Er mwyn deall asidau ac alcalïau, mae angen cofio:
Mae dangosydd yn cael ei ddefnyddio i ddangos pa mor asidig, niwtral, neu alcalïaidd yw hydoddiant.
Mae dangosydd pH yn troi'n goch i ddangos hydoddiant asidig cryf.
Mae dangosydd pH yn troi'n wyrdd i ddangos hydoddiant niwtral.
Mae dangosydd pH yn troi'n borffor/glas i ddangos hydoddiant alcalïaidd cryf.
Mae ychwanegu bas neu alcali at asid yn ffurfio hydoddiant niwtral - niwtraliad yw hwn.
Defnyddir tabledi bas (e.e. magnesiwm hydrocsid) neu hydoddiant alcali i niwtralu asid hydroclorig yn y stumog a lleddfu poenau camdreuliad.

Mae ffermwr yn ychwanegu calsiwm hydrocsid at y pridd er mwyn niwtralu pridd asidig - mae hyn oherwydd bod llysiau yn tyfu mewn pridd o pH arbennig.
Daw glaw asid o'r nwyon gwastraff o orsafoedd pŵer, fel sylffwr deuocsid ac ocsidau nitrogen, sy'n cymysgu gydag anwedd dŵr yn y cymylau i ffurfio toddiant asidig.