
mor dyner â blagur Ebrill.
Rydw i mewn cariad a does dim angen geiriau,
ond mae angen inni edrych ar ein gilydd.
Cyn lleied y gallwn ei weld neu ei arogli!

Mae’r dail a’r awyr wedi’u cau oddi
wrthym, ond mae llawer y gallwn ei wneud –
gallwn gofleidio’n dyner
yn yr ystafell dywyll!
– ‘Mae rhywun yn dod!’
– ‘Paid â bod ofn! Dyma
synau’r gwanwyn, mae’r gwanwyn ar y gorwel.
Tyrd ataf,
rho dy wefusau imi’n gyflym!’
– ‘Maen nhw’n malu’r drws!’
– ‘Na! Y rhew sy’n torri!’

Uwchben Babi Yar mae'r gwelltglas yn siffrwd,
mae’r coed yn edrych yn fygythiol, fel petaent yn barnu.
Yma mae popeth yn sgrechian yn dawel,
a, chan ddinoethi fy mhen,
Teimlaf fel petawn i’n araf droi’n llwyd.
A throf yn un sgrech hir, ddi-sŵn
uwchlaw’r miloedd a’r miloedd sydd wedi’u claddu yma,
Fi yw pob hen ddyn a gafodd ei saethu yma,
Fi yw pob plentyn a gafodd ei saethu yma.
Ni all unrhyw ran ohonof i fyth anghofio hyn.
Boed i’r ‘Internationale’ gael ei rhuo ganu
pan fydd y gwrth-Semitiad olaf ar y ddaear
wedi cael ei gladdu o’r diwedd.
Does dim gwaed Iddewig yn fy ngwaed,
ond rydw i’n teimlo casineb ffiaidd
pob gwrth-Semitiad fel pe bawn i’n Iddew –
a dyna pam fy mod yn Rwsiad go iawn!

Hiwmor
Tsariaid, brenhinoedd, ymerawdwyr,
llywodraethwyr yr holl fyd,
sydd wedi rheoli gorymdeithiau
ond allen nhw ddim rheoli hiwmor.
Ym mhalasau’r mawrion,
treulient eu dyddiau’n foethus orweddian,
Deuai Aesop y crwydryn yno
ac roedden nhw i gyd yn edrych fel cardotwyr.
Mewn tai lle’r oedd rhagrithiwr wedi gadael
ei olion troed bach truenus,
Byddai jôcs Mylah Nasredin yn chwalu
mân siarad fel darnau ar fwrdd gwyddbwyll!

Maen nhw wedi bod eisiau prynu hiwmor,
Ond ni fynnai ef gael ei brynu!
Maen nhw wedi bod eisiau lladd hiwmor,
ond cododd hiwmor ei fys arnynt.
Mae brwydro yn ei erbyn ef yn waith anodd.
Wnaethon nhw erioed roi’r gorau i’w ddienyddio.
Plannwyd ei ben ar bicell milwr
ôl ei dorri’i ffwrdd.
Ond cyn gynted ag y tarodd pibellau’r clown
eu halaw,
dyma fo’n sgrechian:
‘Rydw i yma!’
Ac yn dechrau dawnsio’n sionc.

Yn gwisgo top-côt ag ôl traul,
yn benisel ac yn ymddangosiadol edifeiriol,
wedi’i ddal fel carcharor gwleidyddol,
aeth i’w ddienyddiad.
Roedd popeth amdano’n cyfleu ymddarostwng,
derbyn ei fod wedi’i dynghedu i'r byd a ddaw,
pan yn sydyn, gwingodd o’i got,
codi ei law
a – Hwyl fawr!

Cuddiasant hiwmor mewn daeargelloedd,
ond doedd ganddyn nhw ddim gobaith yn y byd.
Pasiodd yn syth drwy
fariau a waliau cerrig.
Gan glirio ei wddf rhag annwyd,
fel milwr cyffredin,
roedd yn alaw boblogaidd yn gorymdeithio
gyda reiffl i Balas y Gaeaf.
Mae wedi arfer â phobl yn gwgu arno,
dydyn nhw ddim yn ei boeni o gwbl,
ac o bryd i’w gilydd mae hiwmor
yn edrych arno’i hun yn ysmala.
Mae’n dragwyddol.
Tragwyddol!
Mae’n gelfydd.
Celfydd!
Ac yn gyflym.
Ac yn gyflym!
Mae’n mynd drwy bawb a phopeth.
Felly, tair hwrê i hiwmor!
Mae’n ddewr!

Yn y Siop
Rhai gyda siolau, rhai gyda sgarffiau,
fel petai i ryw fenter arwrol neu i weithio,
i mewn i’r siop fesul un
yn dawel, mae’r menywod yn dod.

Sŵn taro caniau,
clancio poteli a sosbenni!
Mae arogl nionod, ciwcymbr,
ac arogl saws ‘Kabul’.

Rwy’n crynu wrth giwio i fynd at y ddesg dalu,
ond wrth i mi symud ymlaen fesul cam,
o anadl cynifer o fenywod
mae cynhesrwydd yn ymledu ar draws y siop.

Maen nhw’n aros yn dawel,
angylion gwarcheidiol eu teuluoedd,
a’u dwylo’n gafael yn dynn
yn yr arian y gweithiwyd mor galed amdano.

Y rhain yw menywod Rwsia.
Maent yn ein parchu ac yn ein barnu.
Maent wedi cymysgu concrit,
wedi aredig, wedi cynaeafu …

Maen nhw wedi dioddef popeth,
byddant yn parhau i ddioddef popeth.
Does dim byd yn y byd y tu hwnt iddyn nhw –
maen nhw wedi cael cymaint o gryfder!

Mae’n gywilyddus rhoi newid byr iddynt!
Mae’n bechadurus rhoi pwysau byr iddynt!
Wrth i mi wasgu’r twmplenni i’m poced,
Rydw i’n sylwi’n chwyrn ac yn dawel
ar eu dwylo ymroddgar
wedi blino wrth gario eu bagiau siopa.

Ofnau
Mae ofnau’n marw o’r tir yn Rwsia,
fel ysbrydion yr oes a fu;
dim ond mewn cynteddau eglwys, fel hen fenywod,
fan yma ac acw maen nhw’n dal i gardota am fara.
Dwi’n cofio pan oedden nhw’n bwerus a chryf
yn llys y celwyddau buddugoliaethus.
Roedd ofnau’n ymlithro i bobman, fel cysgodion,
yn treiddio i bob llawr.
Yn gwastrodi pobl yn llechwraidd
a rhoi eu marc ar bawb:
pan ddylen ni fod wedi cadw’n dawel, fe ddysgon nhw ni i sgrechian,
ac i gadw’n dawel pan ddylen ni fod wedi sgrechian.
Mae hyn i gyd yn ymddangos yn bell i ffwrdd heddiw.
Mae hyd yn oed yn rhyfedd cofio nawr.
Yr ofn cudd o gael eich condemnio gan rywun dienw,
yr ofn cudd y deuai cnoc ar y drws.
Ie, a’r ofn o siarad â phobl ddieithr?
Pobl ddieithr? … Hyd yn oed â’th wraig dy hun!
Ie, a’r ofn anesboniadwy o gael dy adael,
ar ôl gorymdaith, ar dy ben dy hun gyda’r tawelwch?

Doedden ni ddim yn ofni gwaith adeiladu mewn stormydd eira,
neu fynd i frwydr a gynnau’n tanio atom,
ond ar adegau roedd arnom ni ofn ofnadwy
siarad â ni ein hunain.
Chawsom ni mo’n dinistrio na’n llygru,
ac nid heb reswm y mae Rwsia yn awr,
ar ôl trechu ei hofnau ei hun,
yn ennyn mwy o ofn yn ei gelynion.

Rwy’n gweld ofnau newydd yn gwawrio:
yr ofn o fod yn anffyddlon i’ch gwlad,
yr ofn o ddifrïo syniadau mewn modd anonest,
a’r rheini’n wirioneddau amlwg;
yr ofn o ymffrostio cymaint nes mynd yn swrth,
yr ofn o ailadrodd geiriau rhywun arall heb eu cloriannu,
yr ofn o fychanu eraill ag amheuaeth
ac ymddiried yn ormodol ynoch chi eich hun.

Mae ofnau’n marw o’r tir yn Rwsia.
Ac wrth i mi ysgrifennu’r llinellau hyn,
gan frysio’n anfwriadol ar adegau,
Yr un ofn sy’n fy nychryn yw
na fyddaf yn ysgrifennu â’m holl nerth.

Gyrfa
Roedd yr offeiriaid yn dal i ddweud bod Galileo
yn beryglus ac yn ffôl.
(Fod Galileo yn ffôl …)
Ond, fel y mae amser wedi dangos,
Roedd y ffŵl yn llawer doethach!

Roedd un gwyddonydd, yn cyfoesi â Galileo,
ddim mwy twp na Galileo.
Gwyddai fod y ddaear yn cylchdroi,
ond roedd ganddo deulu.
Ac wrth iddo fynd mewn i gerbyd gyda’i wraig
ar ôl cyflawni ei frad,
meddyliai ei fod yn hyrwyddo’i yrfa,
ond mewn gwirionedd roedd wedi’i dinistrio.

Am ei ddarganfyddiad am ein planed
Wynebodd Galileo’r risg ar ei ben ei hun,
ac roedd yn ddyn mawr.
Nawr dyna rydw i’n ei alw’n ddyn gyrfa.

Felly, tair hwrê i yrfa
pan mae hi’n yrfa debyg i un
Shakespeare neu Pasteur,
Newton neu Tolstoy,
Neu Tolstoy … Leo?
Leo!
Pam oedden nhw’n cael eu pardduo?
Talent yw talent, pa enw bynnag rydych chi’n ei roi iddo.
Maen nhw wedi’u hanghofio, y rheini a fu’n taflu melltithion,
ond rydyn ni’n cofio’r rhai a gafodd eu melltithio.

Yr holl rai a fu’n ymgyrraedd at y stratosffer,
y meddygon a fu farw o golera,
roedden nhw’n dilyn gyrfaoedd!
Cymeraf eu gyrfaoedd fel esiampl!
Credaf yn eu cred gysegredig,
ac mae eu cred yn rhoi dewrder imi.
Byddaf yn dilyn fy ngyrfa yn y fath ffordd
fel na fyddaf yn ei dilyn!

Cymraeg gan Cymen.

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

Stravaganza Dydd Gŵyl Dewi

Nos Iau 29/2/23, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

William Mathias Holiday Overture
SyrKarl Jenkins Stravaganza première y DU
Syr Karl Jenkins Dewi Sant
Jeff Howard A Welsh Celebration
Grace Williams Fanfare and Hen Wlad Fy Nhadau

Nil Venditti arweinydd
Jess Gillamsacsoffon
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

YSGOGOL | DATHLIADOL | BYWIOG

Pa ffordd well o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi na thrwy gerddoriaeth gan gyfansoddwyr eiconig o Gymru, a berfformir gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC?

Rydyn ni’n dathlu 90 mlynedd ers genedigaeth William Mathias, drwy berfformio ei gyfansoddiad Holiday Overture. Ysgrifennwyd yr agorawd hon ym 1971 yn arbennig ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yna, symudwn ymlaen at Syr Karl Jenkins gyda pherfformiad cyntaf yn y DU o’i goncerto i’r sacsoffon, Stravaganza. Cyfansoddwyd y concerto hwn ar gyfer yr amryddawn Jess Gillam, sef yr unawdydd sy’n perfformio heno. Ni fyddai’n Ddydd Gŵyl Dewi heb ganu, felly mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn camu i’r llwyfan i berfformio caneuon o waith Jenkins, sef Dewi Sant, yn ogystal â chadwyn o’ch hoff alawon Cymreig.

Martyn Brabbins yn arwain …

Nos Wener 8/3/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Nos Sadwrn 9/3/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Grace Williams Elegy for Strings
Nielsen Concerto i’r Ffidil
Rachmaninov Symffoni Rhif 2

Martyn Brabbinsarweinydd
Liya Petrovaffidil

CELFYDD | SONIARUS | GWEFREIDDIOL

Mae Grace Williams yn rhoi awgrym cynnar o’r gerddoriaeth hynod neilltuol y byddai hi’n ei chyfansoddi yn nes ymlaen yn ei bywyd gyda darn agoriadol cyngerdd heno, ei Elegy for Strings. O’r Praeludium dramatig i’r Adagio synfyfyriol, mae Concerto Nielsen i’r Ffidil yn daith gyffrous drwy harmoni, ystum a naws. Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r pianydd Liya Petrova o Fwlgaria, enillydd Cystadleuaeth Ffidil Nielsen 2016.

Mae Ail Symffoni Rachmaninov yn un o’i weithiau enwocaf, ac nid yw’n fawr o syndod pam! Disgleirdeb deinamig, gorfoledd persain a harddwch hudolus sydd yn y darn hynod emosiynol hwn o gerddoriaeth. I arwain, rydym yn estyn croeso yn ôl i un o ffefrynnau BBC NOW, Martyn Brabbins.

Concerto i Gerddorfa gan Bartók

Nos Iau 9/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 10/5/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Caroline Shaw The Observatory première y DU
Ravel Concerto i’r Piano yn G fwyaf
Bartók Concerto i Gerddorfa

Giancarlo Guerrero arweinydd
Sergio Tiempo piano

LLIWGAR | DEINAMIG | GAFAELGAR

Cafodd The Observatory gan Caroline Shaw (sy’n cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y DU) ei ysbrydoli gan daith i Arsyllfa Griffin ger Hollywood Bowl; mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, yn cyfuno’r hen a'r newydd gydag anhrefn ac eglurder, mewn llif ymwybod sy’n procio ein chwilfrydedd.

Bydd concerto atmosfferaidd Ravel i’r piano, sy’n gymysgedd gyfoethog o delynegiaeth, offeryniaeth atgofus a darnau piano meistrolgar, yn cael ei berfformio gan y pianydd penigamp, Sergio Tiempo, wrth iddo ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW. I gloi’r rhaglen syfrdanol hon, mae’r feistrolaeth ryfeddol yn parhau yng Nghoncerto gwych Bartók i Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Costa Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.

Bywgraffiadau

Ryan Bancroftarweinydd

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, mae’n Brif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn dilyn ei ymweliad cyntaf i weithio gyda’r Tapiola Sinfonietta, cafodd ei wahodd i fod yn Artist Cyswllt yno o dymor 2021/22 ymlaen. Ym mis Medi, daeth yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.

Yn ei rôl newydd fel Prif Arweinydd yn Stockholm, bu’n agor y tymor gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys perfformiadau cyntaf o ddarnau gan Daniel Börtz ac Anders Hillborg, a chyngherddau gydag Emanuel Ax a Seong-Jin Cho.

Haf diwethaf, ymddangosodd am y tro cyntaf yn yr Hollywood Bowl gyda Ffilharmonig Los Angeles; y tymor hwn, bydd hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Cleveland, Cerddorfeydd Symffoni San Francisco a Cincinnati, NDR Elbphilharmonie Orchestra, Orquesta Sinfónica de Castilla y León a Cherddorfa Ffilharmonig Radio’r Iseldiroedd, yn ogystal â dychwelyd i Gerddorfa Symffoni a Cherddorfa Ffilharmonig Toronto.

Mae’n frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble, Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur incises yn Los Angeles, wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio’n agos gyda cherddorion byrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden.

Astudiodd yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, Conservatoire Brenhinol yr Alban ac yn yr Iseldiroedd. 


Jonathan Bisspiano

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Mae Jonathan Biss yn bianydd ac addysgwr byd-enwog ac yn awdur sydd wedi cael clod mawr. Mae wedi ymddangos yn rhyngwladol fel unawdydd gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Llundain, Los Angeles ac Efrog Newydd, cerddorfeydd Symffoni Boston, Chicago a San Francisco, cerddorfeydd Cleveland a Philadelphia, Royal Concertgebouw, Philharmonia a Gewandhausorchester Leipzig, ymysg llu o rai eraill. Mae hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Artistig ochr yn ochr â’r Fonesig Mitsuko Uchida yng Ngŵyl Gerddoriaeth Marlboro, lle mae wedi treulio 15 haf.

Y tymor hwn, mae’n perfformio gyda Cherddorfa Symffoni St Louis a Stéphane Dénève, Cerddorfa Symffoni Cincinnati a Ramón Tebar, a Cherddorfa Philadelphia ac Yannick Nézet-Séguin yn Neuadd Carnegie. Drwy gydol y tymor, mae’n cyflwyno prosiect newydd sy’n paru gweithiau piano unigol gan Schubert â chyfansoddiadau newydd gan Alvin Singleton, Tyson Gholston Davis a Tyshawn Sorey yn San Francisco Performances, Amgueddfa Isabella Stewart Gardner yn Boston, ymysg eraill. Mae’n parhau â’i gydweithrediad â Mitsuko Uchida, gan gynnwys perfformio cerddoriaeth Schubert ar gyfer piano pedair llaw yn Neuadd Carnegie; ac mae’n ymddangos gyda Phedwarawd Brentano.

Mae ei ymrwymiadau Ewropeaidd y tymor hwn yn cynnwys perfformiadau gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain a Karina Canellakis; cyngherddau gyda Phedwarawd Elias yn y Liverpool Philharmonic Hall, Cockermouth Music Society a Neuadd Wigmore; datganiad o weithiau gan György Kurtág a Schubert yn Sala Verdi ym Milan. Daw Jonathan Biss â’i dymor Ewropeaidd i ben gyda Cherddorfa Siambr Paris a’r arweinydd Pekka Kuusisto yn perfformio The Blind Banister gan Timo Anres, rhan o’i brosiect comisiynu parhaus Beethoven/5.


James Plattbas

Astudiodd y baswr Prydeinig James Platt yn Ysgol Gerdd Chetham, yr Academi Gerdd Frenhinol, ac yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall. Roedd yn aelod o Raglen Artistiaid Ifanc Jette Parker yn yr Opera Brenhinol, Covent Garden, rhwng 2014 a 2016.

Mae’r ymrwymiadau y tymor hwn yn cynnwys Requiem Verdi gyda Cherddorfa Symffoni Bournemouth a David Hill, Requiem Mozart gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a Tomáš Hanus a Y Greadigaeth gan Haydn gyda Cherddorfa’r Philharmonia o dan Daniel Hyde ac Y Tymhorau gyda’r Tapiola Sinfoninietta a Matthew Halls. Ar y llwyfan opera, mae’n canu’r Commendatore (Don Giovanni) am y tro cyntaf gydag Opéra de Lille ac mae’n dychwelyd i Glyndebourne yn rôl Sarastro (Y Ffliwt Hudol).

Mae ei uchafbwyntiau diweddar wedi cynnwys ymddangosiadau yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, Opera Cenedlaethol Cymru, La Scala, Milan, Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd, Opera'r Alban, Deutsche Oper, Berlin, Maggio Musicale Fiorientino a Gŵyl y Grange.

Mae ei ymddangosiadau cyngerdd wedi cynnwys The Dream of Gerontius, Elgar, gyda Cerddorfa Ffilharmonig Llundain o dan Edward Gardner ym Mhroms y BBC’; Zacharie (Le prophète Meyerbeer) gyda Cherddorfa Symffoni Llundain o dan Syr Mark Elder yng Ngŵyl Aix-en-Provence; Hunding (Die Walküre) gyda’r Philharmonie Zuidnederland o dan Hartmut Haenchen; taith Ewropeaidd gyda Les Musiciens du Louvre a Marc Minkowski o Ariodante Handel ac Oratorio Nadolig Bach; Pedair Rhamant ar Gerddi gan Pushkin Shostakovich gyda’r Hallé ac Elder; Symffoni Rhif 9 Beethoven gyda’r Royal Northern Sinfonia o dan Lars Vogt; Requiem Verdi gya'r Orchestre National de Lyon a Leonard Slatkin; a Symffoni Rhif 8 Mahler gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol o dan Vasily Petrenko.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Nadine Nigl
Anna Cleworth
Juan Gonzalez
Emilie Godden
Ruth Heney
Rebecca Totterdell
Žanete Uškāne

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Ros Butler
Sheila Smith
Lydia Caines
Ilze Abola
Roussanka Karatchivieva
Vickie Ringguth
Beverley Wescott
Joseph Williams
Katherine Miller
Jane Sinclair
Gary George-Veale

Fiolâu
Francis Kefford ‡
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Daire Roberts
Robert Gibbons
Lowri Thomas
Lydia Abell
Catherine Palmer
James Drummond

Soddgrythau
Alice Neary *
Tamsy Kaner
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Alistair Howes
Rachel Ford
Carolyn Hewitt

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Christopher Wescott
Ketan Curtis
Richard Gibbons
Thea Sayer 

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Sarah-Jayne Porsmoguer 

Cor anglais
Sarah-Jayne Porsmoguer † 

Clarinetau
Nick Carpenter *
Natalie Harris
Lenny Sayers 

Clarinet yn E fflat
Natalie Harris 

Clarinet Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Jamie King
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Jack Sewter
John Davy 

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Ryan Linham
Andy Dunn 

Trombonau
Donal Bannister*
Richard Wheeler

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Pete Smith

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro 
Phil Girling *
Phil Hughes
Andrea Porter
Rhydian Griffiths 

Telynau
Valerie Aldrich-Smith †
Ceri Wynne Jones 

Piano/Selesta
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg


Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Katie Axelsen(yn llenwi dros gyfnod tadolaeth)
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yw un o brif gorau cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.

Wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae’r corws, sy’n dathlu ei benblwydd yn 40 y tymor hwn, yn gweithio’n rheolaidd ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â pherfformio cyngherddau ar ei ben ei hun. Mae’n cynnwys dros 150 o gantorion: cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Mae uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys perfformiadau o Requiem Fauré ac O sacrum convivium Messiaen gyda Ludovic Morlot, Offeren Nelson’ Haydn gyda’r arbenigwr cerddoriaeth gynnar enwog Christian Curnyn a recordiad CD o Dewi Sant gan Syr Karl Jenkins yn ei flwyddyn pen-blwydd yn 80 oed, a pherfformiadau blynyddol ym Mhroms y BBC – gydag ymddangosiadau diweddar yn cynnwys Harmonium gan John Adams gyda Prif Arweinydd Ryan Bancroft, A Sea Symphony gan Vaughan Williams gydag Andrew Manze a Requiem Mozart o’r cof gyda Nathalie Stutzmann.

Yn ystod y tymor hwn, bydd y corws yn perfformio Five Mystical Songs Vaughan Williams gyda Harry Bicket, Dewi Sant gan Karl Jenkins i nodi Dydd Gŵyl Dewi, Stabat mater Poulenc a pherfformiad cyntaf y byd o Sound of Stardust Alexander Campkin ochr yn ochr ag enillydd Gwobr Cynulleidfa BBC Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano, ynghyd â’r baswyr yn perfformio 13eg Symffoni wych Shostakovich o dan faton Ryan Bancroft.

Mae’r corws wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth gyfoes Rhoddodd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl ei pherfformiad cyntaf, y maent newydd ei recordio i’w rhyddhau ar gryno ddisg yn ddiweddarach eleni. Mae wedi perfformio gweithiau am y tro cyntaf erioed gan amrywiaeth eang o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, yn seiliedig ar eiriau Araith Malala Yousafza i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.

Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor ar gyfer Wonders of the Celtic Deep BBC Cymru.

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC (lleisiau dynion)

Cyfarwyddwr ArtistigAdrian Partington
Cyfeilydd Chris Williams

Greg Bannan
Oliver Bourne
Owain Browne
Draw Chen
Matthew Clark
Trevor Clitheroe
Richard Clutterbuck
David John Davies
Ethan Davies
John Davies
Lyndon Davies
Peter Dhonau
Simon Draper
Joshua Eatough
Mike Ennis
James Garland
Rafael Grigoletto
Stephen Hamnett
Ollie Hodgson
Stuart Hogg
Peter Holmes
Tom Hunt
Mike Hurst
Jack Irwin
Stephen Jacks
Alex Jones
Piers Kennedy
John Rhys Liddington
Lucas Maunder
Rory McIver
David McKee
Tony Mitchell
Andrew Morris
Joseff Morris
Gareth Nixon
Mike Osborn
Owen Parsons
Alan Passey
Ben Pinnow
Joseph Pitkethly
John Quinn
Robert Riley
David Rodgers
Thomas Scharf
Neil Schofield
Richard Shearman
Miles Smith
William Stevens
Paul Trott
Orlando Vas
Gerard Walshe
Stephen Wells
Alun Williams
Michael Willmott
Nick Willmott
Emyr Wynne Jones
Elvin Young

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications