CA3 Ffiseg - Y Ddaear a Thu Hwnt - L5-7Er mwyn deall 'Y Ddaear a Thu Hwnt', rhaid i ti gofio:
Mae'r Ddaear yn chwildroi ar ei hechelin 'gogledd-de' unwaith pob 24awr, a dyma paham y cawn ddydd a nos.
 Mae'r Ddaear yn cylchdroi o gwmpas yr Haul unwaith pob 365 diwrnod. Mae'r echelin 'gogledd-de' ar ogwydd, ac weithiau yn pwyntio tuag at yr Haul (haf) a weithiau i ffwrdd o'r Haul (Gaeaf).
Mae'r Haul yn gwawrio yn y Dwyrain ac yn machlud yn y Gorllewin, ac ar ei huchaf ar ganol dydd. Mae hefyd yn uwch yn yr awyr yn ystod yr haf nag yn y gaeaf.
Mae cysgodion hir yn ffurfio wrth i'r Haul wawrio a machlud, ac mae'r cysgodion yn fyr ar ganol dydd.
Bod naw planed yng Nghysawd yr Haul a gwybod eu trefn (Mercher, Gwener, Y Ddaear, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion, Plwton).
Mae'r planedau i gyd yn cylchdroi o amgylch yr Haul. Dyma ffordd hawdd i gofio enwau'r planedau:

Mewn - Mercher gwely - Gwener y - y Ddaear mae - Mawrth Ianto'n - Iau sâl - Sadwrn wedi - Wranws naw - Neifion pwdin - Plwton Y pellaf yw'r blaned oddi wrth yr Haul, yr hiraf mae'n cymryd i gwblhau orbit o'i gwmpas.
Planedau
Disgyrchiant sy'n cadw'r planedau mewn orbit - yr agosaf yw'r cyrff a'r mwyaf eu màsau, y mwyaf yw'r grym disgyrchiant sydd rhyngddynt.
Y Lleuad yw lloeren naturiol y Ddaear, sy'n cymryd tua 28 dydd i gwblhau un orbit o'i chwmpas.
Rydyn ni'n defnyddio lloerennau o waith dyn i arsylwi ar y Ddaear ac archwilio tu hwnt iddi.
|