bbc.co.uk
Home
Explore the BBC



Testun yn unig

Tweenies
MAWRTH
18fed Tachwedd 2014

Gwneud Hudlath Tylwythen Deg y Blodau


    Bydd angen:
  • Tiwb losin cardbord
  • Cansen gardd
  • Tâp gludiog
  • Siswrn diogel


  • Dyma sut mae gwneud Hudlath Tylwythen Deg y Blodau! Gofyn i oedolyn neu rywun hyn i dy helpu di a rho gynnig arni!


1. Cymryd y tiwb losin gwag, a thorri pump hollt o'r un hyd ar hyd y tiwb, gan adael o leiaf 2 centimetr o diwb heb ei dorri ar y gwaelod. Ddylai hyn ffufio pum rhan cyfartal.

2. Torri pen pob rhan i ffwrdd, gan wneud yn sicr dy fod yn creu ymyl crwn.

3. Plygu pob darn yn ôl o ganol y tiwb.

4. Gludo'r gansen i gefn dau ddarn o'r tiwb gan ddefnyddio tâp gludiog.

5. Nawr rwyt ti'n barod i chwifio dy hudlath a chreu dipyn o hud a lledrith!



amser bochanôlBBC Education

About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy