Dadl Democratiaid Rhyddfrydol
Mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn "cael effaith gadarnhaol ar lefelau cyrhaeddiad plant o gefndiroedd tlotach ac ar wella hyder a phresenoldeb", meddai'r Democratiaid Rhyddfrydol
Bu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn arwain dadl ar Grant Amddifadedd Disgyblion, ar 25 Medi 2013.
Dywedodd Aled Roberts, AC gogledd Cymru, bod y Grant Amddifadedd Disgyblion wrth helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol, a chau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'r rheini o gefndiroedd mwy breintiedig.
Fe wnaeth y Ceidwadwr Angela Burns groesawu'r gwaith ymchwil diweddar gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru i effaith y Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru, ond dywedodd ei bod yn "gresynu wrth y diffyg eglurder o ran deall a gweithredu'r Grant Amddifadedd Disgyblion ar draws yr ysgolion a arolygwyd".
Dywedodd yr aelod Llafur Jenny Rathbone bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi "methu รข gweld y darlun llawn, trwy anwybyddu'r holl fentrau eraill sy'n digwydd yng Nghymru".
Galwodd aelod Plaid Cymru Simon Thomas am astudiaeth annibynnol gan Estyn ynghylch diben a gwerth y grant.




