|
 | Nod dysgu cynnar: Datblygiad corfforol. Dylid gosod gweithgareddau corfforol addas gyda digon o amser a lle ar eu cyfer. Cymhellir sgiliau cydgordio megis cytgord rhwng llaw a llygad. Nid yn unig mae gwefannau cyn-ysgol y BBC yn annog cytgord llaw-llygad o fewn eu gweithgareddau arlein ond maen nhw hefyd yn cynnig amgylchiadau a syniadau a fydd yn peri i blant adael eu cyfrifiaduron er mwyn dilyn rhyw weithgarwch corfforol. |
|