|
 | "MMM, Sêr Sbeisi Hud - fy ffefryn!!" | | Sêr Sbeisi Hud ! |  |
Bydd angen:
250g o flawd plaen 125g o fenyn 125g o siwgwr brown 1 wy bach, wedi'i guro 2 llwy de o sbeis cymysg Ar gyfer yr eisin: 125g o siwgwr eisin 1-2 llwy de o ddwr poeth Lliw bwyd
- Cymysgu'r menyn a'r siwgwr nes eu bod yn ysgafn ac yn fflyfflyd. Yn ara' deg, curo'r wy i fewn fesul tipyn
- Rhoi'r blawd, yr halen a'r sbeis mewn gogor a'u hysgwyd drwyddo. Cymysgu hwn gyda'r cymysgedd o fenyn, siwgwr ac wy nes bod gennych belen gadarn o does
- Rholio'r toes allan gyda rholiwr nes ei fod 1/2cm o drwch
- Torri allan siapiau sêr gan ddefnyddio torrwr siâp sêr
- Rhoi'r siapiau ar badell bobi wedi ei iro a phobi yn y ffwrn am 15 munud (190°C/375°F/Marc Nwy5)
- I wneud yr eisin, cymysgu'r siwgwr eisin a'r dwr poeth, wedyn ychwanegu'r lliw bwyd - bydd unrhyw liw yn gwneud y tro - ond coch yw fy hoff liw i!
- Pan mae'r bisgedi wedi oeri, taenu'r eisin ar bob un
- Er mwyn ychwanegu cyffyrddiad bach hudol arall, addurno'r bisgedi gyda pheli bach arian - ond gwneud yn sicr fod y peli yn cael eu rhoi ar yr eisin cyn iddo galedu!
- Unwaith maen nhw wedi cael eu pobi a'u taenu gyda'r eisin, dyna nhw wedi troi'n Sêr Sbeisi Hud!
|
rysait
|