

Cyfuniadau Gwerinol – Japan a Dwyrain Ewrop
Nos Sadwrn 24/2/24, 7.30pm

Tōru Takemitsu
Three Film Scores12’
Kikuko Kanai
Capriccio Okinawa première DU 25’
EGWYL: 20 munud
Franz Liszt
Concerto i’r Piano Rhif 2 21’
Antonín Dvořák
The Wood Dove 19’
Nodoka Okisawaarweinydd
Iyad Sughayer piano

Cafodd y cyngerdd hwn ei gefnogi gan grant bach gan y Daiwa Anglo-Japanese Foundation a hoffai BBC NOW ddiolch i’r sefydliad am y cymorth.

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Radio 3 in Concert. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnig podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth i chi.
Cyflwyniad
Croeso i’r cyngerdd heno, lle bydd BBC NOW yn cael ei harwain gan Nodoka Okisawa, sy’n perfformio am y tro cyntaf yma yng Nghaerdydd.
Mae’n briodol bod hanner cyntaf y rhaglen yn dathlu cerddoriaeth ei gwlad enedigol, Japan: er efallai fod Tōru Takemitsu yn cael ei gofio am y gerddoriaeth fwyaf cywrain a choeth, roedd hefyd yn hoff iawn o ffilmiau. Cyfrannodd 90 trac sain, ac mae Three Film Scores yn cynnig cipolwg diddorol o hyn.
O genhedlaeth gynharach, Kikuko Kanai oedd y fenyw gyntaf i uno arddull glasurol y Gorllewin â cherddoriaeth werin ei man geni, Ynysoedd Okinawa. Heddiw, clywir y perfformiad cyntaf erioed yn y DU o’i Capriccio Okinawa atgofus.
Ar ôl yr egwyl, rydyn ni’n ôl yn Ewrop, yn gyntaf ar gyfer Ail Goncerto cyfareddol Liszt i’r Piano, ac rydyn ni’n falch iawn o groesawu’n ôl Iyad Sughayer fel unawdydd. Mae’r cyfansoddwr yn cyfleu meistrolaeth gyffrous a thelynegiaeth ingol yn y darn ffantasi hwn. Ac yn olaf, Dvořák: efallai bod teitl ei gathl symffonig The Wood Dove yn swnio’n ddigon diniwed, ond mae’n ymwneud â chwedl werin Tsiecaidd dywyll am lofruddiaeth a thwyll, sy’n cael ei chyfleu’n wych drwy glust Dvořák am liw.
Mwynhewch!
Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Tōru Takemitsu (1930–96)
Three Film Scores(1994–5)

1 Cerddoriaeth Hyfforddi a Gorffwys
2 Cerddoriaeth Angladdol
3 Waltz
Ganed Tōru Takemitsu yn Tokyo ym 1930, ac ef oedd y cyfansoddwr cyntaf o Japan i ddod yn fyd-enwog. Fe’i haddysgodd ei hun i raddau helaeth, gyda gwasanaeth milwrol yn cwtogi ei addysg yng nghanol ei arddegau; ymhen amser, roedd ei gyfansoddiadau’n gymysg o ddylanwadau eclectig, o Debussy a Berg i Boulez, Cage a Feldman.
Ac yntau wedi mynd yn groes i gerddoriaeth draddodiadol Japan yr oedd yn ei chysylltu, i ddechrau, â’i brofiadau trawmatig yn y rhyfel, daeth i’w derbyn yn y pen draw, gan ddychwelyd hefyd at iaith felodaidd. ‘Rwy’n hen ffasiwn,’ ysgrifennodd. ‘Mae’r hyn rwyf am ei gyrraedd drwy alaw y tu hwnt i’r pleser a’r tristwch a brofais yn ystod y parhad hwn. Eto i gyd, ni allaf alw'r hyn rwyf yn ei gyrraedd yn dragwyddoldeb.’
Roedd ei arbenigedd yn cofleidio llenyddiaeth, athroniaeth a'r byd naturiol; a gydag angerdd obsesiynol bron am ffilmiau, cyfansoddodd oddeutu 90 o sgoriau ffilm, gan gynnwys campwaith Akira Kurosawa, Ran yn 1985, fersiwn Japaneaidd o King Lear.
Mae ei Three Film Scores ar gyfer cerddorfa linynnol yn dyddio o 1994-5 ac yn rhoi gwedd newydd i gerddoriaeth o José Torres (1959), Black Rain (1989) a Face of Another (1966). Cynhaliwyd y première yng Ngŵyl CineMusic yn Gstaad, y Swistir, ar 9 Mawrth 1995, lle cafodd Cerddorfa Linynnol Lloegr ei harwain gan William Boughton.
Mae’r ‘Gerddoriaeth Hyfforddi a Gorffwys’ agoriadol yn egnïol a thonnog yn ei dro, gyda naws jazz a blŵs. Mae ‘Cerddoriaeth Angladdol’ yn ffurfio symudiad araf sy’n llawn harmonïau ingol a chywrain iawn. Yn olaf, mae’r ‘Waltz’ yn fachog ond, yn rhyfedd, ag elfennau tywyll, gan gwblhau cyfres sy’n gyflwyniad perffaith i fyd amlochrog y cyfansoddwr.
Nodyn y rhaglen © Jessica Duchen
Kikuko Kanai (1906–86)
Capriccio Okinawa(1974, diw. tua 1981)
première DU

1 Dawns Cynhaeaf Da
2 Dawns y Morwynion Miko
3 Dawns Ynys Hatoma
Mae Capriccio Okinawa (1974, diwygiwyd oddeutu 1981), yn un o gyfansoddiadau mwyaf uchelgeisiol Kikuko Kanai. Nodwedd ei harddull aeddfed, sy’n amlwg yma, yw cyfuniad o dechnegau cerddorol y Gorllewin ac alawon a dawnsfeydd gwerin Okinawa. Cafodd Kanai ysbrydoliaeth oes o hanes, natur a diwylliant yr ynysoedd yr oedd hi’n eu galw’n gartref.
Mae’r symudiad cyntaf, ‘Dawns Cynhaeaf Da’, yn seiliedig ar y Ddawns Ffyn egnïol sydd wedi’i throsglwyddo ar draws y cenedlaethau ar Ynys Miyako. Yn yr haul llachar, mae dynion ifanc cyhyrog yn dawnsio, gan nodi amser wrth weiddi’n uchel a chyffroi’r gwylwyr – yn wahanol i ddawns gywrain tir mawr Okinawa.
Mae’r ail symudiad, ‘Dawns y Morwynion Miko’ yn cyfleu awyrgylch defodau hynafol. Amser maith yn ôl yn Okinawa, dywedir bod chwiorydd a merched yr arglwyddi yn cael bod yn offeiriaid Shinto benywaidd er mwyn iddynt weddïo am gynaeafau da, digon o bysgod, a thaith ddiogel ar y môr. Daeth teuluoedd masnachwyr a theithwyr at ei gilydd ar fynydd o amgylch y morwynion miko, a fyddai’n arwain y gweddïau gyda chanu a dawnsio.
Mae’r trydydd symudiad, ‘Dawns Ynys Hatoma’, yn cynnwys y gân werin Hatoma-bushi. Dyma beth oedd gan Kanai i’w ddweud am hyn: ‘Mae’r dawnsio hwn gydag alaw rythmig wrth fodd yr holl bobl ac yn cael ei ganu a’i ddawnsio ganddynt’. Mae’r alaw’n cael ei chwarae ar y sanshin, offeryn sy’n cael ei blycio ac sy’n gynhenid i Okinawa. Mae wedi’i wneud o groen neidr ac, fel y samisen Japaneaidd sy’n ei ragflaenu, mae ganddo dri llinyn. Mae’r symudiad hwn yn disodli’r diweddglo gwreiddiol o’r enw ‘Karate’ a oedd yn ddodecaffonig, arddull cyfansoddi a oedd o ddiddordeb i Kanai am gyfnod byr.
Nodyn y rhaglen © Maiko Kawabata
EGWYL: 20 munud
Franz Liszt (1811–86)
Concerto Rhif 2 i’r Piano yn A fwyaf (1839–57, diw. 1861)

Adagio sostenuto assai – Allegro agitato assai – Allegro moderato – Allegro deciso – Marziale un poco meno allegro – Allegro animato
Iyad Sughayer piano
Er ei fod wedi drafftio tua 20 o weithiau ar gyfer y piano a’r gerddorfa, dim ond dau goncerto wedi’u rhifo i’r piano a adawodd Franz Liszt ymhlith y cannoedd o’i gyfansoddiadau. Mae’r ddau yn ddarnau pwerus, ac yn gofyn am bersonoliaeth fawr gan y sawl sy’n eu perfformio, ac eto maent yn ddarnau sy’n fyfyriol a chyfriniol iawn ac yn llawn bling pianyddol.
Roedd Liszt yn adolygu ei weithiau’n drylwyr, yn aml yn cymryd blynyddoedd neu hyd yn oed ddegawdau i berffeithio ei fersiynau terfynol. Roedd hyn yn arbennig o wir am y rhai a ddechreuodd yn ystod ei flynyddoedd fel pencerddor o fri. Roedd yn blentyn hynod dalentog, ac aeth ei dad, a oedd wedi chwarae’r soddgrwth yng ngherddorfa Haydn yn ystâd Esterházy, ag ef o Hwngari i Baris i astudio. Ond ar ôl marwolaeth ei dad, collodd y Liszt ifanc ei ffordd, nes iddo gael profiad epiffani wrth fynychu datganiad Paganini ym mhrifddinas Ffrainc ym 1832. O fewn ychydig flynyddoedd, roedd Liszt wedi llwyddo i drawsnewid ei hun yn Baganini’r piano.
Rhwng 1838 a 1847 teithiodd yn bell – roedd menywod yn ei addoli, ei gyfoedion yn ei barchu, cystadleuwyr posib yn ei ofni (er ychydig iawn a allai gystadlu ag ef, fel y darganfu Sigismond Thalberg ar ei draul ei hun, mewn ‘gornest biano’) ac roedd Clara Schumann a’r fiolinydd Joseph Joachim yn ei ddrwgdybio, gan ei ystyried yn ddyn sioe arwynebol. Roedd ei fywyd yn crwydro o un lle i’r llall yn golygu nad oedd ganddo ddigon o amser ar gyfer ei gerddoriaeth ei hun. Dim ond ar ôl iddo benderfynu rhoi’r gorau i berfformio ac ymroi i gyfansoddi ac addysgu o gartref yn Weimar y rhoddodd amser i archwilio llawer o’i lawysgrifau cynharach yn drylwyr.
Mae’r brasluniau cerddorol ar gyfer yr Ail Goncerto i’r Piano yn dyddio’n ôl i’r 1830au, ond ni chafodd y darn ei berfformio tan 1857, pan berfformiodd disgybl Liszt, Hans von Bronsart y darn gyda’r cyfansoddwr yn arwain. Fe’i cyhoeddwyd yn y diwedd ar ddechrau’r 1860au. Mae'r darn yn cael ei chwarae mewn un rhychwant di-dor ac mae, i bob pwrpas, yn ffantasi enfawr gyda dwy brif thema sy’n dychwelyd drwy’r cyfan, wedi’u trawsnewid bob tro.
Mae’r chwythbrennau’n cyflwyno’r syniad cyntaf; mae’r piano’n ymhelaethu ar hynny ac yn mynd i gadenza, sydd wedyn yn sefydlu’r ail thema, gorymdaith orffwyll gyda chyfeiliant rhythmig cryno. Mae hyn yn cael ei drawsnewid yn scherzo i ddechrau ac yna’n adran Allegro moderato, gyda’r unawdydd yn plethu ffiligrî cywrain o amgylch y llinynnau. Mae’r thema agoriadol yn dychwelyd, wedi’i chyfuno’n orfoleddus â’r orymdaith, nes i’r unawdydd gyflwyno pennod esmwyth o fyfyrio yng nghanol y rhodres. Yn y pen draw, mae coda egnïol sy’n llawn dawn feistrolgar ar y piano yn cloi’r gwaith ar uchafbwynt.
Nodyn y rhaglen © Jessica Duchen
Antonín Dvořák (1841–1904)
The Wood Dove, Op. 110 (1896, diw. 1897)

Cyfansoddodd Antonín Dvořák ei symffonïau cyntaf ac yntau’n ceisio cynnal ei deulu ifanc, ac yyn rhoi gwersi piano ac yn chwarae’r fiola yng Ngherddorfa Theatr Dros Dro Bohemia. Roedd ymhell yn ei dridegau pan ddaliodd ei gerddoriaeth sylw Johannes Brahms a oedd ar y panel beirniadu mewn cystadleuaeth am dâl ariannol. Fe wnaeth Brahms ei argymell i’r cyhoeddwr cerddoriaeth Simrock, gan roi cyfle iddo ddod i amlygrwydd, rhywbeth roedd mawr ei angen arno.
Ond, nid yw’r cysylltiad hwnnw’n golygu bod Dvořák yn gyfansoddwr cwbl geidwadol, Brahmsaidd. Dywedodd fod ganddo ‘edmygedd di-ben-draw’ tuag at Wagner (fe wnaeth hyd yn oed chwarae mewn cyngerdd roedd Wagner yn ei arwain ym Mhrag ym 1863), ac roedd cathlau symffonig arloesol Liszt yn ddylanwad aruthrol. Ym 1896 ysgrifennodd bedwar darn gwaith o’r fath, pob un yn seiliedig ar faled gan Karel Jaromír Erben (1811–70), The Wood Dove yn un ohonynt. Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf o hwn ar 20 Mawrth 1898 yn Brünn (Brno), dan arweiniad Leoš Janáček; roedd Gustav Mahler ar y podiwm ar gyfer y première yn Fienna.
Mae’n adrodd stori menyw sy’n gwenwyno ei gŵr, ac yna’n priodi dyn iau, ond yn cael ei gorfodi wedyn i wynebu ei throsedd gan gân y golomen wyllt. Mae ‘nodwedd felltith’ angheuol yn ailymddangos yn ddidrugaredd, fel leitmotiff. Mae’r gerddoriaeth angladdol agoriadol sydd, weithiau, yn ymylu ar fod yn debyg i waith Mahler, yn arwain at ddathliadau priodas, yn ogystal â deuawd cariad. Ond wedyn, mewn coeden uwchben bedd y gŵr marw, mae’r golomen wyllt yn ymddangos gyda neges o dranc – ‘Daw’r sawl sy’n anhapus o hyd i’w fedd.’ Mae’r orymdaith angladdol yn dychwelyd, y tro hwn i’r wraig. Efallai fod y diwedd, yn y pen draw, yn cynnig gobaith o waredigaeth.
Nodyn y rhaglen © Jessica Duchen
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn?Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ...
Rachmaninov 2 gyda Martyn Brabbins
Nos Wener 8/3/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Nos Sadwrn 9/3/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Grace Williams Elegy for Strings
Nielsen Concerto i’r Ffidil
Rachmaninov Symffoni Rhif 2
Martyn Brabbinsarweinydd
Liya Petrovaffidil
CELFYDD | SONIARUS | GWEFREIDDIOL
Mae Grace Williams yn rhoi awgrym cynnar o’r gerddoriaeth hynod neilltuol y byddai hi’n ei chyfansoddi yn nes ymlaen yn ei bywyd gyda darn agoriadol cyngerdd heno, ei Elegy for Strings. O’r Praeludium dramatig i’r Adagio synfyfyriol, mae Concerto Nielsen i’r Ffidil yn daith gyffrous drwy harmoni, ystum a naws. Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r pianydd Liya Petrova o Fwlgaria, enillydd Cystadleuaeth Ffidil Nielsen 2016.
Mae Ail Symffoni Rachmaninov yn un o’i weithiau enwocaf, ac nid yw’n fawr o syndod pam! Disgleirdeb deinamig, gorfoledd persain a harddwch hudolus sydd yn y darn hynod emosiynol hwn o gerddoriaeth. I arwain, rydym yn estyn croeso yn ôl i un o ffefrynnau BBC NOW, Martyn Brabbins.
Boed i’r Holl Fyd Ganu ym mhob Cwr
Nos Wener 22/3/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
NunesGarcia Agorawd ‘Zemira’
J. S. Bach Cantata Rhif 82, ‘Ich habe genug’
Haydn Symffoni Rhif 26, ‘Lamentatione’
Vaughan Williams Five Mystical Songs
Harry Bicket arweinydd
Julien Van Mellaerts bariton
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
GOGONEDDUS | YSBRYDOL | SWYNGYFAREDDOL
Mae ysbryd y Pasg, er ei fod yn gynnil, yn treiddio drwy’r cyngerdd hwn, gyda Harry Bicket yn dychwelyd i arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Y cyfansoddwr o Frasil, José Maurício Nunes Garcia, fydd yn dechrau’r noson gyda’i Agorawd Zemira, ac mae’r bariton anhygoel, Julien Van Mellatens, yn perfformio Ich habe genug gan Bach. Mae’r gwaith hwn yn gwbl addas ar gyfer unrhyw gyngerdd y Pasg, gyda thestun sy’n adrodd hanes puro Mair ac yn cyhoeddi ei hawydd i ddianc rhag trallod y ddaear yn ôl at Iesu.
Nid oes llawer yn gwybod mai ar gyfer y Pasg y cafodd Symffoni Rhif 26 Haydn ei hysgrifennu, er pan edrychwn yn ddyfnach ar y gerddoriaeth, mae llawer o awgrymiadau amlwg. Cafodd ei hysgrifennu mewn Sturm und Drang (storm a straen) nodweddiadol, mae’r awyrgylch dymhestlog a’r cywair lleiaf yn sail i ddyfyniadau o ganeuon plaen Wythnosau'r Dioddefaint, sy’n fwy perthnasol i eglwys na’r neuadd gyngerdd. Hefyd ar gyfer y Pasg, ysgrifennwyd Five Mystical Songs gan Vaughan Williams, sy’n gosod testun o The Temple: Sacred Poems gan y bardd a’r offeiriad o Gymru, George Herbert. Yn ysbrydol ac yn uniongyrchol wrth gyflwyno, mae’r pum symudiad yn cyferbynnu o ddistaw a myfyriol i floeddiadau o ganmoliaeth buddugoliaethus.
Concerto i Gerddorfa gan Bartók
Nos Iau 9/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 10/5/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Caroline Shaw The Observatory première y DU
Ravel Concerto i’r Piano yn G fwyaf
Bartók Concerto i Gerddorfa
Giancarlo Guerrero arweinydd
Sergio Tiempo piano
LLIWGAR | DEINAMIG | GAFAELGAR
Cafodd The Observatory gan Caroline Shaw (sy’n cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y DU) ei ysbrydoli gan daith i Arsyllfa Griffin ger Hollywood Bowl; mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, yn cyfuno’r hen a'r newydd gydag anhrefn ac eglurder, mewn llif ymwybod sy’n procio ein chwilfrydedd.
Bydd concerto atmosfferaidd Ravel i’r piano, sy’n gymysgedd gyfoethog o delynegiaeth, offeryniaeth atgofus a darnau piano meistrolgar, yn cael ei berfformio gan y pianydd penigamp, Sergio Tiempo, wrth iddo ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW. I gloi’r rhaglen syfrdanol hon, mae’r feistrolaeth ryfeddol yn parhau yng Nghoncerto gwych Bartók i Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Costa Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.
Bywgraffiadau
Nodoka Okisawaarweinydd

Lun: Felix Broede
Lun: Felix Broede
Nodoka Okisawa yw Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Dinas Kyoto ar hyn o bryd, swydd tair blynedd y dechreuodd arni ym mis Ebrill 2023.
Mae hi wedi llwyddo mewn cystadlaethau gan gynnwys Cystadleuaeth Ryngwladol Besançon 2019 ar gyfer Arweinwyr Ifanc, lle dyfarnwyd y Wobr Gyntaf iddi, Gwobr y Gerddorfa a Gwobr y Gynulleidfa, a Chystadleuaeth Arwain Ryngwladol Tokyo 2018.
Rhwng 2020 a 2022, cafodd ysgoloriaeth yn Academi Karajan y Berliner Philharmoniker ac roedd hefyd yn gynorthwyydd i Kirill Petrenko. Yr uchafbwyntiau yn ystod y cyfnod hwnnw oedd arwain Cyngerdd Undod dros Wcráin ym mis Mawrth 2022 a, dau fis yn ddiweddarach, y cyngerdd ar y cyd gyda Kirill Petrenko i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Academi Karajan.
Y tymor hwn, bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Siambr Basel a Cherddorfeydd Symffoni Québec a Winnipeg, ymysg eraill. Mae hi hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni NHK, Tokyo, ac mae hi’n dychwelyd i gerddorfeydd Symffoni Munich a Tokyo, ar ôl bod yn Artist Preswyl gyda cherddorfa Munich y tymor diwethaf.
Mae’n westai rheolaidd gyda cherddorfeydd blaenllaw yn Japan, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Yomiuri Nippon, cerddorfeydd Ffilharmonig Japan a New Japan ac Ensemble Cerddorfaol Kanazawa. Ymddangosodd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Seiji Ozawa Matsumoto yn 2022, gan arwain The Marriage of Figaro gan Mozart.
Mynychodd Nodoka Okisawa nifer o ddosbarthiadau meistr, gan gynnwys y rheini a roddwyd gan Neeme a Paavo Järvi a Kurt Masur. Yn 2019, cafodd ei dewis ar gyfer Academi Opera Eidalaidd Riccardo Muti yn Tokyo.
Y llynedd, cafodd Wobr Cronfa Goffa Hideo Saito gan Sefydliad Cerddoriaeth Sony. Cafodd ei geni yn Aomori, Japan, a dysgodd ganu’r piano, y soddgrwth a’r obo pan oedd hi’n ifanc, cyn astudio i fod yn arweinydd ym Mhrifysgol Celfyddydau Tokyo gyda Ken Takaseki a Tadaaki Otaka, ac wedyn yn y Hochschule für Musik Hanns Eisler Berlin gyda Christian Ehwald a Hans-Dieter Baum.
Iyad Sughayer piano

Lun: James Cardell-Oliver
Lun: James Cardell-Oliver
Dewiswyd Iyad Sughayer, y pianydd o Wlad yr Iorddonen-Palesteina, fel yr un i gadw llygad arno gan International Piano Magazine. Enillodd wobr yng Nghlyweliadau Rhyngwladol yr Ymddiriedolaeth Artistiaid Clasurol Ifanc yn 2021. Mae wedi rhyddhau dau albwm o waith Khachaturian sydd wedi cael canmoliaeth fawr, ac mae’r ail albwm yn cynnwys cerddorfa heno, dan arweiniad Andrew Litton.
Mae uchafbwyntiau’r tymor hwn yn cynnwys perfformiadau yn Konzerthaus Berlin, Concertgebouw Amsterdam, Gŵyl Lammermuir a Sefydliad Barber, Birmingham, yn ogystal â chyfres o ddatganiadau yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Caerlŷr, gan berfformio holl sonatas Mozart i’r piano ochr yn ochr â darnau sydd newydd eu comisiynu.
Y tymor diwethaf dychwelodd i Neuadd Wigmore a rhoi datganiadau yn y gyfres Piano Ryngwladol yn Neuadd Gyngerdd Frenhinol Nottingham ac yn Neuadd Gyngerdd Perth a Gŵyl Caerfaddon. Yn flaenorol, mae wedi perfformio datganiadau yng ngwyliau Brighton, Ardal y Llynnoedd, Castleton a Musique d’Abord, Neuadd Bridgewater a Neuadd Stoller ym Manceinion, Neuadd y Dref Leeds, y Laeiszhalle, Hambwrg, Neuadd Steinway yn Efrog Newydd a Thŷ Opera Dubai. Mae hefyd yn cydweithio’n rheolaidd â'r oböydd, Armand Djikoloum, gyda chyngherddau ar y gweill ledled y DU.
Yn 2020, cyfrannodd at raglen ddogfen BBC Arabic, London Lockdown, lle cymerodd ran fel cymeriad a recordio’r trac sain ar gyfer y gerddoriaeth.
Fel unawdydd, mae wedi ymddangos gyda cherddorfeydd gan gynnwys Cerddorfa Ffilharmonig y BBC, Camerata Manceinion, Cerddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd, a cherddorfeydd Symffoni Amman a Cairo.
Yn 2022 cydsefydlodd a lansiodd ysgol gerddoriaeth arbenigol newydd, Academi Gerdd Mashrek, gydag Ysgol Ryngwladol Mashrek yn Amman, a’r nod oedd meithrin cenhedlaeth newydd o grewyr a cherddorion yng Ngwlad yr Iorddonen.
Wedi’i eni yn Amman, bu Iyad Sughayer yn astudio yn Ysgol Gerdd Chetham, Coleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr a’r Trinity Laban Conservatoire, lle enillodd Fedal Aur nodedig y coleg. Yn 2021, cafodd ei wneud yn Gydymaith Coleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.
Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.
Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.
Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.
I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now
Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis
Ffidlau Cyntaf
Nick Whiting blaenwr
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Juan Gonzalez
Emilie Godden
Rebecca Totterdell
Carmel Barber
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Gary George-Veale
Paul Mann
Amy Fletcher
Anya Birchall
Ail Ffidlau
Anna Smith *
Sheila Smith
Beverley Wescott
Lydia Caines
Roussanka Karatchivieva
Joseph Williams
Vickie Ringguth
Michael Topping
Ilze Abola
Katherine Miller
Elizabeth Whittam
Barbara Zdziarska
Fiolâu
Francis Kefford ‡
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Anna Growns
Catherine Palmer
Lowri Thomas
Lydia Abell
Robert Gibbons
Charlotte Limb
Carl Hill
Soddgrythau
Joely Koos ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Alistair Howes
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Kathryn Graham
Basau Dwbl
David Stark *
Christopher Wescott
Mike Chaffin
Richard Gibbons
Matt Clarkson
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
Piccolo
Lindsey Ellis †
Oboau
James Hulme ‡
Maddy Aldis-Evans
Amy McKean †
Cor anglais
Amy McKean
Clarinetau
Nick Carpenter *
Kie Umehara
Lenny Sayers
Clarinet Bas
Lenny Sayers †
Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Jules Postel
Alex Davidson
Isfasŵn
Alex Davidson
Cyrn
Jonathan Bareham ‡
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Flora Bain
John Davy
Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris † **
Trombonau
Donal Bannister*
Huw Evans
Trombôn Bas
Darren Smith †
Tiwba
Ben Thomson
Timpani
Phil Hughes
Offerynnau Taro
Phil Girling *
Andrea Porter
Rhydian Griffiths
Sarah Mason
Y delyn
Valerie Aldrich-Smith †
Piano/Organ Gombo/Selesta
Catherine Roe Williams
Sanshin
Robin Uechi
* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
** Prif Offerynnwr yng ngwaith Liszt
Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Vicky James
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Cydlynydd y Gerddorfa, Gweithrediadau Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Katie Axelsen(yn llenwi dros gyfnod tadolaeth)
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram
Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications
