BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cefndir

logo

Eisteddfod 'yn fusnes da'

Dweud fod yr Eisteddfod yn dod a £6.5m i ardal

Neges gyson gan y ddwy Eisteddfod Genedlaethol yw bod eu hymweliadau o les i'r gwahanol ardaloedd.

Eleni dywed yr Urdd y bydd Sir Gaerfyrddin £6.5m ar ei hennill yn dilyn ymweliad yr ŵyl.

Dywed y trefnwyr disgwylir dros 100,000 o ymwelwyr ac yn ôl ymchwil mewn eisteddfodau blaenorol bydd 70% o'r rhain yn ymweld â'r ardal gyfagos hefyd.

"Dengys yr ymchwil hefyd fod 30% o'r ymwelwyr yn aros am o leiaf un noson yn yr ardal a 78% yn gwario arian mewn busnesau lleol," meddai datganiad gan yr Urdd.

"Canlyniad hyn oll yw fod yr Eisteddfod yn cyfrannu dros £6.5 miliwn i'r economi leol," ychwanega.

'Yn gyfle gwych'

Ac meddai Iwan Evans o Fenter iaith Taf Myrddin: "Mae'r Eisteddfod yn gyfle gwych i gwmnïau lleol ond er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfle, mae gofyn i fansachwyr baratoi ar ei gyfer a sicrhau eu bod yn barod i ymdopi â'r galw fydd arnynt."

I'r diben hwnnw bu Menter Taf Myrddin yn cydweithio â nifer o gyrff eraill megis yr Urdd, y Siambr Fasnach, Cyngor Tref Caerfyrddin a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i sicrhau cyfleodd i fansachwyr lleol ddod at eu gilydd cyn wythnos yr Eisteddfod i gasglu gwybodaeth a sicrhau eu bod yn barod i groesawu Eisteddfotwyr 2007.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy