|
|
BBC Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
| » | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | |||||||||||
Cefndir![]() Sioeau'r SteddfodSioe newydd o'r llyfr Cymraeg hynaf Llyfr hynaf yr iaith Gymraeg yn dyddio'n ôl i'r flwyddyn 1250 yw canolbwynt sioe agoriadol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007. Acyn amlwg, mae i Lyfr Du caerfyrddin gysylltiad uniongyrchol â thref yr Eisteddfod. Llawysgrif o farddoniaeth yw'r Llyfr Du ac yn cael ei gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Cefin Roberts fydd yn cyfarwyddo gyda nifer o berfformwyr cyfarwydd yn chwarae rhannau blaenllaw. "Mae'r arlwy o gyngherddau sy'n aros Eisteddfodwyr 2007 yn wych," meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod.
Dagrau'r CoedNos Sul a nos Lun yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, bydd disgyblion ysgolion uwchradd yn cyflwyno Dagrau'r Coed gan Siwan Jones a Catrin Dafydd gyda . Charys Edwards yn cyfarwyddo. Pren BrafNos Fawrth a nos Fercher perfformir O, Bren Braf gan y plant lleiaf. Yr awduron yw Elinor Wyn Reynolds a Fflur Dafydd gyda Delyth Mair Nicholas a Dafydd Hughes yn cyfarwyddo. Cydweithio etoDywedodd Siân Eirian i'r Urdd gydweithio o'r blaen gyda nifer o'r cyfarwyddwyr. "Carys Edwards yn fwyaf diweddar gan mai hi oedd un o gyfarwyddwyr y sioe hynod lwyddiannus, Les Miserables yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2005. Rhif y llinell docynnau yw 0845 257 1639 neu ymwelwch â gwefan yr Urdd. Cysylltiadau
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol Gweler hefyd |
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |