Y peth mwyaf y mae Sulwyn Thomas yn gobeithio amdano yn Eisteddfod yr Urdd yw "safon".
Mae'r cyn ddarlledwr yn un o gefnogwyr selocaf yr Urdd yn Shir Gâr a bu'n siarad gyda Gwilym Owen am ei edmygedd o'r Urdd a hefyd o Fudiad y Ffermwyr Ifanc.
Sulwyn Thomas yn cael ei holi ar Wythnos Gwilym Owen, dydd Llun, Mai 21, 2007.
Ac ar drothwy'r eisteddfod y bu'n gweithio mor galed i sicrhau ei llwyddiant, dywedodd:
"Y peth fydd yn sefyll - a does dim eisiau bod yn uchel ael ynglŷn â hyn - yw ein bod ni eisiau gosod safon ac yr ydym ni'n gobeithio y bydd yna gystadlu o safon," meddai.
"Ac rydym ni'n gwybod [y bydd yna] achos rydym ni'n gweld hynny yn tyfu ac yn dod lan o'r steddfodau cylch a'r steddfodau sir.
"Fe fydd yna safon ac fe fydd pobl wedi cael bod ar lwyfan cenedlaethol ac os ydyn nhw'n dymuno symud ymlaen i wneud rhywbeth o'r fan honno, wel mae'r cyfle wedi cael ei roi iddyn nhw.
"Dyna fyddwn i'n gobeithio amdano," meddai.
Pobl ddylanwadol
Bu gan Sulwyn Thomas gysylltiad â'r Urdd ers yn blentyn gyda'i Fodryb Margaret yn ymwneud ag Aelwyd yr Urdd yn y dref.
"Ond dydw i ddim yn mynd i ddweud a'm llaw ar fy nghalon mai hynny oedd wedi ffurfio fy marn i am yr Urdd achos yr oeddwn i'n rhy ifanc bryd hynny," meddai.
"Ond wedi dod nôl i Gaerfyrddin roedd yna, ac mae yna, bobl ddylanwadol - pobl fel Norah Isaac a T James Jones ar y pryd.
"Roedd cyfle inni berfformio mewn drama. Norah, fel y byddech chi yn disgwyl, yn eich herio chi i wneud rhai pethau ac yn rhoi cyfle i bobl ifainc," ychwanegodd.
Gwneud gwaith da
Wrth egluro ei sêl dros yr Urdd dywedodd:
"Dwi'n credu fod yr Urdd yn gwneud gwaith da. Mae'r hyn mae'r Urdd yn sefyll drosto yn rhywbeth y byddwn i'n barod i'w arddel - ac wedi'i arddel dros y blynyddoedd.
"Dwi'n gobeithio fod rhywun wedi gwneud rhywbeth dros yr hen wlad fach yma yn ei ffordd ei hunan; a dwi'n sicr y dylai dyn fod yn garedig i'w gyd-ddyn ac wrth gwrs rwy'n arddel y ffaith fy mod i yn ddiacon yn y Priordy ac yn ceisio gwneud beth oedd un person yn ddweud wrthym ni am i wneud i garu'n gilydd," meddai.
"Er bod yna lot o wawdio'r Urdd gan bobl y cyfryngau o fy nghenhedlaeth i ac er bod yna bobl efallai yn teimlo mai rhywbeth i blant bach ydi'r Urdd; mae'r Urdd wedi gwneud cyfraniad," ychwanegodd.
Wedi manteisio
A dywedodd iddo fanteisio yn bersonol hefyd:
"Person cymharol swil oeddwn i pan oeddwn i'n dechrau yn yr hen fusnes yma ac oni bai, efallai, fod yr Urdd wedi rhoi cyfle i mi, fel mae wedi rhoi i gannoedd ar gannoedd o bobl eraill, i wneud rhywbeth yn gyhoeddus, i gadeirio pwyllgor, i arwain ambell i beth efallai na fyddai'r hyder gen i a channoedd ar gannoedd o bobl eraill i wneud rhywbeth yn ystod y blynyddoedd y maen nhw wedi byw yn yr hen wlad yma.
"Felly mae gen i ddyled i'w thalu i'r Urdd," meddai.
Yn un o lawer
Ond prysurodd i ddweud mai un o lawer o gefnogwyr yw ef:
"Dwi'n credu eich bod chi'n rhoi'r argraff fy mod i wedi gwneud gwaith aruthrol dros y degawdau - do rwyf wedi gwneud rhywfaint ond y mae yna gannoedd ar gannoedd o bobl, hyd yn oed yma yn Sir Gaerfyrddin, wedi gweithio'n galetach na fi yn gyson ac y maen nhw wedi cael eu anrhydeddu yn gwbl haeddiannol ar gyfer yr Eisteddfod fydd yn dechrau yr wythnos nesaf," meddai.
"Mae yna bobl o fy oedran i yn gweithio'n dawel dros y Steddfod eleni ac mae yna ddwsinau o bobl ifainc wedi cael cyfle i wneud rhywbeth a rhoi eu stamp eu hunain ar weithgareddau yn dilyn y ffaith fod yna staff ymroddedig iawn gyda'r Urdd ac maen nhw yn gallu arwain pobl ifainc yn well nag y bydden nhw'n gallu arwain 'hen ffôgis' fel chi a fi.
"Ond mae angen y ddau beth ar yr Urdd fel gyda phob mudiad arall."
'Mudiad ysgolion?'
Ynglŷn a beirniadaeth mai "mudiad ysgolion" yw'r Urdd erbyn heddiw â nifer yr aelwydydd yn prinhau dywedodd:
"Rwy'n credu fod yr hinsawdd wedi newid er pan oeddwn i'n grwt bach. Yr oedd yr Urdd yn achubiaeth i mi fel ag yr oedd clwb y ffermwyr ifainc yn achubiaeth ac yn lle i bobl ifainc o fyd amaethyddol feithrin doniau.
Dyna fel oedd dyn yn cael y cyfle - ond erbyn hyn mae pobl wedi newid a dyw pobl ifainc ddim, efallai, perthyn i unrhyw beth am gyfnod ac yn meddwl eu bod nhw fod i rebelio ac yn y blaen.
Ond ychwanegodd:
"Mi fydd yna bobl o Bantycelyn, mi fydd yna bobl o Fangor, mi fydd yna bobl o Aelwyd Coleg y Drindod yn cystadlu a falle mai rhywbeth dros dro yw hwnna ond yr hyn sydd yn bwysig yw eu bod yn cael cyfle o fewn y cyfnod i wneud rhywbeth yn enw'r Urdd yna wedyn mae yna obaith, ac rydym ni wedi gweld, hynny yn digwydd yma a dyna un o'r pethau sy'n llonni nghalon i yw fod cymaint yn dod nôl i helpu plant bach mewn ysgolion felly mae'r peth yn gylch cyfan," meddai.
Aelwydydd newydd
Dywedodd hefyd i aelwydydd newydd gael eu ffurfio "yng nghanol yr holl fwrlwm" o baratoi ar gyfer yr Eisteddfod.
"Mi fydd yna adladd ar ôl y Steddfod a'r unig beth allwch chi wneud ydi gobeithio yw y gallwch chi genhadu ac y gallwch chi ddatblygu pob peth," meddai.
"Waeth ichi heb na dweud nad yw pobl ifainc heddiw eisiau dim byd - rhaid ichi eu perswadio nhw fel yr ydym ni wedi gallu eu perswadio yn Sir Gaerfyrddin.
"Pobl ifainc sydd yn cynhyrchu ein sioeau mawr ac yn paratoi ar gyfer yr eisteddfod yma yn ogystal ag ambell i 'hen ffôgi' fel fi!"