Diciâu mewn gwartheg: 'Gwersi i Loegr'

Cymorth

Dylai'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Owen Paterson AS, ddod i Gymru i ddysgu oddi wrth "ddull gwyddonol Llywodraeth Cymru" o ddileu diciâu mewn gwartheg.

Dyna oedd y gwahoddiad a wnaed gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, yn y Senedd ar 12 Mawrth 2014.

Roedd yn ateb yr aelod Llafur Mick Antoniw, a ofynnodd i'r gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y fframwaith strategol ar gyfer dileu diciâu mewn gwartheg o ran bywyd gwyllt.

Yn ôl Mr Davies, mae polisi Llywodraeth Cymru yn gweithio yn well o lawer nag yw'r polisi yn Lloegr.

Yn ôl y gweinidog, yng Nghymru mae nifer y gwartheg a laddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i lawr 33% a'r ystadegyn cyfatebol ar gyfer gweddill Prydain yw 14%.

O ran nifer y buchesi sy'n cael eu heffeithio gan ddiciâu gwartheg, dywedodd eu bod gweld gostyngiadau o 23%, a'r nifer cyfatebol yn Lloegr yw 6%.

Fodd bynnag, dywedodd yr aelod Ceidwadol Antoinette Sandbach na allai'r ffigurau gael eu priodoli i'r rhaglen frechu.

Ymhlith y pynciau eraill a drafodwyd oedd y swyddi sydd wedi cael eu creu gan raglenni effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru fel Arbed, cynlluniau i annog prosiectau ynni adnewyddadwy newydd, a Chynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.

Read this in English.