Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:34 GMT 30 Tachwedd 2021
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Da boch chi.
Mark Drakeford yn ateb cwestiynau wrth i bryderon ynghylch yr amrywiolyn Omicron barhau.
Mae'r drefn hybrid yn parhau, gydag uchafswm o 30 Aelod yn bresennol yn y Siambr ar unrhyw adeg.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Da boch chi.
Dywed y prif weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi "ymrwymo i gynyddu faint o fwyd sydd wedi'i dyfu'n lleol a ddefnyddir mewn prydau ysgol, er budd economïau lleol trwy gadwyni caffael a chyflenwi cynaliadwy a chyfrifol."
Bydd pob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim o fewn tair blynedd ar ôl cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Mae Adam Price a Mark Drakeford wedi taro bargen i bara tair blynedd
Mae'r Ceidwadwr Tom Giffard a'r prif weinidog yn cyfnewid barn ar gefnogaeth i fusnesau.
Dywed Mr Giffard "mae'n siomedig gweld cwmnïau o Gymru yn dal i dalu'r cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain Fawr, gyda Chymru yn defnyddio lluosydd uwch ar werth ardrethol na Lloegr neu'r Alban."
Mae'r prif weinidog yn ateb bod "gan Gymru y cynllun cymorth busnes mwyaf hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ac nid yw hynny ar hyn o bryd yn unig pan mae busnesau Cymru wedi cael gwarant blwyddyn o wyliau o ardrethi busnes o'i gymharu â'r chwe mis hynny a gynigiwyd yn Lloegr, ond mae hynny ar unrhyw adeg - nid yw 70 y cant o fusnesau bach yng Nghymru yn talu ardrethi busnes o gwbl."
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesGan gyfeirio at ei amser yn Ffair Aeaf 2021 yn Llanelwedd, dywed arweinydd Plaid Cymru Adam Price "y neges yn glir roeddwn i'n gael o sector sydd yn wynebu gymaint o bwysau o wahanol gyfeiriadau oedd bod angen sefydlogrwydd ar y diwydiant yn y cyfnod hynod heriol yma."
"A fyddech chi, Brif Weinidog, yn ategu y neges hynny, ac ydach chi'n cytuno gyda ni ym Mhlaid Cymru er mwyn galluogi ffermydd i fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol, a chwarae eu rhan nhw yn gwireddu cyfraniad Cymru fel gwlad i ddelio â'r argyfwng hinsawdd, er enghraifft, bod angen i ffermwyr hefyd gael cynaliadwyedd economaidd?"
Medd y prif weinidog, "mae pethau yn newid yn y maes amaethyddiaeth. Mae'n rhaid i bethau newid. Ond wrth gwrs rŷn ni'n cydnabod y ffaith bod sefydlogrwydd yn bwysig i ffermwyr hefyd, felly rŷn ni, fel rhan o'r cytundeb gyda Plaid Cymru, yn mynd i fwrw mlaen i gydweithio yn agos gyda'r bobl yn y sector i baratoi am y dyfodol, dyfodol ble rŷn ni'n gallu talu ffermwyr am y pethau pwysig iddyn nhw eu gwneud i'n helpu ni yng nghyd-destun newid hinsawdd."

Ffair Aeaf 2021
Mae Paul Davies yn dirprwyo ar ran arweinydd y grŵp Ceidwadol Andrew RT Davies, sy'n cymryd hoe o wleidyddiaeth rheng flaen i ddelio â materion iechyd meddwl.
Mae Mr Davies yn codi cyfres o bryderon ynghylch pwysau ar wasanaethau iechyd, gan gynnwys marwolaethau y gellir eu hatal, rhestrau aros, a nifer y gwelyau. Dywed fod "angen ymyrraeth frys yn ein gwasanaethau iechyd".
"Wrth i ni symud i'r gaeaf, bydd pwysau pellach ar ein gwasanaethau GIG, a gyda'r newyddion bod amrywiad Covid newydd yn y DU, mae'n hanfodol nawr bod gan Lywodraeth Cymru gynllun i sicrhau bod amseroedd aros yn cael sylw ac nid yw marwolaethau y gellir eu hatal yn digwydd," meddai Mr Davies.
Mae'r prif weinidog yn ateb bod "mwy o bobl yn gweithio yn y GIG yng Nghymru heddiw nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes, ac mae hynny'n cynnwys mwy o feddygon, mwy o nyrsys, mwy o ffisiotherapyddion, mwy o therapyddion galwedigaethol, a'r holl dîm sy'n mynd i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd. Mae hynny'n ganlyniad buddsoddiad parhaus gan Lywodraethau olynol Cymru yn ein GIG ac yn ei gweithlu."
Mae Paul Davies yn galw eto am ymchwiliad Covid sy'n benodol i Gymru.
Mae Mr Drakeford yn ateb bod llythyr gan y Prif Weinidog Boris Johnson yn darparu “cyfres o ymrwymiadau” ynglŷn â natur ymchwiliad cyhoeddus y DU, gan gynnwys cyfranogiad llywodraethau datganoledig wrth benodi’r Cadeirydd ac yn y cylch gorchwyl.
Dywed Mr Drakeford iddo “dynnu rhywfaint o hyder” o lythyr y prif weinidog ond roedd “llawer iawn o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod yr ymrwymiadau hynny yn cael eu cyflawni’n ymarferol.”

Dywed y prif weinidog bod rhoi'r gorau i'r cynnydd mewn credyd cynhwysol yn gam "creulon".
Stopiodd y Canghellor Rishi Sunak y taliad ychwanegol o £20 yr wythnos ym mis Hydref.
Dywed y Ceidwadwr Laura Anne Jones wrth y prif weinidog "rydych chi wedi cael 20 mlynedd i wneud eich marc yma yng Nghymru, ac eto nid yw'r llywodraeth hon wedi cyflawni dim yn hyn o beth. Mewn gwirionedd, mae tlodi plant wedi cynyddu i 1 o bob 3 phlentyn."
Cafodd yr ychwanegiad o £20 - a oedd medd y canghellor dim ond yn fesur dros dro i helpu pobl trwy'r pandemig - ei ymestyn chwe mis ym mis Mawrth.

Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Pan ofynnwyd iddo gan Llyr Gruffydd ar ran Plaid Cymru pa bryd fydd disgwyl i Gymru gael cynllun dychwelyd ernes gweithredol, mae'r prif weinidog yn ateb "yn gynharach yn y mis hwn, cafodd pwerau i weithredu cynllun dychwelyd ernes eu datganoli i Gymru. Yn gynnar yn y flwyddyn newydd, byddwn yn cyhoeddi ein dyluniad ar gyfer cynllun o’r fath a’r dyddiad yr ydym ni’n bwriadu ei roi ar waith."
Dywed Llyr Gruffydd "y trasiedi yw ein bod ni wedi colli blynyddoedd i bob pwrpas. Rŷn ni wedi bod yn sôn am gynllun dychwelyd ernes i Gymru ers bron i ddegawd, ac, wrth gwrs, rŷn ni dal yn sôn am gynllun dychwelyd ernes i Gymru."
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesMae peiriannau ailgylchu awtomatig i'w cael ym mhob archfarchnad yn Nenmarc ac mae dull tebyg yn cael ei gynllunio ar gyfer yr Alban
Os oeddech chi'n wleidydd Llafur ifanc uchelgeisiol o Gymru ai Senedd Bae Caerdydd yntau un San Steffan fyddai'n apelio atoch chi?
Read MorePrynhawn da, mae'r cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm.
Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.