|
|
BBC Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
| » | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | |||||||||||
Cefndir![]() Celf a ChrefftBydd arddangosfa arbennig ar y Maes Yr oedd y beirniaid yn hael eu canmoliaeth i'r gwaith celf a gyrhaeddodd faes yr Eisteddfod o bob rhan o Gymru ddechrau Ebrill. Dywedodd Ifan Prys, Trefnydd Cynorthwyol Eisteddfod yr Urdd, i ymgeision ddod i law o 16 o ranbarthau i gyd a'r rheini wedi bod yn fuddugol yn barod mewn rowndiau cynradd a sirol. Tair milGyda rhyw dair mil o ymgeision wedi dod i law ar y cychwyn ychydig dros fil o'r rheini gyrhaeddodd y rownd genedlaethol a chyhoeddir enwau'r enillwyr ddechrau wythnos yr Eisteddfod ddiwedd Mai.
Cerdd Mererid HopwoodYr oedd categorïau yn amrywio o grochenwaith i luniadu, gemwaith, dylunio a thechnoleg, pypedau, caligraffeg ac argraffu - gyda'r ymgeiswyr i gyd wedi cyfansoddi gwaith ar thema cerdd Fy Ngwlad gan Mererid Hopwood: Pe gallwn i weld Cymru drwy lygad du y frân, A chlywed ddoe a'i hanes yn llais yr awel lân; Pe gallwn fynd i'r lleuad i ofyn i'r hen ŵr Am gip ar antur fory yn wyneb llyfr y dŵr; Mi luniwn i ei stori er mwyn ei chadw'n fyw, Rhown ffurf i bob un arwr ac i bob cân rhown liw; Mewn paent rhown bob pencampwr, pob llenor a phob sant, Mewn brodwaith rhown gerdd-dafod, mewn desglau rhown gerdd-dant. I gofio beth yw'n cenedl ni A dysgu deall pwy wyf i. ArddangosfaBydd y darnau buddugol i'w gweld mewn arddangosfa ar y maes yn ystod wythnos yr eisteddfod. Hefyd, bydd y Fedal Gelf yn cael ei chyflwyno yn ystod y seremoni agoriadol ddydd Llun yr Eisteddfod am yr eitem orau gan ymgeisydd dan 17 oed. Meithrin talentPwysleisiodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, bwysigrwydd meithrin talentau yn y maes hwn:
"Mae meithrin dawn greadigol yr un mor bwysig â'r holl dalentau eraill y mae'r Urdd yn eu datblygu. "Mae gan yr Urdd dros 60 o gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg ac ymfalchïwn bod y safon yn arbennig o uchel bob blwyddyn," meddai. Mewn Cystadleuaeth Portffolio i rai rhwng 18 - 25 bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn cael eu hystyried ar gyfer Ysgoloriaeth Celf, Dylunio a Thechnoleg gwerth £2,000 dan nawdd y Dr Dewi Davies. Cysylltiadau
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |