Y gweinidog tai yn hyderus gyda TAN 20

Cymorth

Mynegodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant, ei hyder yng nghyhoeddiad y llywodraeth ar TAN 20 sy'n rhoi cyngor ar sut y dylai'r system gynllunio ymdrin â'r iaith Gymraeg.

Bu Mr Sargeant yn ateb cwestiynau'r aelodau ar 9 Hydref, 2013.

Yn ôl y gweinidog fe allai'r system gynllunio "helpu i greu'r amodau cymdeithasol ac economaidd sy'n rhoi cyfle i bobl siarad Cymraeg".

Dywedodd: "Mae'r TAN diwygiedig hwn yn rhoi eglurder i awdurdodau lleol ynghylch sut y dylai ystyriaethau yn gysylltiedig â'r Gymraeg gael eu bwydo i'r gwaith o baratoi eu Cynlluniau Datblygu Lleol."

Ychwanegodd: "Mae'r canllawiau yn golygu bod rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sydd wedi nodi bod yr iaith yn bwysig yn lleol ystyried y Gymraeg fel rhan o'u Cynlluniau Datblygu Lleol yn y dyfodol. Bydd rhaid iddyn nhw hefyd ymgynghori â'r Comisiynydd Iaith wrth baratoi ac adolygu'r cynllun."

Cyhuddodd y Democrat Rhyddfrydol Aled Roberts y llywodraeth o "oedi" diogelu'r iaith Gymraeg yn y broses gynllunio.

Dywedodd: "Wrth gynhyrchu'r canllawiau newydd mae'r oedi yn golygu nad oedd y cynlluniau a baratowyd gan rai awdurdodau mor gadarn ag y gallent fod."

Fe wnaeth AC Plaid Cymru Alun Ffred Jones holi'r gweinidog ar y canllawiau ac a fyddai'r Comisiynydd Iaith Gymraeg hefyd yn gallu ymyrryd yng ngwaith awdurdodau lleol.

Cododd AC y Ceidwadwyr Suzy Davies bryderon na fyddai TAN 20 yn ehangu'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Pwysleisiodd y gweinidog mai TAN 20 oedd y ffordd gorau i gefnogi'r Gymraeg yn y system gynllunio, yn hytrach na chyflwyno deddfwriaeth newydd.

Bu Carl Sargeant AC hefyd yn ateb cwestiynau, ymhlith eraill, ar y dreth yr ystafell wely, mynd i'r afael â digartrefedd a chefnogi prynwyr cartrefi yng Nghymru.

Read this in English