Ydy apiau i dalu am barcio yn atal pobl hŷn?

Mae pryderon ymysg pobl hŷn am y defnydd cynyddol o apiau a systemau digidol i dalu am barcio wedi dod i'r amlwg mewn adroddiad diweddar gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Mae dryswch wrth ddefnyddio apiau, ynghyd â phryderon am sgamiau, preifatrwydd data a signal gwael mewn ardaloedd gwledig i gyd yn bryderon sy'n cael eu codi.

Er bod y rhan fwyaf o feysydd parcio dan ofal awdurdodau lleol yn parhau i gynnig amrywiaeth o ffyrdd i dalu, y gred ymysg llawer o bobl hŷn yw nad yw hyn yn bosib bellach.

Dyma oedd y farn ar y stryd yng ngogledd Caerdydd am systemau parcio o'r fath.