Awema: Dileu dyled o £300,000 i lywodraeth Cymru

Cymorth

Mae'r rhan fwyaf o'r ddyled o tua £300,000 oedd yn ddyledus gan elusen lleiafrifoedd ethnig Awema i Lywodraeth Cymru wedi cael ei dileu, yn ôl tystiolaeth gerbron Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ar 10 Mawrth.

Roedd y pwyllgor yn clywed tystiolaeth ar Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau 2014.

Roedd Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei fod yn "golled sylweddol i'r pwrs cyhoeddus."

Daeth elusen Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (Awema), oedd wedi ei sefydlu yn Abertawe, i ben ym mis Chwefror 2012, wedi i'r corff fethu â sicrhau arian cyhoeddus yn dilyn honiadau o gamweinyddu ariannol.

Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor, Darren Millar a oedd digon o waith wedi cael ei wneud i adennill y swm oedd yn ddyledus gan Awema.

Atebodd Syr Derek Jones, "Oedd dwi'n credu, ond dydy hynny ddim yn awgrymu nad ydyn ni wedi dysgu rhai gwersi am hyn, gan gynnwys gweithio'n galetach y tro nesa' i leihau cyfnod y gweinyddu.

"Trwy gydol y cyfnod pan fo proses fethdalu neu weinyddol yn digwydd, mae ffioedd proffesiynol yn cael eu talu o'r hyn sy'n weddill o asedau'r cwmni neu'r elusen.

"Byddai byrhau'r amser hwnnw yn amddiffyn peth o'r arian."

Ar bwnc gwahanol, clywodd y pwyllgor er bod grantiau'n amrywio'n fawr o ran eu natur a'u maint, roedd "amrywiad sylweddol yn lefel y costau gweinyddol."

Roedd y costau gweinyddol fesul grant a ddyfarnwyd yn amrywio o £45 i £13,843, sydd, o'u hystyried yn ganran o swm yr arian grant a roddwyd, yn amrywio o 0.27% i 77.5%.

Esboniodd Syr Derek bod canrannau'r costau gweinyddol ar gyfer grant bach bob tro'n uwch nag ar gyfer grant mawr, oherwydd "bod angen cyflawni'r prosesau sylfaenol bob tro".

Fodd bynnag, disgrifiodd Mr Millar enghraifft "anhygoel" o raglen sy'n delio gyda grantiau bach i unigolion, lle mae dyfarniad grant gwerth £58 yn golygu costau gweinyddol o £45, sef 77.5%.

Read this in English