Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru

Cymorth

Dyfynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau William Powell deisebydd drwy ddweud "drwy chwarae i Loegr mae chwaraewr o Gymru yn gorfod gwisgo fel chwaraewr o Loegr."

Roedd Mr Powell yn arwain dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru ar 23 Hydref 2013.

Cododd yr aelod Llafur, Mike Hedges, bryderon na fyddai Cymru yn elwa o dîm criced cenedlaethol ac y byddai'n tanseilio Tîm Criced Morgannwg.

Roedd yr aelod Ceidwadol Mahammad Asghar yn gefnogol iawn o dîm criced cenedlaethol i Gymru drwy ddweud nad oes rheswm y dylai Tîm Criced Morgannwg gael ei gyfaddawdu.

Dywedodd Mr Asghar "os gall Afghanistan chwarae criced rhyngwladol, yn enw Duw, dylai Cymru hefyd."

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, yn ei ymateb bod "teimlad o angerdd tuag at chwaraeon yng Nghymru" a bod Cymru "wrth gwrs, ddim yn brin o dalent chwaraeon."

Ychwanegodd fod y penderfyniad ar gyfer Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru "yn fater i'r awdurdod criced priodol."

Read this in English