Amrywiadau ‘Enigma’

Nos Iau 11/4/24, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 12/4/24, 7.30pm

Neaudd Brangwyn, Abertawe

Grace Williams
Sea Sketches18’

William Mathias
Concerto i’r Delyn25’

EGWYL: 20 munud

Edward Elgar
Amrywiadau ‘Enigma’31’

Yn anffodus, mae Tadaaki Otaka, yr arweinydd â hysbysebwyd, yn methu perfformio yn y cyngerdd hwn. Rydym yn ddiolchgar iawn i Jac van Steen am gymryd ei le mor fyr rybudd.

Jac van Steenarweinydd
Catrin Finch telyn

Bydd y cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar Radio 3 in Concert; bydd y cyngerdd yn Abertawe yn cael yn cael recordio gan BBC Radio 3 i'w ddarlledu ar y rhaglen Radio 3 Afternoon Concert yn y dyfodol. Byddant ar gael am 30 diwrnod ar ôl eu darlledu ar BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnig podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth i chi.

Cyflwyniad

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r cyn Brif Arweinydd Gwadd, Jac van Steen, yn ôl i BBC NOW ar gyfer rhaglen sy'n arddangos cyfansoddwyr o Gymru a Lloegr. Rydym yn dechrau gyda Sea Sketches gan Grace Williams, gwaith a gyfansoddodd pan oedd hi’n gweithio yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond sy’n llawn atgofion o’r arfordir yn yr ardal ble cafodd ei geni sef y Barri. 

Yn ogystal â chyfansoddi tri choncerto ar gyfer ei offeryn ei hun, y piano, ysgrifennodd William Mathias goncerti ar gyfer amrywiaeth eang o offerynnau, wedi’u hysbrydoli’n aml gan ei ffrindiau a’i gydweithwyr. Cyfansoddwyd y Concerto i’r Delyn ar gyfer un o hoelion wyth yr offeryn, Osian Ellis. Yn perfformio’r darn heno mae un o sêr yr oes hon, Catrin Finch.

Rydym yn cloi gydag Amrywiadau ‘Enigma’ gan Elgar, lle mae’r cyfansoddwr yn cynnig portreadau cerddorol o ffrindiau a theulu, sy’n amrywio mewn hwyliau o’r chwareus i’r hynod huawdl.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Grace Williams (1906–77)

Sea Sketches(1944)

1 High Wind
2 Sailing Song
3 Channel Sirens
4 Breakers
5Calm Sea in Summer

Bu Grace Williams yn gweithio fel athro cerdd yn Ysgol i Ferched Camden yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chwblhaodd ei Sea Sketches ym mis Awst 1944. Cyflwynodd y gyfres i’w ‘rhieni a oedd wedi bod yn ddigon call i sefydlu cartref ar arfordir Sir Forgannwg’, ac mae’n debyg bod y gwaith wedi’i gyfansoddi gydag atgofion o olygfeydd o’r môr y gellir eu gweld o’i chartref teuluol yn y Barri. Roedd yn cyfaddef yn aml i’w ffrindiau yn Llundain ar y pryd ei bod yn breuddwydio am gyfansoddi a byw ger y môr ac, ym 1947, dychwelodd adref i fyw a gweithio yng Nghymru. Yn briodol iawn, perfformiwyd Sea Sketches am y tro cyntaf ym mis Mawrth y flwyddyn honno, gan linynnau Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC dan arweiniad Mansel Thomas.

Mae’r darn yn agor gyda symudiad ‘High Wind’ cyflym (Allegro energico) lle mae alaw debyg i ffanffer ffidlau uchel yn cael ei datblygu yn erbyn ffigurau lled-hanner-cwafrau sy’n cael eu curo rhwng y llinynnau uchaf ac isaf – fel ewyn y môr mewn gwynt cryf.

Mae môr tawelach yn cael ei ddarlunio yn ‘Sailing Song’ (Allegretto), sy’n cael ei gyfleu i ddechrau gan yr alaw sy’n siglo’n ysgafn mewn fiolâu, gyda lliwiau llinynnol gwahanol (crychnodau a pizzicato) yn cael eu defnyddio i olrhain llwybr y cwch wrth i’r symudiad ddatblygu.

Mae morlun gyda’r nos yn cael ei ddarlunio yn ‘Channel Sirens’ (Lento misterioso), sy’n dechrau gyda sŵn niwlgorn pell ar fiolâu a soddgrythau tawel a chordiau byrlymus yn y llinynnau uchaf. Wrth i’r symudiad ddatblygu, mae Williams yn defnyddio gweadau llinynnol ac ansawdd anghyffredin mewn ffordd sy’n llawn dychymyg – gan gynnwys harmoneg, glissandos ac adrannau unawdol a thwti – i awgrymu golygfa iasol o gychod yn llywio drwy niwl trwm yn y nos.

Mae’r naws anesmwyth yn cael ei chwalu’n fuan gan ‘Breakers’ (Presto), symudiad heulog, tebyg i scherzo sy’n llawn graddfeydd cromatig a themâu arpeggio, gan gyfleu tonnau’n torri ar y lan.

I’r gwrthwyneb, mae’r darlun olaf ‘Calm Sea in Summer’ yn Andante o linellau melodaidd hypnotig sy’n siglo’n araf. Mae’r symudiad hwn yn cynnwys rhai dadleuon angerddol iawn yn y llinynnau ond mae’n gorffen yn dawel ar nodyn o lonyddwch ym môr cynnes yr haf.  

Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias

William Mathias (1934–92)

Concerto i’r Delyn, Op. 50(1970)

1 Moderato
2 Adagio appassionato, sempre flessibile
3 Allegro vivo

Catrin Finch telyn

Roedd William Mathias wedi’i gyfareddu gan ffurf concerto ac ysgrifennodd y rhan fwyaf o’i 11 concerto gyda pherfformwyr penodol mewn golwg. Cyfansoddodd y Concerto i’r Delyn ar gyfer y telynor gwych o Gymru, Osian Ellis, gan gydbwyso’r gwahanol seiniau a thechnegau sydd eu hangen o’r delyn unawdol â cherddorfa lai o offerynnau chwyth a phres, offerynnau taro, selesta a llinynnau. Cafodd y darn ei berfformio am y tro cyntaf gan Ellis ac aelodau o Gerddorfa Symffoni Bournemouth dan arweiniad James Lockhart yng Ngŵyl Llandaf ym mis Mehefin 1970; mae’n parhau i fod yn un o ddarnau mwyaf nodedig Mathias hyd heddiw. 

Mae pob un o dri symudiad y concerto yn cyflwyno tirwedd gerddorol wahanol i Gymru. Roedd Mathias ei hun yn cysylltu’r symudiad cyntaf â ‘thir a morluniau De-orllewin Cymru’ – yr ardal lle cafodd ei fagu – ac mae’n ymddangos bod ysbryd ieuenctid y gwanwyn yn goleuo’r gerddoriaeth drwyddi draw. Ar ôl agor gyda galwad delynegol y chwythbrennau a chordiau cynnes y llinynnau, mae’r delyn yn cyd-fynd ag alaw y gân sy’n cael ei chwarae gan y ffliwt. Cyflwynir thema gyflymach a mwy deifiol – a nodir i ddechrau gan offerynnau chwyth, utgorn a seiloffon pizzicato – ac mae’r delyn yn hawlio’r llwyfan yn y drydedd adran arafach, gyda’r chwythbrennau a’r selsta yn ymuno â hi mewn ffordd hudolus. Datblygir y syniadau thematig hyn ac, yn dilyn uchafbwynt mawreddog, daw’r symudiad i ben gydag adlais o’r alwad delynegol a glywir yn y barrau agoriadol.

Mae’r symudiad Adagio yn y canol yn dywyll ac o natur galargan, wedi’i ragflaenu gan linellau o gerdd R. S. Thomas ‘Welsh Landscape’: 

To live in Wales is to be conscious
At dusk of the spilled blood
That went to the making of the wild sky,
Dyeing the immaculate rivers
In all their courses …

Wedi’i ysbrydoli hefyd gan ‘rethreg arwrol a theimlad alarnadol’ cerddi Cymraeg cynnar, mae Mathias yn agor y symudiad gyda thema ddisgynnol a gofidus yn y gerddorfa, ynghyd â churiad milwrol tympanau a myfyrdodau hiraethus gan y delyn unawdol. Mae cyfres o benodau cerddorol yn dilyn, pob un wedi’i lliwio gan weadau a soniaredd hyfryd; mae Mathias yn gofyn am dechnegau anarferol ar gyfer y delyn, gan gynnwys tapio’r seinfwrdd. Mae cadenza byr yn cyhoeddi bod y thema agoriadol yn dychwelyd – sydd bellach yn cael ei nodi’n dawel fel pe bai’n cilio i’r pellter – ac mae’r symudiad yn gorffen gydag un nodyn tebyg i gloch gan yr unawdydd.

Mewn cyferbyniad, rondo afieithus yw’r diweddglo Allegro sy’n dathlu ysbryd dawns. Yn dilyn ffanffer fer, mae’r brif thema hwyliog yn cael ei chwarae gan y delyn yn gyntaf cyn cael ei harchwilio’n helaeth gan y gerddorfa. Mae cordiau trawsacennog ar y delyn a’r llinynnau isaf, sy’n gwneud i rywun guro â’i draed, yn cyd-fynd ag ail thema yn y chwythbrennau, a nodweddir gan ei rythmau sgipio. Mae pethau’n arafu am ennyd i gynnwys atgofion o’r symudiad cyntaf a chadenza dramatig ar gyfer unawd telyn, cyn cyflymu ar gyfer sbrint terfynol. Daw Mathias â’r concerto i ben gyda winc chwareus pan ddatgelir bod ail thema’r diweddglo, ar hyd y daith, wedi bod yn paratoi’r ffordd ar gyfer dehongliad yr utgorn o’r gân werin Gymreig ‘Dadl Dau’ yn y barrau olaf.

Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias

EGWYL: 20 munud

Edward Elgar (1857–1934)

Amrywiadau ar Thema Wreiddiol (‘Enigma’), Op. 36 (1898–9)

Thema (‘Enigma’)
1 C. A. E.
2 H. D. S.-P.
3 R. B. T.
4 W. M. B.
5 R. P. A.
6 Ysobel
7 Troyte
8 W. N.
9 Nimrod
10 Dorabella
11 G. R. S.
12 B. G. NT.
13 * * * (Romanza)
14 Finale: E. D. U.

‘Wnaf i ddim esbonio’r Enigma,’ ysgrifennodd Elgar – ‘rhaid i’w “ddywediad tywyll” gael ei adael heb ei ddyfalu … ymhellach, drwy a thros yr holl set mae thema arall, fwy yn “mynd”, ond nid yw’n cael ei chwarae.’ Mae sawl ymgais ryfeddol wedi eu gwneud i ganfod y ‘thema fwy’ honno. A allai ‘Auld lang syne’, neu hyd yn oed ‘Rule, Britannia!’, fod yn cuddio rhywfaint yn y gerddoriaeth yn rhywle? Neu a yw’n rhywbeth mwy – wel – enigmatig? Roedd Elgar wrth ei fodd yn chwarae ar eiriau ac ystyron dwbl, felly mae’n bosibl bod rhywbeth arall, rhywbeth ehangach, yn cael ei awgrymu gan y gair ‘thema’?

Ceir cliw i hynny yn ei ddisgrifiad o sut meddyliodd am y thema ‘Enigma’ yn wreiddiol. Roedd Elgar yn chwarae’n fyrfyfyr ar y piano, ac yntau wedi blino ar ôl diwrnod yn addysgu, pan dorrodd ei wraig, Alice, ar ei draws yn sydyn:

‘Edward, mae hon’na’n alaw dda.’ Deffrois o’r freuddwyd: ‘Beth! Alaw, pa alaw?’ Ac fe ddywedodd hi, ‘Chwarae hi eto, rwy’n hoffi’r alaw yna.’ Fe wnes i chwarae a strymio a chwarae, ac yna fe waeddodd hi: ‘Dyna’r alaw.’

Mewn fersiwn arall o’r stori, mae Alice yn gofyn i Elgar beth mae’n ei chwarae: ‘Dim byd’, meddai Elgar, ‘ond fe allwn i wneud rhywbeth ohono.’ Po fwyaf a ŵyr rhywun am y cyfansoddwr uchelgeisiol ond hynod o ansicr hwn, po fwyaf y mae hynny’n swnio fel disgrifiad o Elgar ei hun ar y pryd. Er ei fod eisoes yn ei bedwardegau, roedd Elgar ymhell o fod wedi sefydlu ei hun yn y byd diwylliannol Prydeinig, ac roedd yn teimlo’n ynysig ac wedi’i lesteirio. Flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd wrth y beirniad Ernest Newman fod y thema ‘Enigma’ ‘wedi mynegi pan gafodd ei hysgrifennu (ym 1898) fy ymdeimlad o unigrwydd yr artist … ac i mi, mae’n dal i ymgorffori’r ymdeimlad hwnnw’.

Felly ai Elgar ei hun yw’r ‘thema fwy’ sy’n rhedeg drwy Amrywiadau ‘Enigma’, sef yn unig ac yn fyfyriol i ddechrau, ond yn datgelu agweddau eraill ar ei gymeriad cymhleth wrth i’r 14 amrywiad fynd rhagddynt? Mae’r thema’n dal i fod yn fwy neu’n llai amlwg, ond mae’n mynd drwy drawsnewidiadau cyfoethog a dyfeisgar wrth iddi ddod ar draws pob un o’r ‘ffrindiau’ mae Elgar yn dweud wrthym ‘a ddarlunnir o’u mewn’. Mae’n dod yn angerddol yng nghwmni Alice (Amr. 1), yn chwareus ac yn bryfoclyd yng nghwmni ‘Dorabella’ (Amr. 10), yn hynod o bruddglwyfus wrth iddo gael gwared ar ei faich i’r chwaraewr soddgrwth Basil Nevinson (Amr. 12) ac yn fonheddig yn y ‘Nimrod’ enwog (Amr. 9), sy’n cofnodi sut roedd ei ffrind, y cyhoeddwr August Jaeger yn ei annog i anelu at yr uchelfannau. Yna, yn y diweddglo (Amr. 14), mae Elgar ei hun yn ymddangos fel pili-pala o’r chwiler, gyda’i adenydd ysblennydd ar led. Os mai Elgar yw’r ‘thema fwy’ sy’n ‘mynd’ drwy Amrywiadau ‘Enigma’, yna yn yr apotheosis gwych hwn mae’n dweud wrth bob un o’r ffrindiau hynny, ‘Edrychwch beth wnaethoch chi ohonof fi!’

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

Llwch Sêr ac Eneidiau

FFRYDIO BYW a Dehongliad BSL

Nos Iau 18/4/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Alexander Campkin Sounds of Stardust première byd
Dani Howard Gwaith Newydd: Concerto i Offerynnau Taro première byd
Poulenc Stabat mater

Sofi Jeannin arweinydd
Y Fonesig Evelyn Glennie offerynnau taro
Julieth Lozano soprano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

ARALLFYDOL | ATMOSFFERIG | DIRGEL

Gyda dau bremière byd ac un o berlau’r repertoire corawl, mae’n bleser gennym groesawu’r arweinydd dihafal Sofi Jeannin yn ôl ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yn ogystal â’r Fonesig Evelyn Glennie ac enillydd Gwobr Cynulleidfa Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano, am noson o archwilio a darganfod cerddorol.

Ond yn gyntaf, première byd gan Alexander Campkin a’i Sounds of Stardust. Bydd y Fonesig Evelyn Glennie, yr offerynnwr taro o fri, yn camu i’r llwyfan i berfformio concerto newydd Dani Howard i offerynnau taro am y tro cyntaf, cyn i ni ddathlu campwaith lleisiol Poulenc 60 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Wedi’i ysgrifennu mewn ymateb i farwolaeth ei gyfaill agos, yr artist Christian Bérard, mae Stabat mater yn cwmpasu’r tywyll a’r golau – cynrychiolaeth wirioneddol o Gatholigiaeth ddidwyll y cyfansoddwr, ond hefyd ei ffraethineb a’i gymeriad bywiog.

Archwiliadau Americanaidd

Nos Wener 3/5/24, 7.30pm
Glan yr Afon, Casnewydd

Nos Sadwrn 4/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Barber Adagio for Strings
Barber Concerto i’r Ffidil
Ives Symffoni Rhif 2

Ryan Bancroftarweinydd
Benjamin Bakerffidil

EMOSIYNOL | DYLANWADOL | SYFRDANOL

Ymunwch â ni i ddathlu cerddoriaeth glasurol Americanaidd gyda’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, a aned yn Los Angeles. Mae Adagio for Strings Barber, sy’n boblogaidd ledled y byd, yn un o’r darnau mwyaf nodedig yn y repertoire cerddorfaol. Mae’n debyg mai dyma ei waith enwocaf, sy’n cael ei ddefnyddio mewn ffilm a theledu, yn ogystal  â bod yn enwog am gael ei berfformio yn angladd Roosevelt ac yn dilyn llofruddiaeth JFK.

Mae ei goncerto i’r ffidil yn llai adnabyddus, ond yr un mor drawiadol. Cyfansoddwyd y darn yn y 1930au mewn cyfnod pan oedd yr alaw, y rhythm, yr harmoni a’r trefniant cerddorfaol yn cael eu hystyried yn hen ffasiwn. Ond, gyda’r themâu cofiadwy, y trawsacenion a’r gwrth-rythmau nodedig, mae Barber yn cynnig gwaith meistrolgar  sy’n llawn naratif cyffrous. I berfformio’r unawd, rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r fiolinydd carismataidd, Benjamin Baker.

Rydym yn parhau i archwilio cerddoriaeth Charles Ives gyda Ryan Bancroft, gyda’i Ail Symffoni. Mae’r darn hwn yn enwog am ddyfynnu alawon Americannaidd adnabyddus. Dyma ei waith mawr cyntaf sy’n archwilio’n llawn i’r broses o ddefnyddio gwaith wedi ei fenthyca a’i gyfuno â dylanwadau Ewropeaidd fel pe bai Ives yn  ffurfio ciplun o’i blentyndod a’i fywyd  oedolyn yn dod yn un.

Concerto i’r Gerddorfa gan Bartók

Nos Iau 9/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 10/5/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Caroline Shaw The Observatory première y DU
Ravel Concerto i’r Piano yn G fwyaf
Bartók Concerto i’r Gerddorfa

Giancarlo Guerrero arweinydd
Sergio Tiempo piano

LLIWGAR | DEINAMIG | GAFAELGAR

Cafodd The Observatory gan Caroline Shaw (sy’n cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y DU) ei ysbrydoli gan daith i Arsyllfa Griffin ger Hollywood Bowl; mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, yn cyfuno’r hen a'r newydd gydag anhrefn ac eglurder, mewn llif ymwybod sy’n procio ein chwilfrydedd.

Bydd concerto atmosfferaidd Ravel i’r piano, sy’n gymysgedd gyfoethog o delynegiaeth, offeryniaeth atgofus a darnau piano meistrolgar, yn cael ei berfformio gan y pianydd penigamp, Sergio Tiempo, wrth iddo ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW. I gloi’r rhaglen syfrdanol hon, mae’r feistrolaeth ryfeddol yn parhau yng Nghoncerto gwych Bartók i’r Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Costa Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.

Bywgraffiadau

Jac van Steenarweinydd

Lun: Simon van Boxtel

Lun: Simon van Boxtel

Ganed Jac van Steen yn yr Iseldiroedd ac astudiodd y grefft o arwain cerddorfeydd a chorau yn Ysgol Gerddoriaeth Brabants.

Ers iddo gymryd rhan yn Seminar Arweinyddion y BBC yn 1985, mae wedi cael gyrfa brysur iawn. Mae wedi gweithio â cherddorfeydd blaenllaw yn Ewrop, gan ddal swyddi fel Cyfarwyddwr Cerdd a Phrif Arweinydd Ballet Cenedlaethol yr Iseldiroedd, cerddorfeydd Bochum a Nuremberg, Weimar Staatskapelle, Cerddorfa Ffilharmonig ac Opera Dortmund a Musikkollegium Winterthur, yn ogystal â bod yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Ar hyn o bryd mae’n Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Ulster a Cherddorfa Symffoni Prag.

Mae galw mawr amdano hefyd yn y tŷ opera, gan ymddangos am y tro cyntaf gyda Vienna Volksoper ac Opera North yn 2013 ac Opera Garsington yn 2015, a meithrin perthynas agos â’r tri. Yn ystod tymor 2018-19, ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opera Oslo. 

Mae’n ymweld â’r DU yn rheolaidd, gan arwain y Philharmonia, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol. Ymysg ei uchafbwyntiau eraill mae ymddangos am y tro cyntaf yn Tokyo gyda Cherddorfa New Japan Philharmonic a Cherddorfa Ffilharmonig Malaysia.  

Mae ei gatalog recordiadau sylweddol yn cynnwys amrywiaeth eang o wahanol fathau o repertoire gyda gwahanol gerddorfeydd.

Yn ogystal â’i weithgareddau fel arweinydd, mae hefyd yn ymroddedig i addysgu, ac ef yw’r Athro Arwain yn y Conservatoire Brenhinol yn yr Hague. Mae hefyd yn gweithio’n rheolaidd â Choleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr, yr Academi Frenhinol a’r Coleg Cerdd Brenhinol. Yn 2018, arweiniodd arddangosfa rhaglen Artistiaid Ifanc Jette Parker yr Opera Brenhinol.


Catrin Finchtelyn

Lun: Jennie Caldwell

Lun: Jennie Caldwell

Daw Catrin Finch o Lan-non ar arfordir gorllewinol Cymru, ac mae hi’n delynor medrus sydd gyda’r gorau yn y byd. Ar ôl astudiaethau clasurol dwys, bu’n Delynor Brenhinol i’w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn ei hugeiniau cynnar. Mae hi wedi perfformio gyda nifer o brif gerddorfeydd y byd, wedi cyrraedd rhif 1 yn y siartiau gyda’i dehongliad o Amrywiadau Goldberg gan Bach, ac wedi recordio ar gyfer prif labeli clasurol y byd. Mae ei hysbryd anturus hefyd wedi arwain at gydweithio ag artistiaid nad ydynt yn glasurol. Un enghraifft nodedig o blith y rhain yw’r chwaraewr kora medrus, Seckou Keita – gyda’i gilydd, fe wnaethant ennill y wobr Grŵp Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2019.

Mae uchafbwyntiau gyrfa glasurol Catrin yn cynnwys perfformio gyda nifer o brif gerddorfeydd y byd, gan gynnwys Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa’r Boston Pops, Cerddorfa Academy of St Martin in the Fields, a Cherddorfa Siambr Lloegr. Mae wedi ymddangos mewn gwyliau cerddoriaeth glasurol o'r radd flaenaf, gan gynnwys Salzburg, Caeredin, Spoleto ac MDR Musiksommer yn Leipzig, ac mae wedi teithio ar hyd a lled Ewrop, Gogledd a De America, Awstralia a’r Dwyrain Canol.

Mae hi wedi recordio ar gyfer llawer o labeli recordiau rhyngwladol, fel unawdydd a gydag artistiaid nodedig fel Syr Bryn Terfel, Syr James Galway a Julian Lloyd Webber.

Mae hi’n parhau i archwilio a gwthio ffiniau ei chelfyddyd gyda chydweithrediadau rhyngwladol sydd wedi ennill gwobrau – gydag artistiaid fel y chwaraewyr kora Seckou Keita a Toumani Diabaté, Cimarrón ac, yn fwyaf diweddar, y feiolinydd clasurol Aoife Ní Bhriain.

Ar hyn o bryd, mae Catrin Finch yn Bennaeth y Delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus **
Suzanne Casey
Carmel Barber **
Alejandro Lobato
Anna Cleworth **
Emilie Godden **
Juan Gonzalez **
Žanete Uškāne **
Rebecca Totterdell **
Peter Povey **

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie
Sheila Smith **
Ilze Abola
Michael Topping **
Katherine Miller
Joseph Williams
Beverley Wescott **
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines **
Vickie Ringguth **
Amy Fletcher **

Fiolâu
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer **
Anna Growns
Daire Roberts
Lydia Abell **
Robert Gibbons **
Carl Hill **
Charlotte Limb **

Soddgrythau
Alice Neary *
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Keith Hewitt **
Carolyn Hewitt **
Alistair Howes **
Rachel Ford **
Katy Cox **

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones # **
Christopher Wescott **
Yat Hei Lee
Richard Gibbons **
Chris Kelly **

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Catriona MacKinnon ‡
Amy McKean †

Clarinetau
Nick Carpenter *
Lenny Sayers

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Gareth Humphreys
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
John Davy
Meilyr Hughes
Tom Taffinder
Ed Griffiths

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris † ++

Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Anders Swane

Timpani
Steve Barnard *

Offerynnau Taro 
Phil Girling
Phil Hughes
Andrea Porter

Organ/Selesta
Gregory Drott

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Cynorthwyol
** ddim yn Mathias
++ Prif Offerynnwr yn y Mathias

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa penodiad ar waith
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduKate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications