CA3 Cemeg - Adweithiau Cemegol - L5-6

Er mwyn deall Adweithiau Cemegol, mae angen cofio:

Adwaith cemegol yw'r ffordd o greu sylweddau newydd o rai eraill.

Nid yw'r màs yn newid pan fo adwaith cemegol yn digwydd.

Mae'n anodd iawn cildroi adwaith cemegol.

Mae'n bosib creu cynhyrchion defnyddiol o adweithiau cemegol.

Nid yw rhai adweithiau cemegol, fel hindreuliad creigiau a chyrydu haearn, yn ddefnyddiol.

Mae adweithiau cemegol eraill, fel llosgi tanwyddau ffosil, gwneud alcohol (eplysu), a dadelfennu arian bromid ar ffilm, yn ddefnyddiol.

Mae'n bosib rheoli a defnyddio trosglwyddiadau egni a geir o adweithiau cemegol.

Adweithiau Cemegol











Adwaith Ecsothermig yw adwaith sy'n rhyddhau gwres i'r amgylchedd.

Adwaith Endothermig yw adwaith sy'n amsugno egni gwres o'r amgylchedd.

Mae llosgi tanwyddau ffosil yn effeithio ar ein hamgylchedd, mae'n

  • achosi glaw asid

  • cynyddu canran y carbon deuocsid yn yr atmosffer

  • effeithio ar arwynebeddau creigiau a metelau yn ogystal ag effeithio pethau byw.


News image