BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Ceri Elen

Medal Lenyddiaeth i Ceri Elen

Drama'r llynedd - llenyddiaeth eleni. Ennill ail brif wobr.

Merch a gipiodd brif wobr lenyddol yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd sydd wedi ennill prif wobr gyntaf Eisteddfod Shir Gâr.

Bnawn Llun yr oedd Ceri Elen o Aelwyd CF1 yn dathlu ennill y Fedal Lenyddiaeth a chanmoliaeth y beirniaid yn ei chymharu ag un o'i harwyr llenyddol yn canu yn ei chlustiau.

"Mae yma ddychymyg beiddgar sy'n atgoffa rhywun o weithiau Aled Jones Williams," meddai Ifor ap Glyn a oedd yn beirniadu gyda Karen Owen.

Ceri Elen Ceri enillodd y Fedal Ddrama ym Mhrifwyl yr Urdd yn Rhuthun y llynedd - ond er iddi gael y profiad o esgyn i'r llwyfan o'r blaen dywedodd ei bod yn fwy nerfus eleni oherwydd ei bod "yn gwybod beth oedd yn dod".

Yn enedigol o Hen Golwyn mae Ceri yn dilyn cwrs MA sy'n canolbwyntio ar sgrifennu creadigol yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd lle graddiodd mewn Cymraeg a'r Saesneg y llynedd.

Gweld iaith
A hithau wedi sgrifennu ar gyfer y llwyfan yn barod dywedodd mai yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y trodd at fathau eraill o sgrifennu.

Yn sicr byddai'r cyfeiriad at Aled Jones Williams yn y feirniadaeth wedi ei llonni gan iddi ddweud mai ef a Caradog Prichard yw ei harwyr llenyddol.

"Fel Aled Jones Williams rwy'n gweld iaith yn esthetig yn ogystal ag yn glywadwy," meddai gan ddweud mai portreadau ar gyfer llyfr lloffion a greodd ar gyfer y gystadleuaeth.

"Fe hoffwn i fod yn ffotograffydd a hwn oedd fy ymgais at wneud lluniau ond gyda geiriau," meddai.

"Ysgrifennais ambell i ddarn ar gyfer y coleg ond roedd corff y gwaith wedi ei sgrifennu ar gyfer y gystadleuaeth," meddai.

Ceri Elen yn cael ei holi ar gyfer y radio Ychwanegodd mai pobl yw ei diddordeb pennaf a chyfaddefodd ei bod yn un o'r rhai hynny sy'n mwynhau gwylio pobl.

"Weithiau fe fyddwn i'n hoffi bod yn anweledig," meddai gan ychwanegu y gall yr hyn mae pobl yn ei wneud fod yn sbardun sgrifennu.

"Yr oeddwn yn cerdded i ddarlith y diwrnod o'r blaen pan welais ddyn ar gefn beic efo sinc anferth ar y tu blaen. Pwy oedd o? Beth oedd ei hanes?"

llyfr bach du
Dywedodd ei bod yn cadw "llyfr bach du" i gofnodi digwyddiadau o'r fath sy'n tynnu ei sylw.

Ond dywedodd nad darlun rhamantaidd yw ei hun hi o'r gymdeithas y mae'n ei gwylio.

"Mae yna ambell i ddarn eitha gonest," meddai. "Rydw i'n trio peidio bod yn flodeuog efo iaith. Mae un darn am golli plentyn trwy miscarriage lle'r ydw i wedi trio stripio'r iaith yn gyfangwbl jyst er mwyn dangos y profiad."

Drama yn ymwenud ag anorecsia a enillodd ei gwobr iddi y llynedd ac mae ei diddordeb yn y theatr yn parhau. Dros yr haf bydd yn cyfieithu drama Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac hefyd yn tiwtora gyda nhw gyda'r cynhyrchiad yn mynd ar daith ddechrau Medi.

Breuddwyd
Cyfaddefodd fod ganddi freuddwyd o wneud bywoliaeth o sgrifennu a chreu ar gyfer theatr a theledu.

"Ond breuddwyd ydi hynny ar hyn o bryd. Mae'n edmygedd i'n fawr o Catrin Dafydd - dyna ei chariad hi ac mae hi wedi mynd ati a gwthio'r cwch i'r dŵr ac yn awdur proffesiynol rŵan. Gobeithio y bydda innau ddigon dewr i fynd yr un ffordd. Gawn ni weld," meddai.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy