|
 | "MMM, Plethau Blasus - fy hoff blethau!!" | | Plethau Blasus! |  |
Bydd angen:
250g o greision tatws 3 tafell o grwst pyff (puff pastry) wedi'i rowlio'n barod 150g o fenyn wedi toddi 2 lwy de o bowdwr cyri
- Stwnsio'r creision tatws gyda rholbren nes eu bod nhw'n ddarnau mân
- Torri'r crwst yn stribedi 1cm ar draws
- Toddi'r menyn a'r powdwr cyri gyda'i gilydd a'u brwsio ar y stribedi crwst
- Taenu'r creision tatws ar y stribedi crwst ac wedyn eu troi nhw i'w plethu!
- Gall unrhyw greision sydd ar ôl gael eu taenu ar y top
- Pobi mewn ffwrn boeth am ryw 10 munud nes eu bod yn euraid!
|
rysait
|