|
|
BBC Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
| » | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | |||||||||||
Cefndir![]() Cystadlu gwneud bwydHerio'i gilydd yn y gegin gyda Dudley Os bydd cystadlaethau coginio newydd yn llwyddiant ar faes yr Urdd eleni y mae'n bosibl y byddan nhw'n dod yn rhan o weithgareddau swyddogol yr Eisteddfod yn y dyfodol. "Yng Nghaerfyrddin bydd gennym ni gystadlaethau coginio - sialensau coginio lle gall aelodau gystadlu yn erbyn ei gilydd yn coginio - gyda Dudley Newbury yno i ddyfarnu'r ymdrechion," meddai Sian Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod. "A'r hyn rydw i'n i fawr obeithio yw, y bydd y rhain yn cael eu hymgorffori yn gystadlaethau o fewn rhestr testunau y dyfodol os yn llwyddiannus eleni," meddai. Hwn fydd y tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd groesawu Bws Coginio Llywodraeth y Cynulliad i'r Maes a bydd cyfle i blant goginio yn erbyn ei gilydd gyda chynnyrch lleol. Dudley Newbery, cogydd poblogaidd S4C, fydd yn gofalu am y gegin gan roi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu am fwyta'n iach mewn dull anffurfiol a hwyliog. "Mae cael croesawu'r Bws Coginio i faes Prifwyl yr Urdd yn fraint," meddai Siân Eirian. "Mae'n glamp o fws sy'n 16 metr o hyd a chanddo bedair cegin a lleoedd paratoi bwyd." Cysylltiadau
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |