Newyddion 9

Gwasanaeth unigryw yn cyflwyno bwletinau a rhaglenni dyddiol yn edrych ar storïau yng Nghymru, Prydain a'r byd yn y Gymraeg
Amseroedd darlledu
Dydd Llun i ddydd Gwener am 21.00 ar S4C.
Yn ogystal â hysbysu'r gynulleidfa o'r newyddion diweddaraf, nod y rhaglen yw ceisio addysgu a diddanu. Mae gan Newyddion dîm o ohebwyr ar draws Cymru a thu hwnt, a nifer o ohebwyr arbenigol. Rydym hefyd yn defnyddio gohebwyr o uned wleidyddol BBC Cymru ac yn anfon ein newyddiadurwyr dramor i ohebu ar storïau mawr.
Gwefannau perthnasol
Pawb a'i Farn

Crwydro Cymru
Mae Pawb a'i Farn yn ôl ar nosweithiau Iau am 9.00pm, ar ei thaith o amgylch Cymru.


