BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cefndir

Sulwyn Thomas yn gwerthu nwyddau Shir Gâr yn Rhuthun y llynedd

Croeso i Shir Gâr

Gwersi Cymraeg i bobl fusnes ar gyfer Urdd 2007

Mae gwersi Cymraeg arbennig yn cael eu cynnal yng Nghaerfyrddin fel y gall rhai sy'n gweithio mewn siopau gyfarch Eisteddfodwyr yn yr iaith.

Dechreuodd y cyfan Ddydd Gŵyl Dewi a oedd yn ddiwrnod cyntaf ymgyrch newydd i dynnu sylw pawb at y ffaith mai yma y bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007.

Edrych ymlaen

Meddai Sulwyn Thomas a fu ynghlwm wrth drefniadau'r ymgyrch, "'Roedd y diwrnod yn hwb sylweddol i godi proffil yr Urdd yng Nghaerfyrddin a pharatoi pobl ar gyfer yr ŵyl fawr ym mis Mai. "Rydym ni gyd yn edrych ymlaen yn arw."

Cyngor Tref Caerfyrddin, Gwyliau Caerfyrddin a phwyllgorau lleol sy'n gyfrifol am drefnu'r ymgyrch a bydd yn parhau tan wythnos yr Eisteddfod ei hun.

Dosbarthiadau

Yn rhan ohoni mae pobl fusnes yn cael eu hannog i gynnal dosbarthiadau Cymraeg anffurfiol fel y gall staff siarad rhywfaint o Gymraeg gydag ymwelwyr â'r Eisteddfod yn ystod wythnos y Sulgwyn.

Ac mewn cinio Gŵyl Ddewi ar gyfer y bobl sy'n gweithio mewn siopau a busnesau rhannwyd gwybodaeth am yr Eisteddfod ac am y dosbarthiadau Cymraeg yn ystod y deng wythnos yn arwain at yr yr Eisteddfod.

Chwifio baneri!

Canmolodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, y cydweithio sy'n bodoli rhwng yr Urdd a Chyngor Tref Caerfyrddin sy'n gwneud yn siŵr y bydd digon o faneri yn chwifio yn y strydoedd yn ystod yr Eisteddfod gan greu gwir awyrgylch gŵyl.

Croeso twymgalon

"Mae Eisteddfod yr Urdd yn edrych ymlaen yn arw i ymweld â Shir Gâr. Rydym ni'n hynod o ddiolchgar i'r holl bobl leol am eu brwdfrydedd a'u gwaith caled yn paratoi ar gyfer yr ŵyl," meddai.

"Rwy'n sicr y bydd tref Caerfyrddin a gweddill y sir yn estyn croeso twymgalon i'n haelodau a'n holl gefnogwyr ddiwedd Mai," meddai.

Mae 'Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr' yn cael ei cynnal ar gae'r Sioe Unedig rhwng Mai 28 Mai a Mehefin 2, 2007.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy