
Beth yw Un Tro
Mae'r wefan hon yn cyd-fynd â chyfres deledu Un Tro ar wasanaeth Cyw ar S4C. Mae modd gwylio'r 25 rhaglen ar y wefan hon - ewch i'r adran Gwylio.
Dyma deitlau holl raglenni'r gyfres:
Chwedlau hud a lledrith
Cyfres o chwedlau, hanesion, a storïau hud a lledrith o bob cwr o'r byd yw Un Tro. Mae'r straeon wedi cael eu haddasu ar gyfer plant, maent yn llawn lliw ac yn neidio o'r tudalennau yn syth i mewn i'r dychymyg. p>
Ym mhob rhaglen daw'r stori neu'r chwedl o wlad wahanol. Chwedl o Gymru yw 'Cantre'r Gwaelod', o Ynys Jafa y daw 'Y Dywysoges a'r Ddoli Bren' a'r 'Cawl o Garreg' o Ffrainc. Mae rhai o'r chwedlau eraill yn dod o Persia, Tsiena, Denmarc, Yr Almaen, Yr Alban, De America ymhlith eraill. Maen nhw'n straeon traddodiadol cyffrous gan edrych ar wahanol ddiwylliannau a thirweddau. p>
Yn gyfuniad o waith animeiddio, meimio a drama lwyfan, plant oed cynradd sy'n chwarae'r cymeriadau i gyd, yn adrodd y straeon a pherfformio'r caneuon. O dan arweiniad yr arlunydd Anthony Evans, plant o ysgolion cynradd Caerdydd bu hefyd yn helpu i greu'r gwaith celf a welir yn y rhaglenni teledu ac ar y wefan hon. Cwmni animeiddio cynyrchiadau Dinamo oedd yn gyfrifol am ddod â'r gwaith celf hwn yn fyw fel cefndir lliwgar i'r golygfeydd sydd i'w gweld ar y sgrin. p>
Cafodd 350 o ddisgyblion o ddeuddeg ysgol gynradd ardal Caerdydd glyweliad i gymeryd rhan yn y gyfres a dewiswyd tua 40 o blant rhwng 4 a 11 oed. Mae dau gôr ysgol yn canu'r caneuon wedi eu cyfansoddi ar gyfer y gyfres gan Andy Davies ac Elen Rhys. p>
Mae Un Tro yn gynhyrchiad BBC Cymru Wales ar gyfer S4C. p>
Tellytales
Ceir fersiwn Saesneg o Un Tro, sef Tellytales p>




