Ail adroddiad Comisiwn Silk

Cymorth

Mae ail adroddiad Comisiwn Silk ar ddatganoli yng Nghymru yn darparu "sylfaen gadarn ar gyfer datblygu'r setliad datganoli gam wrth gam" meddai'r Prif Weinidog Carwyn Jones ar 29 Ebrill 2014.

Wrth annerch aelodau'r cynulliad, dywedodd y Prif Weinidog fod llywodraeth Cymru o blaid:

• Deddf lywodraeth Cymru newydd erbyn 2017, gan gyflwyno model datganoli sy'n seiliedig ar gadw pwerau erbyn 2021;

• Rhagor o bwerau mewn meysydd fel dŵr, trafnidiaeth, ynni, etholiadau a thâl athrawon;

• Pwerau newydd dros yr heddlu a chyfiawnder ieuenctid, gan fynd ati gam wrth gam i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol yn llwyr;

• Gwella cysylltiadau rhynglywodraethol.

Dywedodd y prif weinidog fod trafodaethau eisoes ar y gweill ar ddatganoli pwerau dros y rheilffyrdd, ac y byddai angen i hynny ddigwydd yn gyflymach na'r amserlen ar gyfer gweithredu adroddiad Silk yn ei gyfanrwydd.

Fe wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, herio pleidiau gwleidyddol eraill i ddilyn argymhellion y Comisiwn Silk ac i gynnwys y cynigion hyn yn eu maniffestos ar gyfer etholiadau 2015 yn San Steffan a 2016 yn y Cynulliad.

Ailadroddodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ei galwad am weithredu argymhellion Silk yn gyflym ac yn llawn.

Yn ôl Ms Wood "mae'n rhaid i ni achub ar y cyfle i sicrhau mwy o hunan-lywodraeth."

Read this in English