'Dwi ddim yn mynd i'r carchar' - dyn yn dianc rhag yr heddlu
Mae dyn o Gasnewydd wedi cael ei garcharu am chwe mis am ddianc rhag heddweision y tu allan i orsaf heddlu Ystrad Mynach fis Medi.
Cafodd Dylan Harrison, 33, hefyd ddedfryd o fis dan glo, i redeg yr un pryd â'r ddedfryd arall, am achosi difrod i ffenest y fan heddlu y bu'n dringo arni er mwyn dianc.
Fe lwyddodd i gael i ben wal, ag yntau mewn gefynnau, a mynd i ardd cartref gerllaw, ond fe gafodd ei ddal gan yr heddlu eto yn fuan wedi hynny.
Cafodd y cyfan ei ffilmio ar gamera corff un o'r heddweision.