Darganfod lefel y dysgwr
Mae BBC Cymru yn cynnig cyfoeth o adnoddau o bob lefel ar gyfer dysgu Cymraeg. Gall dysgwyr ddod o hyd i'w lefel drwy ateb cyfres o gwestiynau. Bydd y system yn awgrymu cwrs addas ar eu cyfer.
Colin and Cumberland
Ymunwch â'r hwyl wrth ddysgu Cymraeg gyda'r cymeriadau cartŵn Colin a'i gi Cumberland. Ceir dulliau difyr o ddysgu sy'n helpu'r defnyddwyr i ddysgu'r iaith bron iawn heb sylwi.
Living in Wales 
Ydych chi'n symud i Gymru? Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â'ch ardal, yn ogystal â rhoi help llaw ar gyfer ynganu geiriau Cymraeg bob dydd. Caiff dysgwr ddarganfod sut i ynganu enwau lleoedd Cymraeg a dolenni cyswllt â gwasanaethau lleol.
The Big Welsh Challenge
Cwrs fideo rhyngweithiol sy'n torri tir newydd. Ceir cyfle i ddysgu Cymraeg gyda chyfres o olygfeydd drama sy'n seiliedig ar fframwaith Cwrs Mynediad CBAC. Gellir ymarfer y patrymau iaith gyda thiwtor, chwarae rôl a defnyddio isdeitlau neu swigod siarad fel help llaw.
Cyflwyniad i adnoddau ar gyfer dysgwyr.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r nodiadau tiwtor
Cymru'r Byd 
Y wefan Gymraeg sy'n cynnig newyddion, chwaraeon, a digwyddiadau. Oes angen help ar ddysgwr i ddeall y geiriau? Defnyddiwch BBC Vocab, y rhaglen unigryw sy'n eich helpu i ddeall geirfa'r Gymraeg. Bydd yn uwcholeuo pob gair ar y tudalen y mae gennym ddiffiniad ohono yn ein geiriadur arlein.
Dyma'r Newyddion 
Gwrandewch ar yr iaith a ddefnyddir ar gyfer straeon newyddion ar radio a theledu. Ceir 9 uned a chyfle i'r dysgwr adolygu.
The Lloyds

Dysgwch Gymraeg gyda theulu Lloyds o Gaerdydd. Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd sain a thaflenni gwaith. Ceir prawf ar ddiwedd pob gwers.
Yr Wythnos 
Cawn gipolwg ar newyddion yr wythnos o Gymru a'r byd ar gyfer dysgwyr. Mae'r wefan yn cynnwys fideo o'r rhaglen ddiweddara, geirfa ddefnyddiol a chwis wythnosol.
Ysbyty Brynaber 

Yr opera sebon arlein ar gyfer dysgwyr. Gellir lawrlwytho'r sain i beiriant MP3. Ceir copi o'r sgriptiau.
Welsh in the Workplace

Boed yn y gwesty neu'r ysbyty, y swyddfa neu'r siop, dyma wefan fydd o gymorth wrth i chi roi'r iaith ar waith! Os ydych am ymwneud â chwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg neu am ehangu eich gorwelion yn y gweithle, dyma'r man delfrydol i wella sgiliau'r dysgwr.