Dyfodol datganoli i Gymru
Dylai amserlen cael ei rhoi yn ei lle i sicrhau cynnydd ar ddyfodol datganoli i Gymru, meddai'r Prif Weinidog Carwyn Jones ar 21 Hydref 2014.
Dywedodd y Prif Weinidog y dylai trafodaethau am bwerau ychwanegol i Gymru gychwyn ar unwaith a gorffen erbyn Ionawr 2015.
Yn ôl Carwyn Jones mae refferendwm yr Alban wedi cael effaith mawr ar y ffordd mae pobol yn amgyffred y Deyrnas Unedig ond "weithiau mae llais Cymru yn brwydro i gael ei glywed".
Mae'r pedair plaid wleidyddol yng Nghymru yn barod wedi datgan eu bod nhw'n croesawu mwy o bwerau.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies fod yna wahaniaeth barn ynghylch beth ddylai gael ei ddatganoli ond y byddai neges Cymru yn gryfach os yw'r Cynulliad yn siarad fel "un llais" â San Steffan.
Cytunodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ynghylch yr angen am amserlen a dywedodd "gadwech i ni edrych ymlaen at weithredu cyn etholiad nesaf y Deyrnas Unedig".
Cytunodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams y byddai "lleisiau unedig" yn cryfhau safle Cymru.
Cafodd ariannu teg i Gymru ei bwysleisio fel pwnc sydd angen cael ei drafod.
Yn ôl adroddiad gan yr economegydd Gerald Holtham yn 2010 mae Cymru yn cael ei thanariannu £300 miliwn y flwyddyn o dan y fformwla ariannu bresennol sef y fformiwla Barnett.




