CA3 Ffiseg - Adnoddau Egni a Throsglwyddo - L5-6Er mwyn deall Egni, rhaid i ti gofio: Mae egni'n ymddangos mewn nifer o ffurfiau.
Mae'n bosib storio egni a'i ddefnyddio i wneud gwaith rhywbryd arall.
Er mwyn gwneud i wrthrychau symud neu wneud i bethau eraill ddigwydd, mae angen egni.
Y mwyaf yw'r grym sy'n ofynnol (neu y mwyaf y newid) y mwyaf yr egni sydd ei angen.
Yr uned egni safonol yw'r joule (J).
 Dydy hi ddim yn bosib creu na dinistrio egni - dim ond ei newid o un ffurf i ffurf arall. Yr Haul yw prif ffynhonnell egni'r Ddaear.
Defnyddir adnoddau egni adnewyddadwy (e.e. gwynt, solar, tonnau a pren) ac anadnewyddadwy (e.e. glo, olew, nwy a niwclear) i gynhyrchu trydan.
|