bbc.co.uk
Home
Explore the BBC



Testun yn unig

Tweenies
MAWRTH
18fed Tachwedd 2014

Gwneud Bwci-Bwystfil


    Bydd angen:
  • Plât papur mawr
  • Darnau o bapur lliw
  • Gliter
  • Peniau
  • Gwlân
  • Glud
  • 2 ffon


  • Os hoffet wneud Bwci Bwystfil yn union fel un y Tweenies, dyma sut! Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni!


1. I wneud llygaid y Bwci Bwystrfil, rholio'r papur lliw i ddwy belen fach neu dorri allan dau gylch a'u gludo nhw ar y plât.

2. Lliwio smotyn bach ar y ddau lygad.

3. Torri allan siâp ar gyfer ceg y Bwci Bwystfil.

4. Gludo'r siâp ceg ar y plât, o dan y llygaid.

5. Os hoffet roi aeliau ar dy fwystfil, torra ddau ddarn bach o wlân a'u gludo ar y plât uwchben y llygaid.

6. Ar gyfer y gwallt, defnyddia stribedi o bapur lliw a'u gludo nhw i lawr.

7. Os hoffet wneud bwystfil sgleiniog, taenu glud ar y plât a thaenu gliter drosto.

8. I orffen, clymu'r ddwy ffon i gefn y plât gyda thâp gludiog.


amser bochanôlBBC Education

About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy