Iaith: Cadeirydd mudiad yn cefnogi Carwyn Jones
Mae Cadeirydd mudiad Dyfodol i'r Iaith yn pwysleisio mai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yw'r person cywir i fod a chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg o fewn y Llywodraeth.
Roedd Heini Gruffudd yn ymateb i sylwadau Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, a awgrymodd ar Newyddion 9 y dylai gweinidog arall ofalu'n benodol am yr iaith.
Adroddiad Gwenllian Glyn.