BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cefndir

Cymeriadau'r sir

Cofio hen steddfodau

Dwyn i gof steddfodau eraill yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin

Mae bron i 70 mlynedd ers i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ymweld gyntaf â Sir Gaerfyrddin.

Yn 1935, cynhaliwyd yr Eisteddfod yn nhref Caerfyrddin gwta chwe blynedd ers eisteddfod gyntaf erioed yr Urdd yng Nghorwen, 1929.

Ond dim ond cysgod o'r Eisteddfod bresennol oedd un 1935, yn parhau ond am dridiau.

Cymorth cyntaf
"Fe ddaethom ar draws dogfennau yn sôn am Eisteddfod 1935 yn ddiweddar," meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau.

"Roedd yn brofiad anhygoel cael gweld sut mae pethau wedi newid ac un peth sy'n sefyll allan yw'r gystadleuaeth Cymorth Cyntaf oedd i'w llwyfannu yn yr ŵyl honno.

"Roedd y rheolau'n llym iawn ac yn dweud yn glir fod yn rhaid i bob cystadleuydd ddod â phedwar rhwymun neu fandej a dau bin cau efo nhw gan na fyddai'r Urdd yn darparu'r cyfarpar!," meddai.

. Ychwanegodd ei bod hi o'r farn i'r Eisteddfod symud gyda'r oes dros y blynyddoedd gyda'r cystadlaethau sy'n cael eu cynnig bellach yn rhai sy'n apelio'n fawr at yr aelodau.

"Does ond rhaid edrych ar y niferoedd sy'n cystadlu i weld hynny," meddai.

Atgofion melys
Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â Chaerfyrddin oedd 1967ond bu yn Shir Gâr wedi hynny, yng Nghwm Gwendraeth, 1989.

Deris Un a oedd yn weithgar iawn at yr Eisteddfod honno - yn ogystal ag eleni - yw Deris Williams, Cyfarwyddwr Menter Cwm Gwendraeth:

"Mae gen i atgofion melys iawn o Eisteddfod Cwm Gwendraeth," meddai Deris.

"Un peth yn sicr dwi'n ei gofio oedd y bwrlwm yn yr ardal. Roedd e'n anhygoel a phawb yn tynnu at ei gilydd i sicrhau fod pethau'n llwyddo.

"Rwy'n cofio plant yr ardal yn mynd o amgylch y maes carafannau i gyflenwi diffoddwyr tân. Pethau bach felly oedd yn dangos pa mor ymroddgar oedd pawb.

Gwyrth ffacs!
"Un o'r atgofion eraill sydd gen i yw o rhywun yn cynnig peiriant ffacs i'r Urdd mewn cyfarfod o'r pwyllgor gwaith.

"Gyda'r ffacs byddai modd cael enwau'r cystadleuwyr o'r rhagbrofion i'r maes ond doedd neb yn gallu credu fod y fath beth yn bosibl! A heddiw, 'da ni'n gwneud popeth drwy ebost ac yn y blaen. Pwy fyddai wedi credu hynny yn '89?"" meddai.

Bu Deris yn brysur iawn fel ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith a Chadeirydd Pwyllgor Gweithgareddau Eisteddfod 2007 dros y misoedd diwethaf ac mae'n ffyddiog y bydd yr Eisteddfod ar faes Sioe y Siroedd Unedig eleni yr un mor llwyddiannus ag un '89 a arweiniodd at greu Menter Cwm Gwendraeth.

"Dwi'n edrych ymlaen i weld pobl ifanc y sir yn cael cymaint o gyfleoedd a phosibl. Dyna i mi yw Eisteddfod yr Urdd, gweld yr ieuenctid yn magu sgiliau a hyder newydd. I mi, mae cynnal gweithgareddau cyn yr Eisteddfod er mwyn creu bwrlwm yn bwysicach na dim. Ac rwy mor falch fod hynny wedi digwydd unwaith eto yn Shir Gâr," meddai.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy